Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Pwrpas Duw yn Symud Tuag at ei Gyflawni

Pwrpas Duw yn Symud Tuag at ei Gyflawni

Rhan 8

Pwrpas Duw yn Symud Tuag at ei Gyflawni

1, 2. Sut mae Duw wedi bod yn darparu i ddileu dioddefaint?

MAE rheolaeth lywodraethol dynion gwrthryfelgar a chythreuliaid wedi bod yn llusgo’r teulu dynol tuag at i lawr ers canrifoedd lawer. Eto, nid ydy Duw wedi anwybyddu ein dioddefiadau. Yn hytrach, yn ystod y canrifoedd i gyd, mae ef wedi bod yn gwneud darpariaeth i ryddhau bodau dynol rhag gafael drygioni a dioddefaint.

2 Adeg y gwrthryfel yn Eden, fe ddechreuodd Duw ddatguddio’i bwrpas o ffurfio llywodraeth fyddai’n gwneud y ddaear hon yn gartref baradwys i bobl. (Genesis 3:15) Yn ddiweddarach, fel prif lefarydd Duw, fe wnaeth Iesu’r llywodraeth hon sydd yn dod gan Dduw yn thema ei ddysgeidiaeth. Dywedodd mai hi fyddai unig obaith y ddynoliaeth.—Daniel 2:44; Mathew 6:9, 10; 12:21.

3. Beth alwodd Iesu’r llywodraeth sy’n dod ar gyfer y ddaear, a pham?

3 Fe alwodd Iesu’r llywodraeth honno sydd yn dod gan Dduw yn “deyrnas nefoedd,” gan ei bod i deyrnasu o’r nef. (Mathew 4:17) Fe alwodd hi hefyd yn “deyrnas Dduw,” gan mai Duw fyddai ei Hawdur hi. (Luc 17:20) Dros y canrifoedd fe ysbrydolodd Duw ei ysgrifennwyr i gofnodi proffwydoliaethau ynglŷn â’r rheiny fyddai’n ffurfio’r llywodraeth honno a beth y byddai hi’n ei gyflawni.

Brenin Newydd y Ddaear

4, 5. Sut dangosodd Duw mai Iesu oedd ei Frenin cymeradwy?

4 Iesu, bron i ddwy fil o flynyddoedd yn ôl, oedd yr un gyflawnodd y llu proffwydoliaethau am yr un fyddai’n Frenin Teyrnas Dduw. Fe ydoedd dewis Duw yn Frenin y llywodraeth nefol honno dros y ddynoliaeth. Ac wedi ei farw, fe atgyfododd Duw Iesu i fywyd yn y nef fel ysbryd greadur nerthol, anfarwol. Roedd llawer o dystion i’w atgyfodiad.—Actau 4:10; 9:1-9; Rhufeiniaid 1:1-4; 1 Corinthiaid 15:3-8.

5 Yna “eisteddodd [Iesu] ar ddeheulaw Duw.” (Hebreaid 10:12) Yno fe ddisgwyliodd am yr amser pan fyddai Duw yn rhoi’r grym nerthol iddo fe i weithredu yn Frenin Teyrnas nefol Duw. Fe gyflawnodd hyn y broffwydoliaeth yn Salm 110:1, lle mae Duw yn dweud wrtho: “Eistedd ar fy neheulaw, nes imi wneud dy elynion yn droedfainc i ti.”

6. Sut dangosodd Iesu ei fod yn deilwng i fod yn Frenin Teyrnas Dduw?

6 Tra roedd ar y ddaear, fe ddangosodd Iesu fod ganddo fe’r cymwysterau ar gyfer cyfrifoldeb o’r fath. Er gwaethaf erledigaeth, fe ddewisodd ef gadw ei uniondeb tuag at Dduw. Wrth wneud hyn, fe ddangosodd ef fod Satan wedi dweud celwydd pan honnodd na fyddai neb dynol yn ffyddlon i Dduw dan brawf. Fe ddangosodd Iesu, dyn perffaith ag ydoedd, yr ‘ail Adda,’ nad camsyniad oedd i Dduw greu bodau dynol perffaith.—1 Corinthiaid 15:22, 45; Mathew 4:1-11.

7, 8. Pa bethau daionus wnaeth Iesu tra’r oedd ar y ddaear, a beth ddangosodd ef?

7 Pa frenin erioed gyflawnodd gymaint o ddaioni ag a wnaeth Iesu yn ystod ychydig flynyddoedd ei weinidogaeth? Trwy rym nerthol ysbryd sanctaidd Duw, fe iachaodd Iesu’r cleifion, y cloffion, y deillion, y byddariaid, y mudion. Fe atgyfododd ef y meirw hyd yn oed! Fe ddangosodd ef ar raddfa fechan yr hyn y byddai’n ei wneud dros y ddynoliaeth ar raddfa byd eang wedi iddo ddod i rym y Deyrnas.—Mathew 15:30, 31; Luc 7:11-16.

8 Gwnaeth Iesu gymaint o ddaioni tra’r oedd ef ar y ddaear fel y dywedodd ei ddisgybl Ioan: “Y mae hefyd lawer o bethau eraill a wnaeth Iesu. Petai pob un o’r rhain yn cael ei gofnodi, ni byddai’r byd, i’m tyb i, yn ddigon mawr i ddal y llyfrau fyddai’n cael eu hysgrifennu.”—Ioan 21:25. *

9. Pam roedd pobl calon onest yn tyrru at Iesu?

9 Roedd Iesu yn garedig ac yn llawn tosturi, a chanddo gariad mawr iawn at bobl. Fe gynorthwyodd ef y tlawd a’r gorthrymedig, ond wnaeth e ddim dangos rhagfarn yn erbyn y cyfoethog na’r rhai â safle ganddyn nhw. Roedd pobl o galon onest yn ymateb i wahoddiad cariadus Iesu pan ddywedodd ef: “Dewch ataf fi, bawb sy’n flinedig ac yn llwythog, ac fe roddaf fi orffwystra i chwi. Cymerwch fy iau arnoch a dysgwch gennyf, oherwydd addfwyn ydwyf a gostyngedig o galon, ac fe gewch orffwystra i’ch eneidiau. Y mae fy iau i yn hawdd ei dwyn, a’m baich i yn ysgafn.” (Mathew 11:28-30) Roedd pobl a ofnai Dduw yn tyrru ato ac yn edrych ymlaen at ei lywodraeth frenhinol.—Ioan 12:19.

Cyd-Deyrnaswyr

10, 11. Pwy fydd â rhan efo Iesu yn teyrnasu dros y ddaear?

10 Fel mae gan lywodraethau dynol gyd-weinyddwyr, felly hefyd Teyrnas nefol Duw. Mae eraill heblaw Iesu i gael rhan yn y teyrnasu dros y ddaear, oherwydd fe addawodd Iesu i’w gymdeithion agos y bydden nhw’n teyrnasu gydag ef fel brenhinoedd dros y ddynoliaeth.—Ioan 14:2, 3; Datguddiad 5:10; 20:6.

11 Gan hynny, ynghyd â Iesu, mae nifer gyfyngedig o fodau dynol hefyd yn cael eu hatgyfodi i fywyd nefol. Nhw sy’n ffurfio Teyrnas Dduw fydd yn dod â bendithion bythol i’r ddynoliaeth. (2 Corinthiaid 4:14; Datguddiad 14:1-3) Felly i lawr drwy’r oesau, mae Jehofah wedi gosod y sylfaen ar gyfer llywodraeth frenhinol fydd yn dod â bendithion tragwyddol i’r teulu dynol.

Bydd Diwedd ar Reoli Annibynnol

12, 13. Beth mae Teyrnas Dduw nawr ar fin ei wneud?

12 Yn y ganrif ddiwethaf cymerodd Duw ran uniongyrchol ym materion y ddaear. Fel y bydd Rhan 9 y llyfryn hwn yn trafod, mae proffwydoliaeth Feiblaidd yn dangos i Deyrnas Dduw dan Grist gael ei sefydlu yn 1914 a’i bod hi nawr ar fin dryllio holl gyfundrefn Satan. Mae’r Deyrnas honno’n barod i lywodraethu “yng nghanol dy [Crist] elynion.”—Salm 110:2.

13 Yn hyn o beth mae’r broffwydoliaeth yn Daniel 2:44 yn dweud: “Yn nyddiau’r brenhinoedd hynny [sy’n bodoli nawr] bydd Duw’r nefoedd yn sefydlu teyrnas [yn y nef] nas difethir byth, ac na chaiff ei hawdurdod brenhinol ei adael i bobl eraill [peidio â chaniatáu rheoli dynol byth eto]. Bydd hon [Teyrnas Dduw] yn dryllio yr holl deyrnasoedd hyn ac yn rhoi terfyn arnynt, ond bydd hi yn sefyll am byth.”—Revised Standard Version.

14. Beth ydy rhai pethau llesol sydd i ddod o ganlyniad i ddiwedd rheoli dynol?

14 Wedi symud ymaith pob rheolaeth lywodraethol annibynnol ar Dduw, fe fydd brenhiniaeth Teyrnas Dduw dros y ddaear yn gyflawn. A chan mai o’r nef mae’r Deyrnas yn teyrnasu, fedr hi byth gael ei llygru gan fodau dynol. Fe fydd grym llywodraethu lle’r oedd ef ar y cychwyn, yn y nef, gyda Duw. A chan y bydd teyrnasu Duw yn rheoli’r holl ddaear, fydd neb mwyach yn cael ei gamarwain gan gau grefyddau nag athroniaethau dynol a damcaniaethau gwleidyddol anfoddhaol. Chaiff dim un o’r pethau hyn fodoli.—Mathew 7:15-23; Datguddiad, penodau 17 hyd at 19.

[Troednodyn]

^ Par. 8 I gael darlun llawn o fywyd Iesu, gweler y llyfr The Greatest Man Who Ever Lived, a gyhoeddir gan Dystion Jehofah.

[Cwestiynau’r Astudiaeth]

[Llun ar dudalen 18]

Tra’r oedd ef ar y ddaear fe iachaodd Iesu’r cleifion a chyfodi’r meirw i ddangos beth a wnâi yn y byd newydd

[Llun ar dudalen 19]

Fe fydd Teyrnas nefol Duw yn dryllio’n gyfangwbl bob ffurf ar reoli sy’n annibynnol arno ef