Sail y Byd Newydd yn Cael ei Ffurfio Nawr
Rhan 11
Sail y Byd Newydd yn Cael ei Ffurfio Nawr
1, 2. Beth sy’n digwydd yn union o flaen ein llygaid ni sy’n cyflawni proffwydoliaeth Feiblaidd?
YR HYN sydd hefyd yn ogoneddus ydy’r ffaith fod sail byd newydd Duw yn cael ei ffurfio ar hyn o bryd, hyd yn oed tra mae hen fyd Satan yn dadfeilio. Yn union o flaen ein llygaid, mae Duw yn casglu pobl o’r holl genhedloedd a’u ffurfio nhw’n sail cymdeithas ddaearol newydd fydd yn fuan yn cymryd lle byd rhanedig heddiw. Yn y Beibl, yn 2 Pedr 3:13, mae’r gymdeithas newydd hon yn cael ei galw’n “ddaear newydd.”
2 Mae proffwydoliaeth Feiblaidd hefyd yn dweud: “Yn y dyddiau diwethaf [yr amser rydyn ni’n byw ynddo nawr] . . . daw pobloedd lawer, a dweud, ‘Dewch, esgynnwn i fynydd yr ARGLWYDD [gwir addoliad Duw], . . . bydd yn dysgu i ni ei ffyrdd, a byddwn ninnau’n rhodio yn ei lwybrau.’”—Eseia 2:2, 3.
3. (a) Ymhlith pwy mae proffwydoliaeth Eseia yn cael ei chyflawni? (b) Beth ydy sylwadau llyfr olaf y Beibl ar hyn?
3 Mae’r broffwydoliaeth honno yn cael ei chyflawni nawr ymhlith y rheiny sy’n ymostwng Datguddiad 7:9, 14; Mathew 24:3.
i ‘ffyrdd Duw ac yn rhodio yn ei lwybrau.’ Mae llyfr olaf y Beibl yn sôn am y gymdeithas ryng-genedlaethol dangnefeddus hon o bobl yn “dyrfa fawr . . . o bob cenedl a’r holl lwythau a phobloedd ac ieithoedd,” gwir frawdoliaeth fyd-eang yn gwasanaethu Duw yn unedig. Ac mae’r Beibl hefyd yn dweud: “Dyma’r rhai sy’n dod allan o’r gorthrymder mawr.” Hynny ydy, fe fyddan nhw’n goroesi diwedd yr oes ddrwg bresennol.—Gwir Frawdoliaeth Ryng-genedlaethol
4, 5. Pam mae brawdoliaeth fyd-eang Tystion Jehofah yn bosib?
4 Mae miliynau o Dystion Jehofah yn ceisio’n ddiffuant fyw mewn harmoni â chyfarwyddiadau a ffyrdd Duw. Mae eu gobaith nhw am fywyd tragwyddol wedi’i angori ym myd newydd Duw. Drwy fyw eu bywydau beunyddiol nhw mewn ufudd-dod i ddeddfau Duw, maen nhw’n dangos iddo fe eu parodrwydd nhw i ymostwng i’w ddull ef o deyrnasu nawr a hefyd yn y byd newydd. Ymhobman, beth bynnag fo’u cenedl neu hil, maen nhw’n ufuddhau i’r un safonau—y rheiny sydd wedi eu gosod gan Dduw yn ei Air. Dyna pam eu bod nhw’n wir frawdoliaeth ryng-genedlaethol, yn gymdeithas byd newydd o wneuthuriad Duw.—Eseia 54:13; Mathew 22:37, 38; Ioan 15:9, 14.
5 Dydy Tystion Jehofah ddim yn cymryd y clod am eu bod nhw’n frawdoliaeth fyd-eang unigryw. Maen nhw’n gwybod mai canlyniad ysbryd nerthol Duw yn gweithredu ar bobl sy’n ymostwng i’w ddeddfau ydy hyn. (Actau 5:29, 32; Galatiaid 5:22, 23) Gweithred Duw ydy hi. Fel dywedodd Iesu Grist, “Y mae’r hyn sy’n amhosibl gyda dynion yn bosibl gyda Duw.” (Luc 18:27) Felly y Duw a wnaeth y bydysawd sefydlog a pharhaol yn bosib ydy’r un sydd hefyd yn gwneud y gymdeithas byd newydd sefydlog a pharhaol yn bosib.
6. Pam gellir galw brawdoliaeth Tystion Jehofah yn wyrth fodern?
6 Felly, gellir gweld dull teyrnasu Jehofah yn y byd newydd eisoes yn yr hyn y mae ef yn ei gynhyrchu yn sail ar gyfer y byd newydd sydd nawr yn cael ei ffurfio. Ac y mae’r hyn mae ef wedi’i wneud gyda’i Dystion, mewn ystyr, yn wyrth fodern. Pam? Am ei fod wedi adeiladu Tystion Jehofah yn wir frawdoliaeth fyd-eang, un na fedrir byth mo’i thorri gan fuddiannau rhaniadol cenedlaethol, hiliol, na chrefyddol. Er bod yna filiynau o Dystion yn byw mewn rhagor na 235 o wledydd, maen nhw wedi’u clymu fel un â rhwymyn annatod. Mae’r frawdoliaeth fyd-eang hon, sy’n unigryw drwy holl hanes, yn wyrth fodern yn wir—gwaith Duw.—Eseia 43:10, 11, 21; Actau 10:34, 35; Galatiaid 3:28.
’Nabod Pobl Dduw
7. Sut dywedodd Iesu y gellid ’nabod ei wir ganlynwyr?
7 Sut gellir penderfynu ymhellach pwy ydy’r bobl mae Duw yn eu defnyddio yn sail i’w fyd newydd? Wel, pwy sy’n cyflawni geiriau Iesu yn Ioan 13:34, 35? Fe ddywedodd ef: “Yr wyf yn rhoi i chwi orchymyn newydd: carwch eich gilydd. Fel y cerais i chwi, felly yr ydych chwithau i garu’ch gilydd. Os bydd gennych gariad tuag at eich gilydd, wrth hynny bydd pawb yn gwybod mai disgyblion i mi ydych.” Mae Tystion Jehofah yn credu geiriau Iesu ac yn eu gweithredu nhw. Fel mae Gair Duw yn dysgu, mae eu “cariad at [ei] gilydd yn llawn angerdd.” (1 Pedr 4:8) Maen nhw’n gwisgo cariad, “sy’n rhwymyn perffeithrwydd.” (Colosiaid 3:14) Felly cariad brawdol ydy’r “glud” sy’n eu cydio nhw wrth ei gilydd yn fyd eang.
8. Sut ymhellach mae 1 Ioan 3:10-12 yn egluro sut i ’nabod pobl Dduw?
8 Hefyd, fe ddywed 1 Ioan 3:10-12: “Dyma sut y mae’n amlwg pwy yw plant Duw a phwy yw plant y diafol: pob un nad yw’n gwneud cyfiawnder, nid yw o Dduw, na’r hwn nad yw’n caru ei frawd. Oherwydd hon yw’r genadwri a glywsoch chwi o’r dechrau: ein bod i garu ein gilydd. Nid fel Cain, a oedd o’r Un drwg ac a laddodd ei frawd.” Gan hynny, mae pobl Dduw yn frawdoliaeth ddi-drais fyd-eang.
Nodwedd ’Nabod Arall
9, 10. (a) Yn ôl pa weithgarwch y gellid ’nabod gweision Duw yn y dyddiau diwethaf? (b) Sut mae Tystion Jehofah wedi cyflawni Mathew 24:14?
9 Mae yna ffordd arall o ’nabod gweision Duw. Yn ei broffwydoliaeth ynglŷn â diwedd y byd, fe soniodd Iesu am lawer o bethau fyddai’n dynodi’r cyfnod hwn fel y dyddiau diwethaf. (Gweler Rhan 9.) Mae un nodwedd sylfaenol y broffwydoliaeth hon yn cael ei chrybwyll yn ei eiriau yn Mathew 24:14: “Ac fe gyhoeddir yr Efengyl hon am y deyrnas drwy’r byd i gyd fel tystiolaeth i’r holl genhedloedd, ac yna y daw’r diwedd.”
10 Ydyn ni wedi gweld y broffwydoliaeth honno yn cael ei chyflawni? Ydyn. Oddi ar ddechrau’r dyddiau diwethaf yn 1914, mae Tystion Jehofah wedi pregethu newyddion da Teyrnas Dduw drwy’r byd i gyd yn y modd orchmynnwyd gan Iesu, hynny ydy, yng nghartrefi’r bobl. (Mathew 10:7, 12; Actau 20:20) Mae miliynau o Dystion yn galw heibio pobl ym mhob cenedl i siarad gyda nhw am y byd newydd. Dyna sut y bu i chi dderbyn y llyfryn hwn, gan fod gwaith Tystion Jehofah yn cynnwys argraffu a dosbarthu biliynau o ddarnau llenyddiaeth ynglŷn â Theyrnas Dduw. Wyddoch chi am unrhyw rai eraill sy’n pregethu am Deyrnas Dduw o dŷ i dŷ drwy’r byd i gyd? Ac mae Marc 13:10 yn dangos fod yn rhaid gwneud y gwaith pregethu ac addysgu hwn “yn gyntaf,” cyn y daw’r diwedd.
Ateb yr Ail Bwnc Dadl Mawr
11. Beth arall mae Tystion Jehofah yn ei gyflawni drwy ymostwng i deyrnasu Duw?
11 Drwy ymostwng i ddeddfau ac egwyddorion Duw, mae Tystion Jehofah yn cyflawni rhywbeth arall. Maen nhw’n dangos mai un celwyddog oedd Satan pan honnodd ef na fedrai bodau dynol ddim bod yn ffyddlon i Dduw o dan brawf, felly’n ateb yr ail bwnc dadl mawr, sy’n ymwneud ag uniondeb dynol. (Job 2:1-5) Gan eu bod nhw’n gymdeithas o filiynau o bobl o bob cenedl, mae’r Tystion yn dangos, fel un corff, deyrngarwch i deyrnasu Duw. Er eu bod nhw’n fodau dynol amherffaith, maen nhw’n cynnal ochr Duw i bwnc dadl awdurdod brenhinol cyfanfydol, er gwaethaf pwysedd satanaidd.
12. Drwy gyfrwng eu ffydd nhw, pwy mae’r Tystion yn eu hefelychu?
12 Heddiw, mae’r miliynau Tystion Jehofah hyn yn ychwanegu eu tystiolaeth nhw at dystiolaeth llinell hir o dystion eraill a ddangosodd eu teyrngarwch i Dduw yn y gorffennol. Dyma rai ohonyn nhw: Abel, Noa, Job, Abraham, Sara, Isaac, Jacob, Debora, Ruth, Dafydd, a Daniel, i enwi dim ond ychydig. (Hebreaid, pennod 11) Maen nhw, fel y dywed y Beibl, yn ‘gymaint torf o dystion ffyddlon.’ (Hebreaid 12:1) Fe gadwodd y rhain ac eraill gan gynnwys disgyblion Iesu eu huniondeb nhw i Dduw. A’r enghraifft fwyaf i gyd ydy Iesu Grist drwy iddo fe gadw uniondeb perffaith.
13. Pa eiriau gan Iesu am Satan y profwyd eu bod nhw’n wir?
13 Mae hyn yn profi fod yr hyn ddywedodd Iesu am Satan wrth yr arweinwyr crefyddol yn wir: “Ond dyma chwi yn awr yn ceisio fy lladd i, dyn sydd wedi llefaru wrthych y gwirionedd a glywais gan Dduw. . . . Plant ydych chwi i’ch tad, y diafol, ac yr ydych â’ch bryd ar gyflawni dymuniadau eich tad. Lladdwr dynion oedd ef o’r cychwyn; nid yw’n sefyll yn y gwirionedd, oherwydd nid oes dim gwirionedd ynddo. Pan fydd yn dweud celwydd, datguddio’i natur ei hun y mae, oherwydd un celwyddog yw ef, a thad pob celwydd.”—Ioan 8:40, 44.
Beth Ydy’ch Dewis Chi?
14. Beth sy’n digwydd i sail y byd newydd nawr?
14 Mae sail y byd newydd sydd nawr yn cael ei ffurfio gan Dduw yng nghymdeithas ryng-genedlaethol Tystion Jehofah yn mynd o nerth i nerth. Bob blwyddyn mae cannoedd o filoedd o bobl yn defnyddio’u hewyllys rydd nhw, yn seiliedig ar wybodaeth gywir, i dderbyn teyrnasu Duw. Maen nhw’n dod yn rhan o gymdeithas y byd newydd, yn cynnal ochr Duw i bwnc dadl awdurdod brenhinol
cyfanfydol, ac yn profi mai un celwyddog ydy Satan.15. Pa waith gwahanu fydd yn cael ei wneud yn ein dyddiau ni?
15 Wrth ddewis teyrnasu Duw, fe fyddan nhw’n gymwys i’w gosod ar “law dde” Crist wrth iddo wahanu’r “defaid” oddi wrth “y geifr.” Yn ei broffwydoliaeth ynglŷn â’r dyddiau diwethaf, fe ragfynegodd Iesu: “Fe gesglir yr holl genhedloedd ger ei fron, a bydd ef yn eu didoli oddi wrth ei gilydd, fel y mae bugail yn didoli’r defaid oddi wrth y geifr, ac fe esyd y defaid ar ei law dde a’r geifr ar y chwith.” Pobl ostyngedig ydy’r defaid sydd wedi cymdeithasu â brodyr Crist a’u cefnogi, gan ymostwng i deyrnasu Duw. Y geifr ydy pobl ystyfnig sydd wedi gwrthod brodyr Crist ac yn gwneud dim i gefnogi teyrnasu Duw. Beth fydd y canlyniad? Fe ddywedodd Iesu: “Fe â’r rhain [y geifr] ymaith i gosb dragwyddol, ond y rhai cyfiawn [y defaid] i fywyd tragwyddol.”—Mathew 25:31-46.
16. Beth sy’n rhaid i chi ei wneud os ydych chi eisiau byw yn y Baradwys sydd i ddod?
16 Yn wir, mae Duw yn fawr ei ofal amdanon ni! Yn fuan iawn fe fydd yn darparu paradwys ddaearol hyfryd. Ydych chi’n dymuno byw yn y Baradwys honno? Os ydych chi, dangoswch eich gwerthfawrogiad o ddarpariaethau Jehofah drwy ddysgu amdano a gweithredu ar yr hyn rydych chi’n ei ddysgu. “Ceisiwch yr ARGLWYDD tra gellir ei gael, galwch arno tra bydd yn agos. Gadawed y drygionus ei ffordd, a’r dyn anwir ei fwriadau, a dychwelyd at yr ARGLWYDD, iddo drugarhau wrtho.”—Eseia 55:6, 7.
17. Pam nad oes yna ddim amser i’w golli wrth ddewis pwy i’w wasanaethu?
17 Does dim amser i’w golli. Mae diwedd yr hen drefn bresennol yn agos iawn. Mae Gair Duw yn cynghori: “Peidiwch â charu’r byd na’r pethau sydd yn y byd. Os yw rhywun yn caru’r byd, nid yw cariad y Tad ynddo ef . . . Y mae’r byd a’i drachwant yn mynd heibio, ond y mae’r hwn sy’n gwneud ewyllys Duw yn aros am byth.”—1 Ioan 2:15-17.
18. Sut dylech chi weithredu i’ch galluogi chi i edrych ymlaen yn hyderus at fyw ym myd newydd gogoneddus Duw?
18 Mae pobl Dduw nawr yn cael eu hyfforddi ar gyfer bywyd tragwyddol yn y byd newydd. Maen nhw’n dysgu’r sgiliau ysbrydol a sgiliau eraill sydd eu hangen nhw i ddatblygu paradwys. Rydyn ni’n eich annog chi i ddewis Duw yn Frenin a chefnogi’r gwaith achub bywydau mae ef yn ei gyflawni drwy’r holl ddaear heddiw. Astudiwch y Beibl gyda Thystion Jehofah, a dewch i ’nabod y Duw sy’n gwir ofalu amdanoch chi ac a ddaw â therfyn ar ddioddefaint. Yn y ffordd yma fe fedrwch chithau hefyd ddod yn rhan o sail y byd newydd. Yna fe fedrwch chi edrych ymlaen yn hyderus at ennill ffafr Duw a byw am byth yn y byd newydd gogoneddus hwnnw.
[Cwestiynau’r Astudiaeth]
[Llun ar dudalen 31]
Fe geir gwir frawdoliaeth ryng-genedlaethol ymhlith Tystion Jehofah
[Llun ar dudalen 32]
Mae sail byd newydd Duw yn cael ei ffurfio ’nawr