Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ATODIAD

Mae Proffwydoliaeth Daniel yn Rhagfynegi Dyfodiad y Meseia

Mae Proffwydoliaeth Daniel yn Rhagfynegi Dyfodiad y Meseia

ROEDD y proffwyd Daniel yn byw dros 500 o flynyddoedd cyn geni Iesu. Serch hynny, datgelodd Jehofa wybodaeth i Daniel a fyddai’n gwneud hi’n bosibl i wybod pryd yn union y byddai Iesu yn cael ei eneinio neu ei benodi’n Feseia neu Grist. Dywedwyd wrth Daniel: “Gwybydd gan hynny a deall, y bydd o fynediad y gorchymyn allan am adferu ac am adeiladu Jerwsalem, hyd y blaenor Meseia, saith wythnos, a dwy wythnos a thrigain.”—⁠Daniel 9:25, BC.

Er mwyn gwybod pryd byddai’r Meseia’n cyrraedd, mae’n rhaid inni wybod pryd dechreuodd y cyfnod sy’n arwain at y Meseia. Yn ôl y broffwydoliaeth, bydd y cyfnod dan sylw yn cychwyn “o fynediad y gorchymyn allan am adferu ac am adeiladu Jerwsalem.” Pryd aeth “y gorchymyn” hwn allan? Yn ôl Nehemeia, un o ysgrifenwyr y Beibl, aeth y gorchymyn allan i ailadeiladu’r muriau o amgylch Jerwsalem “yn ugeinfed flwyddyn y Brenin Artaxerxes.” (Nehemeia 2:1, 5-8) Mae haneswyr yn cadarnhau mai blwyddyn gyfan gyntaf Artaxerxes fel rheolwr oedd 474 COG. Felly, ugeinfed flwyddyn ei frenhiniaeth oedd 455 COG. Dyma’r man cychwyn, felly, i broffwydoliaeth Feseianaidd Daniel, hynny yw, 455 COG.

Mae Daniel yn dangos pa mor hir fyddai’r cyfnod sy’n arwain at ddyfodiad y “Meseia.” Mae’r broffwydoliaeth yn sôn am “saith wythnos, a dwy wythnos a thrigain”—cyfanswm o 69 wythnos. Pa mor hir yw’r cyfnod hwn? Mae sawl cyfieithiad o’r Beibl yn nodi nad wythnosau o saith diwrnod sydd yma ond wythnosau o flynyddoedd. Hynny yw, mae pob wythnos yn cynrychioli saith mlynedd. Roedd yr Iddewon gynt yn arfer meddwl yn nhermau wythnosau o flynyddoedd. Er enghraifft, un waith bob saith mlynedd, roedden nhw’n dathlu’r flwyddyn Saboth. (Exodus 23:10, 11) Felly, mae’r 69 wythnos yn y broffwydoliaeth yn cynrychioli 69 grŵp o 7 mlynedd yr un, sef cyfanswm o 483 o flynyddoedd.

Y cwbl sy’n rhaid inni ei wneud nawr yw cyfrif. Os ydyn ni’n cychwyn yn y flwyddyn 455 COG, bydd cyfnod o 483 blynedd yn mynd â ni at y flwyddyn 29 OG. Dyna’r union flwyddyn cafodd Iesu ei fedyddio a dod yn Feseia! * (Luc 3:1, 2, 21, 22) Onid yw cyflawni’r broffwydoliaeth hon yn drawiadol?

^ Par. 2 O’r flwyddyn 455 COG hyd at y flwyddyn 1 COG, y mae 454 o flynyddoedd. O’r flwyddyn 1 COG hyd at y flwyddyn 1 OG y mae un flwyddyn yn unig (doedd dim blwyddyn sero). Ac o’r flwyddyn 1 OG hyd at y flwyddyn 29 OG, y mae 28 o flynyddoedd. O adio’r tri rhif hyn, cawn ni’r cyfanswm o 483 o flynyddoedd. “Fe leddir” Iesu yn y flwyddyn 33 OG yn ystod y saith degfed wythnos o flynyddoedd. (Daniel 9:24, 26) Gweler Pay Attention to Daniel’s Prophecy! pennod 11, ac Insight on the Scriptures, Cyfrol 2, tudalennau 899-901. Cyhoeddir y ddau gan Dystion Jehofa.