PENNOD 10
Priodas—Rhodd gan Dduw Cariadus
“Ni ellir torri rhaff deircainc ar frys.”—PREGETHWR 4:12.
1, 2. (a) Wrth weld pobl yn priodi, pa gwestiynau a all ddod i’n meddwl, a pham? (b) Pa gwestiynau byddwn ni’n eu trafod yn y bennod hon?
WYT ti’n hoffi mynd i briodasau? Gallan nhw fod yn achlysuron hapus dros ben. Ar y diwrnod mawr, mae’r briodferch a’r priodfab yn edrych yn wych. Yn wên i gyd, maen nhw’n edrych ymlaen at y dyfodol, yn llawn gobaith a brwdfrydedd.
2 Sut bynnag, rhaid cyfaddef bod priodas fel sefydliad heddiw mewn cyflwr trychinebus. Er ein bod ni’n dymuno’n dda i bobl sydd newydd briodi, weithiau byddwn ni’n gofyn: ‘A fydd y briodas hon yn un hapus? A fydd y briodas yn para?’ Bydd yr atebion i’r cwestiynau hyn yn dibynnu ar faint mae’r gŵr a’r wraig yn ymddiried yng nghyngor Duw a’i roi ar waith. (Darllen Diarhebion 3:5, 6.) Mae hyn yn hanfodol os ydyn nhw am aros yng nghariad Duw. Nesaf, fe fyddwn ni’n edrych ar atebion y Beibl i’r pedwar cwestiwn canlynol: Pam priodi? Os wyt ti’n priodi, pwy fyddai’n gymar da i ti? Sut gelli di baratoi ar gyfer bywyd priodasol? A beth fydd yn dy helpu di i fod yn hapus ar ôl priodi?
PAM PRIODI?
3. Pam y byddai priodi am resymau dibwys yn beth annoeth i’w wneud?
3 Mae rhai’n credu bod rhaid priodi er mwyn bod yn Mathew 19:11, 12) Fe wnaeth yr apostol Paul drafod manteision bod yn sengl. (1 Corinthiaid 7:32-35) Nid oedd Iesu na’r apostol Paul yn dweud na ddylai pobl briodi. Yn wir, mae gwahardd priodi wedi ei restru ymhlith y pethau “y mae cythreuliaid yn eu dysgu.” (1 Timotheus 4:1-3) Eto, gall aros yn ddibriod fod o fantais fawr i’r rhai sy’n dymuno canolbwyntio’n llwyr ar eu gwasanaeth i Jehofa. Peth annoeth fyddai priodi oherwydd pwysau gan dy ffrindiau, neu am unrhyw resymau dibwys eraill.
hapus. Ond dydy hynny ddim yn wir! Dywedodd Iesu, ac yntau’n ddyn sengl, fod aros yn sengl yn rhodd neu’n ddawn. Fe wnaeth Iesu annog pobl i ystyried byw bywyd sengl petasai hynny’n bosibl. (4. Sut mae priodas hapus yn sylfaen dda ar gyfer magu plant?
4 Ar y llaw arall, a oes rhesymau da dros briodi? Oes, wrth gwrs. Mae priodas hefyd yn rhodd oddi wrth ein Duw cariadus. (Darllen Genesis 2:18.) Mae gan briodas ei manteision ac mae’n medru dod â hapusrwydd. Er enghraifft, priodas dda yw’r sylfaen orau ar gyfer bywyd teuluol. Mae angen amgylchedd sefydlog ar blant, gyda rhieni sydd yn eu caru, yn eu disgyblu, a’u hyfforddi. (Salm 127:3; Effesiaid 6:1-4) Ond nid magu plant yw’r unig reswm dros briodi.
5, 6. (a) Yn ôl Pregethwr 4:9-12, pa fanteision ymarferol sy’n perthyn i gyfeillgarwch agos? (b) Sut gall priodas fod yn debyg i raff deircainc?
5 Ystyria eiriau a chyd-destun yr adnod sydd yn thema i’r bennod hon: “Y mae dau yn well nag un, oherwydd y maent yn cael tâl da am eu llafur; os bydd y naill yn syrthio, y mae’r llall yn gallu ei godi, ond gwae’r un sydd ar ei ben ei hun; pan yw’n syrthio, nid oes ganddo neb i’w godi. Hefyd os bydd dau yn gorwedd gyda’i gilydd, y mae’r naill yn cadw’r llall yn gynnes; ond sut y gall un gadw’n gynnes ar ei ben ei hun? Er y gellir trechu un, y Pregethwr 4:9-12.
mae dau yn gallu gwrthsefyll. Ni ellir torri rhaff deircainc ar frys.”—6 Mae’r adnodau hyn yn sôn, yn bennaf, am werth cyfeillgarwch. Ac, wrth gwrs, math o gyfeillgarwch agos iawn yw priodas. Fel y mae’r adnodau hyn yn dangos, gall perthynas o’r fath fod yn gymorth, yn gysur ac yn amddiffyniad. A chryfach fyth fydd priodas sy’n fwy na chwlwm rhwng dau. Gellir torri rhaff ddwy gainc, ond byddai’n llawer mwy anodd torri rhaff deircainc. Pan fydd y gŵr a’r wraig, ill dau, yn awyddus i blesio Jehofa, bydd eu priodas yn debyg i raff deircainc. Gyda Jehofa yn rhan o’r briodas, bydd yr uniad yn un gwirioneddol gryf.
7, 8. (a) Pa gyngor a roddodd Paul i Gristnogion sengl sy’n brwydro’n erbyn chwantau rhywiol? (b) Pa ddarlun realistig o briodas y mae’r Beibl yn ei roi?
7 Dim ond mewn priodas y mae’n iawn i rywun fodloni ei chwantau rhywiol. Yn wir, mae’r berthynas rywiol o fewn priodas yn rhywbeth i’w fwynhau. (Diarhebion 5:18) Hyd yn oed ar ôl pasio’r oedran pryd y mae chwantau rhywiol cryfion yn blodeuo am y tro cyntaf, fe all rhywun dibriod wynebu ymdrech barhaol i’w rheoli. Ond, os nad ydyn nhw’n cael eu rheoli, gall y fath chwantau arwain at ymddygiad aflan neu amhriodol. Ysbrydolwyd Paul i ysgrifennu’r cyngor hwn ar gyfer pobl ddibriod: “Ond os na allant ymatal, dylent briodi, oherwydd gwell priodi nag ymlosgi.”—1 Corinthiaid 7:9; Iago 1:15.
8 Beth bynnag yw rhesymau rhywun dros briodi, peth da yw bod yn realistig. Wrth drafod pobl briod, dywedodd Paul: “Fe gaiff rhai felly flinder yn y bywyd hwn.” (1 Corinthiaid 7:28) Bydd pobl briod yn wynebu anawsterau na fydd pobl sengl yn eu hwynebu. Ond os wyt ti’n dewis priodi, beth gelli di ei wneud i greu priodas hapus sydd â chyn lleied o broblemau â phosibl? Un peth yw dewis cymar yn ofalus.
PWY FYDDAI’N GWNEUD CYMAR DA?
9, 10. (a) Pa eglureb a roddodd Paul i ddangos y peryglon sy’n dod o gael perthynas agos ag anghredinwyr? (b) Gan amlaf, beth yw canlyniad anwybyddu cyngor Duw ynglŷn â phriodi anghredinwyr?
9 Cafodd Paul ei ysbrydoli gan Dduw i nodi egwyddor hollbwysig wrth ddewis gŵr neu wraig: “Peidiwch ag ymgysylltu’n amhriodol ag anghredinwyr.” (2 Corinthiaid 6:14) Yn yr iaith wreiddiol, y gair a gyfieithir “ymgysylltu” yma yw “ieuo.” Mae Paul yn cyfeirio at yr arfer o osod iau ddwbl ar bâr o anifeiliaid. Pe bai’r anifeiliaid yn wahanol o ran maint neu nerth, byddai’r ddau’n dioddef. Yn yr un modd, bydd tensiynau a straen mewn priodas rhwng crediniwr ac anghrediniwr. Os bydd un yn dymuno aros yng nghariad Duw tra bo’r llall yn hidio dim am Dduw, bydd eu blaenoriaethau’n wahanol, ac mae’n debyg y bydd y ddau’n ddigalon. Anogodd Paul, felly, i Gristnogion briodi ‘dim ond yn yr Arglwydd.’—1 Corinthiaid 7:39.
10 Weithiau, mae Cristnogion sengl wedi dod i’r casgliad y byddai’n well priodi rhywun nad yw’n gwasanaethu Jehofa yn hytrach na theimlo’n unig. Ond, gan amlaf, mae anwybyddu cyngor y Beibl yn arwain at ganlyniadau trist. Mewn priodas lle nad oes cytundeb ar y pethau pwysicaf mewn bywyd, gall rhywun deimlo’n fwy unig nag erioed o’r blaen. Ond ar y llaw arall, mae miloedd o Gristnogion sengl yn ymddiried yng nghyngor y Beibl ac yn ei ddilyn yn ffyddlon. (Darllen Salm 32:8.) Er eu bod nhw’n gobeithio priodi ryw ddydd, maen nhw’n fodlon aros yn sengl nes iddyn nhw gael cymar sy’n addoli Jehofa.
11. Pan fyddi di’n barod i briodi, beth all dy helpu di i ddewis yn ddoeth? (Gweler hefyd y blwch “Beth Rydw i’n Chwilio Amdano Mewn Cymar?”)
11 Wrth gwrs, nid yw’r ffaith fod rhywun yn gwasanaethu Jehofa yn golygu y byddai ef neu hi’n gymar *—Darllen Salm 119:105.
addas. Os wyt ti’n meddwl am briodi, edrycha am rywun sydd yn debyg i ti o ran bwriadau ysbrydol a chariad at Dduw, ac sy’n gymharus o ran cymeriad. Mae’r gwas ffyddlon wedi cyhoeddi llawer o wybodaeth werthfawr ar y pwnc. Wrth benderfynu ar y mater hwn, gweddïa yn daer ac ystyria gyngor y Beibl yn ofalus.12. Beth sy’n draddodiadol mewn llawer o wledydd o ran priodasau, a pha esiampl yn y Beibl sy’n rhoi rhyw arweiniad ar y mater hwn?
12 Y traddodiad mewn llawer o wledydd yw bod y rhieni yn dewis cymar i’w plant. Yn y diwylliannau hyn, fe gredir yn gyffredinol fod gan rieni’r profiad angenrheidiol i benderfynu’n ddoeth. Gall priodasau o’r fath fod yn llwyddiannus, fel y buon nhw yn amser y Beibl. Mae’r Beibl yn sôn am Abraham yn anfon ei was i chwilio am wraig i’w fab Isaac ac mae’r esiampl hon yn medru helpu rhieni sydd mewn sefyllfa debyg heddiw. Doedd arian a safle cymdeithasol ddim o bwys i Abraham. Yn hytrach, fe wnaeth ymdrech fawr i gael gwraig i Isaac o blith pobl a oedd yn addoli Jehofa. *—Genesis 24:3, 67.
SUT GELLI DI BARATOI AR GYFER BYWYD PRIODASOL LLWYDDIANNUS?
13-15. (a) Sut gall yr egwyddor yn Diarhebion 24:27 helpu dyn ifanc sy’n ystyried priodi? (b) Beth y gall dynes ifanc ei wneud i baratoi ar gyfer priodi?
13 Os wyt ti o ddifrif ynglŷn â phriodi, peth da fyddai gofyn, ‘Ydw i’n barod?’ Mae mwy i’w ystyried yma na’th
deimladau personol ynglŷn â chariad, rhyw, cwmpeini, a magu plant. Yn hytrach, dylai pob un sy’n meddwl am briodi ystyried y cyfrifoldebau penodol sydd ynghlwm wrth briodas.14 Dylai dyn ifanc sy’n chwilio am wraig feddwl yn ofalus am yr egwyddor hon: “Rho drefn ar dy waith y tu allan, a threfna’r hyn sydd yn dy gae, ac yna adeilada dy dŷ.” (Diarhebion 24:27) Beth yw pwynt yr adnod hon? Yn y dyddiau hynny, petai dyn eisiau priodi a chael plant, roedd yn rhaid iddo ofyn, ‘Ydw i’n barod i gynnal gwraig a gofalu amdani hi ynghyd ag unrhyw blant a all ddod wedyn?’ Yn gyntaf, roedd yn rhaid iddo weithio yn galed ar ei dir. Mae’r egwyddor yr un mor berthnasol heddiw. Dylai dyn sy’n dymuno priodi baratoi ar gyfer ysgwyddo’r cyfrifoldeb. Cyn belled â’i fod yn ddigon abl, fe fydd yn rhaid iddo weithio. Dywed Gair Duw fod dyn nad yw’n gofalu am anghenion corfforol, emosiynol, ac ysbrydol ei deulu yn waeth na dyn heb ffydd!—Darllen 1 Timotheus 5:8.
15 Yn yr un modd, mae dynes sy’n penderfynu priodi yn cytuno i ysgwyddo nifer o gyfrifoldebau pwysig. Mae’r Beibl yn tynnu sylw at rinweddau a sgiliau a fydd yn helpu gwraig i gefnogi ei gŵr a gofalu am ei theulu. (Diarhebion 31:10-31) Mewn gwirionedd, hunanol fyddai unrhyw un sy’n rhuthro i briodi heb fod yn barod i ysgwyddo’r cyfrifoldebau a heb feddwl am beth y gallai ei gynnig i’w ddarpar gymar. Yn fwy na dim, mae angen paratoi’n ysbrydol ar gyfer bywyd priodasol.
16, 17. Pa egwyddorion Ysgrythurol y mae’n bwysig meddwl amdanyn nhw cyn priodi?
16 Mae paratoi ar gyfer priodi yn golygu meddwl yn ddwfn am y rôl y mae Duw wedi ei rhoi i’r gŵr a’r wraig. Effesiaid 5:23) Yn yr un modd, mae’n rhaid i ddynes Gristnogol ddeall rôl urddasol y wraig. A fydd hi’n fodlon ildio i awdurdod ei gŵr? (1 Corinthiaid 11:3) Mae hi eisoes o dan awdurdod Jehofa a Christ. (Galatiaid 6:2) Ar ôl iddi briodi, fe fydd hi hefyd o dan awdurdod ei gŵr. Ydy hi’n medru cefnogi awdurdod dyn amherffaith ac ildio iddo? Os nad ydy hyn yn apelio, efallai y byddai’n well iddi beidio â phriodi.
Mae angen i ddyn ddeall beth y mae bod yn benteulu Cristnogol yn ei olygu. Dydy hyn ddim yn rhoi rhwydd hynt iddo fod yn dipyn o deyrn yn y teulu. I’r gwrthwyneb, mae’n rhaid iddo efelychu penteuluaeth Iesu. (17 Ymhellach, mae angen i’r gŵr a’r wraig fod yn barod i ofalu am anghenion gwahanol ei gilydd. (Darllen Philipiaid 2:4.) Ysgrifennodd Paul: “Ond yr ydych chwithau bob un i garu ei wraig fel ef ei hun; ac y mae’r wraig hithau i barchu ei gŵr.” Dan ddylanwad yr ysbryd glân, fe welodd Paul fod angen arbennig ar y dyn i deimlo bod ei wraig yn ei barchu a bod angen ar y wraig i deimlo bod ei gŵr yn ei charu.—Effesiaid 5:21-33.
Wrth ganlyn, peth doeth yw trefnu i gael siaperon
18. Pam dylai’r rhai sy’n canlyn feithrin hunanreolaeth?
18 Nid cael hwyl yn unig ydy pwrpas canlyn. Mae’n amser i ddyn a dynes ddysgu sut i drin ei gilydd yn iawn, ac i weld a fyddai priodi yn syniad da. Mae’n amser hefyd i ddangos hunanreolaeth! Mae’r temtasiwn i gael perthynas gorfforol agos yn gryf iawn—wedi’r cwbl, mae’r atyniad yn un naturiol. Fodd bynnag, bydd y rhai sy’n gwirioneddol garu ei gilydd yn osgoi gwneud unrhyw beth a all beri niwed ysbrydol i’w gilydd. (1 Thesaloniaid 4:6) Felly, os wyt ti’n canlyn, dysga reoli dy hun; bydd meithrin hunanddisgyblaeth o fudd mawr i ti drwy gydol dy oes, boed iti briodi neu beidio.
SUT GELLI DI GAEL PRIODAS SY’N PARA?
19, 20. Sut dylai agwedd Cristion tuag at briodas fod yn wahanol i agwedd llawer yn y byd heddiw? Rho eglureb.
19 I gael priodas sy’n para, mae’n rhaid deall ystyr ymrwymiad. Yn aml iawn mewn nofelau a ffilmiau, priodas yw’r diweddglo hapus y mae pawb yn ei ddymuno. Mewn bywyd go iawn, fodd bynnag, nid diwedd y stori yw priodas ond y dechrau—dechrau rhywbeth y mae Jehofa wedi ei fwriadu i bara. (Genesis 2:24) Gwaetha’r modd, nid dyna’r agwedd gyffredin heddiw. Mewn rhai diwylliannau, fe glywir sôn am ‘gwlwm priodas.’ Efallai nad yw pobl yn sylweddoli pa mor addas yw’r ymadrodd hwn fel disgrifiad o’r agwedd fodern tuag at briodas. Sut felly? Tra bo cwlwm da yn dal yn dynn, nodwedd arall ar gwlwm yw ei fod yn hawdd ei glymu a’i ddatod.
20 Mae llawer heddiw yn gweld priodas fel rhywbeth dros dro. Maen nhw’n barod i briodi pan fydd hynny yn ateb eu hanghenion, ond pan fydd rhyw anhawster yn codi maen nhw’n disgwyl dod allan ohoni’n ddidrafferth. Ond cofia fod y Beibl yn defnyddio’r gair “rhaff” i ddisgrifio perthynas agos fel priodas. Mae rhaffau llongau hwylio wedi eu gwneud i bara, ac nid i dreulio nac i ddatod, hyd yn oed yn y stormydd mwyaf garw. Yn yr un modd, mae priodas i fod i bara. Cofia eiriau Iesu: “Yr hyn a gysylltodd Duw, ni ddylai neb ei wahanu.” (Mathew 19:6) Os wyt ti’n priodi, dyma sut y dylet ti edrych ar briodas. Ond, a ydy ymrwymiad fel hyn yn golygu bod priodas yn feichus? Dim o gwbl.
21. Pa agwedd y dylai gŵr a gwraig ei meithrin tuag at ei gilydd, a beth all eu helpu nhw i wneud hynny?
21 Dylai gŵr a gwraig bob amser ystyried ei gilydd mewn modd cadarnhaol. Os yw’r ddau yn canolbwyntio RGLWYDD, yn cadw cyfrif o gamweddau, pwy, O ARGLWYDD, a all sefyll?” (Salm 130:3) Mae’n rhaid i wŷr a gwragedd fod yr un mor gadarnhaol a maddeugar gyda’i gilydd.—Darllen Colosiaid 3:13.
ar rinweddau ac ar ymdrechion da ei gilydd, fe fydd y briodas yn un llawen. Ai afresymol yw meddwl fel hyn am gymar amherffaith? Dydy Jehofa byth yn afresymol ac, yn wir, rydyn ni’n dibynnu arno i gadw agwedd gadarnhaol tuag aton ni. Gofynnodd y salmydd: “Os wyt ti, A22, 23. Sut mae esiampl Abraham a Sara o fudd i bobl briod heddiw?
1 Pedr 3:6) Roedd ei pharch tuag at Abraham yn dod o’i chalon.
22 Gall priodas ddod â mwy o hapusrwydd wrth i’r blynyddoedd fynd heibio. Mae’r Beibl yn rhoi hanes priodas Abraham a Sara a hwythau bellach wedi heneiddio. Doedd eu bywyd ddim yn rhydd o anawsterau. Dychmyga sut roedd Sara yn teimlo, a hithau bellach yn ei chwedegau, wrth adael ei chartref cyffyrddus yn ninas lewyrchus Ur a mynd i fyw mewn pebyll am weddill ei hoes. Ond eto, fe ildiodd i awdurdod ei gŵr fel penteulu. Roedd Sara yn parchu penderfyniadau ei gŵr ac yn gweithio i’w cefnogi. Roedd Sara yn galw ei gŵr yn arglwydd. (23 Wrth gwrs, nid yw hyn yn golygu bod Abraham a Sara bob amser yn cytuno. Ar un adeg, fe awgrymodd Sara rywbeth oedd yn “atgas iawn” i Abraham. Ond dywedodd Jehofa wrtho am wrando ar ei wraig a daeth hyn â bendithion i’r teulu. (Genesis 21:9-13) Gall gwŷr a gwragedd heddiw, hyd yn oed y rhai sydd wedi bod yn briod ers degawdau, ddysgu llawer oddi wrth esiampl Abraham a Sara.
24. Pa fath o briodasau sy’n dod â chlod i Jehofa, a pham?
24 Yn y gynulleidfa Gristnogol y mae miloedd o briodasau hapus—priodasau lle mae’r wraig yn parchu ei gŵr, y gŵr yn caru ac yn anrhydeddu ei wraig, a’r ddau yn gweithio gyda’i gilydd i roi ewyllys Jehofa yn gyntaf yn eu bywydau. Os wyt ti’n penderfynu priodi, dewisa dy gymar yn ddoeth, paratoa yn ofalus cyn priodi, a gweithia yn galed i greu perthynas heddychlon a chariadus sy’n anrhydeddu Jehofa. Wedyn, bydd dy briodas yn dy helpu di i aros yng nghariad Duw.
^ Par. 11 Gweler pennod 2 o’r llyfr The Secret of Family Happiness, a gyhoeddir gan Dystion Jehofa.
^ Par. 12 Roedd gan rai o’r patriarchiaid ffyddlon fwy nag un wraig. Yn Israel gynt, fe wnaeth Jehofa ganiatáu amlwreiciaeth. Nid Duw a’i sefydlodd, ond fe roddodd ddeddfau i’w rheoli. Sut bynnag, dylai Cristnogion gofio nad yw Jehofa bellach yn caniatáu amlwreiciaeth ymhlith ei addolwyr.—Mathew 19:9; 1 Timotheus 3:2.