GWERS 10
Goslef y Llais
Mathew 10:27
CRYNODEB: Cyflwyna syniadau’n eglur a chyffwrdd â’r emosiynau drwy amrywio uchder, traw, a chyflymder y llais.
SUT I FYND ATI:
-
Amrywia uchder dy lais. Coda dy lais i bwysleisio’r prif bwyntiau ac i annog dy wrandawyr i weithredu. Gwna’r un fath wrth ddarllen ysgrythurau sy’n cynnwys barnedigaethau. Gostynga dy lais er mwyn creu disgwyliad neu i gyfleu ofn neu bryder.
-
Amrywia draw dy lais. Ceisia godi traw dy lais i gyfleu brwdfrydedd neu i awgrymu maint neu bellter. Ceisia ostwng traw dy lais i gyfleu tristwch neu bryder.
-
Amrywia gyflymder dy lais. Siarada’n gyflymach i gyfleu cyffro. Arafa wrth esbonio pwyntiau pwysig.