Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

DECHRAU SGWRS

GWERS 6

Hyder

Hyder

Egwyddor: “Gwnaethon ni fagu hyder trwy gyfrwng ein Duw i ddweud wrthoch chi am newyddion da Duw.”—1 Thes. 2:2.

Esiampl Iesu

1. Gwylia’r FIDEO, neu darllena Luc 19:​1-7. Yna ystyria’r cwestiynau canlynol:

  1.    Pam efallai roedd rhai pobl yn osgoi Sacheus?

  2.   Beth ysgogodd Iesu i rannu’r newyddion da ag ef?

Beth Rydyn Ni’n Ei Ddysgu o Esiampl Iesu?

2. Mae angen hyder arnon ni i rannu neges y Deyrnas â phawb heb ragfarn.

Dilyna Esiampl Iesu

3. Dibynna ar Jehofa. Rhoddodd ysbryd Duw nerth i Iesu bregethu, a gall roi nerth i tithau hefyd. (Math. 10:​19, 20; Luc 4:18) Gofynna i Jehofa am hyder i bregethu i bobl sydd efallai’n codi ofn arnat ti.—Act. 4:29.

4. Paid â barnu ymlaen llaw. Efallai byddwn ni’n dal yn ôl rhag siarad â rhai pobl oherwydd eu pryd a’u gwedd, eu statws economaidd neu gymdeithasol, eu ffordd o fyw, neu eu daliadau crefyddol. Ond cofia:

  1.    Gall Jehofa ac Iesu weld y galon; allwn ni ddim.

  2.   Does neb y tu hwnt i drugaredd Jehofa.

5. Bydda’n hyderus, ond yn barchus ac yn ofalus hefyd. (Math. 10:16) Paid â dadlau. Os nad yw’r person eisiau siarad am y newyddion da, neu os nad wyt ti’n teimlo’n ddiogel, rho derfyn ar y sgwrs mewn ffordd gwrtais.—Diar. 17:14.