Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

PENNOD UN DEG TRI

Parchu Rhodd Bywyd

Parchu Rhodd Bywyd

1. Pwy a roddodd fywyd inni?

JEHOFA yw “y Duw byw.” (Jeremeia 10:10) Ef yw’r Creawdwr, yr un sydd wedi rhoi bywyd inni. Mae’r Beibl yn dweud: “Ti greodd bob peth, ac mae popeth wedi eu creu yn bodoli am mai dyna oeddet ti eisiau.” (Datguddiad 4:11) Roedd Jehofa eisiau inni gael bywyd. Mae bywyd yn rhodd werthfawr ganddo.—Darllenwch Salm 36:9.

2. Sut gallwn ni gael bywyd hapus?

2 Mae Jehofa yn rhoi inni fwyd a dŵr a phopeth sydd ei angen i gynnal ein bywydau. (Actau 17:28) Ond yn fwy na hynny, mae Jehofa eisiau inni fwynhau bywyd. (Actau 14:15-17) I gael bywyd hapus, mae’n rhaid inni ufuddhau i’w orchmynion.—Eseia 48:17, 18.

SAFBWYNT DUW TUAG AT FYWYD

3. Beth a wnaeth Jehofa pan laddodd Cain Abel?

3 Mae’r Beibl yn dysgu bod pob un bywyd yn werthfawr i Jehofa. Er enghraifft, pan oedd Cain, mab Adda ac Efa, yn flin â’i frawd Abel, rhybuddiodd Jehofa fod angen i Cain reoli ei dymer. Ond ni wrandawodd Cain. Aeth mor ddig nes iddo “ymosod ar ei frawd Abel a’i ladd.” (Genesis 4:3-8) Cafodd Cain ei gosbi am lofruddio Abel. (Genesis 4:9-13) Mae dicter a chasineb yn beryglus oherwydd maen nhw’n gallu gwneud inni droi’n dreisgar neu’n greulon. Ni all pobl fel hynny gael bywyd tragwyddol. (Darllenwch 1 Ioan 3:15.) Er mwyn plesio Jehofa, mae’n rhaid inni ddysgu i garu pobl eraill.—1 Ioan 3:11, 12.

4. Beth rydyn ni’n ei ddysgu am rodd bywyd o’r Deg Gorchymyn?

4 Filoedd o flynyddoedd yn ddiweddarach, dangosodd Jehofa fod bywyd yn werthfawr pan roddodd y Deg Gorchymyn i Moses. Un o’r gorchmynion hynny yw: “Paid llofruddio.” (Deuteronomium 5:17) Petai rhywun yn lladd rhywun arall yn fwriadol, fe fyddai’r llofrudd yn cael ei ladd.

5. Sut mae Duw yn teimlo am erthylu?

5 Sut mae Duw’n teimlo am erthylu? Yng ngolwg Jehofa, mae lladd plentyn heb ei eni yn ddrwg. Mae hyd yn oed bywyd plentyn yn y groth yn werthfawr i Jehofa. (Salm 127:3; darllenwch Jeremeia 1:5.) Mae hyn yn dangos bod erthylu yn ddrwg.—Gweler Ôl-nodyn 28.

6, 7. Sut rydyn ni’n dangos i Jehofa fod bywyd yn werthfawr inni?

6 Sut gallwn ni ddangos i Jehofa ein bod ni’n gweld bywyd yn werthfawr? Drwy beidio â gwneud dim a fyddai’n peryglu naill ai ein bywyd ni neu fywydau pobl eraill. Felly, ni fyddwn yn defnyddio tybaco neu gamddefnyddio cyffuriau, oherwydd maen nhw’n niweidio’r corff ac yn gallu bod yn farwol.

7 Duw a roddodd inni ein bywyd a’n corff, a dylen ni eu defnyddio fel y mae Duw yn dymuno. Felly, mae angen inni ofalu am ein cyrff. Os nad ydyn ni’n gwneud hynny, byddwn yn aflan yng ngolwg Duw. (Rhufeiniaid 6:19; 12:1; 2 Corinthiaid 7:1) Ni allwn addoli Jehofa, a roddodd fywyd inni, os nad ydyn ni’n gweld bywyd yn werthfawr. Gall fod yn anodd iawn rhoi’r gorau i arferion drwg. Ond, os ydyn ni’n ystyried bywyd yn werthfawr, bydd Jehofa yn bendithio ein hymdrechion.

8. Sut gallwn ni sicrhau nad ydyn ni’n peryglu ein bywydau ein hunain na bywydau pobl eraill?

8 Rydyn ni wedi dysgu bod bywyd yn rhodd werthfawr. Mae Jehofa yn ymddiried ynon ni i wneud ein gorau i beidio byth â pheryglu ein bywydau ein hunain na bywydau pobl eraill. Rydyn ni’n gwneud hyn drwy’r ffordd rydyn ni’n gyrru ein ceir, ein beiciau modur, neu unrhyw gerbyd arall. Rydyn ni’n osgoi chwaraeon peryglus neu dreisgar. (Salm 11:5) Byddwn ni’n gwneud ein gorau i sicrhau bod ein cartrefi yn ddiogel. Gorchmynnodd Jehofa i’r Israeliaid: “Wrth adeiladu tŷ newydd, rhaid i ti adeiladu wal isel o gwmpas y to. Wedyn os bydd rhywun yn syrthio oddi ar y to, nid dy fai di fydd e.”—Deuteronomium 22:8.

9. Sut dylen ni ofalu am anifeiliaid?

9 Mae hyd yn oed y ffordd rydyn ni’n gofalu am anifeiliaid yn bwysig i Jehofa. Mae Duw yn caniatáu inni ladd anifeiliaid er mwyn cael bwyd a dillad, ac i amddiffyn ein bywydau. (Genesis 3:21; 9:3; Exodus 21:28) Ond ni ddylen ni fod yn greulon i anifeiliaid neu eu lladd dim ond o ran sbort.—Diarhebion 12:10.

MAE BYWYD YN SANCTAIDD

10. Sut rydyn ni’n gwybod bod gwaed yn cynrychioli bywyd?

10 Mae gwaed yn sanctaidd i Jehofa oherwydd y mae’n cynrychioli bywyd. Ar ôl i Cain lofruddio Abel, dywedodd Jehofa: “Mae gwaed dy frawd yn gweiddi arna i o’r pridd.” (Genesis 4:10) Roedd gwaed Abel yn cynrychioli ei fywyd, ac fe gosbodd Jehofa Cain am ladd Abel. Ar ôl y Dilyw, dangosodd Jehofa eto fod gwaed yn cynrychioli bywyd. Rhoddodd Jehofa ganiatâd i Noa a’i deulu fwyta cig. Dywedodd: “Bellach cewch fwyta unrhyw greadur byw, nid dim ond planhigion fel o’r blaen.” Ond roedd un peth y gorchmynnodd Jehofa iddyn nhw beidio â’i fwyta: “Rhaid i chi beidio bwyta cig sydd â bywyd yn dal ynddo (sef y gwaed).”—Genesis 1:29; 9:3, 4.

11. Pa orchymyn ynglŷn â gwaed a roddodd Duw i Israel?

11 Tua 800 mlynedd ar ôl dweud wrth Noa am beidio â bwyta gwaed, gorchmynnodd Jehofa eto: “Os ydy unrhyw un o bobl Israel, neu unrhyw un arall sy’n byw gyda nhw, yn dal anifail neu aderyn sy’n iawn i’w fwyta, rhaid gadael i’r gwaed redeg allan ohono, ac wedyn gorchuddio’r gwaed hwnnw gyda phridd.” Yna dywedodd nad oedd “neb i fwyta cig unrhyw anifail gyda’r gwaed yn dal ynddo.” (Lefiticus 17:13, 14) Roedd Jehofa yn dal yn dymuno i’w bobl ystyried gwaed yn rhywbeth sanctaidd. Roedden nhw’n cael bwyta cig ond nid gwaed. Ar ôl lladd anifail i’w fwyta, roedd yn rhaid iddyn nhw dywallt y gwaed ar y ddaear.

12. Beth yw agwedd Cristnogion tuag at waed?

12 Rai blynyddoedd ar ôl i Iesu farw, cododd cwestiwn ynglŷn â pha rannau o Gyfraith yr Israeliaid roedd yn rhaid i Gristnogion eu dilyn. Daeth yr apostolion a henuriaid y gynulleidfa Gristnogol yn Jerwsalem at ei gilydd er mwyn dod i benderfyniad. (Darllenwch Actau 15:28, 29; 21:25.) Fe wnaeth Jehofa eu helpu i ddeall bod gwaed yn dal yn werthfawr ganddo a bod angen iddyn nhw ddal i’w ystyried yn sanctaidd. Nid oedd y Cristnogion cynnar yn cael bwyta nac yfed gwaed na bwyta cig oedd heb ei waedu’n iawn. Byddai gwneud hynny yr un mor ddrwg ag addoli eilunod neu fod yn anfoesol yn rhywiol. Ers hynny, mae gwir Gristnogion wedi gwrthod bwyta neu yfed gwaed. Beth am heddiw? Mae Jehofa yn dal yn dymuno inni ystyried gwaed yn sanctaidd.

13. Pam nad yw Cristnogion yn derbyn trallwysiadau gwaed?

13 A yw hyn yn golygu y dylai Cristnogion wrthod trallwysiadau gwaed hefyd? Ydy. Mae Jehofa wedi gorchymyn inni beidio â bwyta nac yfed gwaed. Petai meddyg yn dweud wrthych chi am beidio ag yfed alcohol, a fyddech yn ei roi i mewn i’ch corff drwy nodwydd? Wrth gwrs, na fyddech! Yn yr un modd, mae’r gorchymyn i beidio â bwyta nac yfed gwaed yn golygu na fyddwn ni’n derbyn trallwysiadau gwaed.—Gweler Ôl-nodyn 29.

14, 15. Pa mor bwysig yw i Gristion barchu bywyd ac ufuddhau i Jehofa?

14 Ond beth petai meddyg yn dweud y byddwn ni’n marw os nad ydyn ni’n derbyn trallwysiad gwaed? Penderfyniad personol yw ufuddhau i gyfraith Duw ynglŷn â gwaed neu beidio. Mae Cristnogion yn parchu bywyd yn rhodd gan Dduw. Chwiliwn am driniaethau meddygol eraill er mwyn aros yn fyw, ond ni fyddwn yn derbyn trallwysiadau gwaed.

15 Gwnawn ymdrech i aros yn iach, ond gan fod gwaed yn cynrychioli bywyd ac felly yn sanctaidd i Dduw, fyddwn ni ddim yn derbyn trallwysiad gwaed. Mae ufuddhau i Jehofa yn bwysicach na cheisio ymestyn bywyd drwy anufuddhau iddo. Dywedodd Iesu: “Bydd y rhai sy’n ceisio achub eu hunain yn colli’r bywyd go iawn, ond bydd y rhai hynny sy’n barod i ollwng gafael yn eu bywydau er fy mwyn i, yn dod o hyd i fywyd go iawn.” (Mathew 16:25) Rydyn ni eisiau ufuddhau i Jehofa oherwydd ein bod ni’n ei garu. Mae Jehofa yn gwybod beth sydd er ein lles, ac fel Jehofa, rydyn ni’n gweld bywyd yn werthfawr ac yn sanctaidd.—Hebreaid 11:6.

16. Pam mae gweision Duw yn ufudd iddo?

16 Mae gweision ffyddlon Duw yn benderfynol o ufuddhau i’w gyfraith ynglŷn â gwaed. Ni wnân nhw fwyta nac yfed gwaed, ac ni wnân nhw dderbyn gwaed am resymau meddygol. * Sut bynnag, fe wnân nhw dderbyn triniaethau eraill er mwyn achub eu bywydau. Maen nhw’n sicr fod yr Un a greodd bywyd a gwaed yn gwybod beth sydd er eu lles. Ydych chi’n credu bod Jehofa yn gwybod beth sydd orau i chi?

YR UNIG DDEFNYDD O WAED ROEDD DUW YN EI GANIATÁU

17. Beth oedd yr unig ddefnydd o waed roedd Jehofa yn ei ganiatáu?

17 Yn y gyfraith a roddodd Duw i’r Israeliaid, soniodd Jehofa am faddeuant gan ddweud: “Mae bywyd yr anifail yn y gwaed. Dw i wedi ei roi i’w aberthu ar yr allor yn eich lle chi. Y bywyd yn y gwaed sy’n gwneud pethau’n iawn rhyngoch chi a Duw.” (Lefiticus 17:11) Pan oedd yr Israeliaid yn pechu, roedden nhw’n gallu gofyn am faddeuant drwy aberthu anifail a gofyn i’r offeiriaid dywallt peth o’r gwaed ar yr allor yn y deml. Dyna’r unig ddefnydd o waed yr oedd Jehofa yn ei ganiatáu.

18. Beth sydd ar gael inni oherwydd aberth Iesu?

18 Ar ôl i Iesu farw, nid oedd angen aberthu anifeiliaid oherwydd rhoddodd Iesu ei fywyd, neu ei waed, er mwyn inni gael maddau ein pechodau. (Mathew 20:28; Hebreaid 10:1) Roedd bywyd Iesu mor werthfawr nes bod Jehofa, ar sail yr aberth hwnnw, yn gallu rhoi’r cyfle i fodau dynol fyw am byth.—Ioan 3:16; Hebreaid 9:11, 12; 1 Pedr 1:18, 19.

Sut gallwch chi ddangos parch tuag at fywyd a gwaed?

19. Sut gallwn ni fod yn lân oddi wrth waed pobl eraill?

19 Mor ddiolchgar ydyn ni i Jehofa am rodd bywyd! Rydyn ni eisiau dweud wrth bawb eu bod nhw’n gallu byw am byth drwy roi eu ffydd yn Iesu. Oherwydd ein bod ni’n caru pobl, rydyn ni’n gwneud popeth a allwn i’w helpu i gael bywyd tragwyddol. (Eseciel 3:17-21) Yna, byddwn ni’n lân oddi wrth waed pawb, ac yn gallu dweud fel yr apostol Paul: “Dw i wedi dweud popeth sydd ei angen am y ffordd mae Duw’n achub, a beth mae’n ei ddisgwyl gynnon ni.” (Actau 20:26, 27) Rydyn ni’n dangos ein parch tuag at fywyd a gwaed drwy ddweud wrth eraill am Jehofa ac am ba mor werthfawr yw bywyd iddo ef.

^ Par. 16 Am fwy o wybodaeth ynglŷn â thrallwysiadau gwaed, gweler tudalennau 77-79 yn y llyfr “Cadwch Eich Hunain yng Nghariad Duw,” a gyhoeddir gan Dystion Jehofa.