Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

AR Y CLAWR | SUT I ELWA’N FWY O DDARLLEN Y BEIBL

Sut Gall y Beibl Roi Bywyd Gwell i Mi?

Sut Gall y Beibl Roi Bywyd Gwell i Mi?

Nid llyfr cyffredin mo’r Beibl. Mae’n cynnwys cyngor oddi wrth y Creawdwr ei hun. (2 Timotheus 3:16) Mae ei neges yn gallu gwneud gwahaniaeth mawr yn ein bywydau. Yn wir, mae’r Beibl yn dweud: “Y mae gair Duw yn fyw a grymus.” (Hebreaid 4:12 BCND) Mae’n gwella ein bywyd mewn dwy ffordd bwysig. Mae’n cynnig cyngor ar gyfer ein bywydau heddiw ac yn ein helpu i ddod i adnabod Duw a rhoi ffydd yn ei addewidion.—1 Timotheus 4:8; Iago 4:8.

Gwella ein bywydau heddiw. Mae’r Beibl yn cynnig help gyda materion personol. Mae’n cynnwys cyngor ymarferol ar bethau fel:

Roedd cwpl ifanc yn Asia yn ddiolchgar iawn am gyngor y Beibl. Fel llawer o bobl sydd newydd briodi, roedden nhw’n cael trafferth dod i ddeall ei gilydd a chyfathrebu’n rhwydd. Beth ddigwyddodd pan ddechreuon nhw rhoi cyngor y Beibl ar waith? Dywed Vicent, y gŵr: “Roedd y Beibl yn fy helpu i fod yn garedig pan gawson ni broblemau yn ein priodas. Mae dilyn cyngor y Beibl wedi rhoi bywyd hapus inni.” Mae ei wraig, Annalou, yn dweud: “Mae darllen am esiamplau yn y Beibl wedi bod yn help mawr. Heddiw, mae ein priodas yn un hapus ac rydyn ni’n cytuno’n well.”

Dod i adnabod Duw. Dywedodd Vicent hefyd: “Mae darllen y Beibl wedi gwneud i mi deimlo’n agosach at Jehofa nag erioed o’r blaen.” Mae hyn yn tynnu sylw at bwynt pwysig—bod y Beibl yn ein helpu ni i ddod i adnabod Duw. Drwy ddarllen y Beibl, byddwch chi nid yn unig yn manteisio ar gyngor Duw ond hefyd yn dod i’w adnabod fel ffrind. Ac fe welwch chi fod Duw yn addo dyfodol gwell pan fyddwch yn mwynhau “y bywyd sydd yn fywyd go iawn,” a hynny am byth! (1 Timotheus 6:19) Dyna rywbeth na all yr un llyfr arall ei gynnig.

Os ydych chi’n dechrau darllen y Beibl a dal ati, byddwch chi hefyd yn cael bywyd gwell a dod i adnabod Duw. Sut bynnag, mae’n debyg y bydd llawer o gwestiynau yn codi wrth ichi ddarllen y Beibl. Ond cofiwch esiampl swyddog o Ethiopia a oedd yn byw 2,000 o flynyddoedd yn ôl. Roedd gan hwnnw lawer o gwestiynau am y Beibl. Pan ofynnwyd iddo a oedd yn deall beth roedd yn ei ddarllen, atebodd: “Sut alla i ddeall heb i rywun ei esbonio i mi?” Roedd yn hapus i gael cymorth Philip a oedd eisoes yn un o ddisgyblion Iesu ac yn athro profiadol. (Actau 8:30, 31, 34) Os hoffech chi wybod mwy am y Beibl, croeso ichi gyflwyno cais ar lein ar www.pr418.com/cy neu ysgrifennu aton ni gan ddefnyddio un o’r cyfeiriadau a restrir ar y wefan. Gallwch hefyd gysylltu â Thystion Jehofa yn eich ardal neu ymweld ag unrhyw Neuadd y Deyrnas. Pam na wnewch chi godi copi o’r Beibl heddiw a gweld sut mae’n gallu rhoi bywyd gwell ichi?

^ Par. 8 I weld esiamplau eraill o gyngor ymarferol y Beibl, gweler y wefan jw.org. Edrychwch o dan DYSGEIDIAETHAU’R BEIBL > ATEBION I GWESTIYNAU AM Y BEIBL.