Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

GWERS 2

Arddull Sgyrsiol

Arddull Sgyrsiol

2 Corinthiaid 2:17

CRYNODEB: Siarada mewn ffordd naturiol a diffuant i ddangos sut rwyt ti’n teimlo am y pwnc ac am y rhai sy’n gwrando arnat ti.

SUT I FYND ATI:

  • Gweddïa a pharatoa’n ofalus. Gweddïa am help i ganolbwyntio, nid arnat ti dy hun, ond ar dy neges. Cadwa’r prif bwyntiau’n glir yn dy feddwl. Rho dy syniadau yn dy eiriau dy hun; paid â’u darllen air am air o’r dudalen.

  • Siarada o’r galon. Ystyria pam mae angen i dy wrandawyr glywed y neges. Canolbwyntia arnyn nhw. Yna bydd dy osgo, dy ystumiau, a mynegiant dy wyneb yn dangos dy fod ti’n ddiffuant, yn gynnes, ac yn gyfeillgar.

  • Edrycha ar dy wrandawyr. Cadwa gyswllt llygaid â dy wrandawyr os na fydd hynny’n peri iddyn nhw deimlo’n annifyr. Wrth roi anerchiad, edrycha ar wahanol unigolion yn eu tro, yn hytrach na gadael i dy lygaid grwydro’n ddiamcan dros y gynulleidfa gyfan.