Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

“Wele! Gwnaf Pob Peth Yn Newydd”

“Wele! Gwnaf Pob Peth Yn Newydd”

“Wele! Gwnaf Pob Peth Yn Newydd”

1-4. (a) Ym mha nodweddion ein llun ar y clawr buasech yn mwynhau ymrhannu? (b) Pa ragolwg gogoneddus a’i dal allan i chi fa’ma? (c) Beth yw rhai testunau Feiblaidd sy’n cymorth gobaith o’r fath?

GWELWCH y bobl hapus ar glawr y llyfryn hwn. A fuasech yn hoffi bod yn un ohonynt? ‘Wel, byddwn,’ meddech. Oblegid dyma le mae’r heddwch a’r cytgord a ddymunir gan yr holl ddynolryw. Mae pobl o’r holl hiliau​—⁠y du, y gwyn, y melyn⁠—​yn cymysgu fel un teulu. Dyma lawenydd! Dyma undod! Mae’n amlwg nad ydy’r bobl hyn yn gofidio am ddisyrthiant niwcliar na bygwth terfysg. Nid ydy awyrennau jet rhyfel yn torri ar draws y wybren heddychlon uwchben y parc prydferth hwn. Nid oes na filwyr, na thanciau, na ddrylliau. Nid oes angen hyd yn oed bastwn yr heddlu i gadw trefn. Yn syml ni fodola rhyfel a throsedd. Ac nid oes na brinderau tai, oblegid bod gan bob un dŷ prydferth i alw yn un ei hun.

2 Edrychwch ar y plant yna yn wir! Mae’n lawenydd i edrych ar eu chwarae. Y fath anifeiliaid i chwarae â nhw! Nid oes angen bariau haearn yn y parc hwn, oblegid bo’r holl anifeiliaid yn heddychlon efo dynolryw a gyda’i gilydd. Mae hyd yn oed y llew a’r oen wedi dod yn gyfeillion. Gwelwch yr adar disglair liw yna yn gwibio yma ac acw, a chylwed eu perganeuon yn ymuno a chwerthin plant yn llanw’r awyr. Dim cajiau? Na, oblegid rhyddid a llawenydd digyfyng yw popeth yn yr arglwyddiaeth hon. Yn wir aroglwch perarogl y blodau yna, clywch ymdroelli’r ffrwd, teimlwch wres gwefreiddiol yr haul. O, am flas y ffrwyth yn y fasged yna, gan y mae’r gorau gall y ddaear ei gynhyrchu, y gorau fyth, fel popeth sydd i’w gweld a’u mwynhau yn yr ardd barc gogoneddus hon.

3 ‘Ond arhoswch,’ meddai rhywun, ‘ble mae’r hen bobl? ’Oni ddylai nhw hefyd, rannu wrth fwynhau’r gymdeithas hapus hon?’ Mewn gwirionedd, mae’r henoed yma’n reit siwr, ond maen nhw’n dod yn ifanc eto. Does neb yn marw o henaint yn y parc hyn. Fe dyf yr ieuanc fyny nawr i oedoliaeth aeddfed a dim heneiddio. Ai yn 20 mlwydd neu 200 mlwydd oed, mae pob un o’r miliynau o bobl sy’n byw yn y parc yma’n gorfoleddu yn awch byw ieuienctid, mewn iechyd perffaith. Miliynau, ddwedwch chi? Ie, miliynau, oblegid fe estynnir y parc hwn i bob tiriogaeth. Fe fydd yn ffynnu gyda bywyd, heddwch, a phrydferthwch i bellteroedd ein daear ni, o Ffwji i’r Andes, o Hong Kong i’r Canoldir. Oblegid mae’r holl ddaear yn cael ei trawsffurfio yn baradwys barc. Paradwys bydd wedi’i hadfer yn fyd-eang.

4 ‘Anghredadwy,’ meddech chi? Eithr, gyntaf, ystyriwch y ffeithiau mewn prawf. Mae’n bosibl i chi a’ch teulu oroesi myned heibio’r system o bethau presennol helbulus a mynedi’r Baradwys a’i cynrychiolir ar ein clawr. *

Y Llyfr Sy’n Egluro Paradwys

5. (a) Pa lyfr sy’n egluro’r pethau hyn? (b) Ym mha ffyrdd y mae hwn yn lyfr amlwg?

5 Mae’r holl bethau gogoneddus hyn, a’u sicrwydd, yn cael eu egluro mewn llyfr, y llyfr mwyaf rhyfeddol a ysgrifennwyd erioed. Fe’i gelwir y Beibl. Mae’n llyfr hynafol iawn, â rhannau ohono wedi eu ysgrifennu ryw 3,500 mlynedd yn ôl. Ar yr un pryd, y mae’r llyfr mwyaf cyfddyddiol wrth ymroddi cyngor ymarferol, go iawn ar gyfer byw dydd-modern. Cyffroa ei broffwydoliaethau obaith disglair am y dyfodol. Y mae y gorau-werthwr holl hanes, efo dros 2,000,000,000 o gopïau o’r Beibl cyfan neu rannau helaeth ohono wedi eu dosbarthu mewn ryw 1,810 o ieithoedd.

6. Beth sy’n gwahaniaethu’r Beibl wrth ysgrifeniadau eraill a’u ystyrir yn sanctaidd?

6 Nid oes llyfr sanctaidd arall wedi cael dosbarthiad mor eang, ac nid yw’r mwyafrif eraill yn agos mor hen. Mae Coran Islam yn llai na 1,400 mlwydd oed. Bu Buddha a Chonffiwsiws byw ryw 2,500 mlynedd yn ôl, ac fe ddyddier eu ’sgrifeniadau o’r amser hynny. Cyfansoddwyd Ysgrythurau Sinto yn eu ffurf presennol dim mwy na 1,200 mlynedd yn ôl. Dim ond 160 mlwydd oed yw llyfr Mormon. Nis gellir unrhyw un o’r llyfrau sanctaidd hyn olrhain hanes dynol yn gywir yn ôl drwy 6,000 mlynedd, fel y mae’r Beibl. I ddeall y grefydd wreiddiol mae’n rhaid inni felly fynd at y Beibl. Y mae yr unig lyfr a neges sy’n gyffredinol i’r holl ddynoliaeth.

7. Beth mae dynion feddylgar wedi dweud am y Beibl?

7 Canmolwyd doethineb a phrydferthwch neges y Beibl gan bobl feddylgar o’r holl genhedloedd ac o bob cerddediad bywyd. Fe ddywedodd y gwyddonydd enwog a darganfuwr deddf disgyrchiant, Syr Isaac Newton: “Ni thystir unrhyw wyddoniaeth atynt yn well na’r Beibl.” Datganiodd Patrick Henry, yr arweinwr chwyldroadol Americanaidd sy’n enwog am y geiriau “Rho imi ryddid, neu ro imi farwolaeth,” hefyd: “Mae’r Beibl werth yr holl lyfrau eraill sydd wedi eu hargraffu erioed.” Fe ddywedodd y dewin mawr Hindwaidd Mohandas K. Gandhi hyd yn oed wrth raglaw Frytanaidd yr India: “Pan ddaw dy wlad dithau a’m gwlad innau gyda’i gilydd ar sail yr athrawiaethau a’u rhoid i lawr gan Grist yn y Bregeth ar y Mynydd hon, byddwn wedi datrys problemau, nid yn unig o’n gwledydd ninnau, ond rheini o’r holl fyd.” Roedd Gandhi yn siarad am Mathew pennodau 5 i 7 yn y Beibl. Darllenwch y pennodau hyn eich hun a gwelwch os nad ydych yn gwefreiddio i’w neges grymus.

Y Beibl​—⁠Llyfr Dwyreiniol

8, 9. (a) Paham y mae’n anghywir i alw’r Beibl yn lyfr Gorllewinol? (b) Sut ysgrifennwyd y Beibl, a thros pa gyfnod o amser? (c) Sut gellir galw’r Beibl yn lyfrgell? (d) Sawl dyn a ddefnyddwyd i ysgrifennu’r Beibl? (e) Pa dystiolaeth rydd rhai o’r dynion hyn am Ffynhonnell y Beibl?

8 Yn groes i gred cyffredinol, nid cynnyrch gwareiddiad y Gorllewin yw’r Beibl, nac ychwaith ydy o’n gogoneddu’r gwareiddiad hwnnw. Ysgrifennwyd bron y Beibl cyfan yng ngwledydd Dwyreiniol. Dwyreinwyr i gyd oedd y dynion a’i ysgrifennodd i lawr. Mil flynedd cyn Buddha, ym 1513 C.C. fe ysbrydolwyd Moses, a oedd yn byw yn y Dwyrain Canol, gan Dduw i ysgrifennu llyfr cyntaf y Beibl, a elwir Genesis. O’r dechreuad hwn, mae’r Beibl yn dilyn un thema gytun drwyddo yn union at ei lyfr olaf Datguddiad. Cwblhawyd y Beibl yn 98 O.C., tua 600 mlynedd ar ôl Buddha. A wyddoch chi fe wneir fyny y Beibl o 66 wahanol lyfrau? Ydy, mae’r Beibl yn llyfrgell ynddo’i hun!

9 Felly, dros gyfnod o 1,600 mlynedd o amser Moses ymlaen, fe rannodd ryw 40 o ddynion wrth ysgrifennu record gytun y Beibl. Tystiant i’w ysgrifeniadau gael eu hysbrydoli gan bŵer llawer yn uwch na dyn farwol. Fe ysgrifennodd yr apostol Cristnogol Paul: “Mae’r holl Ysgrythur yn ysbrydoledig wrth Dduw ac yn fuddiol ar gyfer dysgu, ceryddu, gosod pethau’n union, a disgyblu mewn cyfiawnder.” * (2 Timotheus 3:16) Ac eglurodd yr apostol Pedr: “Ni thardd unrhyw broffwydoliaeth o’r Ysgrythur o unrhyw dde-hongliad preifat. Oblegid ni ddaethpwyd proffwydoliaeth ar yr un amser trwy ewyllys dyn, ond fe lefarodd dynion fel y cludwyd hwy gan ysbryd glân.”​—⁠2 Pedr 1:20, 21; 2 Samuel 23:2; Luc 1:⁠70.

10. (a) Sut ddaeth y Beibl lawr hyd ein dydd ninnau? (b) Sut gallwn ni fod yn siwr bod gennym ni y Beibl destun ysbrydoledig gwreiddiol?

10 Mwyaf nodweddiadol, hefyd, yw’r ffordd y mae’r Beibl wedi dod lawr i’r dydd hwn. Am filoedd o flynyddoedd, hyd darganfod argraffu ryw 500 mlynedd yn ôl gwnaed copïau o’r Beibl gan law. Nis copïwyd a adgopïwyd unrhyw waith llenyddol o’r amserau hynafol mor ddyfal. Fe’i copïwyd drosodd a throsodd eto, ond efo gofal mawr o hyd. Dim ond ychydig fân wallau wnaeth y copïwyr, ac y mae cymhariaeth o rhain wedi sefydlu’r testun wreiddiol a hysbrydolwyd gan Dduw. Fe ddywed un awdurdod blaenllaw ar lawysgrifau Feiblaidd, Syr Frederic Kenyon: “Mae’r sail olaf am unrhyw amheuaeth bod yr Ysgrythurau wedi dod lawr inni bron fel y maen nhw, wedi cael ei symud ymaith nawr.” Heddiw, mae ’na ryw 16,000 o lawysgrifau o’r Beibl neu rannau ohono yn dal mewn bodolaeth, rhai yn goroesi hyd yn oed o’r ail ganrif cyn Crist. Ymhellach, fe wnaed cyfieithiadau cywir o’r ieithoedd Hebraeg, Aramaeg, a Groeg a ysgrifennwyd y Beibl ynddynt yn wreiddiol i bron a bod holl ieithoedd y ddaear.

11. Pa ddarganfyddiadau fodern sy’n gytun â record y Beibl?

11 Mae rhai wedi ceisio difrïo’r Beibl drwy ddweud iddo fod yn anghywir. Sut bynnag, yn y blynyddoedd diweddar mae archaeolegwyr wedi cloddio i mewn i olion drefydd hynafol mewn gwledydd Beiblaidd ac wedi darganfod arysgrifau a thystiolaeth eraill sy’n profi’n derfynol bod y personau a’r lleoedd a sonnir amdanynt yn hyd yn oed y recordiau hynaf Feiblaidd wedi gwir fodoli. Maen nhw wedi diddaearu llawer o dystiolaeth sy’n pwyntio at ddilyw byd-eang, a ddywed y Beibl a ddigwyddodd mwy na 4,000 mlynedd yn ôl, yn nydd Noa. Ar y pwynt hwn, fe ddatganiodd y Tywysog Mikasa, archaeolegwr enwog: “Oedd ’na Ddilyw yn wir? . . . Mae’r ffaith bod y dilyw wedi cymeryd lle mewn gwirionedd wedi ei brofi’n argyhoeddiadol.” *

Duw’r Beibl

12. (a) Pa beth dywed rhai gwawdwyr am Dduw? (b) Paham bod y Beibl yn cyfeirio at Dduw fel Tad? (c) Beth mae y Beibl yn ddangos yw enw Duw?

12 Yn union fel y mae rhai bobl wedi dirmygu’r Beibl, mae eraill yn dirmygu am fod ’na Hollalluog Dduw. (2 Pedr 3:3-7) Dy­wedant, ‘Sut galla’i gredu yn Nuw, gan na fedraf ei weld ef? Oes ’na brawf bod ’na Greawdwr anweledig, uwchlaw dyn, yn gwir fodoli? Onid ydyw Duw yn preswylio ym mhopeth?’ Dywed eraill, ‘Does yna ddim Duw na Buddha.’ Sut bynnag, fe ddengys y Beibl mai yn union fel y derbyniasom fywyd drwy dad daearol, felly derbyniodd ein cyndadau fywyd wrth Dad nefol, neu Greawdwr, a’i enw personol yw Iehofah.​—⁠Salm 83:18; 100:3; Eseia 12:2; 26:⁠4.

13. Ym mha ddwy ffordd mae Iehofah wedi datguddio ei hun i ddynolryw?

13 Y mae Iehofah wedi datguddio ei hun i’r ddynoliaeth mewn dwy ffordd sy’n amlwg. Y brif ffordd yw drwy’r Beibl, a wna’n hysbys ei wirionedd a’i bwrpasau tragwyddol. (Ioan 17:17; 1 Pedr 1:24, 25) Trwy ei greadigaeth yw’r ffordd arall. Trwy sylwi ar y pethau rhyfeddol o’u cwmpas, mae llawer o bobl wedi dod i werthfawrogi rhaid bod yna Greawdwr-Dduw ei bersonoliaeth godidog a adlewyrchir yn ei weithgareddau.​—⁠Datguddiad 15:3, 4.

14. Beth ddywed y Beibl wrthym am Iehofah?

14 Iehofah Dduw yw Awdur y Beibl. Ef yw’r Ysbryd Mawr, sy’n bodoli drwy gydol tragwyddoldeb. (Ioan 4:24; Salm 90:1, 2) Geilw ei enw “Iehofah” sylw at ei bwrpas tuag at ei greaduriaid. Y mae ei bwrpas i gyfiawnhau’r enw mawr hwnnw trwy ddinistrio’r drygionus ac achub y rheini sy’n ei garu fel y gallant fyw ar y baradwys ddaear. (Exodus 6:2-8; Eseia 35:1, 2) Wrth fod yr Hollalluog Dduw, mae ganddo’r pŵer i wneud hyn. Fel Creawdwr yr holl gyfanfyd, y mae ef llawer uwchlaw duwiau ac eilunod cenedlaethol cyffredin.​—⁠Eseia 42:5, 8; Salm 115:1, 4-8.

15. Pa gasgliadau mae astudiaethau o’r greadigaeth gan ddynion deallus wedi eu harwain hwy atynt?

15 Yn ystod y canrifoedd diweddar, mae dynion gwyddoniaeth wedi rhoi llawer o amser i astudio gweithoedd y greadigaeth. Pa beth maen nhw wedi ymgasglu? Fe ddatganiodd un o’r arloeswyr yn y maes trydan, a gwyddonydd enwog Prydeinig yr Arglwydd Kelvin: “Credaf y mwyaf trylwyr y caiff gwyddoniaeth ei astudio y pellach mae yn ein dwyn wrth unrhyw beth a’i gymherir i anghrediniaeth.” Fe gyffesodd y gwyddonydd Ewropeaidd Albert Einstein er yr honir iddo fod yn anghredwr, “Mae’n ddigon imi . . . adfyfyrio ar adeiladwaith rhyfeddol y cyfanfyd, y gallwn prin ei ddirnad, ac i geisio ymddeall yn ostyngedig dim ond rhan fach iawn o’r deallusrwydd sy’n amlwg yn natur.” Fe ddywedodd y gwyddonydd ac enillwr gwobr Nobel Americanaidd Arthur Holly Compton: “Fe dystia cyfanfyd drefnus i wir y datganiad mwyaf urddasol a wnaed erioed​—⁠‘yn y dechreuad . . . Duw.’ Roedd yn dyfynnu geiriau agoriadol y Beibl.

16. Sut mae’r cyfanfyd yn mawrygu pŵer a doethineb creadigol Duw?

16 Fe ymffrostia rheolwyr cenhedloedd cryfion am eu deallusrwydd a’u gorchestion gwyddonol wrth goncro’r gofod allanol. Ond pa mor ddi-nod yw eu lloerenni gofod pan cymherir rhain gyda’r lleuad sy’n troi o amgylch y ddaear, a’r planedau sy’n troi o amgylch yr haul! Pa mor egwan yw gorchestion y dynion farwol hyn wrth gymharu â chreadigaeth Iehofah o’r biliynau o galacsis nefol, pob un yn cynnwys biliynau o heuliau fel un ein hun, a’i grwpio a’i gosod yn y gofod am amser difesur! (Salm 19:1, 2; Job 26:7, 14) Nid rhyfedd bod Iehofah yn ystyried dynion fel sponcyn y gwair, a chenhedloedd nerthol “fel dim byd.”​—⁠Eseia 40:13-18, 22.

17. Paham y mae’n resymol i gredu mewn Creawdwr?

17 Ydych chi’n byw mewn tŷ? Tebyg iawn nid chi adeiladodd y tŷ eich hun, nac ychwaith y gwyddoch pwy a wnaeth. Sut bynnag, ni fuasai’r ffaith nac ydych yn nabod yr adeiladydd yn eich atal rhag derbyn y gwir bod rhyw berson deallus wedi ei adeiladu. Buasai rhesymu fod y tŷ wedi adeiladu ei hun yn ymddangos yn ffôl iawn! Gan oedd y cyfanfyd mawr, a phopeth ynddo, yn eisiau llawer iawn yn fwy o ddeallusrwydd ar gyfer ei adeiladwaith onid ydyw’n resymol i ymgasglu rhaid bod yna Greawdwr Deallus? Yn wir, dim ond yr un disynnwyr fuasai’n dweud yn ei galon, “Nid oes Iehofah.”​—⁠Salm 14:1; Hebreaid 3:⁠4.

18. Pa beth a ddengys mai person yw Duw, ac yn haeddu cael ei glodfori?

18 Mae’r rhyfeddodau gogoneddus o’n hamgylch​—⁠y blodau, yr adar, yr anifeiliaid, y greadigaeth ryfeddol a elwir dyn, gwyrthiau bywyd a geni⁠—​maent oll yn tystio i’r Meistr Deall a’u cynhyrchodd. (Rhufeiniaid 1:20) Lle mae ’na ddeall mae ’na feddwl. Lle mae ’na feddwl, mae yna berson. Y deall goruchaf yw hwnnw o’r Bod Mawr, Creawdwr pob peth byw, union Ffynhonnell bywyd. (Salm 36:⁠9) Mae’r Creawdwr yn wir haeddu pob clod a moliant.​—⁠Salm 104:24; Datguddiad 4:⁠11.

19. (a) Paham na all yr un genedl heddiw hawlio buddugoliaeth gan Dduw wrth ryfela? (b) Paham nad oes gan Dduw ran yn rhyfeloedd y cenhedloedd?

19 Siglwyd cred rhai yn Nuw gan brofiadau caled Rhyfel Byd II. Ar yr amser hynny fe alwodd pob gwlad ar ei “Duw,” ai o’r crefyddau Gatholig neu Phrotestanaidd neu o’r crefyddau Dwyreiniol. A gellid dweud bod “Duw” wedi rhoi buddugoliaeth i rai o’r cenhedloedd hyn a gadael i eraill gael eu gorch­fygu? Fe ddengys y Beibl mai nad oedd yr un o’r cenhedloedd hyn yn galw ar y gwir Dduw. Nid yw Iehofah Dduw, Creawdwr nef a daear, yn gyfrifol am y dryswch a’r rhyfeloedd ym mhlith y cenhedloedd. (1 Corinthiaid 14:33) Mae ei feddyliau ef yn llawer uwchlaw y cenhedloedd gwleidyddol a militaraidd y ddaear hon. (Eseia 55:8, 9) Mewn modd tebyg, nid oes gan y gwir grefydd ac addoli Iehofah dim rhan yn rhyfeloedd y cenhedloedd. Mae Iehofah llawer uwchlaw duwiau cenedlaethol. Y mae ar ben ei hun wrth fod yn Dduw dynion a dynesau heddychlon yn yr holl genhedloedd. Fel dywed y Beibl: “Nid ydyw Duw yn bleidiol, ond ym mhob cenedl mae’r dyn sy’n ei ofni a gwneud cyfiawnder yn dderbyniol iddo.” (Actau 10:​34, 35) Y mae personau yn yr holl genhedloedd sy’n tueddu at gyfiawnder yn dysgu’r Beibl nawr ac yn cofleidio addoli’r gwir “Dduw sy’n rhoi heddwch,” Creawdwr yr holl ddynolryw.​—⁠Rhufeiniaid 16:20; Actau 17:24-27.

20. Pa beth sy’n dangos y Gwledydd Cred i fod yn anghristionogol a gwrth-Dduw?

20 Pwyntio mae rhai bobl at y rhaniadau a’r rhagrith yng nghrefyddau’r Gwledydd Cred, sy’n honi y bon nhw’n dilyn y Beibl. Dywedant hefyd, ‘Sut fedraf i gredu Duw’r Beibl, pan bod y cenhedloedd sy hefo’r Beibl ymhlith rheini sy’n ychwanegu yn ddibaid ar arfau niwcliar?’ Y ffaith yw, tra fod y Beibl yn wir o hyd, mae cenhedloedd y Gwledydd Cred wedi mynd mor bell o Gristnogaeth Feiblaidd a mae Pegwn y Gogledd o Begwn y De. Maen nhw’n rhagrithio wrth broffesu Cristnogaeth. Mae’r Beibl ganddynt, ond nid ydynt yn ufuddhau i’w ddysgeidiaeth. Fe ebychiodd yr arlywydd Americanaidd a orchmynodd gollwng y bom atomig cyntaf ar Hiroshima un tro: “O, am Eseia neu San Paul!”​—⁠i dywys dynion yn yr argyfwng byd hwn. Petasai wedi cytuno â Eseia y Beibl, ni fuasai wedi gollwng bom atomig erioed oblegid hyrwyddodd Eseia ‘trywanu cleddau yn sychau erydr a gwaywffyn yn grymanau.’ Ymhellach, Paul o’r Beibl a ddatganiodd: “Nid ydym yn rhyfela yn ôl yr hyn rydym yn y cnawd. Oblegid nid cnawdol yw arfau ein rhyfela.” (Eseia 2:4; 2 Corinthiaid 10:3, 4) Sut bynnag, yn lle dilyn cyngor doeth y Beibl, mae cenhedloedd y Gwledydd Cred wedi dod yng nghlwm mewn râs arfau hunanladdol. Mae unrhyw honiadau a wnânt i fod yn Gristnogion ufudd-i’r-Beibl yn ffals. Rhaid iddynt wynebu barn Duw am fethu gwneud ei ewyllys.​—⁠Mathew 7:18-23; Sephaniah 1:17, 18.

Creadigaethau A Gwyrthiau Iehofah

21. Paham y mae’n resymol i beidio amau gwyrthiau Duw?

21 Mae Iehofah yn creu, ac y mae’n perfformio gwyrthiau. A ryfeddoch chi erioed am droi’r dŵr yn waed, rhannu’r Môr Coch, genedigaeth forwynol Iesu, a gwyrthiau eraill sydd wedi eu recordio yn y Beibl? Gan mae o allu deallusrwydd cyfyngedig yw dyn, mae’n debyg na fydd byth yn deall sut ddigwyddodd rhai o’r gwyrthiau hyn, yn union fel na gall ef ddeall yn llawn gwyrth codi a machlud haul bob dydd. Roedd creu dyn yn wyrth. Ni welodd dyn modern y gwyrth yna, ond fe ŵyr i hynny ddigwydd, oblegid y mae’n fyw heddiw i brofi hynny. Yn wir, mae bywyd oll a’r cyfanfyd i gyd yn cyfansoddi un gwyrth parhaol. Felly a ydym i amau pan fod Gair Duw, y Beibl, yn dweud y bod ef wedi perfformio gwyrthiau arbennig ar gyfer amserau arbennig, er nad oes angen yr un gwyrthiau heddiw?

22. Disgrifiwch creadigaeth cyntaf Duw.

22 Mae holl greadigaeth Iehofah yn wyrthiol a rhyfeddol! Sut bynnag, ei greadigaeth gyntaf un oedd y rhyfeddotaf oll. Creu ei ysbryd Fab, ei “gyntaf-anedig” oedd hynny. (Colosiaid 1:15) Hwn oedd y Mab nefol a enwyd “y Gair.” Oesoedd diri ar ôl ei greu, daeth i’r ddaear hon a gelwyd ef y “dyn, Crist Iesu.” (1 Timotheus 2:⁠5) Wedyn fe ddywedwyd amdano: “Felly daeth y Gair yn gnawd a phreswyliodd yn ein plith, ac fe gawsom olwg o’i ogoniant, gogoniant o’r math sy’n eiddo i gyntaf-anedig fab wrth ei dad, ac ’roedd yn llawn trugaredd a gwirionedd.”​—⁠Ioan 1:⁠14.

23. (a) Sut gellir egluro’r berthynas rhwng Duw a’i Fab? (b) Beth greodd Duw, drwy ei Fab?

23 Gellir cymharu perthynas Iehofah a’i Fab i hwnnw o berchenog-reolwr a’i fab mewn gweithdy, lle mae’r mab yn helpu gwneud yr eitemau a cynllunwyd gan ei dad. Trwy ei gyntaf-anedig Fab a’i gydymaith weithiwr, fe greodd Iehofah llawer o ysbryd greaduriaid eraill, meibion Duw. Nes ymlaen, ymlawenasant wrth weld Mab Iehofah, ei Feistr Weithiwr, yn dwyn ymlaen y nefoedd gorfforol a’r ddaear rydym yn byw arni. Ydych chi’n amau mai y crëwyd y pethau hyn? Miloedd o flynyddoedd nes ymlaen, fe ofynnodd Iehofah i ddyn ffyddlon: “Ble roeddit pan sefydlais y ddaear? Dywed wrthyf, os wyt yn nabod deall. Pan lefodd sêr y bore yn llawen efo’i gilydd, ac i holl feibion Duw ddechrau bloeddio mewn cymeradwyaeth?”​—⁠Job 38:4, 7; Ioan 1:⁠3.

24. (a) Pa greadigaeth daearol gan Iehofah sy’n amlwg, ac ym mha foddion? (b) Pam yw hi’n afresymol i ddweud mai esblygodd dyn i fyny o anifeiliaid?

24 Yng nghwrs amser, creodd Iehofah bethau byw materol ar y ddaear hon, y planhigion, y coed, y blodau, y pysgod, yr adar, a’r anifeiliaid. (Genesis 1:11-13, 20-25) Yna dywedodd Duw wrth ei Feistr Weithiwr: “Bydded inni greu dyn ar ein delw ni, yn ôl ein tebygrwydd . . . Ac fe aeth Duw ymlaen i greu dyn yn ei ddelw, yn nelw Duw y creodd ef; gwryw a menyw y creodd ef hwynt.” (Genesis 1:26, 27) Gan iddo fod wedi ei greu yn nelw a thebygrwydd Duw, gyda phriodoleddau mawrion Duw, o gariad, doethineb, cyfiawnder, a phŵer, roedd y dyn gwreiddiol llawer uwchlaw’r anifeiliaid. Mae’r dyn mewn dosbarth ar wahân i’r anifeiliaid gan iddo fedru rhesymu, cyllunio am y dyfodol, ac mae ganddo’r gallu i addoli Duw. Nid oes gan yr anifeiliaid y deall i resymu gyda nhw, ond y maen nhw’n byw drwy reddf. Pa mor afresymol y mae i ddweud nad oes yna Greawdwr ond bod creadur deallus, cyfoethog ei roddion, dyn wedi esblygu fyny o’r anifeiliaid anneallus is!​—⁠Salm 92:6, 7; 139:⁠14.

25, 26. (a) Pa ragolwg odidog a roddwyd o flaen dyn? (b) Paham na fuasai problem gorboblogi y ddaear?

25 Fe osodwyd dyn gan Dduw yng “ngardd Eden, tua’r dwyrain.” Roedd yn ardd o bleser, fel yr ardd ar ein clawr, er ar y pryd hwnnw dim ond y ddau oedd ar gael, Adda a’i wraig. Nis bodolir y Baradwys wreiddiol hon bellach, gan y dinistrwyd hi yn Nilyw dydd Noa. Ond mae ei bras leoliad yn wyddys yn y Dwyrain Canol, oherwydd bod afonydd arbennig a enwir yn y Beibl fel pe taen nhw’n llifo drwyddi yn bodoli hyd heddiw. (Genesis 2:​7-14) Roedd gan ddyn y cyfle godidog i ddefnyddio’r ardd fel canolfan i ymledu allan ohoni i arddio’r holl ddaear, a’i gwneud yn baradwys glôb-eang.​—⁠Eseia 45:​12, 18.

26 Gan fod Duw a’i Fab yn weithwyr, felly hefyd rhoddodd Duw waith i’r dyn i wneud yma ar y ddaear. (Ioan 5:17) Wrth Adda ac Efa, y dyn a’r ddynes gyntaf, fe ddywedodd, “Byddwch ffrwythlon a deuwch yn llawer, a llenwch y ddaear a’i gostyngu, a fe gewch pysgod y môr a chreaduriaid hededog y nefoedd a phob creadur byw sy’n symud ar y ddaear mewn gostyngiad.” (Genesis 1:28) A oedd hyn yn golygu i ddyn luosogi, llanw’r ddaear, ac wedyn i barhau lluosogi hyd roedd y ddaear yn orlawn? Na. Pan ddywed rhywun wrthych i lanw cwpan gyda tê, nid ydych chi’n parhau arllwys y tê hyd i’r tê i orlanw’r cwpan a rhedeg dros y bwrdd i gyd. ’Rydych yn llanw’r cwpan ond wedyn stopio. Yn yr un modd, dynodai gorchymyn Iehofah i ddyn, “Llenwch y ddaear,” ei bwrpas i gael dyn i lanw’r ddaear yn gyffyrddus, ac wedyn buasai adgynhyrchu’r ddynolryw yma ar y ddaear yn stopio. Ni fuasai hyn yn creu problem o fewn cymdeithas ddynol berffaith. Dim ond yn y byd heddiw o’r ddynoliaeth amherffaith y mae gorboblogi yn creu problem.

Pethau Drwg—Paham Bod Duw yn eu Caniatáu?

27. Pa gwestiynau sy’n hawlio ateb nawr?

27 Os pwrpas Duw yw i adeiladu paradwys ddaear, sut y mae bod y ddaear mor llawn efo drygioni, diodde, a galar? Os mae Duw yw’r Hollalluog, paham bod ef wedi caniatáu’r amodau hyn cyhyd? Oes ’na obaith am ddiwedd i’n holl helbulon? Pa beth mae’r Beibl yn ddweud?

28. Sut mynedodd gwrthryfel i’r Baradwys ardd?

28 Fe ddengys y Beibl i helbulon dynolryw ddechrau pan gwrthryfelodd un o ysbryd feibion Duw yn erbyn sofraniaeth neu arglwyddiaeth Iehofah. (Rhufeiniaid 1:20; Salm 103:22 CBN, is-nodiad.) Roedd yr angel hwn heb amau ymhlith rheini bu’n ymlawenhau wrth weld creadigaeth dyn. Ond wedyn ymwreiddiodd trachwant ac urddas yn ei galon, ac fe’i denwyd gan y chwennych i gael Adda ac Efa i’w addoli yn lle eu Creawdwr, Iehofah. Wrth siarad drwy sarff, yn debyg iawn fel mae tafleisydd yn siarad drwy ddymi, fe ddarbwyllodd yr angel hwn Efa i anufuddhau Hollalluog Dduw. Yna fe ddilynodd ei gŵr Adda hithau i anufudd-dod.​—⁠Genesis 2:15-17; 3:1-6; Iago 1:14, 15.

29. (a) Pa bynciau a gododd i’w penderfynu? (b) Sut mae Duw wedi cyfarfod a’r her? (c) Sut gellwch chi ymrannu wrth ddarparu ateb i wawd Satan?

29 Daethpwyd i ’nabod yr angel wrthryfelgar hwnnw fel “y sarff wreiddiol.” (Datguddiad 12:9; 2 Corinthiaid 11:⁠3) Enwir ef hefyd yn Satan, a olyga “Gwrthwynebwr,” a Diafol, a olyga “Enllibiwr.” Galwodd i ddadl iawnder a chyfiawnder rheolaeth Iehofah o’r ddaear, ac bu iddo herio Duw y gallai ef, Satan, droi’r holl ddynoliaeth wrth gwir addoliad. Y mae Duw wedi gadael ryw 6,000 mlynedd i Satan geisio profi ei her, fel y gellir penderfynu’r ddadl am sofraniaeth Iehofah trwy gydol trangwyddoldeb. Y mae dyn-reolaeth yn annibynol o Dduw wedi methu’n flêr. Ond y mae dynion a dynesau o ffydd, y siampl amlycaf yn eu plith yw Iesu, wedi cadw at eu cyfanrwydd i Dduw o dan y profion dwysaf, gan gyfiawnhau Iehofah a profi’r Diafol yn gelwyddgi. (Luc 4:1-13; Job 1:7-12; 2:1-6; 27:⁠5) Gellwch chi hefyd fod yn geidwad cyfanrwydd. (Diarhebion 27:11) Ond nid Satan yw’r unig elyn i aflonyddu arnom. Pa elyn arall sydd yna?

Y Gelyn​—⁠Marwolaeth

30. Pa beth a ddywed yr Ysgrythurau am y gosb sy’n deillio i ddyn oherwydd ei anufudd-dod?

30 Roedd Duw wedi datgan y gosb am anufudd-dod​—⁠marwolaeth. Wrth basio dedfryd ar y ddynes gyntaf, dywedodd Iehofah: “Cynyddaf yn fawr boenau dy feichdod; mewn gwewyr geni y byddi’n esgor plant, a bydd dy ddyhead am dy ŵr, ac fe fydd yn arglwyddi drostot.” Fe ddywedodd wrth y dyn Adda: “Yn chwys dy wyneb y bwytei fara hyd iti ddychwelyd i’r ddaear, oblegid ohono y cymerwyd ti. Llwch yr wyt ac i’r llwch y byddi di yn dychwelyd.” (Genesis 3:16-19) Diarddelwyd y pâr anufudd o Baradwys hapusrwydd i’r ddaear heb ei drin. Buont farw yng nghwrs amser.​—⁠Genesis 5:⁠5.

31. Pa beth yw pechod, a pha beth yw ei ganlyniad wedi bod i ddynolryw?

31 Dim ond ar ôl iddynt syrthio o farc perffeithrwydd dechreuodd Adda ac Efa i gynhyrchu plant. Eu disgynyddion mewn amherffeithrwydd yw dynion oll heddiw, felly maent oll yn marw. Fe eglura un ysgrifennwr Feiblaidd y peth yn y geiriau hyn: “Trwy un dyn daeth pechod i’r byd a marwolaeth drwy bechod, ac felly fe ymledodd marwolaeth i ddynion oll oherwydd iddynt oll bechu.” Pa beth yw’r “pechod” hwn? Syrthio ydyw yn brin o farc perffeithrwydd neu bod yn gyflawn. Nid yw Iehofah Dduw yn cymeradwyo na chadw’n fyw unrhywbeth sy’n amherffaith. Gan i ddynion oll etifeddu pechod ac amherffeithrwydd o’r dyn cyntaf Adda, y mae marwolaeth “wedi rheoli fel brenin” drostynt. (Rhufeiniad 5:1214) Mae dyn syrthiedig yn marw, yn yr un ffordd y mae’r anifeiliaid yn marw.​—⁠Pregethwr 3:19-21.

32. Sut ddisgrifia’r Beibl y marwolaeth ’rydym wedi ei etifeddu?

32 Pa beth yw’r “marwolaeth” hwn? Gwrthwyneb bywyd yw marwolaeth. Roedd Duw wedi dal o flaen dyn rhagolwg bywyd tragwyddol ar y ddaear pe bai’n ufuddhau. Sut bynnag, bu iddo anufuddhau a’r gosb oedd marwolaeth, anymwybodolrwydd, anfodolaeth. Dywedodd Duw’r un dim am drosglwyddo bywyd dyn i ysbryd fyd neu “uffern” danllyd petai’n anufuddhau a marw. Roedd wedi rhybuddio dyn: “Byddi farw’n bositif.” Y Diafol dyn-laddol a oedd wedi dweud celwydd wrth fynegi: “Yn bositif ni byddi farw.” (Genesis 2:17; 3:4; Ioan 8:44) Yr hyn mae dynion oll wedi etifeddu wrth Adda yw marwolaeth fel llwch.​—⁠Pregethwr 9:5, 10; Salm 115:17; 146:⁠4.

33. (a) Pa ddyfodol gogoneddus sy’n disgwyl dynolryw a’r ddaear hon? (b) Pa dri pheth pwysig y mae Iehofah yn gyflawni drwy ei Fab?

33 Nag oes ’na ddyfodol i ddyn sy’n marw ’te? Mae yna ddyfodol rhyfeddol! Mae’r Beibl yn dangos na fydd bwriad Duw am baradwys ddaear i holl ddynolrhyw yn cynnwys y rheini sy nawr yn farw byth yn methu. Meddai Iehofah: “Y nefoedd yw fy ngorsedd, a’r ddaear yw fy nhroedfainc.” “Mawrygaf union safle fy nhraed.” (Eseia 66:1; 60:13) Allan o ddigonedd ei gariad, danfonodd Iehofah ei Fab, y Gair, i’r ddaear hon, fel y gallai byd o ddynolryw ennill bywyd trwyddo ef. (Ioan 3:16; 1 Ioan 4:⁠9) Mae ’na dri pheth pwysig y dylem ni nawr ei drafod ac mae Iehofah yn cyflawni trwy ei Fab, sef, (1) darparu rhyddhad o bŵer marwolaeth; (2) yn wir adfer y meirw i fywyd; a (3) sefydlu lywodraeth berffaith dros ddynolryw i gyd.

Rhyddhad o Farwolaeth

34, 35. (a) Sut yn unig y gellid prynu dyn rhag marwolaeth? (b) Pa beth ydy pridwerth?

34 Er amseroedd gynt, mae proffwydi Duw wedi datgan eu hyder, nid mewn anfarwoldeb dyn, ond yn y gobaith y buasai Duw yn “eu hadennill nhw” o farwolaeth. (Hosea 13:14) Ond sut gallai dyn cael ei rhyddhau o rwymau marwolaeth? Roedd cyfiawnder perffaith Iehofah yn gofyn ‘enaid am enaid, llygad am lygad, dant am ddant.’ (Deuteronomium 19:21) Gan hynny, am bod Adda wedi dod â marwolaeth etifeddol i ddynolryw i gyd wrth anufuddhau Duw yn fwriadol ac felly colli perffeithrwydd bywyd dynol, roedd rhaid i ddyn perffaith arall amnewid dros Adda mewn talu drosodd ei fywyd perffaith, i brynu’n ôl beth oedd Adda wedi colli.

35 Mae’r egwyddor cyfiawn o dalu ‘tebyg am debyg’ wedi cael ei dderbyn trwy gydol hanes. Y mynegiant sy’n cael ei ddefnyddio yn gyffredin yw “talu pridwerth.” Beth yw pridwerth? “Pris sy’n cael ei dalu i gael person neu pheth yn ôl oddiwrth un sy’n cadw’r person neu’r peth ’na mewn caethiwed. Gan hynny mae’n cael i ddweud fod carcharorion rhyfel neu gaethion wedi eu achub gan bridwerth pan maen nhw yn cael eu rhyddhau mewn cyfnewid am dâl gwerth­fawr. . . . Beth bynnag sy’n cael ei allddodi neu cyfnewid mewn iawndal dros yr un dan sylw hwn yw ei bridwerth.” * Ers pechod Adda, mae dynolryw i gyd wedi bod fel carcharorion ryfel neu caethion, wedi’u rhwymo gan amherffeithrwydd a marwolaeth. I’w rhyddhau nhw, oedd rhaid darparu pridwerth. I osgoi unrhyw ddadl nawr neu’n hwyrach ynglŷn â thegwch pris y bridwerth, buasai hi’n angenrheidiol i aberthu un bywyd dynol perffaith, hynny yw, yr union beth cyfartal i Adda.

36. Sut darparodd Iehofah fywyd dynol perffaith fel pridwerth?

36 Er hynny, ble gallai’r math fywyd dynol perffaith gael ei ddarganfod? Mae dynion i gyd, fel disgynyddion yr Adda amherffaith, wedi cael eu geni yn amherffaith. “Ni all un ohonynt mewn unrhyw fodd gwaredu brawd hyd yn oed, na thalu pridwerth i Dduw amdano.” (Salm 49:⁠7) Wrth ymateb i’r angen, wedi ei gymellu gan ei gariad dwfn tuag at ddynoliaeth, yn wir darparodd Iehofah ei Fab “cyntafanedig” gwerthfawr i fod yr aberth angenrheidiol. Fe drosglwyddodd bywyd perffaith yr ysbryd Fab hwn, y Gair, i groth gwyry Iddewig, sef Mair. Fe beichiogodd y ferch ifanc ac yn ei thro fe ganwyd fab iddi, a gafodd ei enwi yn “Iesu”. (Mathew 1:18-25) Byddai Creawdwr bywyd wrth rheswm yn gallu cyflawni y fath wyrth rhyfeddol.

37. Sut dangosodd Iesu ei gariad dros yr holl ddynion sydd yn dymuno bywyd?

37 Tyfodd Iesu i ddyndod, cyflwynodd ei hun i Iehofah, a fe gafodd ei fedyddio. Wedyn, comisiynodd Duw ef i wneud Ei ewyllys. (Mathew 3:13, 16, 17) Gan fod bywyd daearol Iesu wedi dod o’r nef, ac oedd e’n berffaith, oedd e’n gallu aberthu y bywyd dynol perffaith hwnnw, gan ei ddefnyddio i ryddhau dynolryw o farwolaeth. (Rhufeiniaid 6:23; 5:18, 19) Fel dywedodd ef: “Rwyf wedi dod er mwyn iddyn nhw cael bywyd a’i gael e mewn toreth.” “Does gan neb gariad yn fwy na hyn, sef bod rhywun yn ildio ei enaid dros ei gyfeillion.” (Ioan 10:10; 15:13) Pan achosodd Satan i Iesu gael ei ladd ar yr ystanc ddirboen, ymostyngodd Iesu i’r farwolaeth greulon hon, gan wybod y buasai’r dynion a fydd yn ymarfer ffydd yn ennill bywyd trwy’i ddarpariaeth o’r bridwerth.​—⁠Mathew 20:28; 1 Timotheus 2:5, 6.

Adferiad i Fywyd

38. Sut adferwyd Mab Duw i fywyd, a pha beth sy’n profi hyn?

38 Er wnaeth ei elynion hyd yn oed ei ladd ef, ni chollodd Mab Duw byth ’moi hawl i fywyd dynol berffaith, am ei fod e wedi cadw cyfanrwydd i Dduw. Ond, gan ei fod e’n farw yn y bedd, sut buasai Iesu’n gallu defnyddio’r peth gwerthfawr hwn, sef yr hawl i fywyd dynol, ar ran ddynoliaeth? Fan yma perfformiodd Iehofah wyrth arall, sef y cyntaf o’i fath. Ar y trydydd dydd o Iesu’n bod yn y bedd, cododd Iehofah ef i fynny allan o farwolaeth fel ysbryd greadur, anfarwol. (Rhufeiniaid 6:9; 1 Pedr 3:18) Er mwyn sefydlu cred yn yr atgyfodiad, fe wnaeth Iesu, ar wahanol achlysuron materoli cyrff dynol ac ymddangosodd i’w ddisgyblion, ar un adeg i 500 a fwy ohonynt. Doedd gan ddim un o rhain, na’r apostol Paul a gafodd ei ddallu yn hwyrach gan ymddangosiad o’r Iesu gogoneddus, unrhyw rheswm dros amau gwyrth ei atgyfodiad.​—⁠1 Corinthiaid 15:3-8; Actau 9:1-9.

39. (a) Sut mae Iesu yn defnyddio gwerth ei aberth, ac ar ran bwy gyntaf? (b) Am pa wyrth fawr arall soniodd Iesu?

39 Ar ôl 40 dydd esgynnodd yr Iesu atgyfodiedig i bresenoldeb Duw ei hun yn y nefoedd, i ymroddi yno gwerth ei aberth ddynol berffaith fel rhyddhad i’r ddynoliaeth. “Ond fe offrymodd y dyn hwn un aberth am bechodau am byth ac eisteddodd ar ddeheulaw Duw i ymaros o hynny ymlaen hyd dylid gosod ei elynion fel fainc i’w draed.” (Hebreaid 10:12, 13) Y cyntaf rai i’w rhyddhau trwy’r bridwerth hyn yw’r “braidd fechan” o Gristnogion ffyddlon “sy’n eiddo’r Crist.” (Luc 12:32; 1 Corinthiaid 15:​22, 23) Rhain a’u “prynwyd o blith dynoliaeth,” ac felly dônt yn yr atgyfodiad yn ysbryd gymdeithion Crist yn y nefoedd. (Datguddiad 14:1-5) Sut bynnag, beth am bentyrrau mawrion dynoliaeth sy’n gorwedd yn farw yn eu beddau nawr? Pan roedd ar y ddaear, dywedodd Iesu bod ei Dad wedi addefu iddo awdurdod i farnu ac ymrhoi bywyd. Ychwanegodd: “Peidiwch a rhyfeddu at hyn, oherwydd mae’r awr yn dod y bydd rheini oll sydd yn y beddrodau cofeb yn clywed ei lais a dod allan, . . . i atgyfodiad.” (Ioan 5:26-29) Bydd yn adfer rhain i fywyd yn y Paradwys ddaear.

40, 41. (a) Eglurwch yn union pa beth a olygir gan “atgyfodiad.” (b) Paham fedrwn ni gael ffydd yn addewid Duw o’r atgyfodiad?

40 Sylwch ar eiriau Iesu, “Peidiwch a rhyfeddu at hyn.” Er hynny, sut gellir rhyddhau o farwolaeth a dod nôl i fywyd un sydd wedi bod farw’n hir? Onid yw ei gorff wedi dychwelyd i’r llwch? Gall fod rhai o’r gronynnau a wnaeth fyny’r corff hwnnw wedi cael eu cymathu i bethau byw eraill, fel planhigion ac anifeiliaid. Sut bynnag, ni olyga atgyfodiad ddod a’r un elfennau cemegol gyda’i gilydd eto. Mae’n golygu bod Duw yn ail-greu yr un berson, gyda’r un bersonoliaeth. Mae’n dwyn corff newydd ymaith o’r elfennau daearol, ac y mae’n rhoi’r un nodweddion, yr un rhinweddau arbennig, yr un cof, yn y corff hwnnw, yr un patrwm bywyd roedd y person wedi adeiladu fyny erbyn amser ei farwolaeth.

41 Efallai i chi gael y profiad i’r tŷ roeddech yn garu’n fawr iawn losgi i lawr. Sut bynnag, gellwch ail-adeiladu’r un tŷ yn rwydd, oherwydd roedd ei fanylion annwyl yn glir iawn yn eich cof. Mae’n siwr, felly, y gall Duw, crëwr cof ail-greu dynion y mae wedi cadw yn ei gof oherwydd iddo eu caru. (Eseia 64:⁠8) Dyma paham mae’r Beibl yn defnyddio’r datganiad “beddrodau cofeb.” Pan fydd yn amser dyladwy Duw i ddwyn y meirw i fywyd eto, fe fydd yn perfformio’r wyrth hwnnw, yn union fel iddo berfformio gwyrth wrth iddo greu y dyn cyntaf, onid y tro hwn bydd yn perfformio hyn lawer gwaith drosto.​—⁠Genesis 2:7; Actau 24:⁠15.

42. Paham bod bywyd tragwyddol ar y ddaear yn bosibl a sicr?

42 Bydd Duw yn dwyn dynoliaeth nôl i fywyd, efo’r rhagolwg o heb farw o’r ddaear byth eto. Ond sut y mae bywyd tragwyddol ar y ddaear yn bosibl? Mae’n bosibl a sicr oherwydd y mae yr ewyllys a phwrpas ddwyfol. (Ioan 6:37-40; Mathew 6:10) Yr unig rheswm bod dyn yn marw o’r ddaear heddiw yw am iddo etifeddu marwolaeth wrth Adda. Sut bynnag, pan ystyriwn yr amryw diri o bethau rhyfeddol roedd y bwriad i ddyn fwynhau ar y ddaear, mae einioes fyr o llai na chan mlynedd yn lawer rhy brin! Wrth roi y ddaear hon i blant dynion, bwriadodd Duw y dylai dyn barhau i fyw i fwynhau ysblanderau Ei greadigaeth, nid am ryw gan mlynedd, neu hyd yn oed mil flynedd, ond am byth!​—⁠Salm 115:16; 133:⁠3.

Llywodraeth Heddwch Berffaith

43. (a) Pa angen sydd yna am lywodraeth perffaith? (b) Pa beth mae Iehofah yn fwriadu yn y cyswllt hwn?

43 Oherwydd i’n rhieni cyntaf ymwrthod deddf Duw, daeth llywodraeth dynol o dan reolaeth Satan. Yn addas gelwir Satan gan y Beibl “duw’r system yma o bethau.” (2 Corinthiaid 4:⁠4) Mae’r rhyfeloedd, y creulondeb, y llygredd, ac ansefydlogrwydd llywodraethau ddynol yn profi ei fod. Mae Cynghrair y Cenhedloedd a’r Cenhedloedd Unedig wedi methu i ddod â heddwch allan o’r anhrefn. Mae dynolryw yn gweiddi am lywodraeth o heddwch. Onid yw’n resymol y buasai’r Creawdwr, sy’n bwriadu adfer Paradwys i’r ddaear hon, yn darparu llywodraeth perffaith i’r Baradwys honno? Dyna’n union beth mae Iehofah wedi bwriadu wneud. Y Brenin sy’n ei gynrychioli Ef yn y llywodraeth yma yw ei “Dywysog Heddwch,” Iesu Grist, ac “i ddigonedd y reolaeth dywysogol ac i heddwch ni fydd diwedd.”​—⁠Eseia 9:6, 7.

44. (a) Pa le fydd y llywodraeth hyn? (b) Sut caiff ei gwneud fyny?

44 Dengys y Beibl bydd y llywodraeth berffaith yn y nef. O’r mantais fan hwn, bydd y Brenin Iesu Grist yn llywodraethu’r holl ddaear yn effeithiol mewn cyfiawnder. Ymhellach, bydd ganddo gymdeithion reolwyr yn y llywodraeth nefol, anweledig yna. Dewisir hwy o blith dynion ffyddlon, canlynwyr Iesu a lynasant gydag ef drwy brofion ac wrthynt fe ddywed: “Gwnaf gyfamod gyda chi, yn union fel gwnaeth fy Nhad gyfamod gyda finnau, am deyrnas.” (Luc 22:28, 29) Dim ond ychydig a gymerir o blith dynolryw i’r nef i reoli gyda Iesu Grist. Mae’n debyg i’r cenhedloedd heddiw, lle dim ond ychydig a ddewisir i reoli yn y gynhadledd neu senedd. Dengys y Beibl mai dim ond 144,000 o gymdeithion reolwyr bydd gan Iesu Grist. Felly mae Teyrnas Dduw neu lywodraeth nefol, yn cynnwys Iesu Grist a 144,000 o bobl wedi eu cymeryd o’r ddaear i’r nef. (Datguddiad 14:1-4; 5:9, 10) A beth am y ddaear? Mae Salm 45:16 yn sôn bydd y Brenin yn apwyntio “tywysogion yn yr holl ddaear.” Fe gaiff “tywysogion” ddynol, neu oruchwylwyr llywodraethol, eu apwyntio o’r nef oherwydd eu ymgysegriad dwfn i egwyddorion cyfiawnder.​—⁠Cymhariwch Eseia 32:⁠1.

45, 46. (a) Pa beth oedd prif thema cenhadu Iesu ar y ddaear? (b) Paham na sefydlwyd llywodraeth perffaith yn union? (c) Sut oedd 1914 O.C. yn flwyddyn amlwg mewn proffwydoliaeth a digwyddiadau’r byd?

45 Pa bryd a pha sut sefydlir y llywodraeth perffaith? Pan roedd Iesu ar y ddaear, y Deyrnas hon oedd prif thema ei genhadu. (Mathew 4:17; Luc 8:⁠1) Sut bynnag, ni sefydlodd ef y Deyrnas y pryd hwnnw, nac ar ei atgyfodiad. (Actau 1:6-8) Hyd yn oed pan esgynodd i’r nefoedd, oedd rhaid iddo ddal i aros am amser apwyntiedig Iehofah. (Salm 110:1, 2; Hebreaid 1:13) Fe ddengys proffwydoliaeth Feiblaidd i’r amser apwyntiedig ddod ym 1914 O.C. Bydd rhywun, sut bynnag, yn gofyn, ‘Yn hytrach na llywodraeth perffaith, oni farciodd 1914 ddechrau cynnydd gwaeau’r byd?’ Dyna’r pwynt yn union! Mae ’na gysylltiad agos rhwng dyfodiad Teyrnas Dduw ac achlysuron trychinebol y blynyddoedd diweddar, fel y gwelwn nawr.

46 Am ryw 35 mlynedd cyn 1914, roedd Y Watchtower (erbyn hyn y gyfrol crefyddol â’r dosbarthiad ehangaf ar y ddaear) wedi bod yn galw sylw at 1914 fel blwyddyn wedi ei marcio mewn proffwydoliaeth Feiblaidd. Dechreuodd y proffwydoliaethau hyn gael cyflawniad rhyfeddol ym 1914. Un o rhain oedd proffwydoliaeth Iesu ei hun, a lefarwyd 1,900 mlynedd yn ôl, ynglŷn “â’r arwydd” buasai’n ymddangos ar ddiwedd y system o bethau a buasai’n profi yr oedd yn bresennol anweledig efo pŵer brenhinol. Mewn ateb i gwestiwn ei ddisgyblion am yr “arwydd” hwn, fe ddywedodd: “Bydd cenedl yn codi yn erbyn cenedl a theyrnas yn erbyn teyrnas, ac fe fydd prinderau bwyd a daeargrynfâu yn un lle ar ôl y llall. Dechrau yw’r pethau hyn o wewyr trallod.” (Mathew 24:3, 7, 8) Mewn cyflawniad aruthrol dechreuwyd y cyntaf o’r rhyfeloedd byd ym 1914, gan ddod a dinistr saith gwaith yn fwy na’r holl 900 rhyfel yn y 2,500 mlynedd blaenorol! Mae gwewyr trallod wedi parhau fyth ar ôl hynny. Ydych chi wedi profi dinistr rhyfel, y prinderau bwyd, neu un o’r daeargrynfâu mawrion sydd wedi bod yn blâ ar y ddaear ers 1914? Os felly, rydych wedi bod yn lygad-dyst o “arwydd” “amser diwedd” y system hon o bethau.​—⁠Daniel 12:⁠4.

47. Sut mae achlysuron sy’n cyflawni’r “arwydd” wedi dwysáu yn y blynyddoedd diweddar?

47 Cynhyddodd y “gwewyr trallod” yn ystod Rhyfel Byd II, a oedd bedairgwaith yn fwy dinistriol na Rhyfel Byd I, ac ymlaen i’r oes niwcliar, gan gyflawni proffwydoliaeth pellach Iesu: “Ar y ddaear gloes y cenhedloedd heb yn wybod y ffordd allan . . . , tra fydd dynion yn llewygu rhag ofn a disgwyl y pethau sy’n dod ar y ddaear breswyliedig.” (Luc 21:25, 26) Y cynnydd mewn trosedd a drygioni, mewn anufudd-dod a thramgwydd ymhlith y plant, yn ogystal a thŵf anghrediniaeth ac anfoesoldeb​—⁠rhagfynegwyd byddai’r datblygiadau arswydus hyn hefyd yn marcio “dyddiau olaf” y system anfad hon.​—⁠2 Timotheus 3:1-5; Mathew 24:⁠12.

48. Pwy sy’n gyfrifol am y gwaeau ar y ddaear, a phaham maen nhw wedi cynyddu ers 1914?

48 Sut bynnag, os sefydlwyd y llywodraeth nefol ym 1914, paham bod yr holl drallod hwn ar y ddaear? Satan y Diafol yw sy’n gyfrifol. Pan dderbyniodd Crist bŵer Teyrnasol, rhyfela ar Satan yn y nefoedd anweledig oedd ei weithred gyntaf. Fel canlyniad, taflwyd Satan, “yr hwn sy’n camarwain yr holl ddaear preswyliedig,” i lawr i’r ardal o amgylch y ddaear gyda’i angylion. Gan wybod bod ei ddinistr yn agosáu, mae’n cynhyrfu helbul mawr ar y ddaear. Y mae “gwae i’r ddaear a’r môr, oherwydd mae’r Diafol wedi dod lawr atoch chi, efo dicter mawr, gan wybod mae cyfnod byr o amser sydd ganddo.”​—⁠Datguddiad 12:7-9, 12.

49. (a) Pa beth bydd yn digwydd i rheini sy’n “dinistrio’r ddaear”? (b) Sut fydd Iehofah yn gweithredu ei “benderfyniad cyfreithlon” ar y cenhedloedd?

49 A fydd ’na ddiwedd i’r gwaeau hyn? Bydd!​—⁠pan aiff llywodraeth y nef ei hun, Teyrnas Hollalluog Dduw, i weithredu i “ddinistrio rheini sy’n dinistrio’r ddaear.” (Datguddiad 11:18; Daniel 2:44) Ni fydd Duw byth yn caniatáu pŵerau gwleidyddol, Crist­nogion gau, neu unrhyw un arall i ddinistrio ei waith llaw, y ddaear, efo eu dyfeision niwcliar. Yn hytrach, mae’n datgan: “Fy mhenderfyniad cyfreithlon yw i gasglu cenhedloedd, i mi ymgasglu gyda’i gilydd deyrnasoedd, er mwyn i mi dywallt arnynt fy nghondemniad, fy holl ddicter llosg.” (Sephaniah 3:⁠8) Bydd Iehofah, drwy ei Grist, yn defnyddio grymoedd mawrion y mae’n reoli yn y cyf­anfyd wrth ddod a dinistr llethol i bawb sy’n dilyn Satan ar y ddaear. Bydd hyn ar raddfa byd-eang, yn debyg mewn maint i Ddilyw dydd Noa.​—⁠Jeremiah 25:31-34; 2 Pedr 3:5-7, 10.

50. (a) Beth yw “Armagedon”? (b) Pwy yn unig a oroesant Armagedon?

50 Gelwir y dinistr hwn o genhedloedd drwg yn frwydr Duw o Armagedon yn y Beibl. (Datguddiad 16:14-16) Dim ond pobl addfwyn, rheini sy’n chwilio am Iehofah a chyfiawnder, gall oroesi Armagedon i system newydd heddychlon Duw. (Sephaniah 2:3; Eseia 26:20, 21) Fe ddywed y Beibl ynglŷn â rhain: “Ond fe fydd y rhai addfwyn eu hunain yn meddiannu’r ddaear ac mi fyddant yn wir ganfod eu llawenydd rhagorol mewn digonedd heddwch.” (Salm 37:11) Yna dechreuir y gwaith godidog o adfer Paradwys i’r ddaear!

Addysg ar gyfer Mynedi Paradwys

51. Paham y mae’n angenrheidiol i chi weithredu nawr?

51 Buasai chi’n hoffi byw ym Mharad­wys? Os ‘Ie’ yw eich ateb, gwefreiddir chi i wybod pan soniodd Iesu am system helbulus heddiw ac “arwydd” ei dinistr dynesiedig, fe ychwanegodd “Ni aiff y genhedlaeth hon heibio ar unrhyw amod hyd cyflawnir yr holl bethau hyn.” Bydd rhai, o leiaf, o’r genhedlaeth a welodd “ddechrau gwewyr trallod” ym 1914 byw i weld Paradwys wedi’i hadfer ar y ddaear. (Mathew 24:3-8, 34) Mae’n ffaith drist, sut bynnag bod y mwyafrif o bobl heddiw ar y ffordd lydan â arwain i ddinistr. (Mathew 7:13, 14) Amser prin sydd yna iddynt newid. Pa mor ddiolchgar gellwch chi fod gan i Iehofah ddarparu rhybudd mewn pryd! Oherwydd i Iehofah eisiau i chi gael bywyd, mi fydd ef yn eich helpu i gymeryd y camau go iawn.​—⁠2 Pedr 3:9; Eseciel 18:⁠23.

52. Beth sydd yn angen arnoch er mwyn gwneud cais doeth ynglŷn a chrefydd?

52 Gwybodaeth cywir yw eich angen dwys nawr. (1 Timotheus 2:4; Ioan 17:⁠3) Pa le gellwch gael hyn? A gellir ei ganfod mewn unrhyw un grefydd? Dywed rhai pobl i’r un gôl mae’r holl grefyddau’n arwain, yn union fel mae’r llwybrau ar mynydd i gyd yn arwain i’r copa. Pa mor gamsyniol maen nhw! Er mwyn canfod y llwybr go iawn, mae mynyddwyr yn defnyddio mapiau, ac maen nhw’n hirio tywyswyr. Felly, dim ond yr un gwir grefydd sydd a arwain i fywyd tragwyddol, ac mae angen arweiniad i’w chanfod.​—⁠Actau 8:26-31.

53. (a) Beth sy’n raid i chi barhau ei wneud, i enill bywyd tragwyddol? (b) Pa demtasiynau wrth Satan gall fod angen arnoch chi i’w gorchfygu?

53 Darparwyd y llyfryn hwn gan Dystion Iehofah i’ch helpu chi. Y mae wedi eich helpu i ddeall rhai gwirioneddau sylfaenol Feiblaidd yn barod, onid ynte? Heb amau rydych wedi cadarnhau dros eich hun bod pob pwynt yn seiliedig ar Air ysbrydoledig Duw. Rhaid i chi yn awr i barhau dysgu, i symud ymlaen at eich gôl. Yn union fel mae addysg secwlar yn angenrheidiol i addasu person ar gyfer lle yng nghymdeithas beunyddiol, felly y mae addysg Feiblaidd go iawn yn angenrheidiol i gyfarparu un ar gyfer mynedi’r gymdeithas bydd yn goroesi i fyw yn y Paradwys ddaear. (2 Timotheus 3:16, 17) Efallai i Satan ymgeisio dynnu eich sylw drwy achosi cymdeithion agos i’ch gwrthwynebu neu drwy eich temptio i ffyrdd faterol neu anfoesol. Peidiwch a rhoi fewn i Satan. Mae eich diogelwch ac holl ddyfodol chwithau a’ch teulu’n dibynnu ar i chi astudio’r Beibl ymhellach.​—⁠Mathew 10:36; 1 Ioan 2:15-17.

54. Pa ddarpariaeth pellach am addysg mae Iehofah wedi gwneud yn eich cymdogaeth?

54 Mae ’na fodd arall o ddysgu, heblaw parhau gyda’ch astudiaeth Feiblaidd presennol. Mae pobl yn eich cymdogaeth sydd a diddordeb mewn addysg Feiblaidd yn mynychu’r cyfarfodydd yn Neuadd y Deyrnas yn gyson. Mae pawb sy’n mynychu yno i gymeryd addysg o’r Beibl ac maen nhw’n ceisio’n ddiffuant i ddod yn well pobl. Croesawant newydd ddyfodwyr yn barod, gan ddweud, “Deuwch, chi bobl a bydded inni esgyn i fynydd Iehofah [ei le addoli] . . . ac mi fydd yn ein dysgu am ei ffyrdd, ac fe rodiwn yn ei lwybrau ef.” (Eseia 2:⁠3) Ceir rhesymau da am fynychu cyfarfodydd Beiblaidd eu egluro yn Hebreaid 10:24, 25, a ddarllenir: “Bydded inni ystyried annog ein gilydd at gariad a gweithredoedd braf, heb anghofio ymgasglu gyda’n gilydd, fel yr arferiad gan rai, ond calonogi ein gilydd ac yn fwy byth fel i chi weld y dydd yn agosáu.”

55. (a) Ym mha ffyrdd mae cyfundrefn Iehofah yn gwahaniaethu wrth eraill? (b) Sut mae Tystion Iehofah yn unol fel nid yr un pobl arall?

55 Fel i chi gymdeithasu a chyfundrefn Iehofah, byddwch yn canfod awyrgylch tra wahanol i’r hyn mewn temlau ac eglwysi. Nid oes yna erfyn arian, athrodi neu chweryla, na’r un gwahaniaethu oherwydd cefndir teuluol neu safle ariannol. Y rhinwedd amlycaf ymhlith Tystion Iehofah yw cariad. Yn gyntaf, maen nhw’n caru Iehofah, ac yn ail maen nhw’n caru pobl eraill. Rhain yw nodau gwir Gristnogion. (Mathew 22:37-39; Ioan 13:35) Dylech chi fynychu eu cyfarfodydd a chadarnhau hyn dros eich hun. Heb amheuaeth cewch eich argraffu gan eu undod. Mae ’na fwy na thair miliwn o Dystion yn fyd-eang mewn dros 200 o diroedd. Eto, mae Tystion drwy gydol y ddaear yn dilyn yr un rhaglenni yn eu cyfarfodydd. Ac oherwydd argraffu r’un pryd mewn llawer iaith, y mae Tystion Iehofah gan fwyaf yn astudio’r un pynciau Ysgrythurol yn eu cyfarfodydd wythnosol o fewn rhai oriau i’w gilydd. Gwyrth dydd-modern yw undod cyfundrefn Iehofah yn y byd rhannedig hwn.

56. (a) Pa fuddion gellwch dderbyn wrth gymdeithasu â chyfundrefn Iehofah? (b) Pan fydd problemau, sut dylech chi ymateb? (c) Paham y mae’n bwysig i ymroddi eich bywyd i Iehofah?

56 Fel i chi gymdeithasu’n gyson â phobl Iehofah, bydd angen arnoch ymwisgo eich hun a’r “personoliaeth newydd” a meithrin ffrwyth ysbryd Duw​—⁠“cariad, llawenydd, heddwch, hirymaros, caredigrwydd, daioni, ffydd, mwynder, hunan-reolaeth.” (Colosiaid 3:10, 12-14; Galatiaid 5:22, 23) Fe ddaw hyn a boddhad dwfn. Efallai bydd problemau gennych o dro i dro i orchfygu oherwydd ’rydych yn byw mewn byd llygredig ac hefyd oherwydd amherffeithion eich hun. Ond bydd Iehofah yn eich helpu chi. Mae Ei Air yn siwrhau rheini sydd yn ceisio’n ddiffuant i’w blesio: “Peidiwch a bod yn bryderus dros unrhywbeth, ond ym mhopeth drwy weddi ac ymbil cyhyd a diolchgarwch bydded i’ch deisebau fod yn wyddys i Dduw; ac fe fydd heddwch Duw sydd uwchlaw pob meddwl yn gwarchod eich calonnau a’ch pŵerau meddyliol drwy gyfrwng Iesu Grist.” (Philipiaid 4:6, 7) Cewch eich denu gan gariad Iehofah, fel y byddwch eisiau ei wasanaethau ef. Bydd Tystion Iehofah yn hapus i ddangos i chi sut gellwch ymroddi eich bywyd i’r Duw cariadlon hwn a dod yn un o’i dystion braintiedig. (Salm 104:33; Luc 9:23) Ydy, mae’n fraint. Meddyliwch ynte! Fel addolwr Iehofah gellwch ymestyn allan am y gôl o fywyd tragwyddol ym mharadwys yma ar y ddaear.​—⁠Sephaniah 2:3; Eseia 25:6, 8.

57. (a) Yn y system newydd, pa berthynas agos bydd ’na rhwng Duw a dynoliaeth? (b) Beth yw rhai o’r bendithion gellwch chi fwynhau y pryd hwnnw?

57 Parhewch, felly, i astudio a thyfu mewn cariad a gwerthfawrogiad am Iehofah Dduw, ei Fab, a llywodraeth nefol cyfiawnder. Wrth ddisgrifio llywodraeth Duw a’r bendithion fe fydd yn dywallt ar ddynolryw, fe ddywed y broffwydoliaeth Feiblaidd: Wele! Mae pabell Dduw gyda dynoliaeth, ac y bydd ef yn preswylio gyda hwy, a byddant ei bobloedd ef. A fydd Duw ei hun gyda hwy.” Bydd “Duw ei hun,” yr hwn sydd dyrchafedig ymhell uwchlaw dyn-reolaeth hunanol, dinistriol heddiw, yn agos iawn fel Tad caredig i rheini oll sy’n ei garu a’i addoli yn y system newydd honno. Yn wir, bydd ond yr un grefydd, gwir addoli Iehofah Dduw, ac fe fydd ei addolwyr yn mwynhau perthynas agos plant i’r Tad. Dyna Dad cariadlon dengys ef ei hun fel! “Ac mi fydd yn sychu pob deigryn o’u llygaid, a marwolaeth ni fydd mwyach, nac ychwaith galaru na dolefain na phoen mwyach. Mae’r pethau o’r blaen wedi myned heibio.”​—⁠Datguddiad 21:⁠3, 4.

58. Paham gellir eich siwrhau y bydd Iehofah yn ‘gwneud popeth yn newydd’?

58 Felly cyflawnir gwyrth fawr sefydlu paradwys ddaear o dan lywodraeth nefol berffaith. Mae mor sicr a chodi a machlud yr haul yfory. Oblegid y mae addewidion Iehofah Dduw, Creawdwr nef a daear, yn “ffyddlon a gwir” byth. Efe a ddatgan o’i orsedd yn y nef: “Wele! Gwnaf pob peth yn newydd.”​—⁠Datguddiad 21:⁠5.

Wrth adolygu’r llyfryn hwn, sut fuasai chi’n ateb y cwestiynau canlynol?

Ym mha ffyrdd mae’r Beibl yn amlwg?

Beth bu i chi ddysgu am Dduw?

Pwy yw Crist Iesu?

Pwy yw Satan y Diafol?

Paham bod Duw wedi caniatáu drygioni?

Paham bod dyn yn marw?

Pa beth yw cyflwr y meirw?

Pa beth yw’r bridwerth?

Pa le a sut mae’r atgyfodiad yn cymeryd lle?

Pa beth yw’r Deyrnas, a beth yw’r hyn fydd yn gyflawni?

Beth yw “arwydd” “diwedd y system o bethau”?

Sut gellwch chi baratoi ar gyfer bywyd tragwyddol ym Mharadwys?

[Troednodiadau]

^ Par. 4 Cyfeiriadau Feiblaidd i gymorth y paragraffau uwch: (1) Actau 17:26; Salm 46:9; Micah 4:3, 4; Eseia 65:21-23; (2) Eseia 65:25; 11:6-9; 55:12, 13; Salm 67:6, 7; (3) Job 33:25; Eseia 35:5, 6; 33:24; Salm 104:24; (4) Eseia 55:⁠11.

^ Par. 9 Onid y dynodir fel arall, mae’r dyfyniadau Ysgrythurol yn y cyhoeddiad hwn yn dod o’r iaith-fodern New World Translation of the Holy Scriptures, argraffiad 1984.

^ Par. 11 Monarchs and Tombs and Peoples​—⁠The Dawn of the Orient, tudalen 25.

^ Par. 35 Cyclopedia of Biblical, Theological, and Ecclesiastical Literature, gan J. McClintock a J. Strong, Cyfrol 8, tudalen 908.

[Cwestiynau’r astudiaeth]

[Lluniau ar dudalen 13]

Fel creadigaeth, mae dyn yn llawer uwchlaw i’r anifeiliaid

[Llun ar dudalennau 18]

’Roedd Iesu yn gyfartal i’r dyn perffaith Adda