Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

GWNEUD DISGYBLION

GWERS 12

Dewrder

Dewrder

Egwyddor: “Fel mae olew a phersawr yn gwneud rhywun yn hapus, mae cyngor ffrind yn gwneud bywyd yn felys.”—Diar. 27:9.

Esiampl Iesu

1. Gwylia’r FIDEO, neu darllena Marc 10:​17-22. Yna ystyria’r cwestiynau canlynol:

  1.    Pa rinweddau a welodd Iesu yn y dyn ifanc?

  2.   Pam roedd angen cariad a dewrder ar Iesu i roi cyngor i’r dyn?

Beth Rydyn Ni’n Ei Ddysgu o Esiampl Iesu?

2. Mae angen inni siarad yn garedig, ond hefyd i esbonio’n eglur beth mae’r myfyriwr yn gallu ei wneud i nesáu at Jehofa.

Dilyna Esiampl Iesu

3. Helpa’r myfyriwr i osod amcanion a’u cyrraedd.

  1.    Tynna sylw at y “Nod” ym mhob gwers yn y llyfr Mwynhewch Fywyd am Byth!

  2.   Helpa’r myfyriwr i weld y camau y mae angen eu cymryd er mwyn cyrraedd ei amcanion yn y tymor byr ac yn y tymor hir.

  3.   Cofia ganmol y myfyriwr am ei gynnydd.

4. Ceisia weld beth sy’n rhwystro’r myfyriwr rhag gwneud cynnydd a’i helpu i drechu’r rhwystrau hynny.

  1.    Gofynna i ti dy hun:

    • ‘Os nad yw’r myfyriwr yn symud tuag at gael ei fedyddio, beth sy’n ei ddal yn ôl?’

    • ‘Beth galla i ei wneud i’w helpu?’

  2.   Gweddïa am y dewrder i drafod, mewn ffordd agored a charedig, beth y mae angen i’r myfyriwr ei wneud.

5. Rho’r gorau i astudio gyda rhywun nad yw’n gwneud cynnydd

  1.    I benderfynu a yw’r myfyriwr yn gwneud cynnydd, gofynna i ti dy hun:

    • ‘A yw’r myfyriwr yn rhoi beth mae’n ei ddysgu ar waith?’

    • ‘A yw’n mynd i gyfarfodydd y gynulleidfa ac yn rhannu’r gwir ag eraill?’

    • ‘Ar ôl astudio am amser hir, a yw’n dymuno dod yn un o Dystion Jehofa?’

  2.   Os nad yw’r myfyriwr yn gwneud cynnydd:

    • Gofynna iddo ystyried beth sy’n ei ddal yn ôl.

    • Esbonia’n garedig pam rwyt ti’n dod â’r astudiaeth i ben.

    • Esbonia beth bydd angen iddo ei wneud os yw’n dymuno astudio eto.

GWELER HEFYD

Salm 141:5; Diar. 25:12; 27:6; 1 Cor. 9:26; Col. 4:​5, 6