GWERS 20
Diweddglo Effeithiol
Pregethwr 12:13, 14
CRYNODEB: Wrth gloi, apelia at dy wrandawyr i dderbyn yr hyn y maen nhw wedi ei ddysgu ac i’w roi ar waith.
SUT I FYND ATI:
-
Cysyllta’r diweddglo â phwnc dy anerchiad. Gwna hyn drwy ailadrodd neu aralleirio’r prif bwyntiau a’r thema.
-
Ysgoga dy wrandawyr i weithredu. Esbonia beth y dylai dy wrandawyr ei wneud, a rho resymau da dros wneud hynny. Siarada gydag argyhoeddiad ac o’r galon.
-
Cadwa’r diweddglo yn syml ac yn fyr. Paid â chyflwyno prif bwyntiau newydd. Mor gryno â phosib, defnyddia dy eiriau olaf i apelio ar dy wrandawyr i weithredu.