GWERS 11
Brwdfrydedd
SUT I FYND ATI:
-
Gad i’r deunydd gyffwrdd â dy galon di. Wrth baratoi dy anerchiad, meddylia’n ofalus am bwysigrwydd dy neges. Rhaid dod yn gyfarwydd iawn â’r deunydd fel y byddi di’n medru siarad o’r galon.
-
Meddylia am dy wrandawyr. Ystyria sut bydd y wybodaeth y byddi di yn ei darllen neu’n ei thrafod yn helpu eraill. Meddylia am ffyrdd i gyflwyno’r wybodaeth mewn modd a fydd yn helpu dy wrandawyr i’w deall yn well a’i gwerthfawrogi’n fwy.
-
Bydda’n fywiog wrth gyflwyno’r wybodaeth. Siarada’n frwd. Defnyddia dy wyneb a dy gorff mewn ffordd naturiol a diffuant i gyfleu dy deimladau.