Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Sut Medrwn Ni Wybod Fod Yna Dduw

Sut Medrwn Ni Wybod Fod Yna Dduw

Rhan 3

Sut Medrwn Ni Wybod Fod Yna Dduw

1, 2. Pa egwyddor sy’n ein helpu ni i benderfynu a oes yna Dduw?

UN FFORDD o benderfynu a oes yna Dduw ydy cymhwyso’r egwyddor hen hon: Mae’n rhaid i’r hyn sydd wedi cael ei wneud gael gwneuthurwr. Po fwyaf cymhleth ydy’r peth sydd wedi cael ei wneud, y mwyaf medrus mae’n rhaid i’r gwneuthurwr fod.

2 Er enghraifft, edrychwch o gwmpas eich cartref. Mae angen gwneuthurwr ar bob bwrdd, cadair, desg, gwely, llestr, padell, plât ac offer bwyta arall, yn ogystal â waliau, lloriau a nenfydau. Ac eto, mae’r pethau hynny yn weddol hawdd eu gwneud. Gan fod angen gwneuthurwr ar bethau syml, onid ydy hi’n rhesymegol fod angen gwneuthurwr mwy deallus hyd yn oed ar bethau cymhleth?

Ysblander Ofnadwy a Rhyfeddol Ein Bydysawd

3, 4. Sut mae’r bydysawd yn ein helpu ni i wybod fod Duw yn bod?

3 I wneud watsh mae angen gwneuthurwr watshis. Beth am gysawd yr haul sy’n anfesuradwy fwy cymhleth, gyda’r Haul a’i blanedau yn troi o’i amgylch gyda thrachywirdeb i’r eiliad ganrif ar ôl canrif? Beth am y galaeth ofnadwy a rhyfeddol rydym yn byw ynddo, o’r enw y Llwybr Llaethog, gyda’i 100 biliwn a rhagor o sêr? Wnaethoch chi erioed sefyll wedi iddi nosi i syllu ar y Llwybr Llaethog? Wnaeth hynny argraff arnoch chi? Yna meddyliwch am y bydysawd anhygoel o ddiderfyn sy’n cynnwys biliynau di-rif o alaethau tebyg i’n Llwybr Llaethog ni! Hefyd, mae’r cyrff nefolaidd mor ddibynadwy yn eu symudiadau ganrif ar ôl canrif nes eu bod nhw’n cael eu cymharu ag amser fesuryddion trachywir.

4 Os ydy watsh, sy’n gymharol syml, yn rhagdybio bodolaeth gwneuthurwr watshis, yn sicr mae ysblander ofnadwy a rhyfeddol y bydysawd sy’n anfesuradwy fwy cymhleth yn rhagdybio bodolaeth cynlluniwr a gwneuthurwr. Dyna pam mae’r Beibl yn ein gwahodd ni i ‘godi ein llygaid i fyny ac edrych,’ ac yna mae’n gofyn: “Pwy a fu’n creu’r pethau hyn? Pwy a fu’n galw allan eu llu fesul un ac yn rhoi enw i bob un ohonynt?” Yr ateb: “Gan faint ei [Duw] nerth, a’i fod mor eithriadol gryf, nid oes yr un ar ôl.” (Eseia 40:26) Felly, mae’r bydysawd yn ddyledus am ei fodolaeth i rym deallus, anweledig, sy’n rheoli—Duw.

Daear Wedi’i Chynllunio’n Unigryw

5-7. Pa ffeithiau am y ddaear sy’n dangos fod iddi Gynlluniwr?

5 Po fwyaf mae gwyddonwyr yn astudio’r ddaear, y mwyaf maen nhw’n sylweddoli ei bod hi wedi’i chynllunio’n unigryw ar gyfer cyfaneddu dynol. Mae hi’n union y pellter iawn o’r haul i gael y gyfran iawn o olau a gwres. Unwaith y flwyddyn mae hi’n symud o amgylch yr haul, gyda’r union ongl goleddf, gan wneud tymhorau’n bosibl yn llawer rhan o’r ddaear. Mae’r ddaear hefyd yn troi ar ei hechel ei hun bob 24 awr, yn sicrhau cyfnodau cyson o oleuni a thywyllwch. Mae ganddi atmosffer gyda’r union gymysgedd o nwyon fel y medrwn ni anadlu a chael ein hamddiffyn rhag ymbelydredd niweidiol o’r gofod. Mae ganddi hefyd y dŵr hanfodol a’r pridd sydd eu hangen i dyfu bwyd.

6 Heb yr holl ffactorau hynny, ac eraill, yn cyd-weithio, byddai bywyd yn amhosibl. Ai damwain oedd hynny i gyd? Mae Science News yn dweud: “Mae’n ymddangos mai prin y medrai’r fath amodau arbennig a manwl fod wedi codi ar hap.”[3] Na fedren, fedren nhw ddim. Roedd angen cynllun bwriadus gan Gynlluniwr godidog.

7 Petaech chi’n mynd i mewn i dŷ hardd a darganfod ei fod wedi’i gyflenwi’n hael â bwyd, fod iddo drefn gwresogi ac awyru ardderchog, a bod iddo waith plymio da i gyflenwi dŵr, beth fyddech chi’n ei gasglu? Iddo ddigwydd i gyd ohono’i hun? Nage, yn sicr fe fyddech chi’n casglu i berson deallus ei gynllunio a’i wneud â gofal mawr. Fe gafodd y ddaear hefyd ei chynllunio a’i gwneud â gofal mawr er mwyn sicrhau anghenion ei thrigolion, ac mae hi’n llawer iawn mwy cymhleth ac wedi’i chyflenwi’n helaethach nag unrhyw dŷ.

8. Beth arall ynglŷn â’r ddaear sy’n dangos gofal cariadus Duw tuag aton ni?

8 Hefyd, ystyriwch y nifer mawr o bethau sy’n ychwanegu hyfrydwch at fyw. Edrychwch ar yr amrywiaeth eang o flodau hardd eu lliw a’u persawrau dymunol mae bodau dynol yn eu mwynhau. Yna mae’r amrywiaeth mawr o fwydydd mor ddanteithiol eu blas. Mae fforestydd, mynyddoedd, llynnoedd, a chreadigaethau eraill dymunol i edrych arnyn nhw. Hefyd, beth am fachlud haul hardd sy’n cyfoethogi’n mwynhad ni o fywyd? Ac ym myd yr anifeiliaid, onid ydyn ni’n cael mwynhad o branciau chwareus a natur annwyl cŵn bach, cathod bach, ac anifeiliaid ifanc eraill? Felly mae’r ddaear yn rhoi llawer o hyfrydwch annisgwyl, nad oes mo’i wir angen i gynnal bywyd. Mae hyn yn dangos i’r ddaear gael ei chynllunio â gofal cariadus, gyda bodau dynol mewn golwg, fel y bydden ni nid yn unig yn bodoli ond yn mwynhau bywyd.

9. Pwy wnaeth y ddaear, a pham y gwnaeth ef hi?

9 Felly, y casgliad rhesymol ydy cydnabod Rhoddwr yr holl bethau hyn, fel y gwnaeth yr ysgrifennwr Beiblaidd a ddywedodd am Dduw Jehofah: “Tydi a wnaeth y nefoedd a’r ddaear.” Beth oedd ei fwriad? Mae’n rhoi’r ateb drwy ddisgrifio Duw fel “lluniwr y ddaear a’i gwneuthurwr, yr un a’i sefydlodd, yr un a’i creodd, nid i fod yn afluniaidd, ond a’i ffurfiodd i’w phreswylio.”—Eseia 37:16; 45:18.

Syndod y Gell Fyw Ryfeddol

10, 11. Pam mae cell fyw yn ein synnu â’i rhyfeddod?

10 Beth am bethau byw? Onid oes angen gwneuthurwr arnyn nhw? Er enghraifft, ystyriwch syndod rhyfeddol rhai o nodweddion cell fyw. Yn ei lyfr Evolution: A Theory in Crisis, mae’r biolegydd moleciwlar Michael Denton yn dweud: “Mae hyd yn oed y cyfundrefnau byw symlaf ar y ddaear heddiw, celloedd bacteraidd, yn wrthrychau hynod o gymhleth. Er bod y celloedd bacteraidd lleiaf yn anhygoel o fychan, . . . mae pob un mewn gwirionedd yn ffatri fanddarlun micro yn cynnwys miloedd o ddarnau o beirianwaith moleciwlar wedi’u cynllunio’n dra-chywrain . . . yn llawer mwy cymhleth nag unrhyw beiriant a adeiladwyd gan ddyn ac yn bendant heb ei thebyg yn y byd di-fywyd.”

11 Ynglŷn â’r cod genetig ym mhob cell, fe ddywed: “Mae gallu DNA i storio gwybodaeth ymhell y tu hwnt i allu unrhyw gyfundrefn wybyddus arall; y mae mor effeithlon fel bod yr holl wybodaeth sydd ei angen i benodi organeb mor gymhleth â dyn yn pwyso llai nag ychydig filoedd o rannau o filiwn o gram. . . . Ochr yn ochr â safon cywreinwaith a chymhlethdod sy’n cael ei arddangos gan beirianwaith moleciwlar bywyd, mae hyd yn oed ein [cynhyrchion] mwyaf uwchraddol yn ymddangos yn drwsgl. Rydyn ni’n teimlo’n ostyngedig.”[5]

12. Beth ddywedodd gwyddonydd am darddiad y gell?

12 Mae Denton yn ychwanegu: “Mae cymhlethdod y math symlaf o gell y gwyddys amdano mor fawr fel ei bod yn amhosibl derbyn y gallai’r fath wrthrych fod wedi cael ei daflu ynghyd yn sydyn gan rhyw fath o ddigwyddiad hap a damwain hynod o annhebygol.”[6] Roedd yn rhaid iddo wrth gynlluniwr a gwneuthurwr.

Ein Hymennydd Anhygoel

13, 14. Pam mae’r ymennydd yn fwy o ryfeddod hyd yn oed na chell fyw?

13 Yna mae’r gwyddonydd hwn yn dweud: “O ran cymhlethdod, dydy cell unigol yn ddim byd o’i chymharu â chyfundrefn fel yr ymennydd mamalaidd. Mae’r ymennydd dynol yn cynnwys tua deg mil o filiynau o gelloedd nerfau. Mae pob cell nerf yn estyn allan rywle rhwng deg mil a chan mil o ffibrau cysylltiol y mae hi drwyddynt yn cysylltu â chelloedd nerf eraill yn yr ymennydd. Yn gyfangwbl mae cyfanswm nifer y cysylltiadau yn yr ymennydd dynol yn tynnu am . . . fil miliwn o filiynau.”[7]

14 Mae Denton yn mynd ymlaen: “Hyd yn oed pe na bai ond un rhan o gant o’r cysylltiadau yn yr ymennydd wedi eu cyfundrefnu’n benodol, byddai hyn hyd yn oed wedyn yn cynrychioli cyfundrefn yn cynnwys nifer llawer iawn rhagor o gysylltiadau penodol nag sydd yn yr holl rwydwaith cyfathrebu ar y Ddaear.” Yna mae ef yn gofyn: “A fedrai unrhyw fath o broses ddamweiniol bur fyth fod wedi gosod y fath gyfundrefnau ynghyd?”[8] Yn amlwg, mae’n rhaid ateb na fedrai. Mae’n rhaid fod i’r ymennydd Gynlluniwr a Gwneuthurwr mawr ei ofal.

15. Pa sylwadau mae eraill yn eu gwneud am yr ymennydd?

15 Mae’r ymennydd dynol yn gwneud i hyd yn oed y cyfrifiaduron mwyaf uwchraddol edrych yn gyntefig. Fe ddywedodd yr ysgrifennwr gwyddonol Morton Hunt: “Mae ein cof gweithredol ni yn dal rhai biliynau o weithiau yn fwy o wybodaeth na chyfrifiadur ymchwil mawr cyfoes.” Felly, daeth y llawfeddyg ymennydd Dr. Robert J. White i’r casgliad: “Does gennyf i ddim dewis ond cydnabod bodolaeth Deall Rhagorach, sy’n gyfrifol am gynllun a datblygiad y berthynas ymennydd-meddwl anhygoel—rhywbeth ymhell y tu hwnt i allu dyn i’w ddirnad. . . . Mae’n rhaid imi gredu i hyn oll gael cychwyn deallus, i Rywun wneud iddo ddigwydd.” Roedd yn rhaid iddo hefyd fod yn Rhywun oedd yn llawn gofal.

Cyfundrefn Unigryw’r Gwaed

16-18. (a) Ym mha ffyrdd mae’r gyfundrefn waed yn unigryw? (b) Beth ddylen ni ei gasglu o hyn?

16 Ystyriwch, hefyd, y gyfundrefn waed unigryw sy’n cludo maethyddion ac ocsigen ac yn amddiffyn rhag heintiad. Ynglŷn â’r celloedd gwaed coch, un o brif gydrannau’r gyfundrefn hon, mae’r llyfr ABC’s of the Human Body yn dweud: “Mae un diferyn o waed yn cynnwys rhagor na 250 miliwn o gelloedd coch unigol . . . Mae’r corff yn cynnwys efallai 25 triliwn ohonynt; digon, pe gwasgerid nhw, i orchuddio pedwar cwrt tennis. . . . Gwneir adnewyddiadau, ar raddfa o 3 miliwn cell newydd bob eiliad.”

17 Ynglŷn â chelloedd gwyn y gwaed, rhan arall o gyfundrefn unigryw’r gwaed, mae’r un ffynhonnell yn dweud wrthym: “Tra nad oes ond un math o gell goch, ceir llawer amrywiaeth o gelloedd gwyn, pob math yn medru ymladd brwydrau’r corff mewn ffordd wahanol. Mae un math, er enghraifft, yn difa celloedd marw. Mae mathau eraill yn cynhyrchu gwrthgorffynnau yn erbyn firwsau, yn dadwenwyno sylweddau estron, neu’n llythrennol yn bwyta bacteria a’u treulio.”

18 Dyna gyfundrefn o syndod rhyfeddol ac mor hynod drefnus! Yn sicr mae’n rhaid bod i unrhyw beth sydd wedi’i osod ynghyd gystal ac mor drwyadl amddiffynnol drefnydd deallus iawn ac sy’n fawr ei ofal—Duw.

Rhyfeddodau Eraill

19. Sut mae’r llygad yn cymharu ag offer o wneuthuriad dyn?

19 Mae yna lawer o ryfeddodau eraill yn y corff dynol. Un ydy’r llygad, sydd wedi’i gynllunio mor odidog fel nad oes unrhyw gamera yn debyg iddo. Fe ddywedodd y seryddwr Robert Jastrow: “Ymddengys i’r llygad gael ei gynllunio; ni fedrai’r un cynlluniwr telesgopau fod wedi gwneud yn well.” Ac mae’r cyhoeddiad Popular Photography yn adrodd: “Mae llygaid dynol yn gweld amrediad manylder llawer mwy nag a wna ffilm. Maent yn gweld mewn tri dimensiwn, ar ongl hynod o lydan, heb lurgunio, mewn mudiant parhaol . . . Nid yw cymharu’r camera â’r llygad dynol yn gyfatebiaeth deg. Mae’r llygad dynol yn debycach i or-gyfrifiadur anhygoel o uwchraddol a chanddo ddeallusrwydd artiffisial, galluoedd prosesu gwybodaeth, cyflymderau, a moddau gweithredu sydd ymhell y tu hwnt i unrhyw ddyfais, cyfrifiadur neu gamera a wnaed gan ddyn.”[14]

20. Beth ydy syndod rhyfeddol rhai agweddau eraill y corff dynol?

20 Meddyliwch, hefyd, am y ffordd mae holl organau tra-chymhleth y corff yn cydweithredu heb ymdrech ymwybodol ar ein rhan ni. Er enghraifft, rydyn ni’n rhoi llawer o wahanol fathau o fwyd a diod yn ein stumogau, eto mae’r corff yn eu prosesu nhw ac yn cynhyrchu egni. Triwch roi amrywiaeth tebyg o bethau i mewn i danc petrol car a gweld pa mor bell yr aiff! Wedyn dyna wyrth geni, cynhyrchu babi serchus—copi o’i rieni—mewn dim ond naw mis. A beth am allu plentyn sydd ond ychydig flynyddoedd oed i ddysgu siarad mewn iaith gymhleth?

21. O ystyried rhyfeddodau’r corff, beth mae pobl resymol yn ei ddweud?

21 Ydy, mae syndod rhyfeddol llaweroedd o greadigaethau tra-chymhleth yn y corff dynol yn ein llenwi ni â pharchedig ofn. Fedrai’r un peiriannydd ddyblygu’r pethau hynny. Ai dim ond cynnyrch hap a damwain ydyn nhw? Nage’n sicr. Yn hytrach, wrth ystyried holl agweddau rhyfeddol y corff dynol, mae pobl resymol yn dweud, fel gwnaeth y salmydd: “Clodforaf di [Duw], oherwydd yr wyt yn ofnadwy a rhyfeddol [“canys ofnadwy a rhyfedd y’m gwnaed,” Y Beibl Cysegr-Lân], ac y mae dy weithredoedd yn rhyfeddol.”—Salm 139:14.

Yr Adeiladydd Goruchaf

22, 23. (a) Pam y dylen ni gydnabod bodolaeth y Creawdwr? (b) Beth mae’r Beibl yn briodol yn ei ddweud am Dduw?

22 Mae’r Beibl yn dweud: “Mae pob tŷ wedi’i adeiladu gan rywun, wrth gwrs, ond Duw adeiladodd bopeth sy’n bodoli.” (Hebreaid 3:4, The Jerusalem Bible) Gan fod yn rhaid i unrhyw dŷ, pa mor syml bynnag, gael adeiladydd, yna mae’n rhaid i’r bydysawd llawer mwy cymhleth, ynghyd â’r amrywiaethau eang o fywyd ar y ddaear, fod wedi cael adeiladydd hefyd. A chan ein bod ni’n cydnabod bodolaeth bodau dynol a ddyfeisiodd bethau fel awyrennau, teledu, a chyfrifiaduron, oni ddylen ni hefyd gydnabod bodolaeth yr Un roddodd yr ymennydd i fodau dynol i wneud y fath bethau?

23 Mae’r Beibl yn gwneud hynny, gan ei alw “Duw, yr ARGLWYDD, a greodd y nefoedd a’i thaenu allan, a luniodd y ddaear a’i chynnyrch, a roddodd anadl i’r bobl sydd arni.” (Eseia 42:5) Yn briodol mae’r Beibl yn cyhoeddi: “Teilwng wyt ti, ein Harglwydd a’n Duw, i dderbyn y gogoniant a’r anrhydedd a’r gallu, oherwydd tydi a greodd bob peth, a thrwy dy ewyllys y daethant i fod ac y crewyd hwy.”—Datguddiad 4:11.

24. Sut medrwn ni wybod fod yna Dduw?

24 Medrwn, mi fedrwn ni wybod fod yna Dduw drwy’r pethau y mae wedi eu gwneud. “Yn wir, er pan greodd Duw y byd, y mae ei briodoleddau anweledig ef, . . . i’w gweld yn eglur gan y deall yn y pethau a greodd.”—Rhufeiniaid 1:20.

25, 26. Pam nad ydy camddefnyddio rhywbeth ddim yn ddadl yn erbyn fod iddo wneuthurwr?

25 Dydy camddefnyddio rhywbeth a wnaed ddim yn golygu nad oedd i’r peth hwnnw wneuthurwr. Gellir defnyddio awyren i bwrpasau heddychlon, i gludo pobl. Ond mae’n bosibl ei defnyddio hi hefyd i ddifa, fel awyren fomio. Dydy ei defnyddio hi mewn dull sy’n dod ag angau ddim yn golygu nad oedd iddi wneuthurwr.

26 Yn yr un modd, dydy’r ffaith i fodau dynol droi’n ddrwg mor aml ddim yn golygu nad oedd iddyn nhw ddim Gwneuthurwr, nad oes yna ddim Duw. O’r herwydd, mae’r Beibl yn gywir wrth sylwi: “Troi popeth o chwith yr ydych. A yw’r crochenydd i’w ystyried fel clai? A ddywed y peth a wnaethpwyd am ei wneuthurwr, ‘Nid ef a’m gwnaeth’? A ddywed y llestr am ei luniwr, ‘Nid yw’n deall’?”—Eseia 29:16.

27. Pam medrwn ni ddisgwyl i Dduw ateb ein cwestiynau ni am ddioddefaint?

27 Mae’r Creawdwr wedi dangos ei ddoethineb drwy syndod cymhlethdod rhyfeddol yr hyn y mae wedi’i wneud. Mae ef wedi dangos ei fod yn gwir ofalu amdanon ni drwy wneud y ddaear yn union gywir i fyw arni, drwy wneud ein cyrff a’n meddyliau ni mewn ffordd mor rhyfeddol, a thrwy wneud gymaint o bethau da i ni eu mwynhau nhw. Yn sicr fe fyddai ef yn dangos doethineb a gofal cyffelyb drwy wneud yn hysbys atebion i gwestiynau fel: Pam mae Duw wedi caniatáu dioddefaint? Beth wnaiff ef ynghylch hynny?

[Cwestiynau’r Astudiaeth]

[Llun ar dudalen 5]

Mae’r ddaear, gyda’i hatmosffer amddiffynnol, yn gartref unigryw wedi ei gynllunio ar ein cyfer ni gan Dduw mawr ei ofal

[Llun ar dudalen 6]

Cafodd y ddaear ei gwneud â gofal cariadus fel medren ni fwynhau bywyd yn llawn

[Llun ar dudalen 7]

‘Mae un ymennydd yn cynnwys rhagor o gysylltiadau na’r holl rwydwaith cyfathrebu ar y Ddaear.’—Biolegydd moleciwlar

[Llun ar dudalen 8]

“Ymddengys i’r llygad gael ei gynllunio; ni fedrai’r un cynlluniwr telesgopau fod wedi gwneud yn well.”—Seryddwr