Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

GWERS 12

Cynhesrwydd a Chydymdeimlad

Cynhesrwydd a Chydymdeimlad

1 Thesaloniaid 2:7, 8

CRYNODEB: Siarada o’r galon, a dangosa dy fod ti’n caru dy wrandawyr.

SUT I FYND ATI:

  • Meddylia am dy wrandawyr. Er mwyn paratoi dy galon, atgoffa dy hun o’r problemau mae dy wrandawyr yn eu hwynebu. Ceisia ddychmygu sut maen nhw’n teimlo.

  • Dewisa dy eiriau’n ofalus. Ceisia adfywio, cysuro, a rhoi nerth i dy wrandawyr. Paid â dweud pethau difeddwl a all ddigio eraill, a phaid â bychanu pobl sydd ddim yn credu yn Jehofa na dilorni eu daliadau diffuant.

  • Dangosa dy ddiddordeb. Bydd tôn caredig dy lais ac ystumiau priodol yn dangos dy fod ti’n caru dy wrandawyr. Sicrha fod dy wyneb yn adlewyrchu hynny hefyd; gwena’n aml.