Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ATODIAD

Ennill y Frwydr yn Erbyn Mastyrbio

Ennill y Frwydr yn Erbyn Mastyrbio

Mae mastyrbio’n arferiad sy’n niweidio rhywun yn ysbrydol. Mae’n meithrin agweddau hunanol ac yn llygru’r meddwl. * Gall rhywun sy’n mastyrbio ddechrau edrych ar eraill fel dim mwy na gwrthrychau i fodloni ei chwantau rhywiol. Mae mastyrbio yn tanseilio’r cysylltiad rhwng rhyw a chariad ac yn troi rhyw yn ddim mwy na gweithred difeddwl sy’n rhoi pleser dros dro ac sy’n lleddfu tensiwn rhywiol. Ond dydy’r rhyddhad hwnnw ddim yn para’n hir. Mewn gwirionedd, yn hytrach na rhoi i farwolaeth aelodau’r corff o ran ‘anfoesoldeb rhywiol, amhurdeb, a nwyd [amhriodol],’ mae mastyrbio yn eu cyffroi.—Colosiaid 3:5.

Ysgrifennodd yr apostol Paul: “Gyfeillion annwyl, ymlanhawn oddi wrth bob peth sy’n halogi cnawd ac ysbryd, gan berffeithio ein sancteiddrwydd yn ofn Duw.” (2 Corinthiaid 7:1) Os wyt ti’n ei chael hi’n anodd dilyn y cyngor hwn, paid â digalonni. Mae Jehofa bob amser yn barod i faddau ac i helpu. (Salm 86:5; Luc 11:9-13) Yn wir, mae’r ffaith fod dy gydwybod yn dy bigo, ynghyd â’th ymdrechion i roi’r gorau i’r arferiad, yn dangos bod gennyt ti agwedd dda—a hynny er gwaethaf ambell lithriad. Cofia hefyd fod “Duw yn fwy na’n calon, ac y mae’n gwybod pob peth.” (1 Ioan 3:20) Mae Duw yn gweld mwy na’n pechodau; y mae’n gweld y person cyfan. Pan fyddwn ni’n gweddïo’n daer am drugaredd, mae Duw yn tosturio wrthon ni. Fel y gall plentyn droi at ei dad am help, gelli di hefyd droi bob amser at Jehofa mewn gweddi. A bydd Jehofa yn rhoi cydwybod lân iti. (Salm 51:1-12, 17; Eseia 1:18) Wrth gwrs, mae angen gweithio yn unol â’th weddïau. Felly, gwna dy orau glas i osgoi pob math o bornograffi ac i gadw draw rhag unrhyw un a all fod yn ddylanwad drwg arnat ti. *

Os yw mastyrbio’n parhau i fod yn broblem, beth gelli di ei wneud? Os ydyn nhw’n Gristnogion, siarada ag un o’th rieni, neu siarada ag un o’th ffrindiau sy’n aeddfed yn ysbrydol. *Diarhebion 1:8, 9; 1 Thesaloniaid 5:14; Titus 2:3-5.

^ Par. 3 Mastyrbio yw rhwbio’r organau rhywiol, gan amlaf er mwyn cyrraedd orgasm.

^ Par. 4 Er mwyn rheoli’r ffordd y mae’r cyfrifiadur yn cael ei ddefnyddio, mae llawer o deuluoedd yn ei gadw mewn lle y gall pawb yn y teulu ei weld yn hawdd. Ar ben hynny, mae rhai yn prynu meddalwedd hidlo sy’n rhwystro deunydd annymunol rhag ymddangos. Ond, rhaid cofio dydy’r feddalwedd honno ddim yn hidlo pob dim.

^ Par. 5 Am syniadau ymarferol ar sut i drechu mastyrbio, gweler yr erthygl “Young People Ask . . . How Can I Conquer This Habit?” yn rhifyn Tachwedd 2006 o’r cylchgrawn Awake!, a thudalennau 178-182 o’r llyfr Questions Young People Ask—Answers That Work, Cyfrol 1.