Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

PENNOD PUMP

Y Pridwerth—Anrheg Fwyaf Duw

Y Pridwerth—Anrheg Fwyaf Duw
  • Beth yw’r pridwerth?

  • Sut cafodd ei drefnu?

  • Beth mae’n ei olygu i chi?

  • Sut gallwch chi ddangos eich bod chi yn ei werthfawrogi?

1, 2. (a) Beth sy’n gwneud i anrheg fod yn un werthfawr iawn i chi? (b) Pam gallwn ni ddweud mai’r pridwerth yw’r anrheg fwyaf gwerthfawr y gallwch ei chael?

BETH yw’r anrheg orau gawsoch chi erioed? Does dim rhaid i anrheg fod yn ddrud i fod yn bwysig. Wedi’r cwbl, dydy gwerth anrheg ddim bob amser yn dibynnu ar y gost. Yn hytrach, pan fydd anrheg yn eich gwneud chi’n hapus neu’n bodloni gwir angen yn eich bywyd, bydd yn golygu llawer iawn mwy i chi.

2 O’r holl anrhegion y byddech chi’n gobeithio eu cael, mae un yn sefyll allan yn fwy na’r lleill i gyd. Y mae’n anrheg gan Dduw i ddynolryw. Mae Jehofa wedi rhoi llawer o bethau inni, ond ei anrheg fwyaf yw aberth pridwerthol ei Fab, Iesu Grist. (Darllenwch Mathew 20:28.) Fel y gwelwn yn y bennod hon, y pridwerth yw’r anrheg fwyaf y gallech chi ei chael. Gall ddod â gwir hapusrwydd a chwrdd â’ch anghenion mwyaf pwysig. Yn wir, y pridwerth yw’r esiampl fwyaf o gariad Duw tuag aton ni.

BETH YW’R PRIDWERTH?

3. Beth yw’r pridwerth, a beth mae’n rhaid inni ei ddeall er mwyn gwerthfawrogi’r anrheg werthfawr hon?

3 Yn syml, y pridwerth yw’r ffordd y mae Jehofa wedi ei dewis i waredu, neu achub, dynolryw rhag pechod a marwolaeth. (Effesiaid 1:7) Er mwyn deall yn iawn beth mae’r Beibl yn ei ddysgu am hyn, rhaid cofio beth ddigwyddodd yng ngardd Eden. Dim ond trwy ddeall beth gollodd Adda wrth bechu y gallwn ni ddeall pam mae’r pridwerth yn anrheg mor werthfawr.

4. Beth roedd bywyd perffaith yn ei olygu i Adda?

4 Pan greodd Jehofa Adda, rhoddodd iddo rywbeth gwerthfawr iawn—bywyd dynol perffaith. Ystyriwch beth roedd hynny yn ei olygu i Adda. Gyda chorff a meddwl perffaith, ni fyddai ef byth yn mynd yn wael, yn heneiddio neu’n marw. Fel dyn perffaith, roedd ganddo berthynas arbennig â Jehofa. Mae’r Beibl yn dweud bod Adda yn “fab Duw.” (Luc 3:38) Roedd Adda yn mwynhau perthynas agos â Jehofa Dduw, fel y berthynas sydd rhwng mab a thad cariadus. Roedd Jehofa yn siarad â’i fab daearol, yn esbonio’r hyn yr oedd yn ei ddisgwyl ganddo ac yn rhoi gwaith pleserus a diddorol iddo.—⁠Genesis 1:28-30; 2:16, 17.

5. Beth mae’r Beibl yn ei olygu wrth ddweud bod Adda wedi ei wneud “ar ddelw Duw”?

5 Cafodd Adda ei wneud “ar ddelw Duw.” (Genesis 1:27) Dydy hynny ddim yn golygu bod Adda yn edrych yn debyg i Dduw o ran pryd a gwedd. Fel y dysgon ni ym Mhennod 1 y llyfr hwn, Ysbryd anweledig yw Jehofa. (Ioan 4:24) Felly, nid oes gan Jehofa gorff o gig a gwaed. Roedd cael ei wneud ar ddelw Duw yn golygu bod Adda wedi ei greu gyda phriodoleddau tebyg i Dduw, gan gynnwys cariad, doethineb, cyfiawnder, a grym. Roedd Adda yn debyg i’w dad mewn ffordd bwysig arall oherwydd bod ganddo ewyllys rhydd. Nid peiriant oedd Adda, yn gwneud dim ond y pethau yr oedd wedi ei raglennu i’w wneud. Yn hytrach, roedd yn gallu penderfynu drosto ef ei hun a dewis rhwng da a drwg. Petai wedi dewis ufuddhau i Dduw, fe fyddai wedi byw am byth ym Mharadwys ar y ddaear.

6. Pan ddewisodd anufuddhau i Dduw, beth gollodd Adda, a sut effeithiodd hyn ar ei ddisgynyddion?

6 Yn amlwg, pan ddewisodd Adda fod yn anufudd i Dduw, fe dalodd bris uchel iawn oherwydd fe gafodd ei ddedfrydu i farwolaeth. Costiodd ei bechod ei fywyd dynol perffaith iddo ynghyd â’i holl fendithion. (Genesis 3:17-19) Yn drist, collodd Adda’r bywyd gwerthfawr hwn nid yn unig iddo ef ei hun ond hefyd i’w ddisgynyddion. Dywed Gair Duw: “Daeth pechod i’r byd trwy un dyn [Adda], a thrwy bechod farwolaeth, ac yn y modd hwn ymledodd marwolaeth i’r ddynolryw i gyd yn gymaint ag i bawb bechu.” (Rhufeiniaid 5:12) Mae pob un ohonon ni wedi etifeddu pechod gan Adda. Am hynny, mae’r Beibl yn dweud ei fod wedi ei “werthu” ei hun a’i ddisgynyddion yn gaethweision i bechod a marwolaeth. (Rhufeiniaid 7:14) Doedd dim gobaith i Adda ac Efa, oherwydd eu bod nhw wedi dewis o’u gwirfodd i fod yn anufudd i Dduw. Ond beth am eu disgynyddion, sy’n cynnwys ninnau hefyd?

7, 8. Yn y bôn, pa ddwy elfen sydd yn perthyn i bridwerth?

7 Fe wnaeth Jehofa achub dynolryw drwy gyfrwng y pridwerth. Beth yw pridwerth? Yn y bôn, mae dwy elfen yn perthyn i bridwerth. Yn gyntaf, pridwerth yw’r pris sy’n cael ei dalu er mwyn rhyddhau rhywbeth neu ei brynu yn ôl. Mae hyn yn debyg i’r pris sy’n cael ei dalu er mwyn rhyddhau carcharor rhyfel. Yn ail, pridwerth yw’r pris sy’n ddigon i dalu am rywbeth. Mae’n debyg i’r pris sy’n cael ei dalu fel iawndal am niwed. Er enghraifft, os yw rhywun yn achosi damwain, bydd yn rhaid iddo dalu swm sy’n cyfateb yn union i werth yr hyn a gafodd ei ddifrodi.

8 Sut byddai hi’n bosibl i wneud yn iawn am y golled anferth a ddaeth i ran pob un ohonon ni o achos Adda, ac i’n rhyddhau ni rhag bod yn gaeth i bechod a marwolaeth? Gadewch inni ystyried y pridwerth y mae Jehofa wedi ei drefnu a beth gall hyn ei olygu i chi.

SUT TREFNODD JEHOFA Y PRIDWERTH

9. Pa fath o bridwerth oedd ei angen?

9 Gan mai bywyd dynol perffaith oedd wedi ei golli, ni fyddai bywyd dynol amherffaith byth yn medru ei brynu yn ôl. (Salm 49:7, 8) Roedd rhaid i’r pridwerth fod yn gyfwerth â’r hyn a gollwyd. Mae hyn yn cyd-fynd â’r egwyddor o gyfiawnder perffaith sydd i’w chael yn y Beibl: “Bywyd am fywyd.” (Deuteronomium 19:21) Beth fyddai’n gyfwerth â’r bywyd dynol perffaith a gollodd Adda? Bywyd dynol perffaith arall oedd ei angen i fod yn bridwerth cyfatebol.—⁠1 Timotheus 2:6.

10. Sut gwnaeth Jehofa drefnu’r pridwerth?

10 Sut trefnodd Jehofa y pridwerth? Anfonodd un o’i ysbryd feibion perffaith i’r ddaear. Nid rhywun-rhywun o blith yr ysbryd greaduriaid wnaeth Jehofa ei anfon. Anfonodd yr un mwyaf annwyl iddo, ei unig-anedig Fab. (Darllenwch 1 Ioan 4:9, 10.) O’i wirfodd, gadawodd y mab hwn ei gartref nefol. (Philipiaid 2:7) Fel y dysgon ni ym mhennod flaenorol y llyfr hwn, trosglwyddodd Jehofa fywyd y Mab hwn i groth Mair mewn ffordd wyrthiol. Drwy rym ysbryd glân Duw, cafodd Iesu ei eni yn ddyn perffaith, yn rhydd o effaith pechod.—⁠Luc 1:35.

Rhoddodd Jehofa ei unig-anedig Fab yn bridwerth droston ni

11. Sut gall un dyn fod yn bridwerth dros filiynau o bobl?

11 Sut gall un dyn fod yn bridwerth dros lawer, hyd yn oed dros filiynau o bobl? Wel, sut daeth miliynau o bobl yn bechaduriaid yn y lle cyntaf? Cofiwch fod Adda, drwy bechu, wedi colli ei fywyd dynol perffaith a gwerthfawr. O ganlyniad, doedd dim modd i’w blant etifeddu bywyd perffaith. Yn lle hynny, pechod a marwolaeth oedd yr unig etifeddiaeth bosibl. Roedd gan Iesu, yr un y mae’r Beibl yn ei alw’n “Adda diwethaf,” fywyd dynol perffaith ac ni wnaeth ef erioed bechu. (1 Corinthiaid 15:45) Mewn ffordd, cymerodd Iesu le Adda er mwyn ein hachub ni. Drwy aberthu, neu ildio, ei fywyd perffaith mewn ufudd-dod di-fai i Dduw, fe wnaeth Iesu dalu’r pris am bechod Adda. Daeth Iesu â gobaith, felly, i ddisgynyddion Adda.—⁠Rhufeiniaid 5:19; 1 Corinthiaid 15:21, 22.

12. Beth gwnaeth dioddefaint Iesu ei brofi?

12 Mae’r Beibl yn disgrifio’n fanwl ddioddefaint Iesu cyn iddo farw. Cafodd ei fflangellu ac yna’i hoelio ar stanc i farw mewn poen dirdynnol. (Ioan 19:1, 16-18, 30; “A Ddylai Cristnogion Ddefnyddio’r Groes Wrth Addoli?” erthygl yn yr Atodiad.) Pam roedd rhaid i Iesu ddioddef gymaint? Yn nes ymlaen yn y llyfr hwn, byddwn yn gweld bod Satan wedi codi amheuon gan holi a oes gan Jehofa yr un gwas dynol a fyddai’n aros yn ffyddlon iddo dan brawf. Drwy aros yn ffyddlon er gwaethaf poen enbyd, atebodd Iesu her Satan yn y ffordd orau bosibl. Profodd Iesu fod dyn perffaith ag ewyllys rhydd yn medru aros yn berffaith ffyddlon i Dduw ni waeth beth byddai’r Diafol yn ei wneud. Rhaid bod Jehofa wedi llawenhau yn fawr o weld ffyddlondeb ei Fab annwyl!—⁠Diarhebion 27:11.

13. Sut cafodd y pridwerth ei dalu?

13 Sut cafodd y pridwerth ei dalu? Ar bedwerydd ar ddeg y mis Iddewig Nisan, yn y flwyddyn 33 OG, gadawodd Jehofa i’w Fab perffaith a dibechod gael ei ddienyddio. Yn y modd hwn, aberthodd Iesu ei fywyd dynol perffaith “un waith am byth.” (Hebreaid 10:10) Ar y trydydd diwrnod ar ôl i Iesu farw, fe wnaeth Jehofa ei atgyfodi i fywyd fel ysbryd. Yn y nef, cyflwynodd Iesu werth y bywyd dynol perffaith yr oedd ef wedi ei aberthu fel pridwerth yn gyfnewid am ddisgynyddion Adda. (Hebreaid 9:24) Derbyniodd Jehofa werth aberth Iesu fel y pridwerth angenrheidiol i waredu dynolryw rhag bod yn gaeth i bechod a marwolaeth.—⁠Darllenwch Rhufeiniaid 3:23, 24.

BETH GALL Y PRIDWERTH EI OLYGU I CHI?

14, 15. I dderbyn “maddeuant ein pechodau” beth mae’n rhaid inni ei wneud?

14 Er gwaethaf ein cyflwr pechadurus, gallwn ni dderbyn bendithion amhrisiadwy oherwydd y pridwerth. Gadewch inni ystyried rhai o’r bendithion sydd ar gael nawr a’r rhai fydd ar gael yn y dyfodol oherwydd yr anrheg fwyaf hon gan Dduw.

15 Maddeuant pechodau. Oherwydd ein bod ni wedi etifeddu amherffeithrwydd, rydyn ni’n ei chael hi’n anodd gwneud yr hyn sy’n iawn. Rydyn ni i gyd yn pechu mewn gair neu weithred. Trwy aberth pridwerthol Iesu, gallwn ni gael “maddeuant ein pechodau.” (Colosiaid 1:13, 14) Ond, i gael maddeuant mae’n rhaid inni wir edifarhau. Hefyd, mae’n rhaid inni ymbil ar Jehofa yn ostyngedig gan ofyn am faddeuant ar sail ein ffydd yn aberth pridwerthol ei Fab.—⁠Darllenwch 1 Ioan 1:8, 9.

16. Beth sy’n caniatáu inni addoli Duw â chydwybod lân, a beth yw gwerth cydwybod o’r fath?

16 Cydwybod lân gerbron Duw. Gall cydwybod euog arwain at anobaith a gwneud inni deimlo’n ddi-werth. Ond, drwy’r maddeuant sy’n bosibl oherwydd y pridwerth, mae Jehofa yn garedig ac yn caniatáu inni ei addoli â chydwybod lân er gwaethaf ein camweddau. (Hebreaid 9:13, 14) Mae hyn yn rhoi’r hyder inni siarad â Jehofa. Felly, rydyn ni’n medru gweddïo arno â rhyddid llwyr. (Hebreaid 4:14-16) Trwy gadw cydwybod lân, cawn dawelwch meddwl, hunan-barch, a hapusrwydd.

17. Pa fendithion sy’n bosibl oherwydd i Iesu farw droston ni?

17 Gobaith byw am byth mewn paradwys ar y ddaear. “Y mae pechod yn talu cyflog, sef marwolaeth,” dywed Rhufeiniaid 6:23. Ond, mae’r un adnod yn ychwanegu: “Ond rhoi yn rhad y mae Duw, rhoi bywyd tragwyddol yng Nghrist Iesu ein Harglwydd.” Ym Mhennod 3 o’r llyfr hwn, fe wnaethon ni drafod bendithion y Baradwys sydd i ddod ar y ddaear. (Datguddiad 21:3, 4) Yn y dyfodol, bydd pob un o’r bendithion hynny, gan gynnwys bywyd tragwyddol mewn iechyd perffaith, yn bosibl oherwydd bod Iesu wedi marw droston ni. I dderbyn y bendithion hynny, mae’n rhaid inni ddangos ein bod ni’n gwerthfawrogi anrheg y pridwerth.

SUT GALLWCH CHI DDANGOS EICH GWERTHFAWROGIAD?

18. Pam dylen ni fod yn ddiolchgar i Jehofa am y pridwerth?

18 Pam dylen ni fod yn hynod o ddiolchgar i Jehofa am y pridwerth. Wel, mae anrheg yn golygu llawer iawn mwy inni pan fydd yr un sydd yn ei rhoi wedi mynd i drafferth o ran amser, ymdrech neu arian. Mae anrheg sy’n mynegi cariad diffuant tuag aton ni yn cyffwrdd â’n calon. Y pridwerth yw’r anrheg fwyaf gwerthfawr am fod Duw, wrth ei roi, wedi gwneud yr aberth mwyaf erioed. “Do, carodd Duw y byd gymaint nes iddo roi ei unig Fab,” dywed Ioan 3:16. Y pridwerth yw’r dystiolaeth fwyaf amlwg o gariad Jehofa tuag aton ni. Hefyd, mae’n brawf o gariad Iesu gan iddo roi ei fywyd droston ni o’i wirfodd. (Darllenwch Ioan 15:13.) Dylai anrheg y pridwerth ein hargyhoeddi bod Jehofa a’i Fab yn ein caru ni fel unigolion.—⁠Galatiaid 2:20.

Dod i adnabod Jehofa yw un ffordd o ddangos eich bod chi’n gwerthfawrogi ei rodd, y pridwerth

19, 20. Ym mha ffyrdd medrwch chi ddangos eich bod chi’n gwerthfawrogi’r pridwerth, sef anrheg Duw?

19 Sut gallwch chi ddangos eich bod chi’n gwerthfawrogi anrheg Duw, y pridwerth? Yn gyntaf, ewch ati i ddod i adnabod y Rhoddwr Mawr Jehofa. (Ioan 17:3) Bydd astudio’r Beibl gyda chymorth y llyfr hwn yn eich helpu. Wrth ichi ddod i adnabod Jehofa, bydd eich cariad tuag ato yn tyfu. Yna, bydd y cariad hwnnw yn gwneud ichi deimlo’n awyddus i’w blesio.—⁠1 Ioan 5:3.

20 Rhoi ffydd yn aberth pridwerthol Iesu ar waith. Dywedwyd am Iesu: “Pwy bynnag sy’n credu yn y Mab y mae bywyd tragwyddol ganddo.” (Ioan 3:36) Sut gallwn ni roi ein ffydd yn Iesu ar waith? Dydy’r fath ffydd ddim yn cael ei dangos mewn geiriau yn unig. “Y mae ffydd heb weithredoedd yn farw,” dywed Iago 2:26. Ie, mae gwir ffydd i’w gweld yn ein “gweithredoedd,” hynny yw, yr hyn rydyn ni yn ei wneud. Un ffordd i ddangos ein ffydd yn Iesu yw gwneud ein gorau glas i’w efelychu mewn gair a gweithred.—⁠Ioan 13:15.

21, 22. (a) Pam dylen ni fynychu dathliad blynyddol Swper yr Arglwydd? (b) Beth bydd yn cael ei egluro ym Mhenodau 6 a 7?

21 Mynychu coffadwriaeth flynyddol Swper yr Arglwydd. Ar noson 14 Nisan 33 OG, fe wnaeth Iesu sefydlu dathliad arbennig y mae’r Beibl yn ei alw’n “swper yr Arglwydd.” (1 Corinthiaid 11:20; Mathew 26:26-28) Enw arall ar y dathliad hwn yw Coffadwriaeth marwolaeth Crist. Fe’i sefydlwyd gan Iesu i helpu ei apostolion a phob gwir Gristion ers hynny i gofio mai drwy ei farwolaeth fel dyn perffaith y rhoddodd ei fywyd fel pridwerth. Yn sôn am y dathliad hwn, gorchmynnodd Iesu: “Gwnewch hyn er cof amdanaf.” (Luc 22:19) Mae dathlu’r Goffadwriaeth yn ein hatgoffa ni mai cariad mawr Jehofa a Iesu sydd y tu ôl i’r pridwerth. Gallwn ni ddangos ein bod ni’n gwerthfawrogi’r pridwerth trwy fynychu dathliad blynyddol Coffadwriaeth marwolaeth Iesu. *

22 Rhodd hynod werthfawr gan Jehofa yw’r pridwerth. (2 Corinthiaid 9:14, 15) Bydd hyd yn oed y meirw yn gallu elwa ar yr anrheg amhrisiadwy hon. Bydd hyn yn cael ei esbonio ym Mhenodau 6 a 7.

^ Par. 21 Am fwy o wybodaeth ar ystyr Swper yr Arglwydd, gweler yr erthygl “Swper yr Arglwydd—Dathliad Sy’n Anrhydeddu Duw,” sydd i’w gweld yn yr Atodiad.