Rhodd Ryfeddol Ewyllys Rydd
Rhan 5
Rhodd Ryfeddol Ewyllys Rydd
1, 2. Pa rodd ryfeddol sy’n rhan o’n gwneuthuriad ni?
ER MWYN deall pam mae Duw wedi caniatáu dioddefaint a beth wnaiff ef ynghylch hynny, mae’n rhaid inni werthfawrogi sut y gwnaeth ef ni. Fe wnaeth fwy na’n creu ni efo dim ond corff ac ymennydd. Fe’n creodd ni hefyd â nodweddion meddyliol ac emosiynol arbennig.
2 Rhan allweddol o’n gwneuthuriad meddyliol ac emosiynol ni ydy ewyllys rydd. Do, fe blannodd Duw gynneddf dewis rhydd ynon ni. Roedd hynny yn wir yn rhodd ryfeddol ganddo.
Sut Rydyn Ni Wedi’n Gwneud
3-5. Pam ein bod ni’n gwerthfawrogi ewyllys rydd?
3 Dewch inni ystyried cysylltiad ewyllys rydd a Duw yn caniatáu dioddefaint. I ddechrau, meddyliwch am hyn: Ydych chi’n gwerthfawrogi cael y rhyddid i ddewis beth fyddwch chi am ei wneud a’i ddweud, beth fyddwch chi am ei fwyta a’i wisgo, pa fath o waith fyddwch chi am ei wneud, a ble a sut fyddwch chi am fyw? Neu fyddech chi am i rywun orchymyn bob gair a gweithred o’r eiddoch bob eiliad o’ch bywyd?
4 Does neb normal am golli rheolaeth ar ei fywyd mor llwyr. Pam? Oherwydd y ffordd y gwnaeth Duw ni. Mae’r Beibl yn dweud wrthon ni i Dduw greu dyn yn ôl ‘ei ddelw a’i lun,’ ac un o’r cyneddfau sydd gan Dduw ei hun ydy rhyddid dewis. (Genesis 1:26; Deuteronomium 7:6) Pan greodd ef fodau dynol, fe roddodd yr un gynneddf ryfeddol iddyn nhw—rhodd ewyllys rydd. Dyna un rheswm pam ein bod ni’n teimlo’n rhwystredig o gael ein caethiwo gan lywodraethwyr gormesol.
5 Felly nid damwain mo’r awydd am ryddid, oherwydd Duw rhyddid ydy Duw. Mae’r Beibl yn dweud: “A lle y mae Ysbryd yr Arglwydd, y mae rhyddid.” (2 Corinthiaid 3:17) Gan hynny, fe roddodd Duw ewyllys rydd inni yn rhan annatod o’n gwneuthuriad. Gan y gwyddai fel y byddai ein meddyliau a’n hemosiynau ni’n gweithio, roedd yn gwybod y bydden ni fwyaf hapus ag ewyllys rydd gennyn ni.
6. Sut creodd Duw ein hymennydd ni i weithio mewn harmoni ag ewyllys rydd?
6 Law yn llaw â rhodd ewyllys rydd, fe roddodd Duw inni y gallu i feddwl, i bwyso a mesur materion, i wneud penderfyniadau, ac i wahaniaethu rhwng da a drwg. (Hebreaid 5:14) Felly, roedd ewyllys rydd i gael ei seilio ar ddewis deallus. Chawson ni mo’n gwneud fel robotiaid difeddwl nad oes ganddyn nhw eu hewyllys eu hunain. Chrewyd mohonon ni chwaith i weithredu yn ôl greddf fel yr anifeiliaid. Yn hytrach, fe gafodd ein hymennydd rhyfeddol ei gynllunio i weithio mewn harmoni â’n rhyddid dewis.
Y Cychwyn Gorau
7, 8. Pa gychwyn gwych roddodd Duw i’n rhieni cyntaf ni?
7 Er mwyn dangos gymaint oedd gofal Duw, ynghyd â rhodd ewyllys rydd, fe roddwyd i’n rhieni cyntaf, Adda ac Efa, bopeth y gallai unrhyw un ei ddymuno o fewn rheswm. Fe’u rhoddwyd nhw mewn paradwys eang tebyg i barc. Yn faterol roedd ganddyn nhw fwy na digon. Roedd ganddyn nhw feddwl a chorff perffaith, fel na fyddai’n rhaid iddyn nhw heneiddio na chlafychu na marw—fe allen nhw fod wedi byw am byth. Fe fydden nhw wedi cael plant perffaith fyddai hefyd wedi gallu cael dyfodol hapus, tragwyddol. Ac fe fyddai’r boblogaeth oedd yn cynyddu wedi cael y gwaith boddhaus o droi’r ddaear gyfan yn baradwys yn y pen draw.—Genesis 1:26-30; 2:15.
8 Ynglŷn â’r hyn a ddarparwyd, mae’r Beibl yn adrodd: “Gwelodd Duw y cwbl a wnaeth, ac yr oedd yn dda iawn.” (Genesis 1:31) Mae’r Beibl hefyd yn dweud am Dduw: “Perffaith yw ei waith.” (Deuteronomium 32:4) Do, fe roddodd y Creawdwr gychwyn perffaith i’r teulu dynol. Allasai pethau ddim bod yn well. Dyna Dduw llawn gofal ydoedd!
Rhyddid O Fewn Terfynau
9, 10. Pam fod yn rhaid rheoleiddio ewyllys rydd mewn ffordd briodol?
9 Fodd bynnag, a fwriadodd Duw i ewyllys rydd fod heb derfynau? Dychmygwch ddinas brysur heb ddeddfau traffig, lle gallai pawb yrru i unrhyw gyfeiriad ac ar unrhyw gyflymder. Fyddech chi’n dymuno gyrru dan yr amodau hynny? Na fyddech, anarchiaeth trafnidiol fyddai hynny gyda llawer damwain yn ganlyniad sicr iddo.
10 Felly hefyd gyda rhodd Duw o ewyllys rydd. Fe fyddai rhyddid diderfyn yn golygu anarchiaeth o fewn cymdeithas. Mae’n rhaid cael deddfau i lywio gweithgareddau dynol. Fe ddywed Gair Duw: “Byddwch fel dynion rhydd yn eich ymddygiad, a pheidiwch byth â defnyddio’ch rhyddid fel esgus i wneud drygioni.” (1 Pedr 2:16, JB) Mae Duw am i ewyllys rydd gael ei rheoleiddio er lles pawb. Fe fwriadodd ef inni gael, nid rhyddid llwyr, ond rhyddid cymharol, yn atebol i reol y gyfraith.
Deddfau Pwy?
11. Deddfau pwy y’n cynlluniwyd ni i ufuddhau iddyn nhw?
11 Deddfau pwy y’n cynlluniwyd ni i ufuddhau iddyn nhw? Mae rhan arall y testun yn 1 Pedr 2:16 (JB) yn dweud: “Nid ydych yn gaethweision i neb ond Duw.” Dydy hyn ddim yn golygu caethwasiaeth gorthrymus, ond, yn hytrach, mae’n golygu inni gael ein cynllunio i fod fwyaf hapus pan rydyn ni’n ddarostyngedig i ddeddfau Duw. (Mathew 22:35-40) Ei ddeddfau ef, yn fwy nag unrhyw ddeddfau ddyfeisiwyd gan ddynion, sy’n rhoi’r arweiniad gorau. “Myfi yw’r ARGLWYDD dy Dduw, sy’n dy ddysgu er dy les, ac yn dy arwain yn y ffordd y dylit ei cherdded.”—Eseia 48:17.
12. Pa ryddid dewis sydd gennyn ni o fewn deddfau Duw?
12 Yr un pryd, mae deddfau Duw yn caniatáu rhyddid dewis eang o fewn eu terfynau. Canlyniad hyn ydy amrywiaeth sy’n gwneud y teulu dynol yn ddifyr tu hwnt. Meddyliwch am y gwahanol fathau o fwyd, dillad, cerddoriaeth, celfyddyd a chartrefi sydd yna drwy’r byd i gyd. Mae’n sicr fod yn well gennyn ni gael ein dewis ni yn hyn o beth yn hytrach na chael rhywun arall i benderfynu droson ni.
13. Pa ddeddfau ffisegol mae’n rhaid inni ufuddhau iddyn nhw er ein lles ein hunain?
13 Felly fe gawson ni ein creu i fod fwyaf hapus yn ddarostyngedig i ddeddfau Duw ynglŷn ag ymddygiad dynol. Mae hyn yn debyg i fod yn ddarostyngedig i ddeddfau ffisegol Duw. Er enghraifft, os rydyn ni’n anwybyddu deddf disgyrchiant ac yn neidio oddi ar le uchel, fe gawn ni ein niweidio neu ein lladd. Os anwybyddwn ni ddeddfau mewnol ein corff ni a pheidio â bwyta bwyd, yfed dŵr neu anadlu awyr, fe fyddwn ni’n marw.
14. Sut gwyddon ni na chafodd bodau dynol eu creu i fod yn annibynnol ar Dduw?
14 Cyn sicred ag inni gael ein creu gyda’r angen i ymostwng i ddeddfau ffisegol Duw, fe gawson ni’n creu gyda’r angen i ymostwng i ddeddfau moesol a chymdeithasol Duw. (Mathew 4:4) Chafodd bodau dynol mo’u creu i fod yn annibynnol ar eu Gwneuthurwr a llwyddo. Fe ddywed y proffwyd Jeremeia: “Ni pherthyn i’r teithiwr drefnu ei gamre. Cosba fi, ARGLWYDD.” (Jeremeia 10:23, 24) Felly ymhob ffordd fe grewyd bodau dynol i fyw dan frenhiniaeth Duw, nid dan eu rheolaeth eu hunain.
15. Fyddai deddfau Duw wedi bod yn faich ar Adda ac Efa?
15 Fyddai ufuddhau i ddeddfau Duw ddim wedi bod yn feichus i’n rhieni cyntaf. Yn lle hynny, fe fyddai wedi gweithio er eu lles nhw a lles yr holl deulu dynol. Petai’r pâr cyntaf wedi aros o fewn terfynau deddfau Duw, byddai popeth wedi bod yn iawn. Mewn gwirionedd, fe fydden ni nawr yn byw mewn paradwys ryfeddol o hyfrydwch yn deulu dynol cariadus, unedig! Fyddai drygioni, na dioddefaint, na marwolaeth ddim wedi bod o gwbl.
[Cwestiynau’r Astudiaeth]
[Llun ar dudalen 11]
Fe roddodd y Creawdwr gychwyn perffaith i fodau dynol
[Llun ar dudalen 12]
A fyddech chi’n dymuno gyrru mewn traffig trwm pe na bai yna ddeddfau trafnidiaeth?