Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

PENNOD UN DEG SAITH

Y Fraint o Weddïo

Y Fraint o Weddïo

Mae’r un “wnaeth greu y nefoedd a’r ddaear” yn awyddus i glywed ein gweddïau.—Salm 115:15

1, 2. Pam rydych chi’n meddwl bod gweddi yn rhodd arbennig, a pham mae angen inni wybod beth mae’r Beibl yn ei ddweud am weddïo?

O’I CHYMHARU â’r bydysawd, mae’r ddaear yn fach iawn. Yn wir, i Jehofa mae holl genhedloedd y byd yn debyg i ddiferyn o ddŵr mewn bwced. (Salm 115:15; Eseia 40:15) Er mor fach ydyn ni o’n cymharu â’r bydysawd, mae Salm 145:18, 19 yn dweud: “Mae’r ARGLWYDD yn agos at y rhai sy’n galw arno; at bawb sy’n ddidwyll pan maen nhw’n galw arno. Mae’n rhoi eu dymuniad i’r rhai sy’n ei barchu; mae’n eu clywed nhw’n galw, ac yn eu hachub.” Meddyliwch am hynny! Mae Jehofa, y Creawdwr hollalluog, yn dymuno bod yn agos aton ni, a gwrando ar ein gweddïau. Heb os, mae gweddi yn fraint ac yn rhodd arbennig oddi wrth Jehofa.

2 Ond os ydyn ni am i Jehofa wrando arnon ni, mae’n rhaid inni siarad ag ef yn y ffordd iawn. Sut gallwn ni wneud hynny? Dewch inni weld beth mae’r Beibl yn ei ddweud am weddïo.

PAM DYLEN NI WEDDÏO AR JEHOFA?

3. Pam dylech chi weddïo ar Jehofa?

3 Mae Jehofa yn dymuno ichi weddïo arno. Sut rydyn ni’n gwybod? Wel, darllenwch Philipiaid 4:6, 7. Meddyliwch am y gwahoddiad caredig hwnnw. Mae Creawdwr y bydysawd â diddordeb mawr ynoch chi ac yn gofyn ichi siarad ag ef am eich teimladau a’ch problemau.

4. Sut mae gweddïo’n rheolaidd ar Jehofa yn cryfhau ein perthynas ag ef?

4 Mae gweddi yn ein helpu ni i glosio at Jehofa. Pan fydd ffrindiau yn siarad â’i gilydd yn rheolaidd ac yn sôn am eu meddyliau, eu pryderon, a’u teimladau, mae’r cyfeillgarwch rhyngddyn nhw’n tyfu. Mae gweddïo ar Jehofa yr un fath. Yn y Beibl, mae Jehofa yn datgelu ei feddyliau a’i deimladau ichi, ac mae’n sôn am y pethau y mae’n mynd i’w gwneud yn y dyfodol. Cewch rannu hyd yn oed eich teimladau dwysaf drwy siarad ag ef yn rheolaidd. Wrth wneud hyn bydd eich perthynas â Jehofa yn cryfhau.—Iago 4:8.

BETH SYDD EI ANGEN ER MWYN I DDUW WRANDO AR EIN GWEDDÏAU?

5. Sut rydyn ni’n gwybod nad ydy Jehofa yn gwrando ar bob gweddi?

5 Ydy Jehofa yn gwrando ar bob gweddi? Nac ydy. Drwy’r proffwyd Eseia, dywedodd Jehofa wrth yr Israeliaid: “Gallwch chi weddïo faint fynnoch chi, ond fydda i ddim yn gwrando. Mae gwaed ar eich dwylo chi!” (Eseia 1:15) Felly os nad ydyn ni’n ofalus, fe allwn ni wneud pethau y mae Jehofa yn eu casáu, a gwneud iddo anwybyddu ein gweddïau.

6. Pam mae ffydd mor bwysig? Sut mae dangos eich ffydd?

6 Os ydyn ni am i Jehofa wrando ar ein gweddïau, mae angen ffydd. (Marc 11:24) Esboniodd yr apostol Paul: “Mae’n amhosib plesio Duw heb ffydd. Mae’n rhaid i’r rhai sydd am fynd ato gredu ei fod yn bodoli, a’i fod yn gwobrwyo pawb sy’n ei geisio o ddifri.” (Hebreaid 11:6) Ond nid yw’n ddigon i ddweud ein bod ni’n credu. Mae angen dangos ein ffydd drwy ufuddhau i Jehofa bob dydd.—Darllenwch Iago 2:26.

7. (a) Pam dylen ni fod yn ostyngedig ac yn barchus wrth weddïo ar Jehofa? (b) Sut gallwn ni ddangos ein bod ni’n ddiffuant yn ein gweddïau?

7 Dylen ni fod yn ostyngedig ac yn barchus yn ein gweddïau. Pam? Wel, petaen ni’n siarad â brenin neu brif weinidog, fe fydden ni’n siarad yn barchus. Jehofa yw’r Duw Hollalluog, felly oni ddylen ni fod yn fwy parchus byth wrth siarad ag ef? (Genesis 17:1; Salm 138:6) Dylen ni hefyd fod yn ddiffuant a gweddïo ar Jehofa o’r galon, yn hytrach nag ailadrodd yr un geiriau drosodd a throsodd.—Mathew 6:7, 8.

8. Yn ogystal â gweddïo, beth arall y mae’n rhaid inni ei wneud?

8 Yn olaf, dylen ni weithredu yn unol â’n gweddïau. Er enghraifft, os ydyn ni’n gweddïo am ein hanghenion dyddiol, allwn ni ddim eistedd yn ôl wedyn a disgwyl i Jehofa roi popeth inni ar blât. Mae’n rhaid inni weithio’n galed a derbyn unrhyw waith y gallwn ei wneud. (Mathew 6:11; 2 Thesaloniaid 3:10) Neu os ydyn ni’n gweddïo ar Jehofa am help i beidio â gwneud rhywbeth drwg, mae’n rhaid inni osgoi unrhyw sefyllfa a all fod yn demtasiwn inni. (Colosiaid 3:5) Edrychwn ni nesaf ar rai cwestiynau cyffredin am weddi.

CWESTIYNAU CYFFREDIN AM WEDDI

9. Ar bwy dylen ni weddïo? Beth rydyn ni’n ei ddysgu am weddi yn Ioan 14:6?

9 Ar bwy dylen ni weddïo? Dysgodd Iesu i’w ddilynwyr weddïo ar “ein Tad sydd yn y nefoedd.” (Mathew 6:9) Dywedodd hefyd: “Myfi yw’r ffordd a’r gwirionedd a’r bywyd. Nid yw neb yn dod at y Tad ond trwof fi.” (Ioan 14:6, BCND) Felly dylen ni weddïo ar Jehofa yn unig, a hynny drwy Iesu. Beth mae’n ei olygu i weddïo drwy Iesu? Er mwyn i Jehofa wrando ar ein gweddïau, mae’n rhaid inni barchu’r rôl arbennig y mae Jehofa wedi ei rhoi i Iesu. Fel y dysgon ni, daeth Iesu i’r ddaear i’n hachub rhag pechod a marwolaeth. (Ioan 3:16; Rhufeiniaid 5:12) Mae Jehofa hefyd wedi penodi Iesu yn Archoffeiriad ac yn Farnwr.—Ioan 5:22; Hebreaid 6:20, BCND.

Gallwch weddïo unrhyw bryd

10. Oes angen mynd ar ein gliniau neu roi ein dwylo at ei gilydd wrth weddïo? Esboniwch.

10 Oes angen mynd ar ein gliniau neu roi ein dwylo at ei gilydd wrth weddïo? Nac oes, nid yw Jehofa yn mynnu ein bod ni’n penlinio, eistedd, neu’n sefyll wrth weddïo. Yn ôl y Beibl, gallwn weddïo ar Jehofa mewn unrhyw ffordd barchus. (1 Cronicl 17:16; Nehemeia 8:6; Daniel 6:10; Marc 11:25, BCND) Yr hyn sy’n bwysig i Jehofa yw, nid y ffordd rydyn ni’n dal y corff, ond ein hagwedd. Yn uchel neu’n ddistaw, gallwn weddïo yn unrhyw le ac ar unrhyw adeg, ddydd a nos. Pan weddïwn ar Jehofa, gallwn fod yn sicr ei fod yn ein clywed, hyd yn oed pan na fydd neb arall yn ein clywed.—Nehemeia 2:1-6.

11. Beth yw rhai o’r pethau y gallwn siarad â Jehofa yn eu cylch?

11 Beth gallwn ni weddïo amdano? Gallwn weddïo am unrhyw beth sy’n dderbyniol gan Jehofa. Mae’r Beibl yn dweud: “Mae e’n gwrando arnon ni os byddwn ni’n gofyn am unrhyw beth sy’n gyson â’i fwriad e.” (1 Ioan 5:14) A gawn ni weddïo am faterion personol? Wrth gwrs. Mae siarad â Jehofa yn debyg i siarad â ffrind agos. Cawn sôn wrth Jehofa am unrhyw beth sydd ar ein meddyliau neu yn ein calonnau. (Salm 62:8) Gallwn ofyn am iddo roi inni ei ysbryd glân i’n cryfhau ni i wneud y peth iawn. (Luc 11:13) Gallwn ofyn i Jehofa am ddoethineb i wneud penderfyniadau da, ac am nerth i ymdopi ag anawsterau. (Iago 1:5) Dylen ni ofyn i Jehofa faddau ein pechodau. (Effesiaid 1:3, 7) Dylen ni weddïo dros bobl eraill hefyd, gan gynnwys aelodau teulu a’n brodyr a’n chwiorydd yn y gynulleidfa.—Actau 12:5; Colosiaid 4: 12.

12. Beth ddylai fod y peth pwysicaf yn ein gweddïau?

12 Beth ddylai fod y peth pwysicaf yn ein gweddïau? Jehofa a’i ewyllys. Dylen ni ddiolch iddo o waelod calon am bopeth y mae wedi ei wneud droson ni. (1 Cronicl 29:10-13) Rydyn ni’n gwybod hyn oherwydd pan oedd Iesu ar y ddaear, fe ddysgodd ei ddisgyblion sut i weddïo. (Darllenwch Mathew 6:9-13, BCND.) Dywedodd y dylen nhw weddïo yn gyntaf am i enw Duw gael ei drin yn sanctaidd neu’n gysegredig. Yna dangosodd Iesu y dylen ni weddïo am i Deyrnas Dduw ddod, ac am i ewyllys Jehofa gael ei wneud trwy’r byd. Dim ond ar ôl inni weddïo am y pethau pwysig hyn y dylen ni weddïo am ein hanghenion personol ni. Wrth roi Jehofa a’i ewyllys yn gyntaf yn ein gweddïau, rydyn ni’n dangos beth sydd bwysicaf inni.

13. Pa mor hir dylai gweddi fod?

13 Pa mor hir dylai gweddi fod? Nid yw’r Beibl yn dweud. Mae gweddi yn gallu bod yn hir neu’n fyr, yn ôl y gofyn. Er enghraifft, gallwn gynnig gweddi fer cyn bwyta ond gweddi hirach wrth ddiolch i Jehofa neu sôn wrtho am ein pryderon. (1 Samuel 1:12, 15) Fyddwn ni ddim yn dweud gweddïau hir i wneud argraff ar bobl eraill, fel roedd rhai yn ei wneud yn amser Iesu. (Luc 20:46, 47) Nid yw gweddïau o’r fath yn gwneud argraff ar Jehofa. Yr hyn sy’n bwysig i Jehofa yw ein bod ni’n gweddïo o’r galon.

14. Pa mor aml dylen ni weddïo, a beth mae hyn yn ei ddweud wrthon ni am Jehofa?

14 Pa mor aml dylen ni weddïo? Mae Jehofa yn ein gwahodd ni i siarad ag ef yn rheolaidd. Mae’r Beibl yn dweud: “Daliwch ati i weddïo” a “gweddïwch bob amser.” Mae hefyd yn sôn am ‘weddïo ddydd a nos.’ (Rhufeiniaid 12:12; Effesiaid 6:18; 1 Timotheus 5:5) Mae Jehofa bob amser yn barod i wrando arnon ni. Gallwn ddiolch iddo bob dydd am ei gariad a’i haelioni. Gallwn ofyn am ei gyngor, ei nerth, a’i gysur. Os ydyn ni’n gweld gweddi yn fraint, byddwn yn manteisio ar bob cyfle i siarad ag ef.

15. Pam dylen ni ddweud “amen” ar ddiwedd gweddi?

15 Pam dylen ni ddweud “amen” ar ddiwedd gweddi? Ystyr y gair “amen” yw “yn wir” neu “bydded felly.” Mae’n cadarnhau ein bod ni o ddifri ac yn ddiffuant yn ein gweddi. (Salm 41:13) Mae’r Beibl yn dangos hefyd mai peth da yw dweud “amen” ar ddiwedd gweddi gyhoeddus, naill ai’n ddistaw neu’n uchel, i ddangos ein bod yn cytuno â’r hyn a ddywedwyd.—1 Cronicl 16:36; 1 Corinthiaid 14:16.

SUT MAE DUW YN ATEB EIN GWEDDIAU?

16. Ydy Jehofa yn ateb ein gweddïau? Esboniwch.

16 Ydy Jehofa yn ateb ein gweddïau? Ydy wir! Mae’r Beibl yn ei ddisgrifio fel un “sy’n gwrando gweddïau.” (Salm 65:2) Mae Jehofa yn clywed ac yn ateb gweddïau miliynau o bobl ddiffuant, a hynny mewn llawer o ffyrdd gwahanol.

17. Sut mae Jehofa yn defnyddio ei angylion a’i weision ar y ddaear i ateb ein gweddïau?

17 Mae Jehofa yn defnyddio ei angylion a’i weision ar y ddaear i ateb ein gweddïau. (Hebreaid 1:13, 14) Mae llawer o bobl wedi gweddïo am help i ddeall y Beibl ac yn fuan wedyn mae un o Dystion Jehofa wedi cysylltu â nhw. Mae’r Beibl yn dangos bod gan yr angylion ran bwysig yn y gwaith o gyhoeddi neges y Deyrnas ym mhob cwr o’r byd. (Darllenwch Datguddiad 14:6.) Hefyd, mae llawer ohonon ni wedi gweddïo ar Jehofa am ryw broblem benodol, ac yna wedi cael help gan un o’n brodyr neu chwiorydd Cristnogol.—Diarhebion 12:25; Iago 2:16.

Mae Jehofa yn gallu ateb ein gweddïau drwy ddefnyddio Cristnogion eraill i’n helpu

18. Sut mae Jehofa yn defnyddio ei ysbryd glân a’r Beibl i ateb ein gweddïau?

18 Mae Jehofa yn defnyddio ei ysbryd glân i ateb ein gweddïau. Pan weddïwn am help i ymdopi â phroblem, gall Jehofa ddefnyddio ei ysbryd glân i’n harwain ac i roi nerth inni. (2 Corinthiaid 4:7) Mae Jehofa hefyd yn defnyddio’r Beibl i ateb ein gweddïau, ac i’n helpu ni i benderfynu’n gall. Wrth ddarllen y Beibl efallai byddwn ni’n dod ar draws adnodau a fydd yn ein helpu ni. Yn y cyfarfodydd, gall Jehofa ysgogi rhywun i ddweud rhywbeth y mae angen inni ei glywed, neu fe all ysgogi henuriad i dynnu ein sylw at bwynt perthnasol yn y Beibl.—Galatiaid 6:1.

19. Pam gallwn ni deimlo nad yw Jehofa wedi ateb ein gweddïau?

19 Ond, efallai ar adegau, byddwn ni’n gofyn: ‘Pam nad yw Jehofa wedi ateb fy ngweddi?’ Cofiwch, mae Jehofa yn gwybod pryd a sut i ateb ein gweddïau. Mae’n gwybod beth sydd ei angen arnon ni. Drwy ddal ati i weddïo rydyn ni’n dangos ein bod ni o ddifri a bod ein ffydd yn gadarn. (Luc 11:5-10) Weithiau mae Jehofa yn ateb ein gweddïau mewn ffordd annisgwyl. Er enghraifft, fe allwn ni weddïo ynglŷn â rhyw sefyllfa anodd, ond yn hytrach na chael gwared ar y broblem, fe all Jehofa roi inni’r nerth i ymdopi.—Darllenwch Eseia 40:29.

20. Pam dylen ni weddïo’n aml ar Jehofa?

20 Mae gweddïo ar Jehofa yn fraint anhygoel. Gallwn ni fod yn sicr ei fod yn gwrando arnon ni. (Salm 145:18) Po amlaf y gweddïwn ar Jehofa o’n calonnau, cryfaf oll fydd ein perthynas ag ef.