Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

DECHRAU SGWRS

GWERS 5

Parch

Parch

Egwyddor: “Gadewch i’ch geiriau fod yn garedig drwy’r amser.”—Col. 4:6.

Esiampl Paul

1. Gwylia’r FIDEO, neu darllena Actau 17:​22, 23. Yna ystyria’r cwestiynau canlynol:

  1.    Sut roedd Paul yn teimlo am yr arferion crefyddol a welodd yn Athen?—Gweler Actau 17:16.

  2.   Yn hytrach na beirniadu pobl Athen, sut dangosodd Paul barch at eu daliadau a’u defnyddio fel ffordd o rannu’r newyddion da?

Beth Rydyn Ni’n Ei Ddysgu o Esiampl Paul?

2. Mae pobl yn fwy tebygol o wrando arnon ni os ydyn ni’n ofalus wrth ddewis, nid yn unig beth rydyn ni’n ei ddweud, ond hefyd pryd a sut rydyn ni’n ei ddweud.

Dilyna Esiampl Paul

3. Dewisa eiriau apelgar. Er enghraifft, os wyt ti’n siarad â rhywun sydd ddim yn dod o gefndir Cristnogol, efallai bydd rhaid newid y ffordd rwyt ti’n cyflwyno’r Beibl neu’n cyfeirio at Iesu.

4. Paid â bod yn gyflym i gywiro. Rho gyfle i bobl fynegi eu barn yn rhwydd. Os ydyn nhw’n dweud rhywbeth sy’n groes i ddysgeidiaeth y Beibl, paid â dadlau. (Iago 1:19) Drwy wrando yn barchus, byddi di’n dod i ddeall eu safbwynt.—Diar. 20:5.

5. Ceisia gytuno â’r person a’i ganmol os oes modd. Efallai ei fod yn hollol ddiffuant yn ei ddaliadau crefyddol. Edrycha am dir cyffredin yn gyntaf, ac adeilada ar hwnnw. Wedyn byddi di’n gallu ei helpu i weld beth mae’r Beibl yn ei ddysgu.

GWELER HEFYD