Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Y Byd Newydd Gogoneddus o Wneuthuriad Duw

Y Byd Newydd Gogoneddus o Wneuthuriad Duw

Rhan 10

Y Byd Newydd Gogoneddus o Wneuthuriad Duw

1, 2. Beth fydd yn digwydd ar ôl rhyfel glanhaol Armagedon?

AR ÔL Armagedon, rhyfel glanhaol Duw, beth wedyn? Yna fe fydd oes newydd gogoneddus yn cychwyn. Fe fydd goroeswyr Armagedon, fydd eisoes wedi profi eu teyrngarwch i deyrnasu Duw, yn cael eu tywys i’r byd newydd. Dyna gyfnod o hanes gwefreiddiol newydd fydd hwnnw wrth i fudd a lles gogoneddus lifo oddi wrth Dduw i’r teulu dynol!

2 Dan gyfarwyddyd Teyrnas Dduw, fe fydd y goroeswyr yn dechrau datblygu paradwys. Fe fyddan nhw’n ymroi o’u hegnïon nhw i weithgareddau anhunanol fydd er lles pawb fydd yn byw y pryd hwnnw. Fe ddechreuir trawsffurfio’r ddaear yn gartref hardd, heddychlon, fydd wrth fodd y ddynoliaeth.

Cyfiawnder Yn Lle Drygioni

3. Pa ryddhad fydd yn cael ei deimlo yn union wedi Armagedon?

3 Fe fydd y cyfan hyn yn cael ei wneud yn bosib drwy ddifa byd Satan. Fydd yna ddim dylanwad rhaniadol gau grefyddau, cyfundrefnau cymdeithasol na llywodraethau mwyach. Fydd yna ddim propaganda satanaidd i dwyllo pobl mwyach; fe fydd yr holl asiantau sy’n ei gynhyrchu yn disgyn gyda chyfundrefn Satan. Meddyliwch am y peth: holl awyrgylch gwenwynig byd Satan wedi’i sgubo ymaith! Dyna ryddhad fydd hynny!

4. Disgrifiwch y newid mewn dysgeidiaeth fydd yn digwydd.

4 Yna fe fydd y ddysgeidiaeth adeiladol sy’n dod oddi wrth Dduw yn cymryd lle syniadau dinistriol rheoli dynol. “A’th adeiladwyr oll wedi eu dysgu gan yr ARGLWYDD.” (Eseia 54:13) Trwy gyfrwng y cyfarwyddyd llesol hwn flwyddyn ar ôl blwyddyn, “fel y lleinw’r dyfroedd y môr i’w ymylon, felly y llenwir y ddaear â gwybodaeth yr ARGLWYDD.” (Eseia 11:9) Fydd pobl ddim yn dysgu’r hyn sy’n ddrwg mwyach, ond, “bydd trigolion byd yn dysgu cyfiawnder.” (Eseia 26:9) Meddyliau a gweithredoedd adeiladol fydd yn nodweddu bywyd bob dydd.—Actau 17:31; Philipiaid 4:8.

5. Beth fydd yn digwydd i bob drygioni ac i bobl ddrwg?

5 Gan hynny, fydd yna ddim rhagor o lofruddio, trais, halogi rhywiol, lladrata, nag unrhyw dorcyfraith arall. Fydd dim rhaid i neb ddioddef oherwydd gweithredoedd drwg neb arall. Fe ddywed Diarhebion 10:30: “Ni symudir y cyfiawn byth, ond nid erys y drygionus ar y ddaear.”

Adfer Iechyd Perffaith

6, 7. (a) Pa realiti creulon fydd brenhiniaeth y Deyrnas yn rhoi terfyn arno? (b) Sut dangosodd Iesu hyn tra’r oedd ef ar y ddaear?

6 Yn y byd newydd, fe fydd yna ddadwneud holl effeithiau hyll y gwrthryfel gwreiddiol. Er enghraifft, fe fydd brenhiniaeth y Deyrnas yn dileu salwch a henaint. Heddiw, hyd yn oed os ydych chi’n mwynhau iechyd cymharol dda, y gwir creulon amdani wrth i chi heneiddio ydy, mae’ch llygaid chi’n pylu, mae eich dannedd chi’n pydru, mae’ch clyw chi’n trymhau, mae’ch croen chi’n crebachu, mae’ch organau mewnol chi’n methu, nes eich bod chi yn y diwedd yn marw.

7 Fodd bynnag, cyn bo hir fe fydd yr effeithiau trallodus hynny y bu inni eu hetifeddu nhw gan ein rhieni cyntaf ni yn rhan o’r gorffennol. Ydych chi’n cofio’r hyn ddangosodd Iesu ynglŷn ag iechyd pan oedd ef ar y ddaear? Mae’r Beibl yn adrodd: “Daeth tyrfaoedd mawr ato yn dwyn gyda hwy y cloff a’r dall, yr anafus a’r mud, a llawer eraill; gosodasant hwy wrth ei draed, ac iachaodd ef hwy, er syndod i’r dyrfa wrth weld y mud yn llefaru, yr anafus yn holliach, y cloff yn cerdded a’r dall yn gweld.”—Mathew 15:30, 31.

8, 9. Disgrifiwch yr hapusrwydd ddaw yn y byd newydd pan adferir iechyd perffaith.

8 Dyna hapusrwydd mawr fydd yn y byd newydd pan ddilëir ein holl adfyd! Fydd y dioddefaint sy’n dod yn sgil afiechyd byth mwy yn ein poenydio ni. “Ni ddywed neb o’r preswylwyr, ‘’Rwy’n glaf.’” “Yna fe agorir llygaid y deillion a chlustiau’r byddariaid; fe lama’r cloff fel hydd, fe gân tafod y mudan.”—Eseia 33:24; 35:5, 6.

9 Oni fydd hi’n wefreiddiol deffro bob bore a sylweddoli’ch bod chi nawr yn mwynhau iechyd egnïol? Oni fydd boddhad i bobl oedrannus o wybod fod llwyr egni ieuenctid wedi’i adfer iddyn nhw ac y cyrhaeddan nhw’r perffeithrwydd a fwynhaodd Adda ac Efa yn wreiddiol? Addewid y Beibl ydy: “Yna bydd ei gnawd yn iachach nag erioed, wedi ei adfer fel yr oedd yn nyddiau ei ieuenctid.” (Job 33:25) Dyna hyfrydwch fydd cael taflu ymaith y sbectolau hynny, y cynorthwyon clywed, y baglau, y cadeiriau olwyn, a moddion! Fydd dim angen ysbytai, meddygon, na deintyddion byth eto.

10. Beth fydd yn digwydd i angau?

10 Fydd pobl sy’n mwynhau’r fath iechyd egnïol ddim eisiau marw. Ac ni fydd rhaid iddyn nhw, oherwydd fydd y ddynoliaeth ddim yng ngafael amherffeithrwydd etifeddol a marwolaeth mwyach. “Rhaid iddo ef [Crist] ddal i deyrnasu nes iddo osod ei holl elynion dan ei draed. Y gelyn olaf a ddilëir yw angau.” “Ond rhoi yn rhad y mae Duw, rhoi bywyd tragwyddol.”—1 Corinthiaid 15:25, 26; Rhufeiniaid 6:23; gweler hefyd Eseia 25:8.

11. Sut mae Datguddiad yn crynhoi budd a lles y byd newydd?

11 Gan grynhoi yr holl fudd a lles fydd yn llifo oddi wrth y Duw llawn gofal i’r teulu dynol ym Mharadwys, fe ddywed llyfr olaf y Beibl: “Fe sych [Duw] bob deigryn o’u llygaid hwy, ac ni bydd marwolaeth mwyach, na galar na llefain na phoen. Y mae’r pethau cyntaf wedi mynd heibio.”—Datguddiad 21:3, 4.

Y Meirw’n Dychwelyd

12. Sut dangosodd Iesu’r grym nerthol roddodd Duw iddo fe i atgyfodi?

12 Gwnaeth Iesu fwy nag iacháu’r cleifion a gwella’r cloffion. Fe ddaeth â phobl yn ôl o’r bedd hefyd. Felly fe ddangosodd y grym nerthol rhyfeddol i atgyfodi roedd Duw wedi’i roi iddo. Ydych chi’n cofio’r achlysur pan ddaeth Iesu i dŷ dyn yr oedd ei ferch wedi marw? Fe ddywedodd Iesu wrth y ferch farw: “Fy ngeneth, ‘rwy’n dweud wrthyt, cod.” Beth oedd y canlyniad? “Cododd yr eneth ar unwaith a dechrau cerdded.” O weld hynny, trawyd y bobl oedd yno “yn y fan â syndod mawr.” Dychmygwch eu gorfoledd nhw!Marc 5:41, 42; gweler hefyd Luc 7:11-16; Ioan 11:1-45.

13. Pa fathau o bobl sy’n mynd i gael eu hatgyfodi?

13 Yn y byd newydd, “bydd atgyfodiad i’r cyfiawn ac i’r anghyfiawn.” (Actau 24:15) Y pryd hwnnw fe fydd Iesu’n defnyddio’i rym nerthol a gafodd gan Dduw i godi’r meirw oherwydd, fel y dywedodd ef, “Myfi yw’r atgyfodiad a’r bywyd. Pwy bynnag sy’n credu ynof fi, er iddo farw, fe fydd byw.” (Ioan 11:25) Fe ddywedodd hefyd: “Bydd pawb sydd yn eu beddau [yng nghof Duw] yn clywed ei lais ef [Iesu] ac yn dod allan.”—Ioan 5:28, 29.

14. Oherwydd na fydd marwolaeth mwyach, pa bethau gaiff eu dileu?

14 Mawr fydd y llawenydd yn fyd eang pan ddaw mintai ar ôl mintai o bobl farw yn ôl yn fyw i ymuno â’u hanwyliaid! Fydd dim colofnau hysbysu marwolaethau mwyach i ddod â thristwch i’r rhai sy’n goroesi. Yn lle hynny, efallai mai’r gwrthwyneb fydd: cyhoeddiadau am rai newydd eu hatgyfodi i ddod â llawenydd i’r rhai oedd yn eu caru nhw. Felly dim rhagor o angladdau, coelcerthi angladdau, amlosgfeydd, na mynwentydd!

Byd Gwirioneddol Heddychlon

15. Sut bydd proffwydoliaeth Micha yn cael ei chyflawni yn yr ystyr lawnaf?

15 Fe ddaw gwir heddwch yn ei lawnder i bob agwedd ar fywyd. Fe fydd rhyfeloedd, y rhai sy’n hyrwyddo rhyfel, a chynhyrchu arfau yn bethau’r gorffennol. Pam? Oherwydd y bydd buddiannau rhaniadol cenedlaethol, llwythol, a hiliol yn diflannu. Yna, yn yr ystyr lawnaf, “Ni chyfyd cenedl gleddyf yn erbyn cenedl, ac ni ddysgant ryfel mwyach.”—Micha 4:3.

16. Sut bydd Duw yn sicrhau y bydd rhyfeloedd yn amhosib?

16 Fe all hyn ymddangos yn syfrdanol yn wyneb hanes gwaedlyd rhyfel cyson dyn. Ond fe ddaeth hynny i fod oherwydd y bu’r ddynoliaeth dan reolaeth dyn a chythraul. Yn y byd newydd, dan frenhiniaeth y Deyrnas, dyma fydd yn digwydd: “Dewch i weld gweithredoedd yr ARGLWYDD, . . . gwna i ryfeloedd beidio trwy’r holl ddaear, dryllia’r bwa, tyr y waywffon, llysg y darian â thân.”—Salm 46:8, 9.

17, 18. Yn y byd newydd, pa berthynas fydd rhwng dyn a’r anifeiliaid?

17 Fe fydd heddwch rhwng dyn ac anifail, fel roedd yn Eden. (Genesis 1:28; 2:19) Mae Duw yn dweud: “Yn y dydd hwnnw gwnaf i ti gyfamod â’r anifeiliaid gwylltion, ac adar yr awyr ac ymlusgiaid y tir; . . . a gwnaf i ti orffwyso mewn diogelwch.”—Hosea 2:18.

18 Pa mor eang fydd yr heddwch hwnnw? “Fe drig y blaidd gyda’r oen, fe orwedd y llewpard gyda’r myn; bydd y llo a’r llew yn cydbori, a bachgen bychan yn eu harwain.” Fydd anifeiliaid byth eto’n fygythiad i ddyn nac iddyn nhw eu hunain. Fe fydd hyd yn oed y “llew yn bwyta gwair fel ych”!—Eseia 11:6-9; 65:25.

Trawsffurfio’r Ddaear Yn Baradwys

19. Pa drawsffurfio fydd yna i’r ddaear?

19 Fe fydd yr holl ddaear yn cael ei thrawsffurfio yn gartref paradwys i’r ddynoliaeth. Dyna pam y medrai Iesu addo i ddyn oedd yn credu ynddo: “Byddi gyda mi ym Mharadwys.” Fe ddywed y Beibl: “Llawenyched yr anial a’r sychdir, gorfoledded y diffeithwch, a blodeuo . . . tyr dyfroedd allan yn yr anialwch, ac afonydd yn y diffeithwch.”—Luc 23:43; Eseia 35:1, 6.

20. Pam na fydd newyn fyth eto’n cystuddio’r ddynoliaeth?

20 Fe fydd Teyrnas Dduw yn sicrhau na fydd newyn byth eto’n cystuddio miliynau. “Bydded digonedd o ŷd yn y wlad, yn tyfu hyd at bennau’r mynyddoedd.” “Bydd coed y maes yn rhoi eu ffrwyth, a’r tir ei gnydau, a bydd y bobl yn ddiogel yn eu gwlad.”—Salm 72:16; Eseciel 34:27.

21. Beth fydd yn digwydd i’r digartref, i slymiau a chymdogaethau drwg?

21 Fydd dim tlodi, pobl digartref, slymiau, na chymdogaethau wedi’u goresgyn gan dorcyfraith mwyach. “Byddant yn adeiladu tai ac yn byw ynddynt, yn plannu gwinllannoedd ac yn bwyta’u ffrwyth; ni fydd neb yn adeiladu i arall gyfanheddu, nac yn plannu ac arall yn bwyta.” “A bydd pob dyn yn eistedd dan ei winwydden a than ei ffigysbren, heb neb i’w ddychryn.”—Eseia 65:21, 22; Micha 4:4.

22. Sut mae’r Beibl yn disgrifio bendithion teyrnasu Duw?

22 Fe fydd bodau dynol yn cael eu bendithio â’r holl bethau hyn, a rhagor, ym Mharadwys. Mae Salm 145:16 yn dweud: “Y mae dy law [Duw] yn agored, ac yr wyt yn diwallu popeth byw.” Does dim rhyfedd fod proffwydoliaeth Feiblaidd yn cyhoeddi: “Bydd y gostyngedig yn meddiannu’r tir ac yn mwynhau heddwch llawn. . . . Y mae’r cyfiawn yn etifeddu’r tir, ac yn cartrefu ynddo am byth.”—Salm 37:11, 29.

Dadwneud y Gorffennol

23. Sut bydd Teyrnas Dduw yn dadwneud yr holl ddioddefaint rydyn ni wedi ei brofi?

23 Fe fydd brenhiniaeth Teyrnas Dduw yn dadwneud yr holl niwed sydd wedi’i wneud i’r teulu dynol dros y chwe mil blwyddyn sydd wedi mynd heibio. Fe fydd gorfoleddu’r cyfnod hwnnw’n gwneud llawer mwy nag iawn am unrhyw ddioddef mae pobl wedi ei brofi. Fydd dim amharu ar fywyd gan unrhyw atgofion drwg am ddioddefaint a fu. Fe fydd meddyliau a gweithgareddau adeiladol fydd yn nodweddu bywyd beunyddiol pobl yn graddol ddileu’r atgofion poenus.

24, 25. (a) Beth ragfynegodd Eseia fyddai’n digwydd? (b) Pam y medrwn ni fod yn sicr y bydd atgofion dioddef y gorffennol yn gwywo?

24 Mae’r Duw llawn gofal yn cyhoeddi: “Yr wyf fi’n creu nefoedd newydd [llywodraeth nefol newydd dros y ddynoliaeth] a daear newydd [cymdeithas ddynol gyfiawn]; ni chofir y pethau gynt na meddwl amdanynt. Byddwch lawen, gorfoleddwch yn ddibaid am fy mod i yn creu.” “Daeth llonyddwch i’r holl ddaear, a thawelwch; ac y maent yn gorfoleddu ar gân.”—Eseia 14:7; 65:17, 18.

25 Felly drwy gyfrwng ei Deyrnas, fe fydd Duw yn llwyr wyrdroi’r sefyllfa ddrwg sydd wedi para mor hir. Drwy gydol tragwyddoldeb fe fydd yn dangos ei ofal mawr amdanon ni drwy dywallt bendithion fydd yn gwneud llawer mwy na thalu iawn am unrhyw loes dderbynson ni yn ein gorffennol. Fe fydd y gofidiau blaenorol brofason ni yn gwywo’n atgof annelwig y pryd hwnnw, a derbyn y byddwn ni’n dymuno’u cofio nhw o gwbl.

26. Pam y bydd Duw yn gwneud iawn â ni am unrhyw ddioddef a fu?

26 Dyna sut bydd Duw yn gwneud iawn â ni am y dioddefaint y gallen ni fod wedi’i ddioddef yn y byd hwn. Fe ŵyr ef nad ein bai ni oedd inni gael ein geni’n amherffaith, gan mai etifeddu amherffeithrwydd wnaethon ni gan ein rhieni cyntaf. Nid ein bai ni oedd inni gael ein geni i fyd satanaidd, oherwydd petai Adda ac Efa wedi bod yn ffyddlon, fe fydden ni yn hytrach wedi cael ein geni mewn paradwys. Felly â thosturi mawr fe fydd Duw yn gwneud mwy nag iawn am y gorffennol drwg orfodwyd arnon ni.

27. Pa broffwydoliaethau fydd yn gweld eu cyflawni gogoneddus nhw yn y byd newydd?

27 Yn y byd newydd, fe fydd y ddynoliaeth yn profi’r rhyddid ragfynegwyd yn Rhufeiniaid 8:21, 22: [Caiff] y “greadigaeth hithau ei rhyddhau o gaethiwed a llygredigaeth, a’i dwyn i ryddid a gogoniant plant Duw. Oherwydd fe wyddom fod yr holl greadigaeth yn ochneidio, ac mewn gwewyr drwyddi, hyd heddiw.” Y pryd hwnnw fe fydd pobl yn gweld cyflawni llwyr ar y weddi: “Deled dy deyrnas; gwneler dy ewyllys, ar y ddaear fel yn y nef.” (Mathew 6:10) Fe fydd yr amodau gogoneddus ar y ddaear Baradwys yn adlewyrchu’r amodau yn y nef.

[Cwestiynau’r Astudiaeth]

[Lluniau ar dudalen 23]

Yn y byd newydd, fe fydd yr hen yn profi adfer egni ieuenctid

[Llun ar dudalen 24]

Fe ddilëir pob salwch ac anabledd yn y byd newydd

[Llun ar dudalen 25]

Yn y byd newydd, fe fydd y meirw yn cael eu hatgyfodi i fywyd

[Llun ar dudalen 26]

‘Ni ddysgant ryfel mwyach’

[Llun ar dudalen 27]

Fe fydd heddwch llawn rhwng dyn ac anifail ym Mharadwys

[Llun ar dudalen 27]

‘Mae llaw Duw yn agored yn diwallu popeth byw’

[Llun ar dudalen 28]

Fe fydd Teyrnas Dduw yn gwneud mwy nag iawn am yr holl ddioddefaint ddaeth i’n rhan ni