GWERS 13
Dangos Gwerth Ymarferol y Deunydd
Diarhebion 3:21
CRYNODEB: Helpa dy wrandawyr i weld sut mae’r pwnc yn effeithio arnyn nhw, a dangosa sut gallan nhw ddefnyddio’r wybodaeth yn eu bywydau.
SUT I FYND ATI:
-
Meddylia am dy wrandawyr. Meddylia am pam mae angen i dy wrandawyr glywed y wybodaeth rwyt ti’n ei rhannu, ac ystyria pa agwedd ar y pwnc fydd yn ddefnyddiol iddyn nhw.
-
Drwy gydol dy anerchiad, dangosa beth i’w wneud â’r wybodaeth. O’r cychwyn cyntaf, dylai pob gwrandawr deimlo, ‘Dyma rywbeth a fydd yn fy helpu i.’ Wrth ddatblygu pob prif bwynt, dangosa sut i’w roi ar waith. Bydda’n benodol nid yn gyffredinol.