Duw yn Ein Hysbysu Ni am ei Fwriadau
Rhan 4
Duw yn Ein Hysbysu Ni am ei Fwriadau
1, 2. Sut gwyddon ni fod Duw yn darparu atebion i’r rheiny sy’n holi’n ddiffuant?
MAE DUW cariadus yn wir yn datguddio ei fwriadau i rai diffuant sy’n chwilio amdano. Mae ef yn darparu atebion ar gyfer bodau dynol ymholgar i gwestiynau fel pam mae ef wedi caniatáu dioddefaint.
2 Mae’r Beibl yn dweud: “Os ceisi ef, [Duw] fe’i cei.” “Y mae Duw yn y nefoedd sy’n datguddio dirgelion.” “Ni wna’r Arglwydd DDUW ddim heb ddangos ei fwriad i’w weision, y proffwydi.”—1 Chronicl 28:9; Daniel 2:28; Amos 3:7.
Ble Mae’r Atebion?
3. Ble medrwn ni ddarganfod pam mae Duw yn caniatáu dioddefaint?
3 Mae’r atebion i gwestiynau megis pam fod Duw’n caniatáu dioddefaint a beth y bydd ef yn ei wneud ynghylch hynny i’w canfod yn y cofnod a ysbrydolodd ef er ein lles ni. Y cofnod hwnnw ydy ei Air, y Beibl Sanctaidd. “Y mae pob Ysgrythur wedi ei hysbrydoli gan Dduw ac yn fuddiol i hyfforddi, a cheryddu, a chywiro, a disgyblu mewn cyfiawnder. Felly y darperir dyn Duw â chyflawn ddarpariaeth ar gyfer pob math o weithredoedd da.”—2 Timotheus 3:16, 17.
4, 5. Beth sy’n gwneud y Beibl yn llyfr unigryw?
4 Mae’r Beibl yn llyfr gwirioneddol unigryw. Mae’n cynnwys y cofnod mwyaf cywir o hanes dynol ac mae ef hyd yn oed yn mynd yn ôl ymhellach na chreu bodau dynol. Mae hefyd yn gyfamserol, oherwydd mae ei broffwydoliaethau yn ymwneud â digwyddiadau ein hadeg ni a’r dyfodol agos hefyd.
5 Does yr un llyfr arall â chystal enw da am gywirdeb hanesyddol. Er enghraifft, dim ond ychydig o lawysgrifau yr hen ysgrifenwyr clasurol sy’n bodoli. Ond mae llawer o lawysgrifau, rhai’n anghyflawn a rhai’n gyflawn, yn bodoli o’r Beibl: tua 6,000 o’r Ysgrythurau Hebraeg (39 llyfr yr “Hen Destament”) a thua 13,000 o’r Ysgrythurau Cristnogol Groeg (27 llyfr y “Testament Newydd”).[15]
6. Sut medrwn ni fod yn sicr fod y Beibl heddiw yn sylfaenol yr un fath â phan ysbrydolodd Duw ef?
6 Mae Duw Hollalluog, ysbrydolodd y Beibl, wedi sicrhau fod ei gywirdeb testunol wedi’i gadw yn y copïau llawysgrif hynny. Felly mae ein Beiblau ni heddiw yn eu hanfod yr un fath â’r ysgrifeniadau ysbrydoledig gwreiddiol. Ffactor arall sy’n ein helpu ni i werthfawrogi hyn ydy bod rhai copïau o lawysgrifau’r Ysgrythurau Cristnogol Groeg yn mynd yn ôl o fewn canrif i amser yr ysgrifennu gwreiddiol. O’r ychydig gopïau o lawysgrifau sy’n bodoli heddiw o waith hen ysgrifennwyr seciwlar, prin iawn ydy’r rhai y gellir rhoi dyddiad arnyn nhw sydd o fewn hyd yn oed rhai canrifoedd i gyfnod yr awduron gwreiddiol.[16]
Rhodd Duw
7. Pa mor eang ydy cylchrediad y Beibl?
7 Y Beibl ydy’r llyfr sydd â’r dosbarthiad ehangaf iddo mewn hanes. Mae tua phedair biliwn copi wedi’u hargraffu. Does dim un llyfr arall yn dod yn agos at y rhif hwnnw. Ac mae’r Beibl neu rannau ohono wedi’u cyfieithu i tua 2,350 o ieithoedd. Felly, fe amcangyfrifir y gallai fod y Beibl o fewn cyrraedd 90 y cant o boblogaeth ein planed.[19]
8-10. Beth ydy rhai rhesymau pam mae’r Beibl yn teilyngu cael ei archwilio gennyn ni?
8 Yn sicr mae llyfr sy’n honni ei fod oddi wrth Dduw ac sydd iddo bob tystiolaeth allanol * Mae’n egluro pwrpas bywyd, ystyr amgylchiadau’r byd, a’r hyn sydd i ddod yn y dyfodol. Fedr dim un llyfr arall wneud hynny.
a mewnol o’i ddilysrwydd yn teilyngu cael ei archwilio gennyn ni.9 Yn wir, y Beibl ydy ffordd Duw o gyfathrebu â’r teulu dynol. Fe gyfarwyddodd ei ysgrifennu drwy ei rym gweithredol, neu ei ysbryd, gyda tua 40 o fodau dynol yn gwneud y cofnodi. Felly mae Duw yn siarad â ni drwy ei Air, y Beibl Sanctaidd. Ysgrifennodd yr apostol Paul: “Wrth dderbyn gair Duw fel y clywsoch ef gennym ni, wedi ei groesawu, nid fel gair dynion, ond fel yr hyn ydyw mewn gwirionedd, sef gair Duw.”—1 Thesaloniaid 2:13.
10 Galwodd Abraham Lincoln, unfed arlywydd ar bymtheg yr Unol Daleithiau, y Beibl “yr anrheg gorau roddodd Duw erioed i ddyn . . . Onibai amdano fedren ni ddim gwahaniaethu rhwng da a drwg.” Nawr ’te, beth mae’r rhodd odidog yma yn ei ddweud wrthon ni am sut cychwynnodd dioddefaint, pam y mae Duw wedi ei ganiatáu, a beth wnaiff ef ynghylch hynny?
[Troednodyn]
^ Par. 8 Am wybodaeth manylach ynglŷn â dilysrwydd y Beibl, gweler y llyfr, The Bible—God’s Word or Man’s?, a gyhoeddir gan Dystion Jehofah.
[Cwestiynau’r Astudiaeth]
[Llun ar dudalen 10]
Y Beibl, wedi ei ysbrydoli gan Dduw, ydy ei ffordd ef o gyfathrebu â’r teulu dynol