ATODIAD B
A Ddylet Ti Ddod â’r Sgwrs i Ben?
Pan fydd rhywun diffuant yn anghytuno â ni neu’n gofyn inni esbonio rhywbeth, rydyn ni’n hapus i barhau â’r sgwrs. Rydyn ni eisiau siarad â phobl sydd “â’r agwedd gywir ar gyfer cael bywyd tragwyddol.”—Act. 13:48.
Ond beth os bydd rhywun yn ddig, neu eisiau dadlau, neu’n anfodlon sgwrsio y tro hwn? Y peth gorau i’w wneud yw dod â’r sgwrs i ben mewn ffordd dawel a chwrtais. (Diar. 17:14) Bydda’n garedig ac yn barchus. Yna, efallai bydd y person yn fodlon siarad y tro nesaf.—1 Pedr 2:12.