Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

PENNOD UN DEG CHWECH

Sefwch yn Gadarn o Blaid Gwir Addoliad

Sefwch yn Gadarn o Blaid Gwir Addoliad
  • Beth mae’r Beibl yn ei ddysgu ynglŷn â defnyddio delwau?

  • Beth yw agwedd Cristnogion at wyliau crefyddol?

  • Sut gallwch chi esbonio eich daliadau i bobl eraill heb eu pechu?

1, 2. Mae’n rhaid gofyn pa gwestiwn i chi’ch hun ar ôl gadael gau grefydd, a pham rydych chi’n meddwl bod hyn yn bwysig?

DYCHMYGWCH fod eich ardal chi wedi cael ei llygru. Yn dawel bach, mae rhywun wedi bod yn cael gwared ar wastraff gwenwynig yn yr ardal ac erbyn hyn mae’n berygl bywyd. Beth byddech chi’n ei wneud? Petasai’n bosibl, mae’n debyg y byddech chi’n symud o’r ardal. Ond hyd yn oed wedyn, byddai’r cwestiwn difrifol yn codi, ‘Ydw i wedi cael fy ngwenwyno?’

2 Mae sefyllfa debyg yn codi ynglŷn â gau grefydd. Mae’r Beibl yn dysgu bod gau grefydd wedi ei llygru â dysgeidiaethau ac arferion aflan. (2 Corinthiaid 6:17) Dyna pam mae hi mor bwysig ichi ddod allan o ‘Fabilon Fawr,’ ymerodraeth fyd-eang gau grefydd. (Datguddiad 18:2, 4) Ydych chi wedi gwneud hyn? Os felly, rydych chi’n haeddu canmoliaeth. Ond mae gofyn gwneud mwy na thorri pob cysylltiad â gau grefydd neu dynnu eich enw oddi ar y rhestr aelodaeth. Ar ben hynny, mae’n rhaid gofyn, ‘Oes yna unrhyw arlliw o gau addoliad ynof i?’ Ystyriwch rai enghreifftiau.

DELWAU AC ADDOLI HYNAFIAID

3. (a) Beth mae’r Beibl yn ei ddweud am ddefnyddio delwau, a pham mae rhai’n ei chael hi’n anodd derbyn barn Duw? (b) Beth dylech chi ei wneud ag unrhyw beth o’ch eiddo sydd yn gysylltiedig â gau grefydd?

3 Mae rhai pobl wedi arfer cadw delwau neu gysegrau yn eu cartrefi. Ydy hynny yn wir yn eich achos chi? Os felly, mae’n bosibl y byddwch chi’n teimlo ei bod hi’n rhyfedd neu’n anghywir i weddïo ar Dduw heb gymorth rhywbeth i edrych arno. Efallai eich bod yn hoff iawn o’r eitemau hyn. Ond Duw yw’r un sy’n dweud sut y dylen ni ei addoli, ac mae’r Beibl yn dysgu nad yw Duw yn dymuno inni ddefnyddio delwau. (Darllenwch Exodus 20:4, 5; Salm 115:4-8; Eseia 42:8; 1 Ioan 5:21) Felly, gallwch chi sefyll o blaid gwir addoliad drwy ddinistrio unrhyw beth o’ch eiddo sy’n gysylltiedig â gau addoliad. Dylen ni weld y pethau hyn drwy lygaid Jehofa—fel pethau “ffiaidd.”—⁠Deuteronomium 27:15.

4. (a) Sut rydyn ni’n gwybod mai peth hollol ddi-fudd yw addoli hynafiaid? (b) Pam gwnaeth Jehofa wahardd ei bobl rhag ymhél ag unrhyw fath o ysbrydegaeth?

4 Mae addoli hynafiaid yn gyffredin mewn llawer o gau grefyddau. Cyn dysgu’r gwirionedd o’r Beibl, roedd rhai’n credu bod y meirw yn dal i fyw mewn byd anweledig, a’u bod nhw’n gallu helpu’r byw neu beri niwed iddyn nhw. Efallai eich bod chi’n arfer mynd i drafferth fawr i beidio â digio eich hynafiaid marw. Ond fel y dysgon ni ym Mhennod 6 o’r llyfr hwn, dydy’r meirw ddim yn parhau i fod yn ymwybodol yn rhywle arall. Felly, ofer yw unrhyw ymdrech i gyfathrebu â nhw. Mewn gwirionedd, y cythreuliaid sydd y tu ôl i unrhyw negeseuon sy’n ymddangos fel petaen nhw’n dod oddi wrth ein hanwyliaid marw. Dyna pam y gwnaeth Jehofa wahardd yr Israeliaid rhag ceisio siarad â’r meirw a rhag cymryd rhan mewn unrhyw fath o ysbrydegaeth.—⁠Darllenwch Deuteronomium 18:10-12.

5. Os oeddech chi’n arfer defnyddio delwau neu’n addoli eich hynafiaid, beth gallwch chi ei wneud?

5 Os oeddech chi’n arfer defnyddio delwau, neu’n addoli eich hynafiaid, beth gallwch chi ei wneud? Darllenwch y darnau yn y Beibl sy’n dangos agwedd Duw at y pethau hyn, a myfyrio arnyn nhw. Gweddïwch ar Dduw bob dydd ynglŷn â’ch dymuniad i wneud safiad dros wir addoliad, a gofynnwch am help i feddwl fel y mae ef yn meddwl.—⁠Eseia 55:9.

Y NADOLIG—DOEDD Y CRISTNOGION CYNNAR DDIM YN EI DDATHLU

6, 7. (a) Ym meddwl llawer, beth mae’r Nadolig yn ei ddathlu, ac a oedd disgyblion Iesu yn y ganrif gyntaf yn dathlu’r Nadolig? (b) Pan oedd disgyblion Iesu ar y ddaear, beth oedd yn cael ei gysylltu â dathliadau pen-blwydd?

6 Gall addoliad unigolyn gael ei lygru gan gau grefydd lle mae gwyliau poblogaidd yn y cwestiwn. Er enghraifft, ystyriwch y Nadolig. Y gred gyffredin yw bod y Nadolig yn dathlu genedigaeth Iesu Grist, ac mae bron pob crefydd sy’n honni bod yn Gristnogol yn ei ddathlu. Ond eto, does dim tystiolaeth fod disgyblion Iesu yn y ganrif gyntaf wedi cadw gŵyl o’r fath. Dywed y llyfr Sacred Origins of Profound Things: “Am ddwy ganrif wedi genedigaeth Crist, nid oedd neb yn gwybod pryd yn union cafodd Iesu ei eni, ac ychydig oedd â diddordeb yn y mater.”

7 Hyd yn oed petasai disgyblion Iesu’n gwybod union ddyddiad ei enedigaeth, fydden nhw ddim wedi dathlu’r enedigaeth honno. Pam hynny? Oherwydd, fel y dywed The World Book Encyclopedia, roedd y Cristnogion cynnar “yn ystyried dathlu genedigaeth rhywun yn arferiad paganaidd.” Ddwywaith yn unig mae’r Beibl yn sôn am ddathlu penblwyddi a hynny gan ddau reolwr nad oedden nhw’n addoli Jehofa. (Genesis 40:20; Marc 6:21) Roedd dathliadau pen-blwydd hefyd yn cael eu cynnal i anrhydeddu duwiau paganaidd. Er enghraifft, roedd y Rhufeiniaid yn dathlu pen-blwydd y dduwies Diana ar 24 Mai. Y diwrnod wedyn, roedden nhw’n dathlu pen-blwydd Apolon, duw’r haul. Felly, roedd dathliadau pen-blwydd yn gysylltiedig â phaganiaeth yn hytrach na Christnogaeth.

8. Esboniwch y cysylltiad rhwng dathliadau pen-blwydd ac ofergoeledd.

8 Mae rheswm arall pam na fyddai Cristnogion y ganrif gyntaf wedi dathlu pen-blwydd Iesu. Mae’n debygol y byddai ei ddisgyblion yn gwybod bod cysylltiad rhwng dathliadau pen-blwydd ac ofergoeledd. Er enghraifft, roedd llawer o Rufeiniaid a Groegwyr yr hen fyd yn credu bod ysbryd yn bresennol ar adeg geni babi newydd, ac yn ei amddiffyn drwy gydol ei fywyd. Mae’r llyfr The Lore of Birthdays yn dweud: “Roedd gan yr ysbryd hwn berthynas gyfriniol â’r duw yr oedd yr unigolyn yn rhannu pen-blwydd ag ef.” Ni fyddai Jehofa yn hapus ag unrhyw ddathliad a fyddai’n cysylltu Iesu ag ofergoeledd. (Eseia 65:11, 12) Felly, pam mae cymaint o bobl yn dathlu’r Nadolig?

GWREIDDIAU’R NADOLIG

9. Sut cafodd 25 Rhagfyr ei ddewis fel y diwrnod ar gyfer dathlu genedigaeth Iesu?

9 Ar ôl i Iesu fod ar y ddaear, aeth sawl canrif heibio cyn i bobl ddechrau coffáu ei enedigaeth ar 25 Rhagfyr. Ond, nid dyna oedd dyddiad geni Iesu, oherwydd yn ôl pob tebyg digwyddodd hynny ym mis Hydref. * Pam felly, cafodd 25 Rhagfyr ei ddewis? Mae’n debyg fod rhai a honnai fod yn Gristnogion “yn dymuno i’r dyddiad ddigwydd ar yr un diwrnod â’r ŵyl Rufeinig baganaidd a oedd yn dathlu ‘pen-blwydd yr haul anorchfygedig.’” (The New Encyclopædia Britannica) Yn y gaeaf, pan oedd yr haul ar ei wanaf, roedd y paganiaid yn cynnal defodau er mwyn annog yr haul, ffynhonnell cynhesrwydd a goleuni, i ddod yn ôl o’i deithiau pell. Y gred oedd bod yr haul yn cychwyn ar ei daith yn ôl ar 25 Rhagfyr. Mewn ymdrech i droi’r paganiaid yn “Gristnogion,” fe wnaeth arweinwyr crefyddol fabwysiadu’r ŵyl hon a cheisio rhoi gwedd “Gristnogol” arni. *

10. Yn y gorffennol, pam nad oedd rhai pobl yn dathlu’r Nadolig?

10 Mae gwreiddiau paganaidd y Nadolig wedi eu hen gydnabod. Oherwydd tarddiad anysgrythurol y Nadolig, cafodd ei wahardd yn Lloegr ac yn rhai o’r trefedigaethau Americanaidd yn ystod yr ail ganrif ar bymtheg. Roedd unrhyw un oedd yn aros adref yn lle mynd i’w waith ar ddydd Nadolig yn gorfod talu dirwy. Ond, cyn bo hir, daeth yr hen arferion yn eu hôl, a rhai newydd hefyd. Daeth y Nadolig unwaith eto yn ŵyl boblogaidd fel y mae hyd heddiw mewn llawer o wledydd. Oherwydd cysylltiadau’r Nadolig â gau grefydd, nid yw’r rhai sy’n dymuno plesio Duw yn ei ddathlu nac unrhyw ŵyl arall sydd â gwreiddiau paganaidd. *

YDY’R GWREIDDIAU’N BWYSIG?

11. Pam mae rhai yn dathlu gwyliau, ond beth ddylai fod o’r pwys mwyaf inni?

11 Mae rhai’n cytuno bod gwreiddiau gwyliau fel y Nadolig yn baganaidd ond yn dal i deimlo nad oes dim byd o’i le yn eu dathlu. Wedi’r cwbl, wrth ddathlu’r gwyliau hyn, nid yw’r rhan fwyaf o bobl yn meddwl am gau grefydd. Mae’r achlysuron hyn yn rhoi’r cyfle i deuluoedd ddod at ei gilydd. Ai fel hyn rydych chi’n teimlo? Os felly, eich cariad tuag at eich teulu yn hytrach nag unrhyw gariad tuag at gau grefydd sy’n gwneud ichi deimlo bod sefyll o blaid gwir addoliad yn anodd. Gallwch chi fod yn sicr fod Jehofa, yr un a sefydlodd y teulu, am ichi gael perthynas dda â’ch teulu. (Effesiaid 3:14, 15) Ond, mae modd ichi glosio at eich gilydd mewn ffordd sy’n plesio Duw. Ynglŷn â’r hyn a ddylai fod o’r pwys mwyaf inni, ysgrifennodd yr apostol Paul: “Gwnewch yn siŵr beth sy’n gymeradwy gan yr Arglwydd.”—⁠Effesiaid 5:10.

Fyddech chi’n codi lolipop oddi ar y llawr a’i lyfu?

12. Rhowch eglureb sy’n dangos pam dylen ni osgoi arferion a dathliadau sydd â gwreiddiau aflan.

12 Efallai eich bod chi’n teimlo nad yw gwreiddiau’r gwyliau yn berthnasol i’r ffordd y maen nhw’n cael eu dathlu heddiw. Ydy’r gwreiddiau’n bwysig? Ydyn, maen nhw! Er enghraifft: Dychmygwch eich bod chi’n gweld lolipop ar y llawr. A fyddech chi yn ei godi a’i lyfu? Na fyddech wir! Mae’r lolipop yn fudr. Fel y lolipop hwnnw, gall gwyliau ymddangos yn felys, ond maen nhw wedi eu codi o le aflan. Er mwyn sefyll ar ochr gwir addoliad, dylen ni fabwysiadu agwedd y proffwyd Eseia a ddywedodd wrth wir addolwyr: “Peidiwch â chyffwrdd â dim aflan.”—⁠Eseia 52:11.

DIRNADAETH YN DELIO GYDAG ERAILL

13. Pa her fyddwch chi efallai’n ei hwynebu pan nad ydych chi’n cymryd rhan mewn gwyliau?

13 Gallwch wynebu her pan fyddwch chi’n penderfynu peidio â chymryd rhan mewn gwyliau. Er enghraifft, gall eich cyd-weithwyr ofyn pam nad ydych chi’n cymryd rhan mewn rhai dathliadau yn y gweithle. Beth petai rhywun yn rhoi anrheg Nadolig ichi? A fyddai’n iawn i’w derbyn? Beth os nad yw eich gŵr neu eich gwraig yn credu yr un fath â chi? Sut gallwch chi sicrhau nad yw eich plant yn teimlo eu bod nhw’n colli allan drwy beidio â dathlu?

14, 15. Beth gallwch chi ei wneud petai rhywun yn estyn cyfarchion y tymor ichi neu’n dymuno rhoi anrheg ichi?

14 Mae angen doethineb wrth ddelio gyda gwahanol sefyllfaoedd. Os ydy rhywun yn estyn cyfarchion yr ŵyl ichi, gallwch ddiolch iddyn nhw. Ond, yn achos rhywun rydych chi’n ei weld yn rheolaidd efallai y byddwch chi’n dewis dweud mwy. Ym mhob achos, mae’n rhaid defnyddio tact. Mae’r Beibl yn cynghori: “Bydded eich gair bob amser yn rasol, wedi ei flasu â halen, ichwi fedru ateb pob un fel y dylid.” (Colosiaid 4:6) Byddwch yn ofalus i beidio ag amharchu eraill. Mae’n bwysig eich bod chi’n defnyddio tact wrth esbonio eich safiad. Esboniwch yn glir nad ydych chi yn erbyn rhoi anrhegion na chael partïon ond y byddai’n well gennych chi wneud hynny ar adeg wahanol.

15 Beth petai rhywun yn dymuno rhoi anrheg ichi? Mae llawer yn dibynnu ar yr amgylchiadau. Efallai y bydd rhywun yn dweud: “Dw i’n gwybod nad ydych chi’n dathlu’r ŵyl. Ond eto, dw i am ichi gael hwn.” Efallai y byddwch chi’n penderfynu nad yw derbyn yr anrheg hon yn gyfystyr â chymryd rhan yn yr ŵyl. Wrth gwrs, os nad yw’r sawl sy’n rhoi’r anrheg yn gyfarwydd â’ch daliadau, gallwch sôn am y ffaith nad ydych chi’n cadw’r ŵyl. Byddai hyn yn helpu i esbonio pam rydych chi’n derbyn anrheg ond ddim yn rhoi un yn ôl y tro hwn. Ar y llaw arall, annoeth fyddai derbyn anrheg sy’n cael ei rhoi i brofi nad ydych chi’n glynu wrth eich daliadau neu i ddangos eich bod chi’n barod i gyfaddawdu er mwyn elwa’n faterol.

BETH AM AELODAU’R TEULU?

16. Sut gallwch ddangos tact wrth ddelio gyda materion sy’n ymwneud â gwyliau?

16 Beth os nad yw aelodau eich teulu yn rhannu eich daliadau? Unwaith eto, mae angen tact. Does dim rhaid ichi wneud môr a mynydd o bob un arferiad neu ddathliad y mae eich perthnasau yn dewis ei gadw. Yn hytrach, parchwch fod ganddyn nhw’r hawl i’w barn, fel rydych yn dymuno iddyn nhw barchu eich hawl chi i’ch barn. (Darllenwch Mathew 7:12.) Peidiwch â gwneud dim a fyddai’n golygu eich bod chi’n cymryd rhan yn yr ŵyl. Eto, byddwch yn rhesymol ynglŷn â materion nad ydyn nhw’n perthyn i’r dathlu ei hun. Wrth gwrs, dylech chi ymddwyn bob amser mewn ffordd sy’n amddiffyn eich cydwybod dda.—⁠Darllenwch 1 Timotheus 1:18, 19.

17. Sut gallwch chi helpu eich plant i beidio â theimlo fel eu bod nhw’n colli allan pan fyddan nhw’n gweld eraill yn dathlu gwyliau?

17 Beth gallwch chi ei wneud i sicrhau nad yw eich plant yn teimlo eu bod nhw’n colli allan drwy beidio â dathlu gwyliau anysgrythurol? Mae llawer yn dibynnu ar yr hyn y byddwch chi’n ei wneud ar adegau eraill o’r flwyddyn. Mae rhai rhieni yn trefnu adegau arbennig i roi anrhegion i’w plant. Ymhlith yr anrhegion gorau y medrwch eu rhoi i’ch plant yw eich amser a’ch sylw cariadus.

ARFER GWIR ADDOLIAD

Mae arfer gwir addoliad yn dod â gwir hapusrwydd

18. Sut gall mynychu cyfarfodydd Cristnogol eich helpu chi i sefyll yn gadarn o blaid gwir addoliad?

18 I blesio Duw, mae’n rhaid ichi wrthod gau grefydd a gwneud safiad dros wir addoliad. Beth mae hyn yn ei olygu? Mae’r Beibl yn dweud: “Gadewch inni ystyried sut y gallwn ennyn yn ein gilydd gariad a gweithredoedd da, heb gefnu ar ein cydgynulliad ein hunain, yn ôl arfer rhai, ond annog ein gilydd, ac yn fwy felly yn gymaint â’ch bod yn gweld y Dydd yn dod yn agos.” (Hebreaid 10:24, 25) Mae cyfarfodydd Cristnogol yn achlysuron hapus sy’n rhoi’r cyfle ichi addoli Duw yn y ffordd y mae’n ei chymeradwyo. (Salm 22:22; 122:1) Mewn cyfarfodydd o’r fath, mae Cristnogion ffyddlon yn ‘calonogi ei gilydd.’—⁠Rhufeiniaid 1:12.

19. Pam mae’n bwysig ichi siarad ag eraill am y pethau rydych chi wedi eu dysgu yn y Beibl?

19 Un ffordd arall o wneud safiad dros wir addoliad yw siarad ag eraill am yr hyn rydych chi wedi ei ddysgu drwy astudio’r Beibl gyda Thystion Jehofa. Mae llawer o bobl yn gofidio ac yn galaru o weld yr holl ddrygioni sy’n digwydd yn y byd heddiw. Efallai eich bod chi’n adnabod rhai sy’n teimlo’r un ffordd. Beth am siarad â nhw ynglŷn â’r gobaith y mae’r Beibl yn ei gynnig ichi? Wrth ichi gymdeithasu â gwir Gristnogion a siarad ag eraill am y gwirioneddau rydych chi wedi eu dysgu yn y Beibl, bydd unrhyw awydd am arferion gau grefydd yn diflannu o’ch calon ymhen amser. Yn sicr, byddwch yn hapus iawn ac yn derbyn llu o fendithion os gwnewch chi sefyll yn gadarn ar ochr gwir addoliad.—⁠Malachi 3:10.

^ Par. 9 Gweler yr erthygl “A Gafodd Iesu ei Eni ym Mis Rhagfyr?” sydd i’w gweld yn yr Atodiad.

^ Par. 9 Roedd gŵyl Satwrnalia hefyd wedi dylanwadu ar ddewis 25 Rhagfyr. Cynhaliwyd yr ŵyl hon ar 17-24 Rhagfyr i anrhydeddu duw amaeth y Rhufeiniaid. Amser i wledda, rhoi anrhegion a chael hwyl oedd Satwrnalia.

^ Par. 10 Am drafodaeth ar agwedd gwir Gristnogion at wyliau poblogaidd eraill, gweler yr erthygl “A Ddylen Ni Ddathlu Gwyliau?” sydd i’w gweld yn yr atodiad.