Y Llyfr Ehangaf Ei Ddosbarthiad Yn Y Byd
Y Llyfr Ehangaf Ei Ddosbarthiad Yn Y Byd
“Y Beibl yw’r llyfr gyda’r darllen ehangaf arno yn holl hanes. . . . Dosbarthwyd mwy o gopïau o’r Beibl nag o unrhyw lyfr arall. Cyfieithwyd y Beibl hefyd mwy o weithiau, ac i fwy o ieithoedd, nag unrhyw lyfr arall.”—“The World Book Encyclopedia.”1
I RYW raddau, mae’r rhan fwyaf o lyfrau fel pobl. Maen’ nhw’n ymddangos, yn tyfu o ran poblogrwydd efallai, ac—onibai am lond dwrn o glasuron—yn mynd yn hen a marw. Yn aml mae llyfrgelloedd fel mynwentydd i nifer di-ri’ o lyfrau sydd wedi hen ddarfod, heb fod wedi cael eu darllen ac, i bob pwrpas, yn farw.
Mae’r Beibl, fodd bynnag, yn arbennig hyd yn oed ymhlith gweithiau clasurol. Er bod ei darddiad ysgrifenedig yn mynd yn ôl 3,500 mlynedd, mae’n dal i fod yn fyw iawn. Dyma’r llyfr sydd â’r cylchrediad ehangaf iddo ar y ddaear o bell ffordd. * Bob blwyddyn, dosberthir tua 60 miliwn copi o’r Beibl cyfan neu rannau ohono. Daeth yr argraffiad cyntaf a argraffwyd â phrint symudol o wasg argraffu y dyfeisiwr o’r Almaen Johannes Gutenberg tua 1455. Oddi ar hynny amcangyfrifir i bedwar biliwn o Feiblau (yn gyfan neu’n rhannau ohono) gael eu hargraffu. ’Does dim un llyfr, crefyddol neu fel arall, hyd yn oed yn cystadlu â hyn.
Y Beibl hefyd yw’r llyfr y bu mwyaf o gyfieithu arno mewn hanes. Cyfieithwyd yr holl Feibl neu rannau ohono i ragor na 2,100 o ieithoedd a thafodieithoedd. * Mae o leiaf rhan o’r Beibl o fewn cyrraedd dros 90 y cant o’r teulu dynol yn eu hiaith eu hunain.2 Mae’r llyfr hwn felly wedi croesi ffiniau cenedlaethol ac wedi goresgyn rhwystrau hiliol ac ethnig.
Efallai nad yw ystadegau moel yn ddigon i’ch cymell i archwilio’r Beibl. Fodd bynnag, mae’r ffigyrau cylchrediad a chyfieithu yn drawiadol, yn tystio i apêl byd-eang y Beibl. Yn sicr mae’r llyfr sydd â’r gwerthu mwyaf iddo ac sydd â’r cyfieithu mwyaf arno yn holl hanes dyn yn haeddu’ch ystyriaeth chi.
[Troednodiadau]
^ Par. 4 Credir mai’r cyhoeddiad nesaf o ran ehangder ei ddosbarthu yw’r llyfryn clawr coch Quotations From the Works of Mao Tse-tung, yr amcangyfrifir i tua 800 miliwn copi gael eu gwerthu neu eu dosbarthu.
^ Par. 5 Seilir ystadegau yn ymwneud â nifer yr ieithoedd ar ffigyrau a gyhoeddir gan United Bible Societies.
[Llun ar dudalen 6]
Beibl Gutenberg, yn Lladin, y llyfr cyflawn cyntaf i’w argraffu â phrint symudol