GWERS 9
Deunydd Gweledol Priodol
Genesis 15:5
CRYNODEB: Defnyddia ddeunydd gweledol i wneud y prif bwyntiau yn gliriach ac yn haws eu cofio.
SUT I FYND ATI:
-
Dewisa ddeunydd gweledol sy’n ychwanegu at dy ddysgu. Defnyddia luniau, diagramau, mapiau, llinellau amser, neu ddeunydd gweledol arall i amlygu pwyntiau pwysig yn hytrach na manylion. Helpa dy wrandawyr i gofio, nid y deunydd gweledol yn unig, ond y wers.
-
Sicrha fod dy wrandawyr yn gallu gweld y deunydd gweledol.