DECHRAU SGWRS
GWERS 4
Gostyngeiddrwydd
Egwyddor: “Gyda gostyngeiddrwydd ystyriwch bobl eraill yn uwch na chi.”—Phil. 2:3.
Esiampl Paul
1. Gwylia’r FIDEO, neu darllena Actau 26:2, 3. Yna ystyria’r cwestiynau canlynol:
-
Sut dangosodd Paul ei fod yn ostyngedig wrth siarad â’r Brenin Agripa?
-
Sut gwnaeth Paul dynnu sylw at Jehofa a’r Ysgrythurau yn hytrach nag ato ef ei hun?—Gweler Actau 26:22.
Beth Rydyn Ni’n Ei Ddysgu o Esiampl Paul?
2. Mae siarad yn barchus a bod yn ostyngedig yn gwneud y neges yn fwy apelgar.
Dilyna Esiampl Paul
3. Paid â bychanu pobl. Paid â rhoi’r argraff dy fod ti’n gwybod y cwbl ac nad yw’r person arall yn gwybod dim byd. Dangosa barch at ei safbwynt.
4. Esbonia fod y gwirioneddau rwyt ti’n eu rhannu yn dod o’r Beibl. Mae Gair Duw yn cynnwys syniadau sy’n cyffwrdd â chalonnau. Drwy ei ddefnyddio, rydyn ni’n adeiladu ffydd y person ar y sylfaen iawn.
5. Paid â chynhyrfu. Paid â mynnu gwneud pwynt. Dydyn ni ddim eisiau dadlau. Dangosa dy fod ti’n ostyngedig drwy aros yn dawel a thrwy wybod pryd i adael. (Diar. 17:14; Titus 3:2) Os ydyn ni’n siarad yn addfwyn efallai bydd y person yn fodlon gwrando ar ein neges yn y dyfodol.