Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

GWERS 7

Gwybodaeth Gywir a Dibynadwy

Gwybodaeth Gywir a Dibynadwy

Luc 1:3

CRYNODEB: Defnyddia dystiolaeth gadarn i helpu dy wrandawyr i ddod i’r casgliad cywir.

SUT I FYND ATI:

  • Defnyddia ffynonellau dibynadwy. Seilia dy sylwadau ar Air Duw, gan ddarllen yn uniongyrchol ohono lle bo modd. Os wyt ti’n cyfeirio at ffaith wyddonol, adroddiad yn y newyddion, profiad, neu dystiolaeth ategol arall, cadarnha o flaen llaw fod y ffynhonnell yn ddibynadwy a bod y wybodaeth yn gyfoes.

  • Defnyddia ffynonellau’n gywir. Esbonia adnodau yn unol â’r cyd-destun, â neges y Beibl cyfan, ac â chyhoeddiadau’r “gwas ffyddlon a chall.” (Mathew 24:45, Beibl Cymraeg Diwygiedig) Defnyddia ffynonellau seciwlar mewn ffordd sydd yn gyson â bwriad yr awdur a’r cyd-destun gwreiddiol.

  • Rhesyma ar y dystiolaeth. Ar ôl darllen adnod neu gyfeirio at ffynhonnell, gofynna gwestiynau neu rho eglureb a fydd yn helpu dy wrandawyr i ddod i’w casgliad eu hunain.