GWERS 18
Gwybodaeth Sydd o Ddefnydd i Dy Wrandawyr
1 Corinthiaid 9:19-23
CRYNODEB: Gwna i dy wrandawyr feddwl am y pwnc, fel bod pawb yn teimlo eu bod nhw wedi dysgu rhywbeth gwerthfawr.
SUT I FYND ATI:
-
Ystyria faint mae dy wrandawyr eisoes yn ei wybod. Yn hytrach nag ailadrodd pethau y maen nhw wedi eu clywed o’r blaen, helpa nhw i edrych ar y pwnc o safbwynt newydd.
-
Gwna ymchwil a myfyria ar y deunydd. Os yw’n bosib, ceisia gynnwys ffeithiau diddorol a newydd neu faterion cyfoes i ategu syniadau allweddol. Meddylia’n ddwys am dy ddeunydd ac am y cysylltiad rhwng y deunydd a’r ffeithiau y byddi di’n cyfeirio atyn nhw.
-
Dangosa fod dy neges yn ymarferol. Esbonia sut gall pwyntiau Ysgrythurol helpu dy wrandawyr yn eu bywydau bob dydd. Trafoda sefyllfaoedd, agweddau, a gweithredoedd penodol sy’n berthnasol i dy wrandawyr.