Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

PENNOD 15

Cael Mwynhad o’th Holl Lafur

Cael Mwynhad o’th Holl Lafur

“Rhodd Duw yw fod pob un . . . yn cael mwynhad o’i holl lafur.”—PREGETHWR 3:13.

1-3. (a) Sut mae llawer yn teimlo am eu swyddi? (b) Beth yw safbwynt y Beibl tuag at weithio, a pha gwestiynau y byddwn ni yn eu hystyried yn y bennod hon?

I LAWER o bobl heddiw, mae gwaith yn bell o fod yn bleserus. Mae gorfod gweithio oriau maith bob dydd mewn swydd ddiflas yn ddigon i godi’r felan ar unrhyw un. Sut gall y rhai sy’n teimlo fel hyn ddechrau cymryd diddordeb yn eu gwaith neu hyd yn oed dechrau mwynhau eu gwaith?

2 Mae’r Beibl yn rhoi darlun cadarnhaol o weithio’n galed. Mae’n dweud bod gwaith yn dod â bendithion. Ysgrifennodd Solomon: “Gwn mai rhodd Duw yw fod pob un yn bwyta ac yn yfed ac yn cael mwynhad o’i holl lafur.” (Pregethwr 3:13) Mae Jehofa bob amser yn ystyried ein lles, ac y mae eisiau inni fwynhau ein gwaith a ffrwyth ein llafur. I aros yn ei gariad, mae’n bwysig inni fabwysiadu safbwynt ac egwyddorion Jehofa tuag at weithio.—Darllen Pregethwr 2:24; 5:18.

3 Yn y bennod hon, byddwn yn ystyried pedwar cwestiwn: Sut gallwn ni gael mwynhad o’n llafur? Pa fath o waith na fyddai gwir Gristnogion yn ei wneud? Sut gallwn ni gadw cydbwysedd rhwng ein gwaith a’n gweithgareddau ysbrydol? A beth yw’r gwaith pwysicaf y gallwn ni ei wneud? Ond yn gyntaf, edrychwn ni ar esiampl y gweithwyr gorau—Jehofa Dduw a Iesu Grist.

Y GWEITHWYR GORAU

4, 5. Sut mae’r Beibl yn dangos bod Jehofa yn weithgar?

4 Jehofa yw’r Gweithiwr Goruchaf. Dywed Genesis 1:1: “Yn y dechreuad creodd Duw y nefoedd a’r ddaear.” Ar ôl i Dduw greu’r ddaear fe ddywedodd fod pob peth “yn dda iawn.” (Genesis 1:31) Hynny yw, roedd ei waith o greu’r ddaear a phopeth arni wedi rhoi pleser mawr iddo. Heb os, roedd gwaith Jehofa yn achos llawenydd mawr iddo.—1 Timotheus 1:11.

5 Dydy Duw byth yn stopio gweithio. Ymhell ar ôl i’r gwaith o greu’r ddaear ddod i ben, fe ddywedodd Iesu: “Y mae fy Nhad yn dal i weithio hyd y foment hon, ac yr wyf finnau’n gweithio hefyd.” (Ioan 5:17) Beth mae’r Tad wedi bod yn ei wneud? O’i drigfan yn y nef, mae Duw wedi bod yn weithgar yn gofalu am y ddynoliaeth a’i harwain. Y mae wedi llunio ‘creadigaeth newydd,’ sef Cristnogion wedi eu geni o’r ysbryd a fydd, yn y pen draw, yn rheoli gyda Iesu yn y nef. (2 Corinthiaid 5:17) Y mae wedi bod yn gweithio i gyflawni ei fwriad ar gyfer dynolryw, er mwyn sicrhau y bydd y rhai sydd yn ei garu yn cael bywyd tragwyddol mewn byd newydd. (Rhufeiniaid 6:23) Mae Jehofa wrth ei fodd gyda chanlyniadau ei waith. Mae miliynau wedi cael eu denu at Jehofa ac wedi ymateb i’r neges am y Deyrnas ac wedi newid eu bywydau er mwyn aros yng nghariad Duw.—Ioan 6:44.

6, 7. Beth yw hanes Iesu fel gweithiwr da?

6 Mae gan Iesu hanes hir o weithio’n galed. Cyn iddo ddod i’r ddaear fel dyn, roedd yn gweithio ‘wrth ochr’ ei Dad yn gwneud “pob peth yn y nefoedd ac ar y ddaear.” (Diarhebion 8:22-31; Colosiaid 1:15-17) Pan ddaeth i’r ddaear, roedd Iesu’n dal i weithio’n galed. Pan oedd yn ifanc, fe ddysgodd y grefft o adeiladu ac roedd yn cael ei adnabod fel ‘y saer.’ * (Marc 6:3) Roedd gwaith saer yn gofyn am amrywiaeth o sgiliau, a chryn dipyn o nerth corfforol, yn enwedig cyn dyddiau melinau llifio, gwerthwyr nwyddau adeiladu, ac offer trydanol. Gallwn ni ddychmygu Iesu yn mynd allan i nôl ei goed ei hun, yn torri’r coed i lawr ac yn eu llusgo i le bynnag yr oedd yn gweithio. Meddylia amdano yn adeiladu tai, yn paratoi ac yn gosod trawstiau, yn gwneud drysau, a hyd yn oed dodrefn. Roedd Iesu’n gwybod o brofiad fod pleser mawr i’w gael mewn gwaith caled a medrus.

7 Roedd Iesu yn gweithio yn hynod o gydwybodol yn ei weinidogaeth. Am dair blynedd a hanner, fe roddodd ei holl sylw i’r gwaith pwysig hwnnw. Er mwyn siarad â chynifer o bobl ag y gallai, fe fyddai’n codi gyda’r wawr ac yn gweithio tan yr hwyr. (Luc 21:37, 38; Ioan 3:2) Bu’n “teithio trwy dref a phentref gan bregethu a chyhoeddi’r newydd da am deyrnas Dduw.” (Luc 8:1) Cerddodd Iesu gannoedd o filltiroedd ar hyd ffyrdd llychlyd i fynd â’r newyddion da i’r bobl.

8, 9. Sut cafodd Iesu fwynhad o’i waith caled?

8 A oedd Iesu’n mwynhau gweithio’n galed yn y weinidogaeth? Oedd, yn sicr! Fe heuodd hadau gwirionedd y Deyrnas, a gadael ar ei ôl feysydd a oedd yn barod i’w cynaeafu. Gymaint oedd y nerth a gafodd Iesu drwy wneud gwaith Duw fel yr oedd yn fodlon mynd heb fwyd i gwblhau’r gwaith hwnnw. (Ioan 4:31-38) Meddylia am foddhad Iesu ar ddiwedd ei weinidogaeth ar y ddaear pan ddywedodd wrth ei Dad: “Yr wyf fi wedi dy ogoneddu ar y ddaear trwy orffen y gwaith a roddaist imi i’w wneud.”—Ioan 17:4.

9 Heb os, Jehofa a Iesu yw’r esiamplau gorau o ran cael mwynhad o weithio’n galed. Oherwydd ein cariad tuag at Jehofa, rydyn ni’n dymuno bod yn “efelychwyr Duw.” (Effesiaid 5:1) Mae ein cariad at Iesu yn ein cymell ni i “ganlyn yn ôl ei draed ef.” (1 Pedr 2:21) Nesaf, gad i ni weld sut gallwn ni weld gwerth ein gwaith caled.

SUT I GAEL MWYNHAD O WAITH CALED

Bydd egwyddorion y Beibl yn dy helpu i fwynhau dy waith

10, 11. Beth all ein helpu ni i feithrin agwedd gadarnhaol tuag at ein gwaith?

10 Mae gweithio i ennill bywoliaeth yn rhan o fywyd gwir Gristnogion. Rydyn ni i gyd eisiau bod yn hapus yn ein gwaith, ond gall hyn fod yn anodd mewn swydd nad ydyn ni yn ei hoffi. Sut gallwn ni gael mwynhad o’n gwaith mewn amgylchiadau o’r fath?

11 Trwy feithrin agweddau cadarnhaol. Ni allwn ni bob amser newid ein sefyllfa, ond fe allwn ni newid ein hagwedd. Gall myfyrio ar safbwynt Duw ein helpu ni i feithrin agwedd gadarnhaol tuag at ein gwaith. Er enghraifft, os wyt ti’n benteulu, cofia fod dy waith, er mor ddiflas a di-nod ydyw, yn caniatáu iti ddarparu yn faterol ar gyfer dy deulu. Nid peth dibwys yw hyn yng ngolwg Duw. Dywed ei Air fod rhywun nad yw’n darparu ar gyfer ei deulu yn “waeth nag anghredadun.” (1 Timotheus 5:8) Bydd rhywun sy’n edrych ar ei swydd fel modd i gyflawni ei ddyletswyddau ysbrydol yn fwy tebygol o gael mwynhad o’i waith na’i gyd-weithwyr.

12. Beth yw’r manteision o fod yn onest ac yn gydwybodol yn ein gwaith?

12 Trwy fod yn gydwybodol ac yn onest. Mae gweithio’n galed a dysgu sut i wneud ein gwaith yn dda yn dod â bendithion. Yn aml iawn, mae cyflogwyr yn awyddus i ddal eu gafael ar weithwyr cydwybodol a medrus. (Diarhebion 12:24; 22:29) Fel gwir Gristnogion, mae’n rhaid inni fod yn onest a pheidio byth â dwyn arian na deunydd nac amser oddi ar ein cyflogwyr. (Effesiaid 4:28) Fel y gwelon ni yn y bennod flaenorol, mae gonestrwydd bob amser yn talu. Mae’n debyg y bydd cyflogwyr yn ymddiried mewn gweithwyr gonest. P’un a yw ein cyflogwr yn sylwi ar ein gwaith caled ai peidio, fe allwn ni deimlo’n hapus oherwydd bydd gennyn ni “gydwybod lân” a byddwn ni’n plesio’r Duw rydyn ni yn ei garu.—Hebreaid 13:18; Colosiaid 3:22-24.

13. Beth all ddigwydd os ydyn ni’n gosod esiampl dda yn y gweithle?

13 Trwy gofio bod ein hymddygiad yn gogoneddu Duw. Pan fyddwn ni’n ymddwyn yn ôl safonau Cristnogol yn y gwaith, bydd eraill yn sicr o sylwi. A beth fydd y canlyniadau? Fe fyddwn ni “yn addurn ym mhob peth i athrawiaeth Duw, ein Gwaredwr.” (Titus 2:9, 10) Mae ein hymddygiad da yn denu pobl at ein ffydd. Dychmyga sut y byddet ti’n teimlo petai un o’th gyd-weithwyr yn dangos diddordeb yn y gwirionedd oherwydd dy esiampl dda! Yn bwysicaf oll, ystyria hyn: Beth all fod yn well na gwybod bod dy ymddygiad da yn gogoneddu Jehofa ac yn llawenhau ei galon?—Darllen Diarhebion 27:11; 1 Pedr 2:12.

DEWIS EIN GWAITH YN OFALUS

14-16. Wrth ddewis ein gwaith, pa ddau gwestiwn allweddol y dylen ni eu hystyried?

14 Dydy’r Beibl ddim yn rhoi rhestr fanwl o’r math o waith sy’n dderbyniol neu’n annerbyniol. Ond nid yw hynny’n golygu ein bod ni’n rhydd i dderbyn unrhyw fath o waith. Gall y Beibl ein helpu ni i ddewis gwaith sydd yn fuddiol, yn onest, ac sy’n plesio Duw. (Diarhebion 2:6) Wrth ddewis ein gwaith, dylen ni ystyried dau gwestiwn allweddol.

15 A fyddai gwneud y gwaith hwn yn gofyn inni wneud rhywbeth y mae’r Beibl yn ei gondemnio? Mae gair Duw yn llwyr gondemnio lladrata, dweud celwyddau, a gwneud eilunod. (Exodus 20:4; Actau 15:29; Effesiaid 4:28; Datguddiad 21:8) Fe fyddwn ni’n gwrthod yn llwyr unrhyw waith sy’n gofyn inni wneud pethau o’r fath. Ni fydd ein cariad at Jehofa yn caniatáu inni dderbyn gwaith sy’n mynd yn groes i orchmynion Duw.—Darllen 1 Ioan 5:3.

16 A fyddai gwneud y gwaith hwn yn golygu ein bod ni’n hyrwyddo gweithredoedd drwg neu’n cael rhyw ran ynddyn nhw? Ystyria yr esiampl hon: Dydy gweithio fel derbynnydd ddim yn anghywir ynddo’i hun. Ond eto, beth petai Cristion yn cael cynnig swydd mewn derbynfa clinig erthylu? Wrth gwrs, ni fyddai derbynnydd yn cymryd rhan uniongyrchol yn y triniaethau erthylu. Serch hynny, oni fyddai ei swydd reolaidd yn cefnogi gwaith y clinig sy’n arbenigo mewn triniaethau erthylu, gweithred sy’n gwbl groes i Air Duw? (Exodus 21:22-24) Fel rhai sy’n caru Jehofa, fyddwn ni ddim eisiau bod yn gysylltiedig â’r fath weithredoedd anysgrythurol.

17. (a) Pa ffactorau y byddwn ni’n eu pwyso a’u mesur wrth ddewis ein gwaith? (Gweler y blwch  “A Ddylwn i Dderbyn y Swydd?”) (b) Sut gall ein cydwybod ein helpu ni i wneud penderfyniadau sy’n plesio Duw?

17 Fe allwn ni ddatrys llawer o gwestiynau am ein gwaith drwy bwyso a mesur yr atebion i’r ddau gwestiwn allweddol ym mharagraffau 15 ac 16. Ar ben hynny, mae ffactorau eraill i’w hystyried wrth wneud penderfyniadau am ein gwaith. * Dydyn ni ddim yn disgwyl i’r “gwas ffyddlon a chall” wneud rheolau ar gyfer pob un sefyllfa a all godi. Dyna pryd mae angen doethineb arnon ni. Fel y dysgon ni ym Mhennod 2, mae angen inni hyfforddi ein cydwybod drwy ddysgu sut y mae rhoi Gair Duw ar waith yn ein bywydau. Ar ôl i’n “synhwyrau” gael eu hyfforddi “trwy ymarfer,” bydd ein cydwybod yn ein helpu ni i wneud penderfyniadau sy’n plesio Duw ac sydd yn ein cadw yn ei gariad.—Hebreaid 5:14.

CADW AGWEDD GYTBWYS TUAG AT EIN GWAITH

18. Pam nad yw’n hawdd cadw cydbwysedd ysbrydol?

18 Dydy hi ddim yn hawdd cadw ein cydbwysedd ysbrydol yn “amserau enbyd” y “dyddiau diwethaf” hyn. (2 Timotheus 3:1) Gall dod o hyd i swydd a’i chadw fod yn anodd iawn. Fel gwir Gristnogion, rydyn ni’n credu ei bod hi’n bwysig iawn inni weithio’n galed i gynnal ein teuluoedd. Ond os nad ydyn ni’n ofalus, gall pwysau gwaith neu ysbryd materol y byd effeithio arnon ni ac amharu ar ein gwasanaeth i Dduw. (1 Timotheus 6:9, 10) Gad inni weld sut mae’n bosibl inni gadw’r cydbwysedd a chanolbwyntio ar yr “hyn sy’n rhagori.”—Philipiaid 1:10.

19. Pam mae Jehofa yn deilwng o’n ffydd, a beth mae ymddiried ynddo yn ein helpu ni i’w osgoi?

19 Ymddirieda’n llwyr yn Jehofa. (Darllen Diarhebion 3:5, 6.) Onid yw Jehofa yn deilwng o’n ffydd? Wedi’r cwbl, y mae gofal ganddo amdanon ni. (1 Pedr 5:7) Y mae’n gwybod yn union beth sydd ei angen arnon ni ac mae ei ymateb bob amser yn hael. (Salm 37:25) Gad inni, felly, wrando ar gyngor ei Air, sy’n dweud: “Byddwch yn ddiariangar yn eich dull o fyw; byddwch yn fodlon ar yr hyn sydd gennych. Oherwydd y mae ef wedi dweud, ‘Ni’th adawaf fyth, ac ni chefnaf arnat ddim.’” (Hebreaid 13:5) Mae llawer sy’n gwasanaethu Duw yn llawn amser yn hollol sicr fod Duw yn gallu darparu ar gyfer ein hanghenion pob dydd. Os ydyn ni’n ymddiried yn llwyr yn Jehofa i ofalu amdanon ni, fyddwn ni ddim yn pryderu yn ormodol am gynnal ein teuluoedd. (Mathew 6:25-32) Fyddwn ni ddim yn gadael i’n gwaith beri inni esgeuluso ein gweithgareddau ysbrydol, fel pregethu’r newyddion da a mynd i’r cyfarfodydd.—Mathew 24:14; Hebreaid 10:24, 25.

20. Beth mae cadw llygad sengl yn ei feddwl, a sut gelli di wneud hynny?

20 Cadw lygad sengl. (Darllen Mathew 6:22, 23, troednodyn.) Mae cadw ein llygad yn sengl yn golygu peidio â chymhlethu ein bywydau. Mae llygad sengl y Cristion yn canolbwyntio ar un peth, sef gwneud ewyllys Duw. Os yw ffocws ein llygad ar hynny, fyddwn ni ddim yn gosod ein bryd ar geisio bywyd moethus a swyddi sy’n talu cyflogau mawr. Fyddwn ni ddim yn cael ein twyllo gan yr hysbysebion sy’n dweud bod rhaid inni gael y gorau a’r diweddaraf er mwyn bod yn hapus. Sut gelli di gadw dy lygad yn sengl? Trwy beidio â mynd i ddyledion di-angen. Paid â llenwi dy fywyd â llwyth o feddiannau sy’n llyncu dy amser a’th egni. Rho gyngor y Beibl ar waith i fod yn fodlon ar “fwyd a dillad.” (1 Timotheus 6:8) Cadw dy fywyd mor syml â phosibl.

21. Pam dylen ni flaenoriaethu, a beth ddylai ddod yn gyntaf yn ein bywydau?

21 Gosod flaenoriaethau ysbrydol a chadw atyn nhw. Dim ond hyn a hyn y gallwn ni ei wneud mewn bywyd ac felly mae angen inni flaenoriaethu. Fel arall, bydd pethau llai pwysig yn hawlio ein hamser ac yn gwthio’r pethau pwysicaf o’r neilltu. Beth ddylai gael y flaenoriaeth yn ein bywyd? Mae llawer heddiw yn rhoi’r flaenoriaeth i addysg uwch er mwyn cael gyrfa lewyrchus. Ond, anogaeth Iesu i’w ddilynwyr oedd: “Ceisiwch yn gyntaf deyrnas Dduw.” (Mathew 6:33) Fel gwir Gristnogion, rydyn ni’n rhoi Teyrnas Dduw yn gyntaf yn ein bywydau. Dylai patrwm ein bywydau—ein dewisiadau, ein hamcanion, a’n gweithgareddau—ddangos bod y Deyrnas ac ewyllys Duw yn fwy pwysig inni na phethau materol a diddordebau eraill.

GWEITHIO’N GALED YN Y WEINIDOGAETH

Bydd rhoi’r flaenoriaeth i’r gwaith pregethu yn dangos ein cariad tuag at Jehofa

22, 23. (a) Beth yw prif waith gwir Gristnogion, a sut gallwn ni ddangos bod y gwaith hwn yn bwysig inni? (Gweler  “Penderfyniad a Ddaeth â Llawenydd a Bodlonrwydd i Mi.”) (b) O ran ennill bywoliaeth, beth rwyt ti’n benderfynol o’i wneud?

22 Gan gofio bod amser y diwedd yn dirwyn i ben, rydyn ni’n canolbwyntio ar ein prif ddyletswydd fel gwir Gristnogion, sef pregethu a gwneud disgyblion. (Mathew 24:14; 28:19, 20) Fel Iesu, rydyn ni’n awyddus i ymroi’n llwyr i’r gwaith hwn o achub bywydau. Sut gallwn ni ddangos bod y gwaith hwn yn bwysig inni? Mae’r rhan fwyaf o bobl Dduw yn pregethu’n selog fel cyhoeddwyr yn y gynulleidfa. Mae rhai yn gwasanaethu fel arloeswyr neu genhadon. O ddeall pa mor bwysig yw gosod amcanion ysbrydol, mae llawer o rieni yn annog eu plant i ddewis gwasanaethu Jehofa yn llawn amser fel gyrfa. A yw cyhoeddwyr selog y Deyrnas yn mwynhau gweithio yn y weinidogaeth? Ydyn, yn bendant! Bydd gwasanaethu Jehofa â’th holl enaid yn arwain at fywyd llawn hapusrwydd, boddhad a bendithion.—Darllen Diarhebion 10:22.

23 Mae llawer ohonon ni yn gorfod treulio oriau maith yn ennill bywoliaeth i gadw ein teuluoedd. Cofia fod Jehofa eisiau inni fwynhau ein gwaith. Trwy fabwysiadu safbwynt ac egwyddorion Jehofa, fe fyddwn ni’n cael boddhad o’n gwaith. Ond gad inni fod yn benderfynol na fyddwn ni’n gadael i’n gwaith o ennill bywoliaeth dynnu ein sylw oddi ar ein prif waith, sef cyhoeddi’r newyddion da am y Deyrnas. Trwy roi’r lle cyntaf yn ein bywyd i’r gwaith hwnnw, rydyn ni’n dangos ein bod ni’n caru Jehofa a thrwy hynny y byddwn ni’n aros yn ei gariad.

^ Par. 6 Diffinnir y gair Groeg am “saer” fel “enw cyffredinol ar rywun sy’n gwneud gwaith coed, boed hynny ar gyfer tai neu ddodrefn neu ar gyfer unrhyw beth arall sydd wedi ei wneud o bren.”

^ Par. 17 Am drafodaeth fanwl o’r ffactorau y dylen ni eu hystyried wrth ddewis ein gwaith, gweler y Watchtower, 15 Ebrill 1999, tudalennau 28-30, a 15 Gorffennaf 1982, tudalen 26.