Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ATODIAD

A Ddylen Ni Ddathlu Gwyliau?

A Ddylen Ni Ddathlu Gwyliau?

NID yw’r gwyliau crefyddol a seciwlar sy’n cael eu dathlu mewn llawer o wledydd heddiw yn tarddu o’r Beibl. Beth, felly, yw gwreiddiau’r dathliadau hyn? Os edrychwch chi mewn gwyddoniaduron yn y llyfrgell, byddwch yn gweld sylwadau diddorol ar wyliau poblogaidd eich ardal. Ystyriwch rai enghreifftiau.

Y Pasg. Y mae sôn yn y Beibl am y Pasg Iddewig, ond wrth gyfeirio at y Pasg a ddatblygodd yn ŵyl grefyddol yn y Gwledydd Cred, dywed The Encyclopædia Britannica: “Nid oes unrhyw awgrym o ddathlu gŵyl y Pasg yn y Testament Newydd.” Sut dechreuodd arferion poblogaidd Pasg y Gwledydd Cred felly? Mae eu gwreiddiau’n ddwfn mewn addoliad paganaidd. Er enghraifft, ynglŷn â “chwningen y Pasg,” dywed The Catholic Encyclopedia: “Symbol paganaidd yw’r gwningen a fu’n arwydd o ffrwythlondeb erioed.”

Dathliadau’r Flwyddyn Newydd. Mae’r dyddiad a’r arferion a gysylltir â dathlu’r Flwyddyn Newydd yn amrywio o wlad i wlad. Ynglŷn â tharddiad y dathliad hwn dywed The World Book Encyclopedia: “Iŵl Cesar a sefydlodd Ionawr y cyntaf fel Dydd Calan yn 46 COG. I’r Rhufeiniaid, diwrnod wedi ei gysegru i Ianws, duw pyrth, drysau, a dechreuadau oedd Ionawr y cyntaf. Cafodd mis Ionawr ei enwi ar ôl Ianws. Roedd gan Ianws ddau wyneb—un yn edrych ymlaen a’r llall yn edrych yn ôl.” Sail baganaidd felly, sydd i ddathliadau’r Flwyddyn Newydd.

Nos Galan Gaeaf. Dywed The Encyclopedia Americana: “Gellir olrhain rhai arferion sy’n gysylltiedig â Nos Galan Gaeaf yn ôl i seremoni’r Derwyddon [hen offeiriaid Celtaidd] yn y cyfnod cyn Crist. Roedd gan y Celtiaid wyliau i anrhydeddu dau brif dduw—duw’r haul a duw’r meirw . . . yr oedd ei ŵyl yn cael ei chynnal ar 1 Tachwedd dechrau’r Flwyddyn Geltaidd Newydd. Yn raddol, daeth gŵyl y meirw yn rhan o’r ddefod Gristnogol.”

Gwyliau Eraill. Dydy hi ddim yn bosibl i drafod pob gŵyl sy’n cael ei chynnal trwy’r byd. Fodd bynnag, dydy gwyliau sy’n mawrygu bodau dynol neu sefydliadau dynol ddim yn dderbyniol gan Jehofa. (Jeremeia 17:5-7; Actau 10:25, 26) Cofiwch hefyd fod gwreiddiau dathliadau crefyddol yn bwysig wrth benderfynu a ydyn nhw’n plesio Duw ai peidio. (Eseia 52:11; Datguddiad 18:4) Bydd yr egwyddorion a drafodir ym Mhennod 16 o’r llyfr hwn yn eich helpu chi i benderfynu beth yw agwedd Duw at ddathlu gwyliau seciwlar.