PENNOD UN DEG PUMP
Addoliad y Mae Duw yn ei Gymeradwyo
-
Ydy pob crefydd yn plesio Duw?
-
Sut gallwn ni adnabod y wir grefydd?
-
Pwy yw gwir addolwyr Duw ar y ddaear heddiw?
1. Sut byddwn ni ar ein hennill o addoli Duw yn y ffordd iawn?
MAE Jehofa Dduw yn ein caru yn fawr iawn ac mae’n dymuno ein gweld ni’n elwa ar ei gyngor cariadus. Os ydyn ni’n ei addoli yn y ffordd iawn, byddwn ni’n hapus ac yn osgoi llawer o broblemau mewn bywyd. Byddwn ni hefyd yn derbyn ei fendith a’i help. (Eseia 48:17) Ond mae cannoedd o grefyddau yn honni eu bod nhw’n dysgu’r gwirionedd am Dduw. Eto, maen nhw i gyd yn dysgu pethau gwahanol am natur Duw a’r hyn y mae’n ei ofyn gennyn ni.
2. Sut gallwn ni ddysgu’r ffordd iawn o addoli Jehofa, a pha esiampl sydd yn ein helpu i ddeall hyn?
2 Sut gallwch chi wybod y ffordd iawn o addoli Jehofa? Does dim rhaid ichi astudio a chymharu dysgeidiaethau holl grefyddau’r byd. Yr unig beth sydd ei angen yw dod i wybod beth mae’r Beibl yn ei wir ddysgu am addoliad pur. Ystyriwch hyn: Mewn llawer o wledydd, mae arian ffug yn broblem. Petaech chi’n cael y gwaith o ddod o hyd i’r arian ffug, sut byddech chi’n mynd o’i chwmpas hi? Drwy ddysgu ar gof bob math o arian ffug? Na. Oni fyddai’n well ichi dreulio eich amser yn astudio arian go iawn? Unwaith y gallwch chi adnabod arian dilys, yna fe allwch adnabod arian ffug. Yn yr un modd, wrth inni ddysgu sut mae adnabod gwir grefydd, byddwn ni’n medru adnabod crefyddau ffug.
3. Yn ôl Iesu, beth sy’n rhaid inni ei wneud i gael cymeradwyaeth gan Dduw?
Mathew 7:21-23) Fel arian ffug, does dim gwerth i grefydd ffug. Yn waeth byth, y gwir yw bod crefydd o’r fath yn achosi niwed.
3 Mae’n bwysig ein bod ni’n addoli Jehofa yn y ffordd y mae’n ei gymeradwyo. Mae llawer yn credu bod pob crefydd yn plesio Duw, ond nid dyna beth mae’r Beibl yn ei ddysgu. Mae angen mwy na honni bod yn Gristion hyd yn oed. Dywedodd Iesu: “Nid pawb sy’n dweud wrthyf, ‘Arglwydd, Arglwydd,’ fydd yn mynd i mewn i deyrnas nefoedd, ond y sawl sy’n gwneud ewyllys fy Nhad, yr hwn sydd yn y nefoedd.” Felly, er mwyn cael ein cymeradwyo gan Dduw, mae’n rhaid inni ddysgu beth mae Duw yn ei ofyn gennyn ni, ac wedyn ei wneud. Mae Iesu yn galw’r rhai nad ydyn nhw’n gwneud ewyllys Duw yn “ddrwgweithredwyr.” (4. Beth mae geiriau Iesu am y ddwy ffordd yn ei olygu, ac i le mae’r ddwy ffordd yn arwain?
4 Mae Jehofa yn rhoi’r cyfle i bawb ar y ddaear gael bywyd tragwyddol. Ond i gael byw am byth ym Mharadwys mae’n rhaid inni addoli Duw yn y ffordd iawn a byw mewn modd sy’n dderbyniol ganddo. Gwaetha’r modd, mae llawer yn gwrthod gwneud hynny. Dyna pam y dywedodd Iesu: “Ewch i mewn trwy’r porth cyfyng; oherwydd llydan yw’r porth ac eang yw’r ffordd sy’n arwain i ddistryw, a llawer yw’r rhai sy’n mynd ar hyd-ddi. Ond cyfyng yw’r porth a chul yw’r ffordd sy’n arwain i fywyd, ac ychydig yw’r rhai sy’n ei chael.” (Mathew 7:13, 14) Mae gwir grefydd yn arwain i fywyd tragwyddol. Mae gau grefydd yn arwain i ddistryw. Dydy Jehofa ddim yn dymuno i neb gael ei ddinistrio, a dyna pam y mae’n rhoi i bobl ym mhob man y cyfle i ddysgu amdano. (2 Pedr 3:9) Felly, mae’r ffordd rydyn ni’n addoli Duw yn golygu naill ai bywyd neu farwolaeth.
SUT I ADNABOD Y WIR GREFYDD
5. Sut gallwn ni adnabod y rhai sy’n arfer y wir grefydd?
5 Sut gall rhywun ddod o hyd i’r ‘ffordd sy’n arwain i Mathew 7:16, 17) Mewn geiriau eraill, byddai’r rhai sy’n dilyn y wir grefydd yn cael eu hadnabod drwy eu hymddygiad a’r hyn y maen nhw yn ei gredu. Er eu bod nhw’n amherffaith ac yn gwneud camgymeriadau, mae gwir addolwyr fel grŵp yn ceisio gwneud ewyllys Duw. Gadewch inni ystyried chwe nodwedd sy’n perthyn i’r rhai sy’n arfer y wir grefydd.
fywyd’? Dywedodd Iesu y byddai’r wir grefydd i’w weld yn glir ym mywydau’r bobl sydd yn ei dilyn. “Wrth eu ffrwythau yr adnabyddwch hwy,” meddai. “Y mae pob coeden dda yn dwyn ffrwyth da.” (6, 7. Beth yw agwedd gweision Duw at y Beibl, a sut gosododd Iesu’r esiampl yn hyn o beth?
6 Mae gweision Duw yn seilio eu dysgeidiaeth ar y Beibl. Dywed y Beibl ei hun: “Y mae pob Ysgrythur wedi ei hysbrydoli gan Dduw ac yn fuddiol i hyfforddi, a cheryddu, a chywiro, a disgyblu mewn cyfiawnder. Felly y darperir pob un sy’n perthyn i Dduw â chyflawn ddarpariaeth ar gyfer pob math o weithredoedd da.” (2 Timotheus 3:16, 17) Ysgrifennodd yr apostol Paul at ei gyd-Gristnogion: “Yr ydym ni’n diolch i Dduw . . . eich bod chwi, wrth dderbyn gair Duw fel y clywsoch ef gennym ni, wedi ei groesawu, nid fel gair dynol ond fel yr hyn ydyw mewn gwirionedd, sef gair Duw.” (1 Thesaloniaid 2:13) Felly, dydy daliadau nac arferion y wir grefydd ddim wedi eu seilio ar farn neu draddodiad dyn. Maen nhw’n deillio o Air ysbrydoledig Duw, y Beibl.
7 Gosododd Iesu Grist yr esiampl iawn drwy seilio ei ddysgeidiaethau ar Air Duw. Mewn gweddi i’w Dad nefol, dywedodd: “Dy air di yw’r gwirionedd.” (Ioan 17:17) Roedd Iesu yn credu yng Ngair Duw ac roedd ei holl ddysgeidiaeth yn unol â’r Ysgrythurau. Roedd Iesu’n dweud dro ar ôl tro: “Y mae’n ysgrifenedig.” (Mathew 4:4, 7, 10) Yna, byddai’n dyfynnu adnod. Yn yr un modd, dydy pobl Dduw heddiw ddim yn dysgu eu syniadau eu hunain. Maen nhw’n credu bod y Beibl yn Air Duw, ac maen nhw’n seilio eu dysgeidiaeth yn gadarn ar yr hyn y mae’n ei ddweud.
8. Beth mae addoli Jehofa yn ei olygu?
Mathew 4:10) Felly, dim ond Jehofa a neb arall y mae gweision Duw yn ei addoli. Mae addoli’r gwir Dduw yn gofyn inni wneud ei enw a’i natur yn hysbys i bawb. Mae Salm 83:18 yn datgan: “Tydi, yr hwn yn unig wyt JEHOFAH wrth dy enw, wyt Oruchaf ar yr holl ddaear.” (BC) Gosododd Iesu batrwm ar gyfer helpu eraill i ddod i adnabod Duw, a chyfeiriodd at hynny mewn gweddi: “Yr wyf wedi amlygu dy enw i’r rhai a roddaist imi allan o’r byd.” (Ioan 17:6) Yn yr un modd, mae gwir addolwyr heddiw yn dysgu eraill am enw Duw, ei fwriadau, a’i briodoleddau.
8 Mae’r rhai sy’n dilyn y wir grefydd yn addoli Jehofa yn unig ac yn gwneud ei enw yn hysbys. Dywedodd Iesu: “Yr Arglwydd dy Dduw a addoli, ac ef yn unig a wasanaethi.” (9, 10. Sut mae gwir Gristnogion yn dangos cariad tuag at ei gilydd?
9 Mae pobl Dduw yn dangos cariad diffuant, anhunanol tuag at ei gilydd. Dywedodd Iesu: “Os bydd gennych gariad tuag at eich gilydd, wrth hynny bydd pawb yn gwybod mai disgyblion i mi ydych.” (Ioan 13:35) Roedd y Cristnogion cynnar yn dangos cariad fel hyn. Mae cariad sydd wedi ei seilio ar egwyddorion y Beibl yn codi uwchlaw rhwystrau hiliol, cymdeithasol, a chenedlaethol ac yn tynnu pobl at ei gilydd mewn cwlwm gwir frawdoliaeth na all neb ei ddatod. (Darllenwch Colosiaid 3:14.) Nid oes gan aelodau gau grefydd frawdoliaeth gariadus o’r fath. Sut rydyn ni’n gwybod hynny? Maen nhw’n lladd ei gilydd oherwydd gwahaniaethau cenedlaethol a hiliol. Dydy gwir Gristnogion ddim yn codi arfau er mwyn lladd eu brodyr Cristnogol nac unrhyw un arall. Mae’r Beibl yn datgan: “Dyma sut y mae’n amlwg pwy yw plant Duw a phwy yw plant y diafol: pob un nad yw’n gwneud cyfiawnder, nid yw o Dduw, na’r hwn nad yw’n caru ei gydaelod. Oherwydd hon yw’r genadwri: . . . ein bod i garu ein gilydd. Nid fel Cain, a oedd o’r Un drwg ac a laddodd ei frawd.”—1 Ioan 3:10-12; 4:20, 21.
10 Wrth gwrs, mae cariad diffuant yn golygu mwy na pheidio â lladd pobl eraill. Mae gwir Gristnogion yn defnyddio Hebreaid 10:24, 25) Maen nhw’n helpu ei gilydd drwy anawsterau ac maen nhw’n delio gydag eraill mewn ffordd onest. Yn wir, maen nhw’n rhoi cyngor y Beibl i “wneud da i bawb” ar waith.—Galatiaid 6:10.
eu hamser, eu hegni, a’u hadnoddau mewn modd anhunanol i helpu ac annog ei gilydd. (11. Pam mae’n bwysig derbyn Iesu Grist fel yr un a ddefnyddir gan Dduw fel cyfrwng iachawdwriaeth?
11 Mae gwir Gristnogion yn derbyn Iesu Grist fel yr un a ddefnyddir gan Dduw i’w hachub. Dywed y Beibl: “Nid oes iachawdwriaeth yn neb arall, oblegid nid oes enw arall dan y nef, wedi ei roi i’r ddynolryw, y mae’n rhaid i ni gael ein hachub drwyddo.” (Actau 4:12) Fel y gwelon ni ym Mhennod 5, rhoddodd Iesu ei fywyd yn bridwerth dros bobl ufudd. (Mathew 20:28) Yn ogystal, Iesu yw’r Brenin y mae Duw wedi ei benodi ar y Deyrnas nefol a fydd yn rheoli dros y ddaear i gyd. Ac mae Duw yn gofyn inni fod yn ufudd i Iesu a rhoi ei ddysgeidiaeth ar waith os ydyn ni’n dymuno byw am byth. Dyna pam mae’r Beibl yn dweud: “Pwy bynnag sy’n credu yn y Mab, y mae bywyd tragwyddol ganddo; pwy bynnag sy’n anufudd i’r Mab, ni wêl fywyd.”—Ioan 3:36.
12. Beth mae yn ei olygu i beidio â bod yn rhan o’r byd?
12 Nid yw gwir addolwyr yn rhan o’r byd. Pan oedd Iesu yn sefyll ei brawf gerbron y llywodraethwr Rhufeinig Pilat, dywedodd: “Nid yw fy nheyrnas i o’r byd hwn.” (Ioan 18:36) Does dim gwahaniaeth pa wlad y maen nhw’n byw ynddi, mae gwir ddilynwyr Iesu yn ddeiliaid i’r Deyrnas nefol ac oherwydd hynny maen nhw’n gwbl niwtral ym materion gwleidyddol y byd. Dydyn nhw ddim yn cymryd rhan ym mrwydrau’r byd. Fodd bynnag, dydy addolwyr Jehofa ddim yn ymyrryd â dewis pobl eraill i ymuno â phleidiau gwleidyddol, i sefyll fel ymgeiswyr gwleidyddol neu i bleidleisio. A thra bod gwir addolwyr Duw yn niwtral o ran gwleidyddiaeth, maen nhw’n ufudd i’r gyfraith. Pam? Oherwydd bod Gair Duw yn eu gorchymyn i “ymostwng i’r awdurdodau [llywodraethol] sy’n ben.” (Rhufeiniaid 13:1) Pan fo gwrthdaro yn codi rhwng gofynion Duw a gofynion y drefn wleidyddol, mae gwir addolwyr yn dilyn esiampl yr apostolion a ddywedodd: “Rhaid ufuddhau i Dduw yn hytrach nag i ddynion.”—Actau 5:29; Marc 12:17.
13. Beth yw agwedd gwir ddilynwyr Iesu at Deyrnas Dduw, ac felly, beth maen nhw yn ei wneud?
13 Mae gwir ddilynwyr Iesu yn cyhoeddi mai Teyrnas Dduw Mathew 24:14) Yn hytrach nag annog pobl i ddibynnu ar reolwyr dynol i ddatrys eu problemau, mae gwir ddilynwyr Iesu Grist yn cyhoeddi mai Teyrnas nefol Duw yw unig obaith dynolryw. (Salm 146:3) Dysgodd Iesu inni weddïo am y llywodraeth berffaith honno pan ddywedodd: “Deled dy deyrnas; gwneler dy ewyllys, ar y ddaear fel yn y nef.” (Mathew 6:10) Rhagfynegodd Gair Duw y bydd y Deyrnas nefol hon “yn dryllio ac yn rhoi terfyn ar yr holl freniniaethau eraill [sy’n bodoli nawr], ond bydd hi ei hun yn para am byth.”—Daniel 2:44; Datguddiad 16:14; 19:19-21.
yw unig obaith dynolryw. Rhagfynegodd Iesu: “Ac fe gyhoeddir yr Efengyl hon am y deyrnas drwy’r byd i gyd fel tystiolaeth i’r holl genhedloedd, ac yna y daw’r diwedd.” (14. Yn eich barn chi, pa grŵp crefyddol sy’n ateb gofynion gwir addoliad?
14 Ar sail yr hyn rydyn ni newydd ei ystyried, gofynnwch: ‘Pa grŵp crefyddol sy’n seilio ei holl ddysgeidiaethau ar y Beibl ac sy’n cyhoeddi enw Duw? Pa grŵp sy’n dangos cariad yn y ffordd y mae Jehofa yn ei ofyn, sy’n rhoi ei ffydd yn Iesu ar waith, sy’n mynnu peidio â bod yn rhan o’r byd, ac sy’n cyhoeddi mai Teyrnas Dduw yw unig obaith dynolryw? O holl grefyddau’r byd, pa un sy’n ateb yr holl ofynion hyn?’ Mae’r ffeithiau yn dangos yn glir mai Tystion Jehofa yw’r grefydd hon.—Darllenwch Eseia 43:10-12.
BETH WNEWCH CHI?
15. Yn ogystal â chredu ei fod yn bodoli, beth mae Duw yn ei ofyn gennyn ni?
15 Dydy credu yn Nuw ddim ynddo’i hun yn ddigon i’w blesio. Wedi’r cwbl, mae’r Beibl yn dweud bod hyd yn oed y cythreuliaid yn credu yn Nuw. (Iago 2:19) Ond, mae’n amlwg nad ydyn nhw’n gwneud ewyllys Duw ac nad yw Duw yn eu cymeradwyo. I gael ein cymeradwyo gan Dduw, nid yn unig y mae’n rhaid inni gredu yn ei fodolaeth ond mae’n rhaid inni hefyd wneud ei ewyllys. Mae’n rhaid inni hefyd ymryddhau oddi wrth afael gau grefydd a chofleidio gwir addoliad.
16. Beth dylen ni ei wneud ynglŷn â chymryd rhan mewn gau grefydd?
2 Corinthiaid 6:17; Eseia 52:11) Mae gwir Gristnogion, felly, yn osgoi unrhyw beth sydd â chysylltiad â gau addoliad.
16 Dangosodd yr apostol Paul na ddylen ni gymryd rhan mewn gau addoliad. Ysgrifennodd: “Dewch allan o’u plith hwy, ymwahanwch oddi wrthynt, medd yr Arglwydd, a pheidiwch â chyffwrdd â dim byd aflan. Ac fe’ch derbyniaf chwi.” (17, 18. Beth yw “Babilon fawr,” a pham mae’n rhaid inni ‘ddod allan ohoni’ ar frys?
17 Mae’r Beibl yn dangos bod pob ffurf ar gau grefydd yn rhan o ‘Fabilon fawr.’ * (Datguddiad 17:5) Mae’r enw hwnnw yn dwyn i gof hen ddinas Babilon lle y cychwynnodd gau grefydd ar ôl y Dilyw yn amser Noa. Mae llawer o ddysgeidiaethau ac arferion gau grefydd yn dod yn wreiddiol o Fabilon gynt. Er enghraifft, roedd y Babiloniaid yn addoli trindodau, neu driawdau, o dduwiau. Heddiw, mae athrawiaeth y Drindod yn ganolog i lawer o grefyddau. Ond mae’r Beibl yn dysgu’n glir mai dim ond un gwir Dduw sydd, sef Jehofa, a bod Iesu Grist yn Fab iddo. (Ioan 17:3) Roedd y Babiloniaid yn credu hefyd fod gan fodau dynol enaid anfarwol sy’n goroesi marwolaeth y corff ac sy’n gallu mynd i le neilltuol i gael ei phoenydio. Heddiw, mae’r gred fod yr enaid anfarwol neu’r ysbryd yn gallu dioddef mewn uffern danllyd yn cael ei dysgu gan y rhan fwyaf o grefyddau.
18 Gan fod addoliad y Babiloniaid gynt wedi ymledu trwy’r byd i gyd, teg yw galw Babilon Fawr yr oes fodern yn ymerodraeth fyd-eang gau grefydd. Ac mae Duw wedi rhagfynegi y bydd yr ymerodraeth gau grefyddol hon yn dod i ben yn sydyn. Ydych chi’n gweld pa mor bwysig yw torri Datguddiad 18:4, 8.
eich cysylltiad â phob rhan o Fabilon Fawr? Mae Jehofa am ichi ‘ddod allan ohoni’ ar frys tra bod amser ar ôl.—Darllenwch19. Sut byddwch chi ar eich ennill o wasanaethu Jehofa?
19 Oherwydd eich penderfyniad i wrthod arferion gau grefydd, efallai bydd rhai’n dewis peidio â chymdeithasu â chi. Ond drwy wasanaethu Jehofa ochr yn ochr â’i bobl, byddwch chi’n ennill llawer mwy nag y gallwch ei golli. Fel y disgyblion cynnar a adawodd bethau eraill i ddilyn Iesu, byddwch ymhen amser yn cael llawer o frodyr a chwiorydd ysbrydol. Byddwch yn rhan o deulu o filiynau o wir Gristnogion drwy’r byd i gyd sy’n dangos cariad diffuant tuag atoch. A bydd y gobaith hyfryd gennych o fywyd tragwyddol “yn yr oes sy’n dod.” (Darllenwch Marc 10:28-30.) Efallai, gydag amser, bydd y rhai a gefnodd arnoch chi oherwydd eich daliadau yn dewis astudio’r Beibl a dod i addoli Jehofa.
20. Beth sydd gan y dyfodol i’w gynnig i’r rhai sy’n byw yn ôl gofynion y wir grefydd?
20 Mae’r Beibl yn dysgu y bydd Duw, cyn bo hir, yn rhoi diwedd ar y drefn ddrygionus hon ac, yn ei lle, yn sefydlu byd newydd cyfiawn dan reolaeth ei Deyrnas. (2 Pedr 3:9, 13) Dyna i chi fyd hyfryd fydd hwnnw! Ac yn y drefn gyfiawn newydd honno, dim ond un grefydd fydd, un ffordd iawn o addoli. Oni fyddai’n ddoeth ichi wneud beth sydd ei angen i gymdeithasu â gwir addolwyr nawr?
^ Par. 17 Am fwy o wybodaeth sy’n esbonio pam mae Babilon Fawr yn cynrychioli ymerodraeth fyd-eang gau grefydd, gweler yr erthygl “Adnabod ’Babilon Fawr,’” sydd i’w gweld yn yr Atodiad.