DECHRAU SGWRS
GWERS 1
Dangos Diddordeb
Egwyddor: “[Gofalwch] nid yn unig am eich lles eich hunain, ond hefyd am les pobl eraill.” —Phil. 2:4.
Esiampl Iesu
1. Gwylia’r FIDEO, neu darllena Ioan 4:6-9. Yna ystyria’r cwestiynau canlynol:
Beth Rydyn Ni’n Ei Ddysgu o Esiampl Iesu?
2. Rydyn ni’n fwy tebygol o gael sgwrs dda os ydyn ni’n dechrau gyda phwnc sydd o ddiddordeb i’r person arall.
Dilyna Esiampl Iesu
3. Bydda’n hyblyg. Yn lle mynnu sgwrsio am rywbeth sydd ar dy feddwl di, dechreua gyda rhywbeth y mae pobl eraill yn meddwl amdano. Gofynna i ti dy hun:
4. Sylwa ar yr hyn sydd o dy gwmpas. Gofynna i ti dy hun:
-
‘Beth mae’r person yn ei wneud? Beth, efallai, sydd ar ei feddwl?’
-
‘Beth rydw i’n ei ddysgu am ddaliadau neu ddiwylliant y person drwy edrych ar ei ddillad, ei olwg, a’i gartref?’
5. Gwranda.