DECHRAU SGWRS
GWERS 2
Naturioldeb
Egwyddor: “Mor dda ydy gair yn ei bryd!”—Diar. 15:23.
Esiampl Philip
1. Gwylia’r FIDEO, neu darllena Actau 8:30, 31. Yna ystyria’r cwestiynau canlynol:
Beth Rydyn Ni’n Ei Ddysgu o Esiampl Philip?
2. Os ydyn ni’n gadael i’r sgwrs lifo’n naturiol, mae’n debyg bydd y person yn teimlo’n gyfforddus ac yn fodlon trafod ein neges.
Dilyna Esiampl Philip
3. Sylwa ar yr hyn sydd o dy gwmpas. Mae’r olwg ar wyneb rhywun ac iaith ei gorff yn dweud llawer wrthon ni. Ydy’r person i’w weld yn fodlon siarad? Fe allet ti ddechrau sgwrsio am rywbeth yn y Beibl drwy ofyn, “Oeddech chi’n gwybod bod . . . ?” Paid â gorfodi rhywun i siarad os nad yw’n fodlon.
4. Bydda’n amyneddgar. Paid â meddwl dy fod ti’n gorfod dechrau sôn am y Beibl yn syth. Arhosa am gyfle i gyflwyno’r pwnc yn naturiol. Weithiau bydd hynny’n golygu aros tan y sgwrs nesaf.
5. Bydda’n hyblyg. Efallai bydd sgwrs yn mynd i gyfeiriad annisgwyl. Felly bydda’n fodlon rhannu rhywbeth sy’n berthnasol i’r person, hyd yn oed os bydd hynny’n golygu trafod rhywbeth gwahanol i’r pwnc oedd ar dy feddwl di.
GWELER HEFYD
Preg. 3:1, 7; 1 Cor. 9:22; 2 Cor. 2:17; Col. 4:6