Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

PENNOD UN DEG NAW

Cadwch yn Agos at Jehofa

Cadwch yn Agos at Jehofa

1, 2. Lle gallwn ni gael hafan heddiw?

DYCHMYGWCH eich bod wedi mynd am dro a’r tywydd yn troi’n stormus. Mae’r awyr yn tywyllu, mae ’na fellt a tharanau, ac yna mae’n tywallt y glaw. Rydych chi’n chwilio am rywle i gysgodi. Am deimlad braf yw cael hyd i hafan rhag y storm!

2 Rydyn ni mewn sefyllfa debyg heddiw. Mae’r byd yn mynd o ddrwg i waeth. Efallai rydych chi’n gofyn, ‘Lle galla’ i droi er mwyn teimlo’n ddiogel?’ Ysgrifennodd y salmydd: “ARGLWYDD, rwyt ti’n gaer ddiogel, yn lle hollol saff i mi fynd. Ti ydy fy Nuw i, yr un dw i’n ei drystio.” (Salm 91:2) Mae Jehofa yn cynnig help gyda’n problemau heddiw, a gobaith ar gyfer y dyfodol.

3. Sut gall Jehofa fod yn hafan inni?

3 Sut gall Jehofa fod yn hafan inni? Mae’n gallu ein helpu ni i ymdopi â’n problemau. Y mae’n llawer cryfach nag unrhyw un sy’n ceisio ein niweidio. Hyd yn oed os bydd rhywbeth drwg yn digwydd inni, gallwn fod yn sicr y bydd Jehofa yn medru dad-wneud unrhyw niwed yn y dyfodol. Mae’r Beibl yn ein hannog: “Cadwch eich hunain yng nghariad Duw.” (Jwdas 21, BCND) Mae angen inni aros yn agos at Jehofa er mwyn derbyn ei help yn ystod adegau anodd. Ond sut gallwn ni wneud hynny?

CARU’R DUW SY’N EICH CARU CHI

4, 5. Sut mae Jehofa wedi dangos ei fod yn ein caru?

4 Er mwyn aros yn agos at Jehofa, mae angen inni ddeall cymaint y mae yn ein caru. Meddyliwch am bopeth mae Jehofa wedi ei wneud droston ni. Y mae wedi rhoi inni’r ddaear a’i llenwi â phob math o blanhigion ac anifeiliaid diddorol. Y mae wedi rhoi inni fwyd blasus a dŵr glan. Yn y Beibl, mae Jehofa wedi datgelu ei enw a’i rinweddau rhagorol. Yn bennaf oll, dangosodd ei fod yn ein caru drwy anfon ei Fab annwyl Iesu i’r ddaear i roi ei fywyd droston ni. (Ioan 3:16) Oherwydd yr aberth hwnnw, mae gobaith hyfryd ar gyfer y dyfodol.

5 Mae Jehofa wedi sefydlu llywodraeth nefol, y Deyrnas Feseianaidd, a fydd yn fuan yn rhoi terfyn ar holl ddioddefaint y byd. Bydd y Deyrnas yn troi’r ddaear yn baradwys, lle bydd pawb yn byw mewn heddwch a hapusrwydd am byth. (Salm 37:29) Ffordd arall mae Jehofa wedi dangos ei gariad yw drwy ein dysgu ni i fyw yn y ffordd orau bosib. Y mae’n ein hannog ni i weddïo arno, ac y mae bob amser yn barod i wrando ar ein gweddïau. Mae Jehofa wedi dangos yn glir ei fod yn caru pob un ohonon ni.

6. Sut dylech chi ymateb i gariad Jehofa?

6 Sut dylech chi ymateb i gariad Jehofa? Dangoswch eich bod yn ddiolchgar am bopeth y mae wedi ei wneud. Heddiw, mae llawer o bobl yn anniolchgar. Roedd pobl yr un fath pan oedd Iesu ar y ddaear. Un tro, iachaodd Iesu ddeg dyn oedd yn dioddef o’r gwahanglwyf, ond dim ond un a ddiolchodd iddo. (Luc 17:12-17) Rydyn ni eisiau bod fel y dyn hwnnw. Rydyn ni eisiau bod yn ddiolchgar i Jehofa bob amser.

7. Ym mha ffordd dylen ni garu Jehofa?

7 Mae angen hefyd inni ddangos ein cariad tuag at Jehofa. Dywedodd Iesu wrth ei ddisgyblion fod rhaid iddyn nhw garu Jehofa â’u holl galon, eu holl enaid, a’u holl feddwl. (Darllenwch Mathew 22:37.) Beth mae hynny’n ei olygu?

8, 9. Sut gallwn ni ddangos i Jehofa ein bod ni yn ei garu?

8 A yw dweud ein bod ni’n caru Jehofa yn ddigon? Nac ydy. Os ydyn ni’n caru Jehofa â’n holl galon, enaid, a meddwl, byddwn ni’n dangos hynny drwy ein gweithredoedd. (Mathew 7:16-20) Mae’r Beibl yn dweud yn glir: “Mae caru Duw yn golygu bod yn ufudd iddo, a dydy hynny ddim yn anodd.”—Darllenwch 1 Ioan 5:3.

9 Drwy ufuddhau i Jehofa, cawn fywyd hapus ac ystyrlon. (Eseia 48:17, 18) Ond beth fydd yn ein helpu ni i gadw’n agos at Jehofa? Dewch inni weld.

DALIWCH ATI I GLOSIO AT JEHOFA

10. Pam dylech chi barhau i ddysgu am Jehofa?

10 Sut daethoch chi i fod yn ffrind i Jehofa? Drwy astudio’r Beibl, daethoch i’w adnabod yn well ac fe dyfodd eich perthynas ag ef. Mae’r cyfeillgarwch hwn yn debyg i dân. I gadw tân yn fyw mae angen tanwydd, ac mae angen ichi barhau i ddysgu am Jehofa i gadw eich perthynas yn gryf.—Diarhebion 2:1-5.

Mae eich cariad at Jehofa yn debyg i dân sydd angen tanwydd i’w gadw’n fyw

11. Sut bydd dysgeidiaethau’r Beibl yn gwneud ichi deimlo?

11 Wrth ichi barhau i astudio’r Beibl, byddwch yn dysgu pethau a fydd yn cyffwrdd â’ch calon. Sylwch ar deimladau dau o ddisgyblion Iesu wrth iddo esbonio proffwydoliaethau’r Beibl iddyn nhw. Dywedon nhw: “Roedden ni’n teimlo rhyw wefr, fel petai’n calonnau ni ar dân, wrth iddo siarad â ni ar y ffordd ac esbonio beth mae’r ysgrifau sanctaidd yn ei ddweud!”—Luc 24:32.

12, 13. (a) Beth all ddigwydd i’n cariad tuag at Dduw? (b) Sut gallwn ni gadw ein cariad at Jehofa yn fyw?

12 Efallai eich bod wedi profi’r un wefr â’r disgyblion hynny pan ddechreuoch chi ddeall y Beibl. Roedd hyn yn eich helpu chi i adnabod Jehofa a dod i’w garu. Fyddwch chi byth eisiau i’r cariad hwnnw oeri.—Mathew 24:12.

13 Ar ôl dod yn ffrind i Dduw, mae angen gweithio’n galed i gadw eich perthynas yn gryf. Mae’n rhaid ichi ddal ati i ddysgu am Dduw ac am Iesu, ac i feddwl am ddysgeidiaethau’r Beibl a’u rhoi ar waith. (Ioan 17:3) Bob tro rydych chi’n darllen neu astudio’r Beibl, gofynnwch: ‘Beth rydw i’n ei ddysgu am Jehofa o’r adnodau hyn? Pam dylwn i ei garu â’m holl galon a’m holl enaid?’—1 Timotheus 4:15.

14. Sut mae gweddïo yn ein helpu ni i gadw ein cariad tuag at Jehofa yn gryf?

14 Mae ffrindiau da yn siarad yn rheolaidd ac mae hyn yn cadw eu perthynas yn gryf. Yn yr un modd, mae siarad â Jehofa yn rheolaidd mewn gweddi yn cadw ein cariad tuag ato’n gryf. (Darllenwch 1 Thesaloniaid 5:17.) Mae gweddi yn rhodd hynod o werthfawr oddi wrth ein Tad nefol. Dylen ni siarad ag ef o’r galon. (Salm 62:8) Ddylen ni ddim ailadrodd geiriau oddi ar ein cof, ond dylen ni fod o ddifri yn ein gweddïau. Os ydyn ni’n parhau i astudio’r Beibl ac i weddïo o’r galon, byddwn yn llwyddo i gadw ein cariad tuag at Jehofa yn gryf.

SIARAD AG ERAILL AM JEHOFA

15, 16. Sut rydych chi’n teimlo am y gwaith pregethu?

15 Os ydyn ni eisiau aros yn agos at Jehofa, mae angen inni siarad am ein ffydd. Mae siarad ag eraill am Jehofa yn fraint aruthrol. Ac mae’n gyfrifoldeb a roddodd Iesu i bob gwir Gristion. Dyletswydd ar bob un ohonon ni yw cyhoeddi’r newyddion da. A ydych chi eisoes yn gwneud hyn?—Mathew 24:14; 28:19, 20.

16 I’r apostol Paul, “trysor” oedd y gwaith pregethu. (2 Corinthiaid 4:7) Dweud wrth eraill am Jehofa a’i fwriadau yw’r gwaith pwysicaf y gallwch ei wneud. Mae’n rhan o’ch gwasanaeth i Jehofa, ac y mae’n gwerthfawrogi eich ymdrechion. (Hebreaid 6:10) Drwy bregethu, byddwch yn closio at Jehofa ac yn helpu eraill i wneud yr un fath, ac mae hyn yn arwain at fywyd tragwyddol. (Darllenwch 1 Corinthiaid 15:58.) Pa waith arall sy’n well na hynny?

17. Pam mae’r gwaith pregethu’n fater o frys?

17 Mae’r gwaith pregethu yn fater o frys. Dylen ni “gyhoeddi neges Duw,” a “dal ati i wneud hynny.” (2 Timotheus 4:2) Mae angen i bobl glywed am Deyrnas Dduw. Mae’r Beibl yn dweud: “Mae dydd barn yr ARGLWYDD yn agos; y dydd mawr—bydd yma’n fuan!” Mae’r diwedd yn “siŵr o ddod ar yr amser iawn.” (Seffaneia 1:14; Habacuc 2:3) Yn fuan iawn, bydd Jehofa yn dinistrio byd drwg Satan. Cyn i hynny ddigwydd, mae angen rhybuddio pobl fel eu bod nhw’n gallu dewis gwasanaethu Jehofa.

18. Pam dylen ni addoli Jehofa yng nghwmni gwir Gristnogion?

18 Mae Jehofa yn dymuno inni ei addoli yng nghwmni gwir Gristnogion. Mae’r Beibl yn dweud: “Gadewch i ni feddwl am ffyrdd i annog ein gilydd i ddangos cariad a gwneud daioni. Mae’n bwysig ein bod yn dal ati i gyfarfod â’n gilydd. Mae rhai pobl wedi stopio gwneud hynny. Dylen ni annog a rhybuddio’n gilydd drwy’r adeg; yn arbennig am fod Iesu’n dod yn ôl i farnu yn fuan.” (Hebreaid 10:24, 25) Dylen ni wneud ein gorau i fynd i bob cyfarfod. Mae’r cyfarfodydd yn gyfle i galonogi ac i gryfhau ein gilydd.

19. Beth all ein helpu ni i garu ein brodyr a chwiorydd Cristnogol?

19 Yn y cyfarfodydd, byddwch yn gwneud ffrindiau da a fydd yn eich helpu chi i addoli Jehofa. Byddwch yn cyfarfod amrywiaeth o frodyr a chwiorydd, sydd fel y chi, yn gwneud eu gorau i addoli Jehofa. Fel y chi, maen nhw’n amherffaith ac yn gwneud camgymeriadau. Pan fydd hynny’n digwydd, byddwch yn barod i faddau. (Darllenwch Colosiaid 3:13.) Canolbwyntiwch ar rinweddau eich brodyr a chwiorydd Cristnogol. Bydd hynny’n eich helpu chi i’w caru nhw ac i glosio’n fwy byth at Jehofa.

Y BYWYD GO IAWN

20, 21. Beth yw’r ‘bywyd go iawn’?

20 Mae Jehofa eisiau i’w ffrindiau gael y bywyd gorau posib. Mae’r Beibl yn dangos y bydd bywyd yn y dyfodol yn hollol wahanol i fywyd heddiw.

Mae Jehofa eisiau ichi gael ‘y bywyd go iawn.’ Hoffech chi ei gael?

21 Yn y dyfodol, byddwn yn byw, nid am ryw 70 neu 80 o flynyddoedd, ond am byth. Byddwn yn mwynhau “bywyd tragwyddol,” iechyd perffaith, heddwch, a hapusrwydd yn y baradwys. Dyma beth mae’r Beibl yn ei alw’n “fywyd go iawn.” Mae Jehofa yn addo’r bywyd hwn inni, ond mae’n rhaid inni ymdrechu i “gael gafael” ynddo.—1 Timotheus 6:12, 19.

22. (a) Sut gallwn ni “gael gafael yn y bywyd sydd yn fywyd go iawn”? (b) Pam na allwn ni ennill bywyd tragwyddol drwy ein gweithredoedd da?

22 Sut gallwn ni “gael gafael yn y bywyd sydd yn fywyd go iawn”? Mae’n rhaid inni “wneud daioni” a bod “yn gyfoethog mewn gweithredoedd da.” (1 Timotheus 6:18) Mae hyn yn golygu rhoi dysgeidiaeth y Beibl ar waith. Sut bynnag, nid gweithredoedd da sy’n ennill bywyd tragwyddol inni. Mae’n rhodd hael gan Jehofa, un nad oes modd inni ei haeddu. (Effesiaid 2:8) Mae ein Tad nefol yn awyddus i roi bywyd tragwyddol i’w weision ffyddlon.

23. Pam mae’n bwysig ichi ddewis yn iawn nawr?

23 Dyma gwestiwn ichi ei ystyried: ‘A ydw i’n addoli Duw mewn ffordd sy’n ei blesio?’ Os gwelwch fod angen gwneud newidiadau, dylech chi wneud hynny heb oedi. Os ydyn ni’n dibynnu ar Jehofa a gwneud popeth a allwn i ufuddhau iddo, bydd Jehofa yn hafan inni. Bydd yn cadw ei bobl ffyddlon yn ddiogel drwy ddyddiau olaf byd drwg Satan. Yna bydd Jehofa yn cadw ei addewid a sicrhau ein bod ni’n byw yn y Baradwys am byth. Os dewiswch yn iawn nawr, fe gewch chi y bywyd go iawn!