Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

’Ydi’r Llyfr Hwn Yn Cytuno  Gwyddoniaeth?

’Ydi’r Llyfr Hwn Yn Cytuno  Gwyddoniaeth?

’Ydi’r Llyfr Hwn Yn Cytuno  Gwyddoniaeth?

’Dyw crefydd ddim bob amser wedi ystyried gwyddoniaeth yn gyfaill. Mewn canrifoedd gynt gwrthsafodd rhai diwinyddion ddarganfyddiadau gwyddonol pan deimlent fod y rhain yn peryglu’u dehongliad nhw o’r Beibl. Ond ai gelyn y Beibl mewn gwirionedd ydi gwyddoniaeth?

PETAI ysgrifenwyr y Beibl wedi cefnogi daliadau gwyddonol mwyaf cyffredin eu dydd, y canlyniad fyddai llyfr o wallau gwyddonol tra amlwg. Ond ni hyrwyddodd yr ysgrifenwyr y fath gamdybiaethau anwyddonol. I’r gwrthwyneb, cofnodasant nifer o osodiadau sydd nid yn unig yn wyddonol sicr ond oedd yn dweud yn gwbl groes i farn arferol y dydd.

Beth Yw Ffurf y Ddaear?

Mae’r cwestiwn hwnnw wedi ennyn chwilfrydedd bodau dynol dros filoedd o flynyddoedd. Y syniad cyffredin yn yr hen oesoedd oedd fod y ddaear yn wastad. Credai’r Babiloniaid, er enghraifft, mai bocs neu ystafell oedd y bydysawd a’r ddaear yn llawr iddo. Dychmygai offeiriaid Fedig India fod y ddaear yn wastad ac mai dim ond ar un ochr ’roedd pobl yn byw. Darluniai llwyth cyntefig yn Asia y ddaear fel hambwrdd te anferth.

Mor gynnar â’r chweched ganrif C.C.C., damcaniaethodd athronydd o wlad Groeg, Pythagoras, gan fod y lleuad a’r haul yn sfferaidd, fod yn rhaid bod y ddaear hefyd yn sffêr. Yn ddiweddarach cytunodd Aristotlys (y bedwaredd ganrif C.C.C.), gan egluro y profir sfferigedd y ddaear gan eclipsau’r lleuad. Mae cysgod y ddaear ar y lleuad yn grwm.

Fodd bynnag, ni ddiflannodd cysyniad y ddaear wastad (a dim ond ei hochr uchaf wedi’i phreswylio) yn llwyr. ’Fedrai rhai ddim derbyn yr hyn a olygai daear gron yn rhesymegol—cysyniad cyferbwyntiau. * Gwawdiodd Lactantius, diffynnydd Cristionogol o’r bedwaredd ganrif C.C., yr union syniad. Rhesymodd: “’Oes ’na rywun mor ddisynnwyr â chredu fod ’na ddynion sydd â chamau eu traed yn uwch na’u pennau? . . . fod y cnydau a’r coed yn tyfu ar i lawr? fod y glawogydd, ac eira, a chenllysg yn syrthio at i fyny?”2

Achosodd cysyniad cyferbwyntiau gyfyng gyngor i ychydig ddiwinyddion. ’Roedd damcaniaethau arbennig yn honni os oedd ’na antipodeaid, na allai bod ganddynt unrhyw gysylltiad posib’ â bodau dynol gwybyddus naill ai am fod y môr yn rhy lydan i’w fordwyo neu am fod ’na gylchfa grasboeth na ellir ei chroesi yn amgylchu’r cyhydedd. Felly o ble gallai’r antipodeaid fod wedi dod? Yn eu penbleth, gwell oedd gan rai diwinyddion gredu na fedrai antipodeaid ddim bod, neu hyd yn oed, fel y dadleuodd Lactantius, na fedrai’r ddaear ddim bod yn sffêr yn y lle cyntaf!

Er hynny, cysyniad daear sfferigaidd a orfu, ac ymhen hir a hwyr ei dderbyn yn eang. Dim ond gyda chychwyn oes y gofod yn yr 20fed ganrif, fodd bynnag, y mae wedi bod yn bosib’ i fodau dynol deithio’n ddigon pell i’r gofod a thrwy arsylwi uniongyrchol gadarnhau mai glôb yw’r ddaear. *

A phle’r oedd y Beibl yn sefyll ar y mater hwn? Yn yr wythfed ganrif C.C.C., pan gredid yn gyffredinol fod y ddaear yn wastad, ganrifoedd cyn i athronwyr gwlad Groeg ddamcaniaethu ei bod yn debygol mai sfferaidd oedd y ddaear, a miloedd o flynyddoedd cyn i fodau dynol weld y ddaear o’r gofod fel glôb, yn syml ryfeddol mynegodd y proffwyd Hebreaidd Eseia: “Y mae ef yn eistedd ar gromen y ddaear.” (Eseia 40:22) Gall y gair Hebraeg chugh, a gyfieithir yn “gromen,” hefyd gyfleu “sffêr.”3 Mae cyfieithiadau eraill y Beibl yn darllen, “glôb y ddaear” (Fersiwn Douay) a “y ddaear gron.”—Moffatt. *

Osgôdd yr ysgrifennwr Beiblaidd Eseia’r mythau cyffredin am y ddaear. Yn lle hynny, cofnododd ddatganiad na fygythid gan ddatblygiadau mewn darganfyddiadau gwyddonol.

Beth Sy’n Cynnal y Ddaear?

Yn yr hen amser, ’roedd dynion mewn penbleth wrth feddwl am gwestiynau eraill ynglŷn â’r cosmos: Ar beth y mae’r byd yn gorffwys? Beth sy’n cynnal yr haul, y lleuad, a’r sêr? ’Wydden’ nhw ddim am ddeddf disgyrchedd cyfanfydol, a fformiwleiddiwyd gan Isaac Newton ac a gyhoeddwyd ym 1687. ’Roedd y syniad fod cyrff nefol, mewn gwirionedd, yn hongian ar ddim yn y gofod gwag yn anhysbys iddynt. O’r herwydd, ’roedd eu hesboniadau yn aml yn awgrymu mai gwrthrychau diriaethol neu sylweddau oedd yn cadw’r ddaear a chyrff nefol eraill fry.

Er enghraifft, un ddamcaniaeth hen, y rhoddwyd cychwyn iddi efallai gan bobl a drigai ar ynys, oedd fod y ddaear wedi’i hamgylchu â dŵr a’i bod yn arnofio yn y dyfroedd hyn. Dychmygai’r Hindwiaid fod sawl sail i’r ddaear, un ar ben y llall. Gorffwysai ar bedwar eliffant, safai’r eliffantod ar grwban anferth, safai’r crwban ar sarff enfawr, ac arnofiai’r sarff dorchog ar ddyfroedd bydysawdol. Credai Empedocles, athronydd o wlad Groeg o’r bumed ganrif C.C.C., y gorffwysai’r ddaear ar drowynt ac mai’r trowynt hwn oedd achos mudiant y cyrff nefol.

’Roedd daliadau Aristotlys ymhlith y mwyaf dylanwadol. Er iddo ddamcaniaethu mai sffêr yw’r ddaear, gwadodd y gallai fyth hongian mewn gofod gwag. Yn ei draethawd Ynglŷn â’r Nefoedd, pan wrthbrofai’r syniad fod y ddaear yn gorffwys ar ddŵr, fe ddywedodd: “Nid yw yn natur dŵr, fwy na’r ddaear, i aros yn yr awyr: rhaid iddo gael rhywbeth i orffwys arno.”4 Felly, ar beth y mae’r ddaear yn “gorffwys”? Dysgai Aristotlys fod yr haul, y lleuad, a’r sêr ynghlwm wrth wyneb sfferau crynion cyfain, tryloyw. Gorweddai sffêr o fewn sffêr, a’r ddaear—yn ansymudol—yn y canol. Wrth i’r sfferau gylchdroi oddi mewn i’w gilydd, ’roedd y gwrthrychau arnynt—yr haul, y lleuad, a’r planedau—yn symud ar draws yr awyr.

Ymddangosai esboniad Aristotlys yn rhesymegol. Os nad oedd y cyrff nefol ynghlwm yn gadarn wrth rywbeth, sut arall y gallent aros i fyny? Derbyniwyd daliadau Aristotlys mawr ei barch yn ffaith am tua 2,000 o flynyddoedd. Yn ôl The New Encyclopædia Britannica, yn yr 16eg a’r 17eg ganrif “tra dyrchafwyd” ei athrawiaethau nes cyrraedd “statws dogma grefyddol” yng ngolwg yr eglwys.5

Gyda dyfeisio’r telesgop, dechreuodd seryddwyr amau damcaniaeth Aristotlys. Eto, ni chawsant yr ateb nes i Syr Isaac Newton egluro fod y planedau yn hongian mewn gwacter, a’u cynnal yn eu cylchdroeon gan rym anweledig—disgyrchiant. Ymddangosai hyn yn anghredadwy, ac fe gafodd rhai o gydweithwyr Newton anhawster credu y gallai’r gofod fod yn wagle, yn ddiffygiol bron o ran sylwedd. *6

Beth sydd gan y Beibl i’w ddweud ar y cwestiwn hwn? Bron i 3,500 mlynedd yn ôl, dywedodd y Beibl yn rhyfeddol o ddiamwys fod y ddaear wedi’i gosod “ar ddim.” (Job 26:7) Yn yr Hebraeg gwreiddiol, mae’r gair am “ddim” (beli-mahʹ) yn llythrennol yn golygu “heb ddim.”7 Defnyddia’r Contemporary English Version yr ymadrodd, “ar wacter.”

Nid planed yn hongian “ar wacter” oedd syniad mwyafrif y bobl y dyddiau hynny am y ddaear. Ac eto, ymhell cyn ei oes, cofnododd yr ysgrifennwr Beiblaidd ddatganiad sy’n wyddonol gywir.

Y Beibl a’r Gwyddorau Meddygol —’Ydyn’ Nhw’n Cytuno?

Mae’r gwyddorau meddygol modern wedi dysgu llawer inni am ledaenu ac atal afiechydon. Fel rhan o ddatblygiadau meddygol yn y 19eg ganrif cyflwynwyd gwrth-heintio yn arfer meddygol—glendid i leihau heintiadau. ’Roedd y canlyniad yn un dramatig. Bu lleihad arwyddocaol mewn heintiadau a marwolaethau annhymig.

Ond, ’doedd meddygon yr hen fyd ddim yn llawn ddeall sut y taenir afiechydon, ac nid oeddent chwaith yn deall pwysigrwydd glanweithdra i atal salwch. ’Does dim rhyfedd yr ymddengys llawer o’u harferion meddygol yn farbaraidd yn ôl safonau heddiw.

Un o’r testunau meddygol hynaf sydd ar gael yw Papyrws Ebers, casgliad o wybodaeth feddygol yr Aifft, yn dyddio o tua 1550 C.C.C. Mae’r sgrôl hon yn cynnwys tua 700 meddyginiaeth ar gyfer amrywiaeth o gystuddiau “o frathiad crocodeil i boen ewin troed.”8 Meddai The International Standard Bible Encyclopaedia: “Llwyr empiraidd oedd gwybodaeth feddygol y meddygon hyn, dewinol gan fwyaf a chwbl anwyddonol.”9 ’Roedd y rhan fwyaf o’r meddyginiaethau yn aneffeithiol yn unig, ond ’roedd rhai ohonynt yn hynod beryglus. I drin clwyf, ’roedd un presgripsiwn yn cymeradwyo dodi cymysgedd wedi’i wneud o ysgarthion dynol ynghyd â sylweddau eraill.10

Ysgrifennwyd testun y meddyginiaethau hyn o’r Aifft tua’r un adeg â llyfrau cyntaf y Beibl, oedd yn cynnwys Cyfraith Moses. Ganed Moses ym 1593 C.C.C., a thyfodd i fyny yn yr Aifft. (Exodus 2:1-10) Ac yntau’n aelod o dylwyth Pharo, “hyfforddwyd” ef “yn holl ddoethineb yr Eifftwyr.” (Actau 7:22) ’Roedd yn gyfarwydd â “meddygon” yr Aifft. (Genesis 50:1-3) A ddylanwadodd eu harferion meddygol aneffeithiol neu beryglus nhw ar yr hyn a ysgrifennodd?

Naddo. I’r gwrthwyneb, ’roedd Cyfraith Moses yn cynnwys rheoliadau glanweithdra oedd ymhell cyn eu hamser. Er enghraifft, gofynnai deddf ynglŷn â gwersylloedd milwrol am gladdu carthion y tu allan i’r gwersyll. (Deuteronomium 23:13) ’Roedd hyn yn fesur ataliol hynod ddatblygedig. Cynorthwyai i gadw dŵr rhag ei heintio ac amddiffyn rhag shigelosis a gludir gan bryfed a chlefydau diarëig eraill sy’n lladd miliynau bob blwyddyn mewn gwledydd lle mae amodau glanweithdra yn druenus.

’Roedd rheoliadau glanweithdra eraill yng Nghyfraith Moses oedd yn amddiffyn rhag taenu afiechydon heintus yn Israel. Rhoddid person ac arno afiechyd heintus neu a amheuid o fod felly mewn cwarantin. (Lefiticus 13:1-5) Cyn ailddefnyddio dillad neu lestri a ddaeth i gysylltiad ag anifail a fu farw ohono’i hun (o glefyd efallai) rhaid oedd eu golchi nhw neu eu difa. (Lefiticus 11:27, 28, 32, 33) Ystyrid unrhyw un a gyffyrddai â chorff marw yn aflan a rhaid oedd iddo fynd trwy broses glanhau oedd yn cynnwys golchi’i ddillad a’i gorff â dŵr. Yn ystod saith diwrnod ei aflendid, ’roedd i osgoi cyffwrdd yn gorfforol ag eraill.—Numeri 19:1-13.

Mae’r ddeddfwriaeth lanweithdra hon yn dangos doethineb nad oedd yn eiddo i feddygon y gwledydd o gwmpas ar y pryd. Miloedd o flynyddoedd cyn i’r gwyddorau meddygol ddeall sut y taenir afiechyd, argymellodd y Beibl fesurau ataliol rhesymol i ddiogelu rhag afiechyd. ’Dyw hi ddim yn syndod y gallai Moses ddweud am Israeliaid ei gyfnod yn gyffredinol eu bod nhw’n byw i fod yn 70 i 80 mlwydd oed. *Salmau 90:10.

Efallai eich bod yn cydnabod fod y gosodiadau Beiblaidd uchod yn wyddonol gywir. Ond mae gosodiadau eraill yn y Beibl na ellir eu profi’n wyddonol. ’Ydi hynny’n golygu o angenrheidrwydd fod y Beibl yn anghytuno â gwyddoniaeth?

Derbyn yr Hyn Na Ellir ei Brofi

’Dyw gosodiad na ellir ei brofi ddim o angenrheidrwydd yn anwir. Cyfyngir prawf gwyddonol gan allu dyn i ddarganfod tystiolaeth ddigonol a dehongli data yn gywir. Ond mae rhai gwirioneddau na ellir eu profi am na chadwyd tystiolaeth, am fod y dystiolaeth yn aneglur neu heb ei ganfod, neu am fod galluoedd ac arbenigedd gwyddonol yn annigonol i ddod i gasgliad diamheuol. Oni fedrai hyn fod yn wir am rai gosodiadau Beiblaidd nad oes tystiolaeth ffisegol annibynnol iddynt?

Er enghraifft, ni ellir profi—na gwrthbrofi—yn wyddonol, gyfeiriadau’r Beibl at fyd anweledig lle mae ysbryd bersonau yn preswylio. Gellir dweud yr un peth am ddigwyddiadau gwyrthiol a grybwyllir yn y Beibl. ’Does dim digon o dystiolaeth ddaearegol eglur ynglŷn â Dilyw byd-eang oes Noa ar gael i fodloni rhai pobl. (Genesis, pennod 7) ’Oes rhaid inni ddod i’r casgliad na ddigwyddodd? Gall digwyddiadau hanes fynd yn aneglur gan amser a newid. Felly onid ydi hi’n bosib’ i filoedd o flynyddoedd o actifedd daearegol ddileu llawer o’r dystiolaeth am y Dilyw?

Mae’n wir fod y Beibl yn cynnwys gosodiadau na ellir eu profi na’u gwrthbrofi nhw gyda thystiolaeth ffisegol sydd ar gael. Ond ’ddylai hynny ein synnu ni? Nid gwerslyfr gwyddoniaeth mo’r Beibl. Llyfr gwirionedd ydyw. ’Rydym eisoes wedi ystyried tystiolaeth gref mai dynion unplyg a gonest oedd ei ysgrifenwyr. Ac wrth iddynt grybwyll pethau sy’n ymwneud â gwyddoniaeth, mae eu geiriau yn gywir ac yn gwbl rydd oddi wrth ddamcaniaethau “gwyddonol” hen nad oedden’ nhw’n ddim ond mythau. Felly nid gelyn i’r Beibl yw gwyddoniaeth. Mae pob rheswm dros bwyso a mesur yr hyn a ddywed y Beibl â meddwl agored.

[Troednodiadau]

^ Par. 7 “Cyferbwyntiau . . . yw dau le sydd yn union gyferbyn â’i gilydd ar y glôb. Byddai llinell syth rhyngddynt yn mynd drwy ganol y ddaear. Ystyr y gair antipodes (cyferbwyntiau) yn y Groeg ydi troed wrth droed. Â dau berson yn sefyll ar y cyferbwyntiau, gwadnau eu traed fyddai agosaf at ei gilydd.”1The World Book Encyclopedia.

^ Par. 9 A siarad yn dechnegol, sfferoid penfflat yw’r ddaear; mae hi wedi’i gwasgu ychydig yn y pegynau.

^ Par. 10 Yn ogystal, dim ond gwrthrych sfferaidd sy’n ymddangos yn gylch o bob ongl yr edrychir arno. Yn amlach byddai disgen wastad yn ymddangos yn hirgylch, nid yn gylch.

^ Par. 17 Cred amlwg yn oes Newton oedd fod y bydysawd yn llawn hylif—“cawl” cosmig—a bod trobyllau yn yr hylif a wnâi i’r planedau gylchdroi.

^ Par. 27 Ym 1900, ’roedd disgwyliad einioes yn llawer o wledydd Ewrop ac yn yr Unol Daleithiau yn is na 50. Oddi ar hynny, mae wedi cynyddu’n ddramatig nid yn unig oherwydd cynnydd meddygol i reoli afiechyd ond hefyd oherwydd gwell glanweithdra ac amodau byw.

[Broliant ar dudalen 21]

’Dyw gosodiad na ellir ei brofi ddim o angenrheidrwydd yn anwir

[Llun ar dudalen 18]

Filoedd o flynyddoedd cyn i fodau dynol weld y ddaear o’r gofod fel sffêr, cyfeiriodd y Beibl at “gromen y ddaear”

[Lluniau ar dudalenlun ar dudalen 20]

Eglurodd Syr Isaac Newton y cynhelir y planedau yn eu cylchdroeon gan ddisgyrchiant