GWNEUD DISGYBLION
GWERS 11
Cadw Pethau’n Syml
Egwyddor: “[Defnyddia’r] tafod i ddweud geiriau sy’n hawdd eu deall.”—1 Cor. 14:9.
Esiampl Iesu
1. Gwylia’r FIDEO, neu darllena Mathew 6:25-27. Yna ystyria’r cwestiynau canlynol:
Beth Rydyn Ni’n Ei Ddysgu o Esiampl Iesu?
2. Os ydyn ni’n dysgu mewn ffordd syml, bydd pobl yn cofio yn well a byddwn ni’n cyffwrdd â’u calonnau.
Dilyna Esiampl Iesu
3. Paid â siarad gormod. Yn hytrach na dweud popeth rwyt ti’n ei wybod am y pwnc, canolbwyntia ar y pwyntiau yn y cyhoeddiad. Ar ôl gofyn cwestiwn, arhosa yn amyneddgar am yr ateb. Os nad yw’r myfyriwr yn gwybod yr ateb, neu os yw’n mynegi barn sy’n groes i ddysgeidiaeth y Beibl, defnyddia gwestiynau eraill i’w helpu i resymu. Unwaith ei fod yn deall y prif bwynt, symuda ymlaen.
4. Helpa’r myfyriwr i gysylltu dysgeidiaethau newydd â’r hyn y mae’n ei wybod yn barod. Er enghraifft, cyn dechrau gwers am yr atgyfodiad, efallai cei di adolygu beth mae’r myfyriwr eisoes wedi ei ddysgu am gyflwr y meirw.
5. Defnyddia eglurebau’n ofalus. Cyn iti ddefnyddio eglureb, gofynna i ti dy hun: