Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

PENNOD UN DEG NAW

Arhoswch yng Nghariad Duw

Arhoswch yng Nghariad Duw
  • Beth mae caru Duw yn ei olygu?

  • Sut gallwn ni aros yng nghariad Duw?

  • Sut bydd Jehofa yn gwobrwyo’r rhai sy’n aros yn ei gariad?

Yn ystod y dyddiau stormus hyn, a fydd Jehofa yn noddfa ichi?

1, 2. Lle gallwn ni ddod o hyd i loches ddiogel heddiw?

DYCHMYGWCH eich bod yn cerdded ar hyd y ffordd ar ddiwrnod stormus. Mae’r awyr yn tywyllu. Mae yna fellt a tharanau ac wedyn mae’n tywallt y glaw. Rydych chi’n cyflymu eich camau gan edrych am gysgod. Wrth ymyl y ffordd rydych chi’n gweld lloches. Mae’n sych ac yn glyd. Mor braf yw mynd i mewn i le diogel!

2 Rydyn ni’n byw mewn amserau stormus. Mae cyflwr y byd yn mynd o ddrwg i waeth. Ond y mae lloches i’w chael lle rydyn ni’n medru bod yn ddiogel rhag unrhyw niwed parhaol. Pa loches yw hon? Sylwch ar beth mae’r Beibl yn ei ddysgu: “Y mae’r sawl sy’n byw yn lloches y Goruchaf, ac yn aros yng nghysgod yr Hollalluog, yn dweud wrth yr ARGLWYDD, ‘Fy noddfa a’m caer, fy Nuw, yr un yr ymddiriedaf ynddo.’”—⁠Salm 91:1, 2.

3. Sut gall Jehofa fod yn noddfa inni?

3 Meddyliwch am hynny! Mae Jehofa, Creawdwr a Phenarglwydd y bydysawd yn gallu bod yn noddfa ac yn gaer i’n hamddiffyn. Y mae’n medru ein cadw ni’n saff, oherwydd ei fod yn llawer cryfach nac unrhyw un neu unrhyw beth a all wneud drwg inni. Hyd yn oed os ydyn ni’n cael niwed, mae Jehofa yn medru dad-wneud unrhyw effeithiau drwg. Sut gall Jehofa fod yn noddfa inni? Mae’n rhaid inni ymddiried ynddo. Ar ben hynny, mae Gair Duw yn ein hannog ni: “Cadwch eich hunain yng nghariad Duw.” (Jwdas 21) Ie, mae angen aros yng nghariad Duw, gan gadw perthynas glòs â’n Tad nefol. Wedyn gallwn ni fod yn hyderus y bydd ef yn noddfa inni. Ond sut mae creu perthynas agos fel hyn?

ADNABOD CARIAD DUW AC YMATEB IDDO

4, 5. Beth yw rhai esiamplau o gariad Jehofa tuag aton ni?

4 Er mwyn aros yng nghariad Duw mae angen deall sut mae Jehofa wedi dangos ei gariad tuag aton ni. Meddyliwch am rai o’r pethau rydych chi wedi eu dysgu o’r Beibl gyda chymorth y llyfr hwn. Fel y Creawdwr, mae Jehofa wedi rhoi’r ddaear yn gartref hyfryd inni. Y mae wedi ei llenwi â digonedd o fwyd a dŵr, adnoddau naturiol, anifeiliaid hynod o ddiddorol, a golygfeydd hardd. Fel Awdur y Beibl, mae Duw wedi datgelu ei enw a’i briodoleddau inni. Ymhellach, mae ei Air yn esbonio ei fod wedi anfon ei Fab annwyl i’r ddaear a chaniatáu i Iesu ddioddef a marw droston ni. (Ioan 3:16) A beth mae’r rhodd honno yn ei olygu i ni? Mae’n cynnig inni’r gobaith am ddyfodol bendigedig.

5 Mae ein gobaith ar gyfer y dyfodol yn dibynnu hefyd ar rywbeth arall y mae Duw wedi ei wneud. Mae Jehofa wedi sefydlu llywodraeth nefol, y Deyrnas Feseianaidd. Yn fuan, bydd y Deyrnas honno yn rhoi diwedd ar bob dioddef a throi’r ddaear yn baradwys. Meddyliwch am y peth! Byddwn yn gallu byw ar y ddaear mewn hedd a hapusrwydd am byth. (Salm 37:29) Yn y cyfamser, mae Duw wedi rhoi cyngor inni ar sut i fyw yn y ffordd orau posibl nawr. Mae hefyd wedi rhoi gweddi yn rhodd inni fel llinell gyswllt agored y gallwn ei ddefnyddio ar unrhyw adeg. Ychydig esiamplau yn unig yw’r rhain o gariad Jehofa at ddynolryw yn gyffredinol ac atoch chi fel unigolyn.

6. Sut gallech chi ymateb i’r cariad y mae Jehofa wedi ei ddangos atoch chi?

6 Y cwestiwn hollbwysig ichi ei ystyried yw: Sut byddaf yn ymateb i gariad Jehofa? Bydd llawer yn ateb drwy ddweud, “Wel, rhaid i minnau garu Jehofa.” Ai dyna sut rydych chi’n teimlo? Dywedodd Iesu mai hwn yw’r gorchymyn mwyaf oll: “Câr yr Arglwydd dy Dduw â’th holl galon ac â’th holl enaid ac â’th holl feddwl.” (Mathew 22:37) Yn sicr, mae gennych chi lu o resymau dros garu Jehofa. Ond ydy teimlo bod gennych gariad o’r fath yn ddigon i garu Jehofa â’ch holl galon, â’ch holl enaid, ac â’ch holl feddwl?

7. Oes mwy i garu Duw na theimlo emosiwn yn unig? Eglurwch.

7 Yn y Beibl, mae cariad at Dduw yn golygu llawer mwy na theimlo emosiwn. Wrth gwrs, mae’r teimlad o gariad at Jehofa yn hanfodol, ond dechrau yn unig ar gariad go iawn yw hynny. Mae hedyn afal yn hanfodol ar gyfer datblygu coeden afal sy’n dwyn ffrwyth. Ond petaech chi eisiau afal, a fyddech chi’n hapus petai rhywun yn rhoi hedyn afal ichi? Go brin! Yn yr un modd, dechreuad yn unig yw teimlo cariad tuag at Jehofa Dduw. Mae’r Beibl yn dysgu: “Dyma yw caru Duw: bod inni gadw ei orchmynion. Ac nid yw ei orchmynion ef yn feichus.” (1 Ioan 5:3) I fod yn ddiffuant, rhaid i gariad at Dduw ddwyn ffrwyth da. Mae’n rhaid iddo gael ei fynegi mewn gweithredoedd.—⁠Darllenwch Mathew 7:16-20.

8, 9. Sut gallwn ni fynegi ein cariad tuag at Dduw a dangos ein bod yn ddiolchgar iddo?

8 Rydyn ni’n dangos ein bod ni’n caru Duw drwy gadw ei orchmynion a rhoi ei egwyddorion ar waith. Dydy gwneud hynny ddim yn rhy anodd. Ymhell o fod yn feichus, y mae deddfau Jehofa yn ein helpu ni i fyw bywyd braf, hapus, a llesol. (Eseia 48:17, 18) Trwy fyw yn unol â chyngor Jehofa, rydyn ni’n dangos i’n Tad nefol ein bod ni’n gwerthfawrogi popeth y mae wedi ei wneud droston ni. Gwaetha’r modd, ychydig iawn yn y byd sydd ohoni sy’n dangos y fath werthfawrogiad. Dydyn ni ddim eisiau bod yn anniolchgar, fel rhai oedd yn byw pan oedd Iesu ar y ddaear. Iachaodd Iesu ddeg o wahangleifion, ond un yn unig a ddaeth yn ôl i ddiolch iddo. (Luc 17:12-17) Yn sicr, rydyn ni eisiau bod fel yr un diolchgar hwnnw, yn hytrach na’r naw anniolchgar!

9 Beth, felly, yw gorchmynion Jehofa sydd rhaid inni eu cadw? Rydyn ni wedi trafod sawl un yn y llyfr hwn, ond gadewch inni nawr adolygu un neu ddau ohonyn nhw. Bydd cadw gorchmynion Duw yn ein helpu ni i aros yng nghariad Duw.

DOD YN AGOSACH FYTH AT JEHOFA

10. Esboniwch pam mae’n bwysig i barhau i ddysgu am Jehofa Dduw.

10 I ddod yn nes at Jehofa mae dysgu amdano yn gam hollbwysig. Proses yw hon na ddylai byth ddod i ben. Petaech chi allan yn yr awyr agored ar noson oer iawn yn eich twymo eich hun wrth y tân, a fyddech chi’n gadael i’r fflamau wanhau ac yna ddiffodd yn llwyr? Na fyddech. Byddech yn rhoi tanwydd arno i’w gadw’n wenfflam. Gall eich bywyd fod yn y fantol! Fel y mae tanwydd yn bwydo tân, felly y mae “gwybodaeth o Dduw” yn cadw ein cariad at Jehofa yn gryf.—⁠Diarhebion 2:1-5.

Mae eich cariad tuag at Jehofa fel tân sydd angen tanwydd er mwyn iddo barhau i losgi

11. Beth oedd effaith dysgu Iesu ar ei ddilynwyr?

11 Roedd Iesu eisiau i’w ddilynwyr gadw eu cariad tuag at Jehofa a’i Air gwerthfawr yn fyw ac yn danbaid. Ar ôl ei atgyfodiad, roedd Iesu yn esbonio i ddau o’i ddisgyblion ystyr rhai proffwydoliaethau’r Ysgrythurau Hebraeg a gafodd eu cyflawni ynddo ef. Beth oedd yr effaith? Yn nes ymlaen, dywedon nhw: “Onid oedd ein calonnau ar dân ynom wrth iddo siarad â ni ar y ffordd, pan oedd yn egluro’r Ysgrythurau inni?”—⁠Luc 24:32.

12, 13. (a) Ymhlith y rhan fwyaf o bobl heddiw, beth sydd wedi digwydd i gariad at Dduw ac at y Beibl? (b) Sut gallwn ni sicrhau na fydd ein cariad ni yn oeri?

12 Pan ddaethoch chi i ddeall yr hyn mae’r Beibl yn ei wir ddysgu am y tro cyntaf, onid oedd llawenydd, sêl, a chariad at Dduw yn llosgi fel tân yn eich calon? Digon tebyg. Mae llawer wedi teimlo’r un fath. Yr her nawr yw cadw a meithrin y cariad dwys hwnnw. Dydyn ni ddim eisiau mynd i’r un cyfeiriad â’r byd. Rhagfynegodd Iesu: “Bydd cariad llawer iawn yn oeri.” (Mathew 24:12) Sut gallwch chi gadw eich cariad at Jehofa ac at wirioneddau’r Beibl rhag oeri?

13 Daliwch ati i ddysgu am Jehofa Dduw a Iesu Grist. (Ioan 17:3) Myfyriwch, neu meddyliwch yn ddwfn, ar beth rydych chi yn ei ddysgu yng Ngair Duw, gan ofyn: ‘Beth mae hyn yn fy nysgu am Jehofa Dduw? Sut mae hyn yn rhoi rhesymau eraill dros garu Jehofa â’m holl galon, â’m holl feddwl, ac â’m holl enaid?’ (Darllenwch 1 Timotheus 4:15.) Bydd myfyrio fel hyn yn cadw eich cariad tuag at Jehofa yn llosgi’n gryf.

14. Sut gall gweddïo ein helpu ni i gadw ein cariad tuag at Jehofa yn fyw?

14 Ffordd arall o gadw eich cariad tuag Jehofa yn fyw yw gweddïo’n rheolaidd. (1 Thesaloniaid 5:17) Ym Mhennod 17 o’r llyfr hwn, dysgon ni fod gweddi’n rhodd werthfawr oddi wrth Dduw. Cyfathrebu da yw cyfrinach perthynas lwyddiannus. Yn yr un modd, mae gweddïo’n rheolaidd ar Jehofa yn cadw ein perthynas ag ef yn fyw ac yn gynnes. Pwysig iawn yw peidio â gadael i’n gweddïau fynd yn fecanyddol—⁠patrwm o eiriau rydyn ni yn eu hailadrodd drosodd a throsodd heb unrhyw ystyr na theimlad. Mae angen inni siarad â Jehofa fel y mae plentyn yn siarad â’i dad annwyl. Wrth gwrs, mae’n bwysig inni siarad â pharch ond, bob amser, yn agored, yn onest, ac o’r galon. (Salm 62:8) Yn wir, mae astudiaeth bersonol o’r Beibl ynghyd â gweddïau taer yn agweddau hanfodol ar ein haddoli, ac maen nhw yn ein helpu ni i aros yng nghariad Duw.

LLAWENHAU WRTH ADDOLI

15, 16. Pam dylen ni edrych ar y gwaith o bregethu’r Deyrnas fel braint a thrysor?

15 Gall astudio’r Beibl a gweddïo fod yn rhan o’n haddoli preifat. Ond, nawr, gadewch inni ystyried agwedd fwy cyhoeddus ar ein haddoli, sef siarad ag eraill am ein credoau. Ydych chi eisoes wedi siarad ag eraill am ddysgeidiaeth y Beibl? Os felly, rydych chi wedi profi’r fraint o wasanaethu Duw yn ddi-ofn. (Luc 1:74) Wrth inni siarad ag eraill am y gwirioneddau rydyn ni wedi eu dysgu am Jehofa Dduw, rydyn ni’n ymgymryd â’r gwaith pwysig iawn a roddir i bob gwir Gristion, hynny yw, y comisiwn i bregethu newyddion da’r Deyrnas.—⁠Darllenwch Mathew 24:14; 28:19, 20.

16 I’r apostol Paul, trysor gwerthfawr oedd ei weinidogaeth. (2 Corinthiaid 4:7) Does dim gwaith gwell na siarad ag eraill am Jehofa Dduw a’i fwriadau. Byddwch yn gwasanaethu’r Meistr gorau, a chael y bendithion gorau posibl. Trwy ymgymryd â’r weinidogaeth hon, rydych chi’n helpu pobl ddiffuant i ddod yn nes at ein Tad nefol ac i gychwyn ar y ffordd i fywyd tragwyddol! Pa waith arall sydd mor werth chweil? Ar ben hynny, mae tystiolaethu am Jehofa a’i Air yn cynyddu eich ffydd ac yn cryfhau eich cariad tuag ato. Ac mae Jehofa yn gwerthfawrogi eich ymdrechion. (Hebreaid 6:10) Mae cadw’n brysur yn y gwaith hwn yn eich helpu i aros yng nghariad Duw.—⁠Darllenwch 1 Corinthiaid 15:58.

17. Pam mae’r weinidogaeth Gristnogol yn fater o frys heddiw?

17 Pwysig yw cofio bod y gwaith o bregethu’r Deyrnas yn fater o frys. Dywed y Beibl: “Pregetha’r gair; bydd yn barod bob amser.” (2 Timotheus 4:2) Pam mae hyn yn fater o frys heddiw? Mae Gair Duw yn dweud: “Y mae dydd mawr yr ARGLWYDD yn agos, yn agos ac yn dod yn gyflym.” (Seffaneia 1:14) Yn wir, mae’r amser yn prysur ddod pan fydd Jehofa yn rhoi terfyn ar yr holl drefn bresennol. Mae’n rhaid rhybuddio pobl! Mae’n rhaid iddyn nhw wybod mai nawr yw’r amser i ddewis Jehofa yn Benarglwydd. Fe ddaw’r diwedd ‘heb oedi a heb fethu.’—⁠Habacuc 2:3.

18. Pam dylen ni addoli Jehofa yn gyhoeddus yng nghwmni gwir Gristnogion eraill?

18 Mae Jehofa eisiau inni ei addoli’n gyhoeddus gyda gwir Gristnogion eraill. Dyna pam y mae ei Air yn dweud: “Gadewch inni ystyried sut y gallwn ennyn yn ein gilydd gariad a gweithredoedd da, heb gefnu ar ein cydgynulliad ein hunain, yn ôl arfer rhai, ond annog ein gilydd, ac yn fwy felly yn gymaint â’ch bod yn gweld y Dydd yn dod yn agos.” (Hebreaid 10:24, 25) Pan ydyn ni’n dod at ein gilydd yn y cyfarfodydd Cristnogol, mae gennyn ni gyfle gwych i foli ac i addoli ein Duw annwyl. Hefyd, rydyn ni’n cryfhau ac yn calonogi ein gilydd.

19. Sut gallwn ni dynhau’r cwlwm cariad yn y gynulleidfa Gristnogol?

19 Wrth gymdeithasu ag eraill sy’n addoli Jehofa, rydyn ni’n tynhau cwlwm cariad a chyfeillgarwch yn y gynulleidfa. Pwysig yw edrych bob amser am y daioni ym mhobl eraill, fel y mae Jehofa yn edrych am y daioni ynon ni. Peidiwch â disgwyl i’ch cyd-addolwyr fod yn berffaith. Cofiwch fod pob un yn tyfu’n ysbrydol ar raddfa wahanol a bod pawb yn gwneud camgymeriadau. (Darllenwch Colosiaid 3:13.) Ceisiwch ddod yn ffrindiau agos i’r rhai sy’n caru Jehofa yn ddwfn, a byddwch yn tyfu’n ysbrydol. Yn wir, bydd addoli Jehofa yng nghwmni eich brodyr a’ch chwiorydd ysbrydol yn eich helpu i aros yng nghariad Duw. Sut mae Jehofa yn gwobrwyo’r rhai sy’n aros yn ei gariad drwy ei addoli’n ffyddlon?

YMESTYN AT “Y BYWYD SYDD YN FYWYD YN WIR”

20, 21. Beth yw’r “bywyd sydd yn fywyd yn wir,” a pham mae hyn yn obaith bendigedig?

20 Mae Jehofa yn rhoi bywyd yn wobr i’w weision ffyddlon, ond pa fath o fywyd? Wel, allwch chi ddweud o ddifrif eich bod chi’n byw nawr? Byddai’r rhan fwyaf o bobl yn ateb: “Wrth gwrs fy mod i, rwy’n anadlu, yn bwyta ac yn yfed. Mae’n amlwg fy mod i’n byw.” Ac efallai ar adegau hapus iawn, byddan nhw’n dweud, “Wel, dyma’r bywyd go iawn,” Fodd bynnag, mae’r Beibl yn dangos nad yw neb heddiw yn byw’r bywyd go iawn, yng ngwir ystyr y gair.

Mae Jehofa eisiau ichi gael “y bywyd sydd yn fywyd yn wir.” A fyddech chi yno i’w gael?

21 Mae gair Duw yn ein hannog ni “i feddiannu’r bywyd sydd yn fywyd yn wir.” (1 Timotheus 6:19) Mae’r geiriau hynny yn dangos bod ‘gwir fywyd’ yn rhywbeth allwn ni ei gael yn y dyfodol. Yn wir, pan fyddwn ni’n berffaith, byddwn ni’n fyw yn ystyr lawnach y gair, oherwydd y byddwn ni’n byw bywyd fel yr oedd Duw yn ei fwriadu. Pan fyddwn ni’n byw mewn paradwys ar y ddaear, yn iach, yn heddychlon, ac yn hapus, dyna fydd “y bywyd sydd yn fywyd yn wir”—⁠bywyd tragwyddol. (1 Timotheus 6:12) Dyna ichi obaith bendigedig!

22. Sut gallwn ni “feddiannu’r bywyd sydd yn fywyd yn wir”?

22 Sut gallwn ni “feddiannu’r bywyd sydd yn fywyd yn wir”? Yn yr un cyd-destun, fe wnaeth yr apostol Paul annog Cristnogion “i wneud daioni” ac “i fod yn gyfoethog mewn gweithredoedd da.” (1 Timotheus 6:18) Yn amlwg, felly, mae llawer yn dibynnu ar y ffordd rydyn ni’n rhoi gwirioneddau’r Beibl ar waith. Ond, a oedd Paul yn dweud ein bod ni’n gallu ennill ‘y gwir fywyd’ drwy ein gweithredoedd da? Nac oedd, oherwydd bod gobaith o’r fath yn dibynnu ar “helaethrwydd gras Duw.” (Rhufeiniaid 5:15) Fodd bynnag, mae Jehofa wrth ei fodd yn gwobrwyo’r rhai sydd yn ei wasanaethu’n ffyddlon. Y mae eisiau ichi gael ‘y gwir fywyd.’ Mae bywyd tragwyddol, heddychlon, a hapus yn disgwyl pawb sy’n aros yng nghariad Duw.

23. Pam mae’n hanfodol inni aros yng nghariad Duw?

23 Dylai pob un ohonon ni ofyn, ‘A ydw i’n addoli Duw yn y modd y mae wedi ei amlinellu yn y Beibl?’ Os medrwn ni ateb y cwestiwn hwnnw’n gadarnhaol bob dydd, rydyn ni ar y llwybr iawn. Gallwn ni fod yn hyderus y bydd Jehofa yn noddfa inni. Bydd yn cadw ei bobl ffyddlon yn ddiogel drwy ddyddiau enbyd olaf yr hen drefn hon. Bydd Jehofa hefyd yn ein tywys ni’n ddiogel i mewn i’r drefn ogoneddus newydd sydd ar fin dod. Dyna ichi amser cyffrous i edrych ymlaen ato! A byddwn yn falch iawn ein bod ni wedi gwneud y dewisiadau iawn yn ystod y dyddiau diwethaf hyn! Os gwnewch chi’r dewisiadau iawn nawr, byddwch yn mwynhau’r “bywyd sydd yn fywyd yn wir,” fel yr oedd Jehofa Dduw yn ei fwriadu, a hynny am byth!