Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Llythyr Oddi Wrth y Corff Llywodraethol

Llythyr Oddi Wrth y Corff Llywodraethol

Neges i’r rhai sy’n caru Jehofa:

“Cewch wybod y gwirionedd, a bydd y gwirionedd yn eich rhyddhau,” meddai Iesu. (Ioan 8:32) Onid yw’r geiriau hynny yn codi dy galon? Hyd yn oed yn y “dyddiau diwethaf” sydd ohoni, mewn byd llawn anwiredd, y mae’n bosibl cael gwybod y gwirionedd. (2 Timotheus 3:1) Wyt ti’n cofio pa mor hapus roeddet ti i weld y gwirionedd yng Ngair Duw am y tro cyntaf?

Wrth gwrs, mae deall y gwirionedd a sôn amdano wrth eraill yn bwysig iawn. Ond yr un mor bwysig yw byw yn unol â’r gwirionedd hwnnw. Er mwyn gwneud hynny, mae’n rhaid inni gadw ein hunain yng nghariad Duw. Beth mae hynny yn ei olygu? Atebodd Iesu’r cwestiwn hwnnw y noson cyn iddo farw. Fe ddywedodd wrth ei apostolion ffyddlon: “Os cadwch fy ngorchmynion fe arhoswch yn fy nghariad, yn union fel yr wyf fi wedi cadw gorchmynion fy Nhad, ac yr wyf yn aros yn ei gariad ef.”—Ioan 15:10.

Sylwa fod Iesu wedi aros yng nghariad Duw drwy gadw gorchmynion ei Dad. Mae’r un peth yn wir yn ein hachos ni heddiw. Er mwyn aros yng nghariad Duw y mae angen inni roi’r gwirionedd ar waith yn ein bywyd pob dydd. Ar yr un noson, dywedodd Iesu: “Os gwyddoch y pethau hyn, gwyn eich byd os gweithredwch arnynt.”—Ioan 13:17.

Rydyn ni’n mawr obeithio y bydd y llyfr hwn yn dy helpu di i ddal ati i roi’r gwirionedd ar waith yn dy fywyd ac i gadw dy hun “yng nghariad Duw gan ddisgwyl am . . . fywyd tragwyddol.”—Jwdas 21.

Corff Llywodraethol Tystion Jehofa