Daear yn Rhydd Rhag Dioddefaint
Rhan 2
Daear yn Rhydd Rhag Dioddefaint
1, 2. Pa farn wahanol sydd gan lawer?
FODD BYNNAG, mae gan filiynau o bobl yn fyd eang ddarlun hollol wahanol. Maen nhw’n rhagweld dyfodol gogoneddus ar gyfer y ddynoliaeth. Maen nhw’n dweud y bydd yma ar y ddaear cyn bo hir fyd yn gwbl rydd rhag drygioni a dioddefaint. Maen nhw’n hyderus y bydd yr hyn sy’n ddrwg yn cael ei ysgubo ymaith yn fuan ac y bydd yna fyd cyfan gwbl newydd yn cael ei sefydlu. Maen nhw hyd yn oed yn dweud fod sail y byd newydd yma yn cael ei osod nawr!
2 Mae’r bobl yma’n credu y bydd y byd newydd yn rhydd rhag rhyfel, creulondeb, torcyfraith, anghyfiawnder, a thlodi. Fe fydd yn fyd heb salwch, tristwch, dagrau, a hyd yn oed marwolaeth. Yr adeg honno fe fydd pobl yn
tyfu i berffeithrwydd ac yn byw am byth mewn hapusrwydd mewn paradwys ddaearol. Yn wir, fe fydd y rheiny sydd wedi marw hyd yn oed yn cael eu hatgyfodi ac yn cael y cyfle i fyw am byth!3, 4. Pam fod y fath bobl yn teimlo’n hyderus ynglŷn â’u barn?
3 Ai dim ond breuddwyd ydy’r darlun yma o’r dyfodol, dim ond dymuno ofer? Nage, nid felly o gwbl. Mae wedi’i seilio ar ffydd gadarn fod y Baradwys hon sydd i ddod yn anochel. (Hebreaid 11:1) Pam eu bod nhw mor sicr? Am fod Creawdwr hollalluog y bydysawd wedi addo hynny.
4 Ynglŷn ag addewidion Duw, mae’r Beibl yn dweud: “Na phallodd dim un o’r holl bethau daionus a addawodd yr ARGLWYDD eich Duw ar eich cyfer; cawsoch y cwbl, heb ball.” “Nid yw Duw fel dyn yn dweud celwydd . . . Oni wna yr hyn a addawodd, a chyflawni’r hyn a ddywedodd?” “Tyngodd ARGLWYDD y Lluoedd, ‘Fel y cynlluniais y bydd, ac fel y bwriedais y digwydd.’”—Josua 23:14; Numeri 23:19; Eseia 14:24.
5. Pa gwestiynau sydd angen eu hateb?
5 Fodd bynnag, os pwrpas Duw oedd sefydlu paradwys ddaearol yn rhydd rhag dioddefaint, pam ei fod wedi caniatáu i bethau drwg ddigwydd yn y lle cyntaf? Pam arhosodd ef chwe mil o flynyddoedd tan nawr i gywiro’r hyn sydd o’i le? Allai’r holl ganrifoedd hynny o ddioddefaint awgrymu nad ydy Duw ddim yn gwir ofalu amdanon ni, neu hyd yn oed nad ydy ef yn bod?
[Cwestiynau’r Astudiaeth]