Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

PARHAU Â’R SGWRS

GWERS 9

Cydymdeimlad

Cydymdeimlad

Egwyddor: “Llawenhewch gyda’r rhai sy’n hapus; criwch gyda’r rhai sy’n drist.”—Rhuf. 12:15.

Esiampl Iesu

1. Gwylia’r FIDEO, neu darllena Marc 6:​30-34. Yna ystyria’r cwestiynau canlynol:

  1.    Pam roedd Iesu a’r disgyblion yn gobeithio “bod ar eu pennau eu hunain”?

  2.   Pam roedd Iesu eisiau dysgu’r dyrfa?

Beth Rydyn Ni’n Ei Ddysgu o Esiampl Iesu?

2. Mae cydymdeimlad yn gwneud inni eisiau helpu pobl yn ogystal â sôn wrthyn nhw am y newyddion da.

Dilyna Esiampl Iesu

3. Gwranda’n ofalus. Rho gyfle i’r person ddweud beth sydd ar ei feddwl. Paid â thorri ar ei draws, a phaid ag anwybyddu ei deimladau, ei bryderon, na’r rhesymau nad yw’n cytuno â ti. Drwy wrando’n astud, rwyt ti’n dangos bod ei safbwynt yn bwysig iti.

4. Meddylia am y person. Ar sail y sgyrsiau, gofynna i ti dy hun:

  1.    ‘Pam mae angen arno glywed y gwir?’

  2.   ‘Sut byddai astudio’r Beibl yn gwella ei fywyd heddiw ac yn rhoi dyfodol gwell iddo?’

5. Siarada am bethau sy’n berthnasol iddo ef. Cyn gynted â phosib, dangosa sut mae astudio’r Beibl yn gallu rhoi atebion i’w gwestiynau a’i helpu mewn ffyrdd ymarferol.