ATODIAD
Swper yr Arglwydd—Dathliad Sy’n Anrhydeddu Duw
MAE Cristnogion dan orchymyn i gadw Coffadwriaeth marwolaeth Crist. Enw arall ar y dathliad hwn yw “Swper yr Arglwydd.” (1 Corinthiaid 11:20) Pam mae hyn mor bwysig? Pryd dylen ni gadw’r Goffadwriaeth ac ym mha ffordd?
Sefydlodd Iesu’r dathliad hwn ar noson y Pasg Iddewig, 33 OG. Roedd gŵyl y Pasg yn cael ei dathlu unwaith y flwyddyn ar y pedwerydd ar ddeg o’r mis Iddewig Nisan. Er mwyn gwybod pryd yn union oedd y dyddiad hwnnw, roedd yr Iddewon yn disgwyl am gyhydnos y gwanwyn. Ar y diwrnod hwnnw mae tua 12 awr o olau dydd a 12 awr o dywyllwch. Roedd y lleuad newydd gyntaf i’w gweld agosaf at gyhydnos y gwanwyn ar ddiwrnod cyntaf mis Nisan. Roedd y Pasg yn digwydd 13 diwrnod yn ddiweddarach.
Dathlodd Iesu’r Pasg gyda’i apostolion, ac ar ôl anfon Jwdas ymaith, sefydlodd Swper yr Arglwydd. Cymryd lle’r Pasg Iddewig a wnaeth y swper hwn, ac, felly, dylen ni ei ddathlu dim ond unwaith y flwyddyn.
Yn ôl Efengyl Mathew: “Cymerodd Iesu fara, ac wedi bendithio fe’i torrodd a’i roi i’r disgyblion, a dywedodd, ‘Cymerwch, bwytewch; hwn yw fy nghorff.’ A chymerodd gwpan, ac wedi diolch fe’i rhoddodd iddynt gan ddweud, ‘Yfwch ohono, bawb, oherwydd hwn yw fy ngwaed i, gwaed Mathew 26:26-28.
y cyfamod, a dywelltir dros lawer er maddeuant pechodau.’”—Mae rhai yn credu bod Iesu wedi troi’r bara a’r gwin yn ei gnawd a’i waed llythrennol ei hun. Ond, roedd cnawd Iesu yn dal yn gyfan pan gynigiodd y bara hwn. Ai bwyta corff llythrennol Iesu ac yfed ei waed oedd yr apostolion? Nage; byddai hynny yn ganibaliaeth, rhywbeth oedd wedi ei wahardd gan gyfraith Duw. (Genesis 9:3, 4; Lefiticus 17:10) Yn ôl Luc 22:20, dywedodd Iesu: “Y cwpan hwn yw’r cyfamod newydd yn fy ngwaed i, sy’n cael ei dywallt er eich mwyn chwi.” A wnaeth y cwpan hwnnw droi’n ‘gyfamod newydd’? Byddai hynny yn amhosibl, gan mai cytundeb yw cyfamod yn hytrach na rhywbeth y gallwch chi gyffwrdd ag ef.
Felly, symbolau yn unig yw’r bara a’r gwin. Mae’r bara yn symboleiddio corff perffaith Crist. Defnyddiodd Iesu dorth o fara oedd yn weddill ar ôl swper y Pasg. Torth oedd honno wedi ei gwneud heb unrhyw lefain na burum. (Exodus 12:8) Yn aml, mae’r Beibl yn defnyddio lefain fel symbol o bechod neu lygredd. Felly mae’r bara yn cynrychioli’r corff perffaith a aberthodd Iesu. Roedd yn ddibechod.—Mathew 16:11, 12; 1 Corinthiaid 5:6, 7; 1 Pedr 2:22; 1 Ioan 2:1, 2.
Mae’r gwin coch yn cynrychioli gwaed Iesu. Mae’r gwaed hwnnw yn gwneud y cyfamod newydd yn ddilys. Dywedodd Iesu i’w waed gael ei dywallt “er maddeuant pechodau.” Oherwydd hyn gall bodau dynol fod yn lân yng ngolwg Duw a bod yn rhan o’r cyfamod newydd gyda Jehofa. (Hebreaid 9:14; 10:16, 17) Mae’r cyfamod neu’r cytundeb hwn yn caniatáu i 144,000 o Gristnogion ffyddlon fynd i’r nefoedd. Yno, byddan nhw’n gwasanaethu fel brenhinoedd ac offeiriaid er lles yr holl ddynolryw.—Genesis 22:18; Jeremeia 31:31-33; 1 Pedr 2:9; Datguddiad 5:9, 10; 14:1-3.
Pwy ddylai gyfranogi o elfennau’r Goffadwriaeth? Yn rhesymegol, dim ond y rhai sydd yn y cyfamod newydd—y rhai sydd â’r gobaith o fynd i’r nefoedd—ddylai gyfranogi o’r bara a’r gwin. Mae ysbryd glân Duw yn argyhoeddi’r rhai hyn eu bod nhw wedi eu dethol i fod yn frenhinoedd yn y nef. (Rhufeiniaid 8:16) Maen nhw hefyd yn rhan o gyfamod y Deyrnas gyda Iesu.—Luc 22:29.
Beth am y rhai sydd â’r gobaith o fyw am byth ym Mharadwys ar y ddaear? Maen nhw’n ufuddhau i orchymyn Iesu ac yn mynychu Swper yr Arglwydd, ond dod o ran parch y maen nhw, i wylio a gwrando yn hytrach na chyfranogi. Unwaith y flwyddyn ar Nisan 14, wedi machlud yr haul, mae Tystion Jehofa yn dathlu Swper yr Arglwydd. Er nad oes ond ychydig filoedd trwy’r byd i gyd sy’n arddel y gobaith o fynd i’r nefoedd, mae’r dathliad yn bwysig i bob Cristion. Dyma achlysur i bawb fyfyrio ar gariad tra rhagorol Jehofa Dduw a Iesu Grist.—