CWESTIWN 8
Beth y Dylwn i ei Wybod am Ymosodiad Rhywiol?
BETH BYDDET TI’N EI WNEUD?
Cafodd Annette ei thaflu i’r llawr gan ymosodwr cyn iddi sylweddoli beth oedd yn digwydd. “Wnes i drio ymladd yn ei erbyn,” meddai hi. “Wnes i drio sgrechian, ond doedd y sŵn ddim yn dod allan. Roeddwn i’n gwthio, cicio, taro, a chrafu. A dyna pryd teimlais y gyllell yn trywanu fy nghroen. Es i’n hollol lipa.”
Os oeddet ti mewn sefyllfa debyg, beth byddet ti’n ei wneud?
ARHOSA A MEDDYLIA!
Er dy fod ti’n wyliadwrus ac yn effro wrth iti fynd allan gyda’r nos—mae pethau erchyll yn gallu digwydd. Mae’r Beibl yn dweud: “Dydy’r cyflymaf ddim bob amser yn ennill y ras . . . Dydy’r doethaf ddim yn llwyddo bob tro . . . Mae damweiniau’n gallu digwydd i bawb.”—Pregethwr 9:11, beibl.net.
Fel Annette, mae rhai pobl ifanc wedi dioddef ymosodiad gan rywun dieithr, ond eraill gan rywun y maent yn eu hadnabod neu hyd yn oed gan aelod o’u teulu. Pan oedd hi dim ond yn ddeg mlwydd oed, cafodd Natalie ei cham-drin yn rhywiol gan arddegwr a oedd yn byw yn agos i’w chartref. “I gychwyn, roedd ’na gymaint o ofn a chywilydd arna’ i, nad oeddwn i’n dweud wrth neb,” meddai hi.
NID TI SYDD AR FAI
Mae Annette dal i ymdopi â theimladau o euogrwydd am yr hyn a ddigwyddodd. “Dw i’n ail-fyw’r noson honno drosodd a throsodd yn fy mhen,” meddai hi. “Dw i’n teimlo fel dylwn i wedi ymladd yn gryfach. Y gwir yw, roeddwn i wedi dychryn gymaint ar ôl cael fy nhrywanu, mi rewais. Dw i dal i deimlo y dylwn i wedi gwneud mwy, er bod hynny’n amhosib.”
Mae Natalie hefyd yn brwydro yn erbyn teimladau o euogrwydd. Mae hi’n dweud: “Roeddwn i’n ymddiried yn eraill yn rhy hawdd. Fe wnaeth fy rhieni rybuddio fi a fy chwaer i aros gyda’n gilydd wrth chwarae tu allan, ond wnes i ddim gwrando. Dw i’n teimlo fel rhoddais gyfle i fy nghymydog fy mrifo i. O ganlyniad, cafodd fy nheulu cyfan eu heffeithio, a dw i’n teimlo’n gyfrifol am achosi gymaint o boen. Dyna’r peth anoddaf, dw i’n stryffaglu i ddelio â hynny.”
Os wyt ti’n teimlo’n debyg i Annette neu Natalie, cadw mewn cof does neb eisiau cael ei dreisio. Mae rhai pobl yn bychanu’r mater hwn, yn dweud ei fod yn naturiol i fechgyn ymddwyn fel hynny, neu fod y dioddefwyr yn haeddu cael eu treisio. Ond does neb yn haeddu cael ei dreisio. Os wyt ti wedi dioddef ymosodiad creulon o’r fath, nid ti sydd ar fai!
Wrth gwrs, mae’n hawdd dweud “nid ti sydd ar fai,” ond mae credu’r geiriau hyn yn her hollol wahanol. Mae rhai yn cadw eu teimladau am yr hyn a ddigwyddodd dan glo ac wedyn yn dioddef o euogrwydd ac iselder. Ond pwy sy’n elwa os wyt ti’n cadw’n ddistaw—ti ynteu’r ymosodwr? Rwyt ti’n haeddu ystyried opsiwn gwell.
ADRODD DY STORI
Mae’r Beibl yn adrodd hanes y dyn da Job a ddywedodd yn eigion ei gyfyngder: “Dw i’n mynd i gwyno, a dweud mor chwerw dw i’n teimlo.” (Job 10:1, beibl.net) Efallai y byddi di’n teimlo’n well wrth wneud yr un fath. Gall siarad â ffrind agos dy helpu i ymdopi â’r hyn a ddigwyddodd a’th ryddhau rhag teimladau trymion.
Roedd Annette yn profi rhyddhad o’r fath. Meddai hi: “Siaradais â ffrind agos, ac roedd hi’n fy annog i siarad â dau o’r henuriaid yn fy nghynulleidfa. Dw i’n falch wnes i. Ar sawl adeg roedden nhw’n eistedd gyda fi ac yn dweud yn union beth oeddwn i angen clywed—nid fi oedd ar fai. Doeddwn i ddim ar fai o gwbl.”
Siaradodd Natalie â’i rhieni am y gamdriniaeth. “Wnaethon nhw fy nghefnogi i,” mae hi’n dweud. “Roedden nhw’n fy annog i i siarad am fy mhrofiadau, ac i beidio â gadael i fy nhristwch a fy nig bentyrru.”
Cafodd Natalie hefyd ei chysuro drwy weddïo. “Roedd siarad â Duw yn fy helpu i,” meddai hi, “yn enwedig pan oeddwn i’n teimlo fy mod i’n methu siarad â neb arall. Pan dw i’n gweddïo, dw i’n medru dweud beth bynnag dw i eisiau. Dw i’n teimlo heddwch a thawelwch mewnol.”
Cei di hefyd “amser i iacháu.” (Pregethwr 3:3) Gofala am dy hun yn gorfforol ac yn emosiynol, a chymer amser i orffwys. Ac yn bwysicach byth, dibynna ar y Duw sy’n cysuro, Jehofa.—2 Corinthiaid 1:3, 4.
OS WYT TI’N DDIGON HEN I GANLYN
Os wyt ti’n ferch ac o dan bwysau i wneud rhywbeth rhywiol, does dim o’i le â dweud yn gadarn, “Paid â gwneud hynny!” neu, “Paid â chyffwrdd fi!” Paid â dal yn ôl oherwydd dy fod yn ofni colli dy gariad. Os yw dy gariad yn penderfynu dy adael di oherwydd hyn, nid yw’n dy haeddu di beth bynnag! Rwyt ti’n haeddu rhywun sy’n ymddwyn fel dyn go iawn, sy’n parchu dy gorff a’th egwyddorion.
CWIS AM AFLONYDDWCH RHYWIOL
“Pan oeddwn i yn yr ysgol, roedd bechgyn yn tynnu ar gefn fy mra ac yn dweud pethau aflan fel ‘Byddi di’n teimlo gymaint well ar ôl cael rhyw gyda fi.’”—Coretta.
Wyt ti’n meddwl yr oedd y bechgyn yn
-
Tynnu ei choes?
-
Fflyrtio gyda hi?
-
Aflonyddu’n rhywiol arni hi?
“Ar y bws, roedd bachgen yn dweud pethau budr ac yn fy nghydio i. Wnes i roi slap i’w law a dweud iddo i symud i ffwrdd. Edrychodd arna’ i fel petaswn i’n wallgof.”—Candice.
Wyt ti’n meddwl yr oedd y bachgen yn
-
Tynnu ei choes?
-
Fflyrtio gyda hi?
-
Aflonyddu’n rhywiol arni hi?
“Llynedd, roedd bachgen yn dweud wrtha’ i dro ar ôl tro ei fod o’n fy hoffi i, a’i fod o eisiau mynd allan gyda fi, er fy mod i’n dweud na bob tro. Weithiau, roedd o’n rhwbio fy mraich. Wnes i ddweud wrtho am beidio, ond doedd o ddim yn stopio. Yna, pan ro’n i’n clymu fy esgid, wnaeth o slapio fy mhen ôl!”—Bethany.
Yn dy farn di, yr oedd y bachgen yn
-
Tynnu ei choes?
-
Fflyrtio gyda hi?
-
Aflonyddu’n rhywiol arni hi?
Y dewis cywir i bob un yw C.
Beth yw’r gwahaniaeth rhwng aflonyddwch rhywiol, fflyrtio, a thynnu coes?
Mae aflonyddwch rhywiol yn unochrog. Mae’n parhau hyd yn oed pan mae’r dioddefwr yn gofyn i’r person i beidio.
Mae aflonyddwch yn ddifrifol. Mae’n medru arwain at drais rhywiol.