Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Sut Mae Gwybod Ein Bod Ni yn “y Dyddiau Diwethaf”

Sut Mae Gwybod Ein Bod Ni yn “y Dyddiau Diwethaf”

Rhan 9

Sut Mae Gwybod Ein Bod Ni yn “y Dyddiau Diwethaf”

1, 2. Sut medrwn ni wybod a ydyn ni yn y dyddiau diwethaf?

SUT medrwn ni fod yn sicr ein bod ni’n byw yn y cyfnod pan fydd Teyrnas Dduw yn gweithredu yn erbyn trefn bresennol rheoli dynol? Sut medrwn ni wybod ein bod ni’n agos iawn at yr amser pan fydd Duw yn dod â phob drygioni a dioddefaint i ben?

2 Roedd disgyblion Iesu Grist am wybod y pethau hynny. Fe ofynson nhw iddo beth fyddai “arwydd” ei bresenoldeb yng ngrym y Deyrnas ac “o ddiwedd y byd.” (Mathew 24:3) Atebodd Iesu drwy fanylu am ddigwyddiadau fyddai’n ysgwyd y byd ac amgylchiadau fyddai’n cyfuno i ddangos fod y ddynoliaeth yn “amser y diwedd,” “dyddiau diwethaf” trefn yr oes bresennol. (Daniel 11:40; 2 Timotheus 3:1) Ydyn ni yn ein hamser ni wedi gweld yr arwydd cyfansawdd hwnnw? Ydyn, yn helaeth!

Rhyfeloedd Byd

3, 4. Sut mae rhyfeloedd ein dyddiau ni’n ffitio proffwydoliaeth Iesu?

3 Fe ragfynegodd Iesu y codai ‘cenedl yn erbyn cenedl, a theyrnas yn erbyn teyrnas.’ (Mathew 24:7) Yn 1914 sugnwyd y byd i ryfel a welodd genhedloedd a theyrnasoedd yn ymfyddino mewn ffordd oedd yn wahanol i unrhyw ryfel o’i flaen. Gan gydnabod y ffaith honno, galwodd haneswyr y cyfnod ef yn Rhyfel Mawr. Dyma’r rhyfel cyntaf o’i fath yn hanes, y rhyfel byd cyntaf. Collodd tua 20,000,000 o filwyr a dinasyddion eu bywydau, llawer rhagor nag yn unrhyw ryfel blaenorol.[21]

4 Roedd Rhyfel Byd I yn dynodi cychwyn y dyddiau diwethaf. Dywedodd Iesu y byddai hyn a digwyddiadau eraill yn “ddechrau’r gwewyr.” (Mathew 24:8) Roedd hynny’n wir, gan y bu Rhyfel Byd II yn fwy marwol hyd yn oed, pan gollodd tua 50,000,000 o filwyr a dinasyddion eu bywydau.[22] Yn yr 20fed ganrif, fe laddwyd ymhell dros 100,000,000 o bobl mewn rhyfeloedd, rhagor na phedair gwaith yn fwy nag yn y 400 mlynedd blaenorol gyda’i gilydd![23] Dyna gondemniad llym ar reoli dynol!

Tystiolaethau Eraill

5-7. Beth ydy rhai tystiolaethau eraill ein bod ni yn y dyddiau diwethaf?

5 Fe ychwanegodd Iesu nodweddion eraill fyddai’n cyd-ddigwydd â’r dyddiau diwethaf: “Bydd daeargrynfâu dirfawr, a newyn a phlâu [heintiau epidemig] mewn mannau.” (Luc 21:11) Mae hynny’n disgrifio digwyddiadau oddi ar 1914 i’r dim, gan fod cynnydd enfawr wedi bod yn y gwaeau yn sgil y fath drallodion.

6 Mae daeargrynfâu dinistriol yn ddigwyddiadau cyson, yn difa llawer o fywydau. Fe laddodd y ffliw Sbaenaidd yn unig tua 20,000,000 o bobl yn dilyn Rhyfel Byd I—roedd rhai amcangyfrifon yn dweud 30,000,000 neu ragor.[24] Mae AIDS wedi dwyn cannoedd o filoedd o fywydau a gallai ddwyn miliynau’n rhagor yn y dyfodol agos. Bob blwyddyn mae miliynau o bobl yn marw o anhwylderau’r galon, canser, ac afiechydon eraill. Mae miliynau’n rhagor yn marw gan angau araf newyn. Yn ddiamau mae ‘marchogion y Datguddiad’ a’u rhyfeloedd, prinder bwyd, a heintiau epidemig wedi bod yn taro niferau mawr o’r teulu dynol oddi ar 1914.—Datguddiad 6:3-8.

7 Fe ragfynegodd Iesu hefyd y cynnydd mewn torcyfraith mae pob gwlad yn ei brofi. Fe ddywedodd: “Am fod drygioni yn amlhau bydd cariad llawer iawn yn oeri.”—Mathew 24:12.

8. Sut mae proffwydoliaeth 2 Timotheus pennod 3 yn ffitio’n hamser ni?

8 Ymhellach, fe ragfynegodd proffwydoliaeth Feiblaidd y methiant moesol sydd mor amlwg drwy’r byd i gyd heddiw: Bydd “amserau enbyd i ddod yn y dyddiau diwethaf. Bydd dynion yn hunangar ac yn ariangar, yn ymffrostgar a balch a sarhaus, heb barch i’w rhieni, yn anniolchgar ac yn ddigrefydd. Byddant yn ddi-serch a digymod, yn enllibus a dilywodraeth ac anwar, heb ddim cariad at ddaioni. Bradwyr fyddant, yn ddi-hid, yn llawn balchder, yn caru pleser yn fwy na charu Duw, yn cadw ffurf allanol crefydd ond yn gwadu ei grym hi. . . . Bydd dynion drwg a hocedwyr yn mynd o ddrwg i waeth.” (2 Timotheus 3:1-13) Mae hynny i gyd wedi dod yn wir yn union o flaen ein llygaid ni.

Ffactor Arall

9. Beth ddigwyddodd yn y nef oedd yn cyd-ddigwydd â dechrau’r dyddiau diwethaf ar y ddaear?

9 Mae ffactor arall yn gyfrifol am y cynnydd enfawr mewn dioddefaint yn ein hamser ni. Yn cyd-ddigwydd â dechrau’r dyddiau diwethaf yn 1914, fe ddigwyddodd rywbeth i osod y ddynoliaeth mewn mwy o berygl hyd yn oed. Yr amser hwnnw, fel mae proffwydoliaeth yn llyfr olaf y Beibl yn adrodd: “Bu rhyfel yn y nef, Mihangel [Crist yn ei rym nefol] a’i angylion yn rhyfela yn erbyn y ddraig [Satan]. Rhyfelodd y ddraig a’i hangylion hithau [y cythreuliaid], ond ni chafodd y trechaf, a bellach nid oedd lle iddynt yn y nef. Fe’i bwriwyd hi, y ddraig fawr, yr hen sarff, a elwir Diafol a Satan, twyllwr yr holl fyd, fe’i bwriwyd i’r ddaear a’i hangylion gyda hi.”—Datguddiad 12:7-9.

10, 11. Sut effaith gafodd Satan a’i gythreuliaid ar y ddynoliaeth pan fwriwyd nhw i lawr i’r ddaear?

10 Beth fu’r canlyniadau i’r teulu dynol? Mae’r broffwydoliaeth yn parhau: “Gwae chwi’r ddaear a’r môr, oherwydd disgynnodd y diafol arnoch yn fawr ei lid, o wybod mai byr yw’r amser sydd ganddo!” Ydy, mae Satan yn gwybod fod ei gyfundrefn ef yn agosáu at ei diwedd, felly mae’n gwneud popeth a fedr i droi bodau dynol yn erbyn Duw cyn y bydd ef a’i fyd yn cael eu rhoi o’r neilltu. (Datguddiad 12:12; 20:1-3) Mor llygredig ydy’r ysbryd greaduriaid hynny am iddyn nhw gamddefnyddio eu hewyllys rydd! Mor enbyd fu amodau ar y ddaear o dan eu dylanwad nhw, yn enwedig oddi ar 1914!

11 Does dim rhyfedd i Iesu ragfynegi ynglŷn â’n hoes ni: “Bydd argoelion arswydus ac arwyddion enfawr o’r nef.”—Luc 21:11.

Diwedd Rheolaeth Dyn a Chythraul Yn Agos

12. Beth ydy un o’r proffwydoliaethau olaf sy’n aros i’w chyflawni cyn diwedd trefn yr oes bresennol?

12 Sawl proffwydoliaeth Feiblaidd sydd ar ôl i’w chyflawni cyn y bydd Duw yn dinistrio trefn yr oes bresennol? Ychydig iawn! Mae un o’r rhai olaf yn 1 Thesaloniaid 5:3, sy’n dweud: “Tra’u bod nhw’n siarad am heddwch a diogelwch, yn ddisymwth mae trychineb ar eu gwarthaf nhw.” (The New English Bible) Mae hyn yn dangos y bydd diwedd y drefn bresennol yn dechrau “tra’u bod nhw’n siarad.” Heb ei ragweld gan y byd, fe fydd dinistr yn taro pan ddisgwylir ef leiaf, pan fydd sylw bodau dynol ar eu gobaith nhw am heddwch a diogelwch.

13, 14. Pa gyfnod o drallod a ragfynegodd Iesu, a sut bydd hwnnw’n diweddu?

13 Mae amser y byd hwn dan ddylanwad Satan yn dirwyn i ben. Cyn bo hir fe ddaw i’w derfyn mewn cyfnod o drallod y dywedodd Iesu amdano: “Y pryd hwnnw bydd gorthrymder mawr na fu ei debyg o ddechrau’r byd hyd yn awr, ac na fydd byth chwaith.”—Mathew 24:21.

14 Uchafbwynt y “gorthrymder mawr” fydd rhyfel Duw, Armagedon. Dyna’r amser y soniodd y proffwyd Daniel amdano pan fydd Duw “yn dryllio ac yn rhoi terfyn ar yr holl freniniaethau eraill.” Fe fydd hyn yn golygu terfyn ar bob awdurdod rheoli dynol presennol sy’n annibynnol ar Dduw. Yna o’r nef fe fydd brenhiniaeth y Deyrnas yn cipio llwyr reolaeth dros holl faterion dynol. Ni fydd awdurdod llywodraethol byth eto, rhagfynegodd Daniel, yn cael ei feddiannu “gan eraill.”—Daniel 2:44; Datguddiad 16:14-16.

15. Beth fydd yn digwydd i ddylanwad Satan a’i gythreuliaid?

15 Y pryd hwnnw fe fydd holl ddylanwad Satan a chythraul yn darfod hefyd. Fe fydd yr ysbryd greaduriaid gwrthryfelgar hynny yn cael eu rhoi o’r neilltu fel na fedran nhw “dwyllo’r cenhedloedd eto.” (Datguddiad 12:9; 20:1-3) Maen nhw wedi’u dedfrydu i farwolaeth ac yn disgwyl eu difa. Dyna ollyngdod fydd hi i’r ddynoliaeth i fod yn rhydd rhag eu dylanwad llygredig nhw!

Pwy Fydd yn Goroesi? Pwy Na Fydd?

16-18. Pwy fydd yn goroesi diwedd trefn yr oes bresennol, a phwy na fydd?

16 Pan weithredir barnedigaethau Duw yn erbyn y byd hwn, pwy fydd yn goroesi? Pwy na fydd? Mae’r Beibl yn dangos y bydd y rheiny sy’n dymuno i Dduw deyrnasu drostyn nhw yn cael eu hamddiffyn ac yn goroesi. Fydd y rheiny sy’ ddim yn dymuno i Dduw deyrnasu drostyn nhw ddim yn cael eu hamddiffyn ond yn cael eu dinistrio gyda byd Satan.

17 Mae Diarhebion 2:21, 22 yn dweud: “Y rhai cyfiawn [y rheiny sy’n ymostwng i deyrnasu Duw] a drig yn y tir, a’r rhai cywir a gaiff aros ynddo; ond torrir y dynion drwg [y rheiny nad ydyn nhw ddim yn ymostwng i deyrnasu Duw] o’r tir, a diwreiddir y twyllwyr ohono.”

18 Mae Salm 37:10, 11 hefyd yn dweud: “Ymhen ychydig eto, ni fydd y drygionus . . . Ond bydd y gostyngedig yn meddiannu’r tir ac yn mwynhau heddwch llawn.” Mae adnod 29 yn ychwanegu: “Y mae’r cyfiawn yn etifeddu’r tir, ac yn cartrefu ynddo am byth.”

19. Pa gyngor ddylai gyffwrdd â’n calon?

19 Fe ddylai cyngor Salm 37:34 gyffwrdd â’n calon, pan ddywed: “Disgwyl wrth yr ARGLWYDD a glŷn wrth ei ffordd, ac fe’th ddyrchafa i etifeddu’r tir, a chei weld y drygionus yn cael eu torri ymaith.” Mae adnodau 37 a 38 yn dweud: “Sylwa ar y difeius, ac edrych ar yr uniawn; oherwydd y mae disgynyddion gan yr heddychlon. Difethir y gwrthryfelwyr i gyd, a dinistrir disgynyddion y drygionus.”

20. Pam medrwn ni ddweud fod yr amserau hyn yn rhai cyffrous i fod yn byw ynddyn nhw?

20 Dyna gysur, yn wir, dyna wefr ddaw o wybod fod Duw yn wir yn fawr ei ofal ac y bydd ef cyn bo hir yn rhoi terfyn ar bob drygioni a dioddefaint! Mor wefreiddiol ydy sylweddoli mai dim ond amser byr sydd yna cyn cyflawni’r proffwydoliaethau gogoneddus hynny!

[Cwestiynau’r Astudiaeth]

[Llun ar dudalen 20]

Fe ragfynegodd y Beibl ddigwyddiadau o’u cyfuno nhw fyddai’n “arwydd” y dyddiau diwethaf

[Llun ar dudalen 22]

Cyn bo hir, adeg Armagedon, fe dorrir ymaith y rhai nad ydyn nhw ddim yn ymostwng i deyrnasu Duw. Fe fydd y rheiny sydd yn ymostwng yn goroesi i fyd cyfiawn newydd