Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Sut Goroesodd Y Llyfr?

Sut Goroesodd Y Llyfr?

Sut Goroesodd Y Llyfr?

’Roedd i hen, hen weithiau ysgrifenedig eu gelynion naturiol—tân, gwlybaniaeth, llwydni. ’Doedd y Beibl ddim yn ddiogel rhag peryglon o’r fath. Mae’r hanes am sut goroesodd ddifrod amser a dod o fewn cyrraedd hwylusaf i bawb yn y byd fel llyfr, yn arbennig ymhlith hen, hen weithiau ysgrifenedig. Mae’r hanes hwnnw yn haeddu mwy na sylw arwynebol.

NID ysgythru eu geiriau ar garreg ’wnaeth ysgrifenwyr y Beibl; ’wnaethon’ nhw ddim chwaith eu harysgrifennu ar lechi clai hirbarhaol. Mae’n amlwg iddynt gofnodi’u geiriau ar ddefnyddiau darfodedig​—papyrws (wedi’i wneud o’r planhigyn o’r Aifft o’r un enw) a memrwn (wedi’i wneud o grwyn anifeiliaid).

Beth ddigwyddodd i’r gweithiau ysgrifenedig gwreiddiol? Y tebyg yw i’r rhan fwyaf ohonynt ymddatod yn Israel hen, amser maith yn ôl. Fe eglura’r ysgolhaig Oscar Paret: “Peryglir y ddau gyfrwng ysgrifennu hyn [papyrws a lledr] i’r un graddau mawr gan leithder, gan lwydni, a chan amrywiol gynrhon. Fe wyddom o brofiad dyddiol mor hawdd y dirywia papur, a hyd yn oed ledr cryf, yn yr awyr agored neu mewn ystafell laith.”1

Os nad erys y gwreiddiol, yna sut goroesodd geiriau ysgrifenwyr y Beibl i’n hoes ni?

Eu Diogelu gan Gopïwyr Tra Manwl

Yn fuan wedi i’r gwreiddiol gael eu hysgrifennu, dechreuwyd cynhyrchu copïau wedi’u hysgrifennu â llaw. Yn wir daeth copïo’r Ysgrythurau yn broffesiwn yn Israel hen. (Esra 7:6; Salmau 45:1) Ond, cofnodwyd y copïau hefyd ar ddefnyddiau darfodedig. Yn y pen draw rhaid oedd disodli’r rhain gan gopïau eraill wedi’u hysgrifennu â llaw. Pan ddiflannodd y gwreiddiol, daeth y copïau hyn yn sail llawysgrifau’r dyfodol. ’Roedd copïo’r copïau yn broses barhaol am ganrifoedd lawer. A wnaeth gwallau’r copïwyr dros y canrifoedd newid testun y Beibl yn ddirfawr? Naddo, medd y dystiolaeth.

’Roedd y copïwyr proffesiynol yn ymroddedig iawn. ’Roedd parch dwfn ganddynt at y geiriau a gopïent. ’Roedden’ nhw hefyd yn dra manwl. Y gair Hebraeg a gyfieithir “copïydd” yw so·pherʹ, sy’n cyfeirio at gyfrif a chofnodi. I ddangos cywirdeb y copïwyr, ystyriwch y Masoretiaid. * Ynglŷn â nhw, fe eglura’r ysgolhaig Thomas Hartwell Horne: “Cyfrifasant . . . pa un yw llythyren ganol y Pumllyfr [pump llyfr cyntaf y Beibl], pa un yw cymal canol pob llyfr, a sawl gwaith y digwydd pob llythyren yr wyddor [Hebraeg] yn yr holl Ysgrythurau Hebraeg.”3

Yn y modd hwn, defnyddiai copïwyr medrus nifer o ddulliau croeswirio. Er mwyn osgoi gadael hyd yn oed un llythyren allan o destun y Beibl, aent mor bell â chyfrif nid dim ond y geiriau a gopïwyd ond y llythrennau hefyd. Ystyriwch y gofal dyfal a olygai hyn: Yn ôl y sôn, gallasant gadw trywydd 815,140 o lythrennau unigol yn yr Ysgrythurau Hebraeg!4 Sicrhâi ymdrech mor ddyfal raddfa uchel o drachywirdeb.

Er hynny, ’doedd y copïwyr ddim yn anffaeledig. ’Oes ’na unrhyw dystiolaeth, er gwaethaf canrifoedd o ailgopïo, i destun y Beibl oroesi mewn ffurf ddibynadwy?

Sail Gadarn dros Fod yn Hyderus

Mae rheswm digonol dros gredu i’r Beibl gael ei drosglwyddo’n drachywir hyd at ein hoes ni. Y dystiolaeth yw bodolaeth llawysgrifau wedi’u hysgrifennu â llaw​—amcangyfrifir bod 6,000 o’r Ysgrythurau Hebraeg cyfan neu rannau ohonynt a 5,000 o’r Ysgrythurau Cristionogol mewn Groeg. Ymhlith y rhain mae llawysgrif yr Ysgrythur Hebraeg a ddarganfuwyd yn 1947 sy’n dangos yn eglur mor gywir ydoedd copïo’r Ysgrythurau. Wedi hynny fe’i galwyd “yn ddarganfyddiad llawysgrif mwyaf arwyddocaol y cyfnod modern.”5

Wrth ofalu am ei breiddiau yn gynnar y flwyddyn honno, darganfu bugail Bedouin ifanc ogof ger Y Môr Marw. Ynddi canfu nifer o gostreli pridd, y mwyafrif yn wag. Fodd bynnag, yn un o’r costreli, a seliwyd yn dynn, canfu sgrôl ledr oedd wedi’i lapio’n ofalus mewn lliain ac arni lyfr cyfan Eseia o’r Beibl. ’Roedd y sgrôl hon oedd wedi cadw’n dda ond wedi gwisgo, ag ôl trwsio arni. Ychydig a feddyliai’r bugail ifanc y rhoddid sylw byd-eang ymhen hir a hwyr i’r sgrôl hen iawn yn ei ddwylo.

Beth oedd mor arwyddocaol am y llawysgrif arbennig hon? Yn 1947 ’roedd y llawysgrifau Hebraeg hynaf cyfan oedd ar gael yn perthyn i tua’r ddegfed ganrif C.C. Ond ’roedd y sgrôl hon yn perthyn i’r ail ganrif C.C.C. *​—rhagor na mil o flynyddoedd ynghynt. * ’Roedd gan ysgolheigion ddiddordeb mawr canfod sut y cymharai’r sgrôl hon â llawysgrifau a gynhyrchwyd lawer yn ddiweddarach.

Yn un astudiaeth, cymharodd ysgolheigion y 53ain bennod o Eseia yn Sgrôl Y Môr Marw gyda’r testun Masoretaidd a gynhyrchwyd fil o flynyddoedd yn ddiweddarach. Mae’r llyfr A General Introduction to the Bible, yn esbonio canlyniadau’r astudiaeth: “O blith y 166 gair yn Eseia 53, dim ond un deg saith llythyren ddadleuol sydd. Dim ond mater o sillafu, nad yw’n dylanwadu ar yr ystyr, yw deg o’r llythrennau hyn. Newidiadau bychain o ran arddull, megis cysyllteiriau, yw pedair llythyren arall. Ffurfia’r tair llythyren sy’n weddill y gair ‘goleuni,’ a ychwanegir yn adnod 11, heb effeithio llawer ar yr ystyr. . . . Gan hynny, yn un bennod o 166 gair, dim ond un gair (tair llythyren) dadleuol sydd wedi mil o flynyddoedd o drosglwyddo​—ac nid yw’r gair hwn yn newid ystyr y darn testun yn arwyddocaol.”7

Daeth Yr Athro Millar Burrows, a weithiodd gyda’r sgroliau am flynyddoedd, gan ddadansoddi eu cynnwys, i gasgliad tebyg: “Gellir egluro llawer o’r gwahaniaethau rhwng . . . sgrôl Eseia a’r testun Masoretaidd fel gwallau copïo. Ar wahan i’r rhain, mae cytundeb rhyfeddol, ar y cyfan, gyda’r testun a ganfuwyd yn y llawysgrifau canoloesol. Mae’r fath gytundeb mewn llawysgrif sydd gymaint yn hŷn yn tystiolaethu’n gadarnhaol i gywirdeb cyffredinol y testun traddodiadol.”8

Gellir “tystiolaethu’n gadarnhaol” hefyd ynglŷn â chopïo’r Ysgrythurau Cristionogol Groeg. Er enghraifft, cynorthwyodd darganfod y Codex Sinaiticus, llawysgrif felwm o’r bedwaredd ganrif C.C., gadarnhau cywirdeb llawysgrifau’r Ysgrythurau Cristionogol Groeg a gynhyrchwyd ganrifoedd yn ddiweddarach. Dyddir darn papyrws o Efengyl Ioan, a ddarganfuwyd yn ardal Faiyūm, yr Aifft, i hanner cyntaf yr ail ganrif C.C., lai na 50 mlynedd wedi ysgrifennu’r gwreiddiol. Cafodd ei gadw’n ddiogel am ganrifoedd yn y tywod sych. Cytuna’r testun â’r hyn a ganfuwyd mewn llawysgrifau llawer diweddarach.9

Mae’r dystiolaeth felly yn cadarnhau fod y copïwyr, yn wir, yn drachywir iawn. Er hynny, fe wnaethant wallau. ’Does dim un llawysgrif unigol heb ei nam​—gan gynnwys Sgrôl Eseia’r Môr Marw. Ac eto i gyd, gallodd ysgolheigion ganfod y fath wyriadau oddi wrth y gwreiddiol a’u cywiro.

Cywiro Gwallau Copïwyr

Cymerwch fod 100 o unigolion yn cael gwahoddiad i wneud copi mewn llawysgrifen o ddogfen hir. Yn ddiamau byddai rhai o leiaf o’r copïwyr yn gwneud gwallau. Ond, ’fydden’ nhw ddim i gyd yn gwneud yr un gwallau. Petaech chi’n cymryd pob un o’r 100 copi a’u cymharu nhw’n ofalus iawn, byddech yn medru ynysu’r gwallau a phenderfynu ar union destun y ddogfen wreiddiol, hyd yn oed pe na baech erioed wedi’i gweld hi.

Yn yr un modd, ni wnaeth holl gopïwyr y Beibl yr un gwallau. Gyda miloedd yn llythrennol o lawysgrifau’r Beibl ar gael i’w dadansoddi’n gymharol, gallodd ysgolheigion testunol neilltuoli gwallau, pennu’r testun gwreiddiol, a chofnodi’r cywiriadau angenrheidiol. O ganlyniad i astudio mor ofalus, cynhyrchodd ysgolheigion testunol brif destunau yn yr ieithoedd gwreiddiol. Mae’r argraffiadau coeth hyn o’r testunau Hebraeg a’r Groeg yn mabwysiadu’r geiriau y cytunir yn fwyaf cyffredin mai hwy yw’r gwreiddiol, ac yn aml yn rhestru mewn troednodiadau amrywiadau neu ddarlleniadau amgen a all fod mewn llawysgrifau arbennig. Yr argraffiadau coeth gan yr ysgolheigion testunol yw’r hyn a ddefnyddia cyfieithwyr y Beibl i gyfieithu’r Beibl i ieithoedd modern.

Felly pan ddarllenwch gyfieithiad modern o’r Beibl, mae rheswm digonol dros fod yn hyderus fod y testunau Hebraeg a Groeg y seilir ef arnynt yn cynrychioli’n ffyddlon ryfeddol eiriau ysgrifenwyr gwreiddiol y Beibl. * Mae hanes y Beibl yn goroesi miloedd o flynyddoedd o ailgopïo â llaw yn wirioneddol eithriadol. O’r herwydd, gallai Syr Frederic Kenyon, curadur yr Amgueddfa Brydeinig am gyfnod hir, ddatgan: “Ni ellir gorbwysleisio sicrwydd sylwedd testun y Beibl . . . Ni ellir dweud hyn am unrhyw lyfr hen arall yn y byd.”10

[Troednodiadau]

^ Par. 8 Wrth gwrs, gall cyfieithwyr unigol fod yn gaeth neu’n llac eu hymlyniad i’r testunau Hebraeg a Groeg gwreiddiol.

^ Par. 14 Ystyr C.C.C. yw “Cyn y Cyfnod Cyffredin.” Dynoda C.C. “y Cyfnod Cyffredin,” a elwir yn aml A.D., am Anno Domini, sy’n golygu “ym mlwyddyn yr Arglwydd.”

^ Par. 14 Dywed Textual Criticism of the Hebrew Bible, gan Emanuel Tov: “Gyda chymorth y prawf carbon 14, dyddir 1QIsaa [Sgrôl Eseia’r Môr Marw] ’nawr rhwng 202 a 107 CCC (dyddiad paleograffig: 125-​100 CCC) . . . Mae’r dull paleograffig a grybwyllwyd, sydd wedi cael ei wella yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ac sy’n caniatáu dyddio absoliwt ar sail cymharu ffurf a safle’r llythrennau gyda ffynonellau allanol megis arian bath ac arysgrifau wedi’u dyddio, wedi’i sefydlu ei hun yn ddull cymharol ddibynadwy.”6

^ Par. 22 Copïwyr yr Ysgrythurau Hebraeg oedd y Masoretiaid (golyga “Meistri Traddodiad”) oedd yn byw rhwng y chweched a’r ddegfed ganrif C.C. Cyfeirir at y copïau o lawysgrifau a gynhyrchent wrth yr enw testunau Masoretaidd.2

[Llun ar dudalen 8]

Diogelwyd y Beibl gan gopïwyr medrus

[Lluniau ar dudalen 9]

Mae Sgrôl Eseia’r Môr Marw (dangosir ffacsimili) bron yn unwedd â’r testun Masoretaidd a gynhyrchwyd fil o flynyddoedd yn ddiweddarach