Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ATODIAD

A Gafodd Iesu ei Eni ym Mis Rhagfyr?

A Gafodd Iesu ei Eni ym Mis Rhagfyr?

DYDY’R Beibl ddim yn dweud pryd cafodd Iesu ei eni. Sut bynnag, mae yna resymau da dros gredu na chafodd Iesu ei eni ym mis Rhagfyr.

Ystyriwch sut oedd y tywydd adeg yna o’r flwyddyn ym Methlehem, lle cafodd Iesu ei eni. Mis oer a glawog oedd Cislef, y mis Iddewig sy’n cyfateb i Dachwedd/Rhagfyr yn ein calendr ni. Y mis nesaf oedd Tebeth (Rhagfyr/Ionawr). Dyma adeg oeraf y flwyddyn, gydag ambell gawod o eira ar y tir uchel. Gadewch inni weld beth mae’r Beibl yn ei ddweud am hinsawdd yr ardal honno.

Yn llyfr Esra yn y Beibl mae’n dangos yn glir fod tywydd oer a glaw yn gyffredin ym mis Cislef. Ar ôl disgrifio’r dyrfa oedd wedi ymgasglu yn Jerwsalem “ar yr ugeinfed dydd o’r nawfed mis [Cislef],” mae Esra’n dweud eu bod nhw “yn crynu . . . o achos y glawogydd.” Ynglŷn â’r tywydd adeg yna o’r flwyddyn dywedodd rhai yn y dyrfa: “Y mae’n dymor y glawogydd, ac ni allwn aros yn yr awyr agored.” (Esra 10:9, 13; Jeremeia 36:22) Does dim rhyfedd felly fod bugeiliaid yn ardal Bethlehem yn mynd â’u praidd dan do gyda’r nos ym mis Rhagfyr, yn hytrach na’u gadael nhw allan yn y caeau.

Sut bynnag, ar y noson cafodd Iesu ei eni, mae’r Beibl yn dweud mai yn y caeau yn gwarchod y praidd oedd y bugeiliaid. Yn wir, mae Luc yn dweud bod y bugeiliaid bryd hynny “allan yn y wlad yn gwarchod eu praidd liw nos” neu “trigo allan yn y maes,” yn ardal Bethlehem. (Luc 2:8-12, Cyfieithiad Newydd y Testament Newydd, W. Edwards) Sylwch mai byw yn yr awyr agored oedd y bugeiliaid, nid cerdded y caeau yn ystod y dydd yn unig. Roedd y preiddiau yn y caeau liw nos. Ydy’r disgrifiad hwnnw o fugeiliaid yn byw yn yr awyr agored yn cyd-fynd â’r math o dywydd oer a gwlyb sy’n gyffredin ym Methlehem ym mis Rhagfyr? Nac ydy. Felly, mae amgylchiadau genedigaeth Crist yn dangos na chafodd Iesu ei eni ym mis Rhagfyr. *

Mae Gair Duw yn dweud yn union pryd y bu farw Iesu, ond nid yw’n manylu ar ddyddiad ei enedigaeth. Mae hyn yn dwyn i gof eiriau Brenin Solomon: “Y mae enw da yn well nag ennaint gwerthfawr, a dydd marw yn well na dydd geni.” (Pregethwr 7:1) Nid yw’n syndod, felly, fod y Beibl yn rhoi llawer o fanylion am weinidogaeth a marwolaeth Iesu ond ychydig iawn y mae yn ei ddweud am adeg ei enedigaeth.

Pan gafodd Iesu ei eni, roedd y bugeiliaid allan yn y caeau yn gwarchod eu praidd liw nos

^ Par. 1 Am fwy o wybodaeth, gweler tudalennau 176-179 yn y llyfr Reasoning From the Scriptures, a gyhoeddir gan Dystion Jehofa.