Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

PENNOD UN DEG WYTH

A Ddylwn i Ymgysegru i Dduw a Chael Fy Medyddio?

A Ddylwn i Ymgysegru i Dduw a Chael Fy Medyddio?

1. Ar ôl astudio’r llyfr hwn, pa gwestiwn sy’n codi?

DRWY astudio’r Beibl gyda help y llyfr hwn, rydych chi wedi dysgu am y bywyd tragwyddol y mae Duw yn ei addo, am beth sy’n digwydd i’r meirw, ac am yr atgyfodiad. (Pregethwr 9:5; Ioan 5:28, 29; Datguddiad 21:3, 4) Efallai eich bod wedi dechrau mynd i gyfarfodydd Tystion Jehofa ac wedi dod i gredu mai nhw sy’n addoli Duw yn y ffordd gywir. (Ioan 13:35) Efallai eich bod chi wedi closio at Jehofa ac eisiau ei wasanaethu. Naturiol fyddai gofyn, ‘Beth sy’n rhaid imi ei wneud er mwyn gwasanaethu Duw?’

2. Pam roedd dyn o Ethiopia eisiau cael ei fedyddio?

2 Dyna’r cwestiwn a oedd ar feddwl dyn o Ethiopia yn y ganrif gyntaf. Rywbryd ar ôl i Iesu gael ei atgyfodi, clywodd y dyn y newyddion da gan Philip, un o ddisgyblion Iesu. Fe wnaeth Philip brofi iddo mai Iesu oedd y Meseia. Cyffyrddodd hyn â chalon y dyn, a dywedodd yn syth: “Mae dŵr yn y fan yma. Oes yna unrhyw reswm pam ddylwn i ddim cael fy medyddio?”—Actau 8:26-36.

3. (a) Pa orchymyn a roddodd Iesu i’w ddisgyblion? (b) Sut y dylai rhywun gael ei fedyddio?

3 Os dymunwch wasanaethu Jehofa, mae’r Beibl yn dangos yn glir y dylech chi gael eich bedyddio. Dywedodd Iesu wrth ei ddilynwyr: “Ewch i wneud pobl o bob gwlad yn ddisgyblion i mi, a’u bedyddio nhw.” (Mathew 28:19) Gosododd Iesu yr esiampl. Cafodd ef ei fedyddio, nid drwy dywallt ychydig o ddŵr ar ei ben, ond drwy drochiad llwyr. (Mathew 3:16) Heddiw pan gaiff Cristion ei fedyddio, mae’n rhaid iddo gael ei drochi’n llwyr yn y dŵr.

4. Beth mae cael eich bedyddio yn ei ddangos i bobl eraill?

4 Drwy gael eich bedyddio, rydych yn dangos yn gyhoeddus eich bod yn dymuno bod yn ffrind i Dduw a’i wasanaethu. (Salm 40:7, 8) Efallai y byddwch yn gofyn, ‘Beth sydd angen imi ei wneud er mwyn cael fy medyddio?’

GWYBODAETH A FFYDD

5. (a) Beth sy’n rhaid ichi ei wneud cyn ichi gael eich bedyddio? (b) Pam mae cyfarfodydd Cristnogol yn bwysig?

5 Cyn ichi gael eich bedyddio, mae’n rhaid ichi ddod i adnabod Jehofa ac Iesu. Rydych chi eisoes wedi dechrau gwneud hynny drwy astudio’r Beibl. (Darllenwch Ioan 17:3.) Ond mae mwy i’w wneud. Mae’r Beibl yn dweud bod rhaid “tyfu yn eich dealltwriaeth o’r gwirionedd.” (Philipiaid 1:9) Bydd cyfarfodydd Tystion Jehofa yn eich helpu chi i feithrin perthynas agos â Jehofa. Dyna un rheswm pwysig dros fynd i’r cyfarfodydd yn rheolaidd.—Hebreaid 10:24, 25.

Cyn cael eich bedyddio, mae angen astudio’r Beibl

6. Faint sydd angen ichi ei wybod am y Beibl cyn ichi gael eich bedyddio?

6 Wrth gwrs, dydy Jehofa ddim yn disgwyl ichi wybod popeth sydd yn y Beibl cyn ichi gael eich bedyddio. Doedd dim rhaid i’r dyn o Ethiopia wybod popeth cyn iddo ef gael ei fedyddio. (Actau 8:30, 31) Byddwn ni’n dysgu am Jehofa am byth. (Pregethwr 3:11) Ond cyn cael eich bedyddio, mae angen ichi ddeall a derbyn o leiaf ddysgeidiaethau sylfaenol y Beibl.—Hebreaid 5:12.

7. Sut mae astudio’r Beibl wedi eich helpu chi?

7 Mae’r Beibl yn dweud: “Mae’n amhosib plesio Duw heb ffydd.” (Hebreaid 11:6) Felly, mae angen ffydd cyn ichi gael eich bedyddio. Mae’r Beibl yn sôn am bobl yn ninas Corinth a glywodd neges Crist, ac o ganlyniad, daethon nhw “i gredu . . . a chael eu bedyddio.” (Actau 18:8) Yn yr un modd, mae astudio’r Beibl wedi eich helpu chi i roi ffydd yn addewidion Duw, ac yng ngallu aberth Iesu i’n hachub rhag pechod a marwolaeth.—Josua 23:14; Actau 4:12; 2 Timotheus 3:16, 17.

SIARADWCH AM WIRIONEDDAU’R BEIBL

8. Pam byddwch chi’n awyddus i siarad am wirioneddau’r Beibl?

8 Wrth ichi ddysgu mwy am y Beibl, bydd eich ffydd yn cryfhau. Ac o weld sut mae’r Beibl yn eich helpu, byddwch yn awyddus i siarad am wirioneddau’r Beibl. (Jeremeia 20:9; 2 Corinthiaid 4:13) Ond â phwy y gallwch chi siarad?

Dylai ffydd eich ysgogi chi i siarad am eich credoau

9, 10. (a) Â phwy y gallwch chi ddechrau siarad am wirioneddau’r Beibl? (b) Beth ddylech chi ei wneud os dymunwch bregethu gyda’r gynulleidfa?

9 Efallai byddwch yn dymuno siarad ag aelodau teulu, ffrindiau, cymdogion, neu gyd-weithwyr. Peth da yw hynny, ond cofiwch fod yn garedig bob amser. Maes o law, byddwch yn gallu dechrau pregethu gyda’r gynulleidfa. Pan fyddwch yn barod, siaradwch â’r Tyst sy’n astudio’r Beibl gyda chi a dweud y byddech chi’n hoffi cael rhan yn y gwaith pregethu gyda’r gynulleidfa. Os ydy ef neu hi yn meddwl eich bod yn barod, ac os ydych chi’n dilyn safonau’r Beibl yn eich bywyd, gallwch fynd gyda’ch gilydd i gyfarfod dau henuriad o’r gynulleidfa.

10 Beth fydd yn digwydd yn y cyfarfod hwnnw? Bydd yr henuriaid yn siarad â chi i weld a ydych yn deall ac yn credu dysgeidiaethau sylfaenol y Beibl, a ydych yn dilyn y Beibl yn eich bywyd bob dydd, ac a ydych chi wir eisiau bod yn un o Dystion Jehofa. Mae’r henuriaid yn gofalu am bob aelod o’r gynulleidfa. Maen nhw yno i’ch helpu, felly peidiwch ag ofni siarad â nhw. (Actau 20:28; 1 Pedr 5:2, 3) Ar ôl y cyfarfod hwnnw, bydd yr henuriaid yn rhoi gwybod ichi a allwch chi ddechrau pregethu gyda’r gynulleidfa.

11. Pam mae’n bwysig gwneud newidiadau cyn ichi ddechrau pregethu gyda’r gynulleidfa?

11 Efallai bydd yr henuriaid yn dweud bod angen ichi wneud mwy o newidiadau cyn y gallwch bregethu gyda’r gynulleidfa. Pam mae gwneud y newidiadau hynny mor bwysig? Oherwydd pan siaradwn ag eraill am Dduw, rydyn ni’n cynrychioli Jehofa ac felly dylen ni fyw mewn ffordd sy’n dod â chlod iddo ef.—1 Corinthiaid 6:9, 10; Galatiaid 5:19-21.

TROI CEFN AR BECHOD A THROI AT DDUW

12. Pam mae angen i bawb edifarhau?

12 Mae rhywbeth arall y mae’n rhaid ichi ei wneud cyn ichi gael eich bedyddio. Dywedodd yr apostol Pedr: “Felly trowch gefn ar eich pechod, a throi at Dduw, a bydd eich pechodau chi’n cael eu maddau.” (Actau 3:19) Beth mae hyn yn ei olygu? Mae angen inni edifarhau, hynny yw teimlo’n drist iawn am unrhyw ddrwg rydyn ni wedi ei wneud. Er enghraifft, os ydych chi wedi bod yn anfoesol yn rhywiol, mae angen ichi edifarhau. Ond mae angen edifarhau hyd yn oed os ydych chi wedi gwneud eich gorau i fyw bywyd da, oherwydd rydyn ni i gyd yn pechu ac angen gofyn i Dduw am faddeuant.—Rhufeiniaid 3:23; 5:12.

13. Beth mae ‘troi at Dduw’ yn ei olygu?

13 A oes angen gwneud mwy na theimlo’n drist? Oes. Dywedodd Pedr fod angen ichi ‘droi at Dduw.’ Mae hynny’n golygu rhoi’r gorau i ymddygiad drwg a dechrau gwneud yr hyn sy’n iawn. I egluro hyn, dychmygwch eich bod yn gyrru i rywle am y tro cyntaf. Ar ôl sbel, rydych chi’n sylweddoli eich bod chi’n mynd i’r cyfeiriad anghywir. Beth fyddech chi’n ei wneud? Mae’n debyg y byddech chi’n arafu, stopio, troi’r car, a chychwyn i’r cyfeiriad cywir. Yn yr un modd, wrth ichi astudio’r Beibl, efallai y gwelwch fod angen newid rhai pethau yn eich bywyd. Os felly, byddwch yn barod i ‘droi cefn’ arnyn nhw, hynny yw i newid eich ymddygiad a dechrau gwneud yn iawn.

YMGYSEGRU I DDUW

Ydych chi wedi addo i Jehofa y byddwch yn ei wasanaethu?

14. Sut mae rhywun yn ymgysegru i Dduw?

14 Cam pwysig arall cyn ichi gael eich bedyddio yw ymgysegru i Jehofa. Rydych chi’n ymgysegru i Jehofa drwy fynd ato mewn gweddi ac addo ei addoli ef yn unig a rhoi ei ewyllys ef yn gyntaf yn eich bywyd.—Luc 4:8.

15, 16. Beth sy’n ysgogi rhywun i ymgysegru i Dduw?

15 Mae addo gwasanaethu Jehofa yn unig yn debyg i addo treulio gweddill eich bywyd gyda rhywun rydych chi’n ei garu. Dychmygwch fod dyn a dynes yn canlyn. Wrth i’r dyn ddod i adnabod y ddynes yn well, y mae’n dod i’w charu ac eisiau ei phriodi. Er bod hyn yn benderfyniad mawr, mae’n fodlon derbyn y cyfrifoldeb oherwydd ei fod yn ei charu hi gymaint.

16 Wrth ichi ddysgu am Jehofa, rydych chi’n dod i’w garu ac eisiau gwneud eich gorau i’w wasanaethu. Bydd hyn yn eich ysgogi i fynd ato mewn gweddi ac addo ei wasanaethu. Mae’r Beibl yn dweud bod rhaid i’r rhai sydd eisiau dilyn Iesu “stopio rhoi nhw eu hunain yn gyntaf.” (Marc 8:34) Beth mae hynny’n ei feddwl? Mae’n golygu mai ufuddhau i Jehofa fydd y peth pwysicaf yn eich bywyd. Bydd ewyllys Jehofa yn bwysicach na’ch dymuniadau a’ch amcanion personol.—Darllenwch 1 Pedr 4:2.

TRECHU EIN HOFNAU

17. Pam mae rhai pobl yn dal yn ôl rhag ymgysegru i Jehofa?

17 Mae rhai pobl yn dal yn ôl rhag ymgysegru i Jehofa, gan ofni na fyddan nhw’n medru cadw eu haddewid i’w wasanaethu. Mae rhai’n poeni am siomi Jehofa, neu’n meddwl os nad ydyn nhw’n ymgysegru iddo, fydd Jehofa ddim yn eu dal nhw’n gyfrifol am eu gweithredoedd.

18. Beth fydd yn eich helpu chi i drechu unrhyw ofn y byddwch yn siomi Jehofa?

18 Eich cariad at Jehofa fydd yn eich helpu i drechu unrhyw ofn y byddwch yn ei siomi. Oherwydd eich bod yn caru Jehofa, byddwch yn gwneud eich gorau i gadw eich addewid. (Pregethwr 5:4; Colosiaid 1:10) Fyddwch chi ddim yn teimlo bod gwneud ewyllys Jehofa yn rhy anodd. Ysgrifennodd yr apostol Ioan: “Mae caru Duw yn golygu bod yn ufudd iddo, a dydy hynny ddim yn anodd.”—1 Ioan 5:3.

19. Pam na ddylech chi ofni ymgysegru i Jehofa?

19 Nid oes angen ichi fod yn berffaith i ymgysegru i Jehofa. Dydy Jehofa byth yn disgwyl mwy nag y gallwn ei wneud. (Salm 103:14) Fe fydd yn eich helpu chi i wneud yr hyn sy’n iawn. (Eseia 41:10) Ymddiriedwch yn Jehofa â’ch holl galon, a “bydd e’n dangos y ffordd iawn i ti.”—Diarhebion 3:5, 6.

DATGAN EICH FFYDD YN GYHOEDDUS

20. Ar ôl ichi ymgysegru i Dduw, beth yw’r cam nesaf?

20 Ydych chi’n meddwl eich bod chi’n barod i ymgysegru i Jehofa? Ar ôl ichi wneud hynny, fe fyddwch yn barod am y cam nesaf. Mae angen ichi gael eich bedyddio.

21, 22. Sut gallwch chi ddatgan eich ffydd yn gyhoeddus?

21 Rhowch wybod i un o’r henuriaid yn eich cynulleidfa eich bod chi wedi ymgysegru i Jehofa ac yn dymuno cael eich bedyddio. Wedyn, bydd rhai o’r henuriaid yn adolygu dysgeidiaethau sylfaenol y Beibl gyda chi. Os ydyn nhw’n cytuno eich bod chi’n barod, byddan nhw’n dweud y cewch eich bedyddio y tro nesaf y mae Tystion Jehofa yn cynnal cynulliad neu gynhadledd. Yno, fe glywch chi anerchiad sy’n esbonio beth yw ystyr bedydd. Wedyn bydd y siaradwr yn gofyn i’r rhai sydd am gael eu bedyddio ateb dau gwestiwn syml. Drwy ateb y cwestiynau hynny byddwch yn datgan eich ffydd yn gyhoeddus.—Mathew 10:32.

22 Yna fe gewch chi eich bedyddio drwy gael eich trochi’n llwyr yn y dŵr. Mae eich bedydd yn dangos i bawb eich bod wedi ymgysegru i Jehofa a’ch bod chi bellach yn un o Dystion Jehofa.

YSTYR EICH BEDYDD

23. Beth mae cael eich bedyddio yn enw’r Tad a’r Mab a’r ysbryd glân yn ei olygu?

23 Dywedodd Iesu y byddai ei ddisgyblion yn cael eu bedyddio yn enw’r Tad a’r Mab a’r ysbryd glân. (Darllenwch Mathew 28:19, BCND.) Beth mae hynny’n ei olygu? Mae’n golygu eich bod chi’n cydnabod awdurdod Jehofa, rôl Iesu ym mwriad Duw, a’r ffordd mae Jehofa yn defnyddio ei ysbryd glân i gyflawni ei ewyllys.—Salm 83:18; Mathew 28:18; Galatiaid 5:22, 23; 2 Pedr 1:21.

Mae cael eich bedyddio yn dangos eich bod chi eisiau gwneud ewyllys Duw

24, 25. (a) Beth yw ystyr bedydd? (b) Beth fyddwn ni’n ei drafod yn y bennod olaf?

24 Mae bedydd yn symbol o rywbeth hynod o bwysig. Mae mynd o dan y dŵr yn dangos bod eich ffordd o fyw gynt wedi “marw” neu ddod i ben. Pan gewch chi eich codi o’r dŵr, rydych chi’n dechrau bywyd newydd yn gwneud ewyllys Duw. Mae’n dangos y byddwch yn gwasanaethu Jehofa o hynny ymlaen. Cofiwch, nid ydych chi wedi ymgysegru i unrhyw ddyn, cyfundrefn, nac achos. Rydych chi wedi cysegru eich bywyd i Jehofa.

25 Bydd ymgysegru yn eich helpu i feithrin perthynas agos â Duw. (Salm 25:14) Wrth gwrs, nid yw cael eich bedyddio o reidrwydd yn golygu y byddwch yn cael eich achub. Dywedodd Iesu: “Bydd yr un sy’n sefyll yn gadarn i’r diwedd un yn cael ei achub.” (Mathew 24:13) Dechrau yn unig yw bedydd. Ond sut gallwch chi gadw yn agos at Jehofa? Bydd pennod olaf y llyfr hwn yn ateb y cwestiwn hwnnw.