Beth Fu Canlyniad Gwrthryfel?
Rhan 7
Beth Fu Canlyniad Gwrthryfel?
1-3. Sut mae amser wedi profi fod Jehofah yn gywir?
YNGLŶN Â phwnc dadl hawl Duw i deyrnasu, beth fu canlyniad yr holl ganrifoedd hyn o reoli dynol yn annibynnol ar Dduw? A brofodd bodau dynol eu bod nhw’n well llywodraethwyr na Duw? O farnu yn ôl tystiolaeth creulondeb dyn at ddyn, naddo’n sicr.
2 Pan wrthododd ein rhieni cyntaf deyrnasu Duw, fe ddaeth trychineb. Fe ddaethon nhw â dioddefaint arnyn nhw eu hunain ac ar yr holl deulu dynol eu disgynyddion nhw. A doedd ganddyn nhw neb i roi’r bai arno ond nhw eu hunain. Mae Gair Duw yn dweud: “Y genhedlaeth wyrgam a throfaus, sy’n ymddwyn mor llygredig tuag ato, nid ei blant ef ydynt o gwbl!”—Deuteronomium 32:5.
3 Mae hanes wedi dangos cywirdeb rhybudd Duw i Adda ac Efa petaen nhw’n symud y tu allan i ffiniau darpariaethau Duw, y bydden nhw’n dirywio ac yn y pen draw yn marw. (Genesis 2:17; 3:19) Fe fu iddyn nhw symud allan o fod dan deyrnasu Duw, ac ymhen amser fe fu iddyn nhw ddirywio a marw.
4. Pam ein bod ni i gyd wedi’n geni’n amherffaith, gyda thuedd at waeledd a marwolaeth?
4 Mae’r hyn ddigwyddodd wedyn i’w holl epil nhw yn cael ei egluro yn Rhufeiniaid 5:12: “Daeth pechod i’r byd trwy un dyn, [Adda, penteulu’r ddynoliaeth] a thrwy bechod farwolaeth, ac yn y modd hwn ymledodd marwolaeth i’r ddynolryw i gyd.” Felly pan wrthryfelodd ein rhieni cyntaf yn erbyn goruchwyliaeth Duw, fe ddaethon nhw’n bechaduriaid diffygiol. Yn unol â deddfau geneteg, dim ond yr amherffeithrwydd ddaeth i ganlyn hynny y medren nhw ei drosglwyddo i’w hepil nhw. Dyna pam ein bod ni i gyd wedi’n geni’n ddiffygiol, gyda thuedd at waeledd a marwolaeth.
5, 6. Beth mae hanes wedi’i ddangos ynglŷn ag ymdrechion dyn i ddod â gwir heddwch a ffyniant?
5 Aeth llawer canrif heibio. Mae ymerodraethau wedi dod a mynd. Rhoddwyd cynnig ar bob math dichonadwy o lywodraeth. Eto, dro ar ôl tro, mae pethau dychrynllyd wedi digwydd i’r teulu dynol. Ar ôl chwe mil o flynyddoedd, fe fyddai rhywun yn meddwl y byddai bodau dynol wedi gwneud cynnydd digonol i fedru sefydlu heddwch, cyfiawnder, a ffyniant yn fyd eang ac y bydden nhw erbyn hyn wedi medru meistroli gwerthoedd cadarnhaol caredigrwydd, trugaredd, a chydweithredu.
6 Y gwir amdani, fodd bynnag, ydy fod pethau’n hollol i’r gwrthwyneb. Does dim un math o lywodraeth ddynol a ddyfeisiwyd erioed wedi dod â gwir heddwch a ffyniant i bawb. Yn yr 20fed ganrif yn unig, fe welon ni lofruddio systematig miliynau yn ystod yr Holocost a lladd dros 100 miliwn mewn rhyfeloedd. Yn ein hoes ni mae niferoedd di-rif o bobl wedi eu harteithio, eu llofruddio, a’u carcharu oherwydd anoddefgarwch a gwahaniaethau gwleidyddol.
Sefyllfa Heddiw
7. Sut gellir disgrifio cyflwr y teulu dynol heddiw?
7 Ar ben hyn, ystyriwch gyflwr cyffredinol y teulu dynol heddiw. Mae trosedd a thrais yn rhemp. Mae camddefnyddio cyffuriau’n epidemig. Mae afiechydon rhywiol yn haint byd eang. Mae’r afiechyd arswydus AIDS yn effeithio ar filiynau o bobl. Mae degau o filiynau o bobl yn marw o newyn neu afiechyd bob blwyddyn, tra mae gan nifer fechan gyfoeth mawr. Mae bodau dynol yn llygru ac yn anrheithio’r ddaear. Mae bywyd teuluol a gwerthoedd moesol wedi dadfeilio ym mhobman. Yn wir, mae bywyd heddiw’n adlewyrchu arglwyddiaeth creulon ‘duw’r byd hwn,’ Satan. Mae’r byd y mae ef yn feistr arno yn oeraidd, yn ddidostur, ac yn llwyr lwgr.—2 Corinthiaid 4:4.
8. Pam na fedrwn ni ddim galw cyraeddiadau’r ddynoliaeth yn wir gynnydd?
8 Mae Duw wedi caniatáu digon o amser i fodau dynol gyrraedd pinacl eu cynnydd gwyddonol a materol nhw. Ond ai cynnydd gwirioneddol ydy disodli’r bwa a saeth gan y gwn peiriant, tanciau, awyrennau jet bomio, a thaflegrau niwclear? Ai cynnydd ydy bod pobl yn medru teithio i’r gofod ond yn methu â byw gyda’i gilydd mewn heddwch ar y ddaear? Ai cynnydd ydy bod pobl yn ofni cerdded ar y strydoedd wedi iddi dywyllu, neu hyd yn oed yn ystod y dydd mewn rhai lleoedd?
Yr Hyn Mae Amser Wedi Ei Ddangos
9, 10. (a) Beth mae canrifoedd yr amser a fu wedi ei ddangos yn eglur? (b) Pam na wnaiff Duw amddifadu dyn o’i ewyllys rydd?
9 Fe ddangosodd prawf canrifoedd o amser ei bod hi’n amhosibl i fodau dynol gyfarwyddo eu camre eu hunain yn llwyddiannus yn annibynnol ar deyrnasu Duw. Dydy hi ddim yn fwy posibl iddyn nhw wneud hynny nag ydy hi iddyn nhw fyw heb fwyta, yfed, ac anadlu. Mae’r dystiolaeth yn eglur: Fe’n cynlluniwyd ni i fod yn ddibynnol ar arweiniad ein Creawdwr yr un mor sicr ag y’n cynlluniwyd ni i fod yn ddibynnol ar fwyd, dŵr, ac awyr.
10 Drwy ganiatáu drygioni, mae Duw wedi arddangos unwaith ac am byth ganlyniadau trist camddefnyddio ewyllys rydd. Ac mae ewyllys rydd yn rhodd mor werthfawr fel bod Duw yn hytrach nag amddifadu bodau dynol ohoni, wedi caniatáu iddyn nhw weld ystyr ei chamddefnyddio hi. Mae Gair Duw yn llefaru’r gwir pan yw’n dweud: “Ni pherthyn i’r teithiwr drefnu ei gamre.” Mae ef hefyd yn eirwir pan ddywed fod: “Dyn yn arglwyddiaethu ar ei gyd-ddyn i beri niwed iddo.”—Jeremeia 10:23; Pregethwr 8:9.
11. Oes unrhyw ffurf ar reoli dynol wedi dileu dioddefaint?
11 Mae’r ffaith i Dduw ganiatáu rheoli dynol am chwe mil o flynyddoedd yn dangos yn eglur na fedr dyn ddim atal dioddefaint. Wnaeth ef erioed mo hynny. Er enghraifft, yn ei ddydd fedrai Solomon Brenin Israel, gyda’i holl ddoethineb, cyfoeth, a grym, ddim unioni’r adfyd sy’n ganlyniad rheoli dynol. (Pregethwr 4:1-3) Yn yr un modd, yn ein dydd ni, fedr arweinwyr y byd, hyd yn oed gyda’r datblygiadau technegol diweddaraf, ddim dileu dioddefaint. Yn waeth byth, mae hanes wedi dangos fod bodau dynol sy’n annibynnol ar deyrnasu Duw wedi achosi rhagor o ddioddefaint yn hytrach na’i ddileu.
Golwg Pell-Gyrhaeddol Duw
12-14. Pa les pell-gyrhaeddol sy’n dod oherwydd bod Duw yn caniatáu dioddefaint?
12 Mae’r ffaith i Dduw ganiatáu dioddefaint wedi bod yn boenus inni. Ond mae ef wedi bwrw golwg pell-gyrhaeddol, gan wybod y canlyniadau daionus ddaw yn y pen draw. Fe fydd rhag-olwg Duw yn lles i greaduriaid, nid dim ond am ychydig flynyddoedd neu ychydig filoedd, ond am filiynau o flynyddoedd, yn wir, am dragwyddoldeb cyfan.
13 Petai’r sefyllfa’n codi rywdro yn y dyfodol i rywun gamddefnyddio ewyllys rydd i amau dull Duw o weinyddu, fyddai ddim rhaid caniatáu amser iddo fe i geisio profi ei syniadau. Gan iddo eisoes ganiatáu miloedd o flynyddoedd i wrthryfelwyr, mae Duw wedi sefydlu cynsail gyfreithiol y gellir ei chymhwyso hi drwy gydol tragwyddoldeb yn unrhyw le yn y bydysawd.
Salm 145:20; Rhufeiniaid 3:4.
14 Oherwydd i Jehofah ganiatáu drygioni a dioddefaint yn ystod y cyfnod hwn, bydd eisoes wedi ei brofi’n ddigonol na fedr dim sydd heb fod mewn harmoni ag ef ffynnu. Bydd wedi cael ei ddangos y tu hwnt i amheuaeth na fedr unrhyw gynllun annibynnol gan ddynion neu ysbryd greaduriaid ddod â lles parhaol. O ganlyniad, fe fydd cyfiawnhad llawn dros i Dduw ddryllio’n chwim unrhyw wrthryfelwr yn llwyr. “Y mae’n distrywio’r holl rai drygionus.”—[Cwestiynau’r Astudiaeth]
[Llun ar dudalen 15]
Wedi i’n rhieni cyntaf ni ddewis bod yn annibynnol ar Dduw, fe fu iddyn nhw heneiddio a marw ymhen amser
[Lluniau ar dudalen 16]
Trychineb fu hanes rheoli dynol sy’n annibynnol ar Dduw
[Llinell diolch]
Ffotograff Gwylwyr y Glannau UDA