Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

GWERS 1

Cyfrinach Rydyn Ni’n Hapus i Wybod Amdani

Cyfrinach Rydyn Ni’n Hapus i Wybod Amdani

Oes unrhyw un erioed wedi dweud cyfrinach wrthot ti?— * Mae’r Beibl yn siarad am ‘gyfrinach’ arbennig. Mae’n arbennig oherwydd mae’n dod oddi wrth Dduw. Mae’n cael ei galw’n gyfrinach oherwydd doedd pobl ddim yn gwybod amdani. Roedd hyd yn oed yr angylion eisiau gwybod mwy am hyn. Hoffet ti wybod beth yw’r gyfrinach?—

Beth roedd yr angylion yn ceisio gwybod mwy amdano?

Amser maith yn ôl, creodd Duw y dyn cyntaf a’r ddynes gyntaf. Eu henwau oedd Adda ac Efa. Rhoddodd Duw gartref hardd iddyn nhw o’r enw gardd Eden. Petai Adda ac Efa wedi gwrando ar Dduw, bydden nhw a’u plant wedi gwneud yr holl ddaear yn baradwys fel yr ardd honno. Bydden nhw wedi byw am byth ym Mharadwys. Wyt ti’n cofio beth wnaeth Adda ac Efa?—

Gwrthododd Adda ac Efa wrando ar Dduw, a dyna pam dydyn ni ddim yn byw mewn paradwys heddiw. Ond dywedodd Duw y byddai’n gwneud yr holl ddaear yn hardd, a byddai pawb yn byw am byth a bod yn hapus. Am amser hir, nid oedd pobl yn gwybod sut roedd Duw am wneud hyn. Roedd yn gyfrinach.

Pan ddaeth Iesu i’r ddaear, fe ddysgodd y bobl lawer mwy am y gyfrinach honno. Wrth sôn am y gyfrinach, roedd Iesu’n sôn am Deyrnas Dduw. Anogodd Iesu’r bobl i weddïo am i’r Deyrnas ddod. Bydd y Deyrnas yn gwneud y ddaear yn baradwys hardd.

Wyt ti’n hapus i wybod y gyfrinach hon?— Cofiwch mai dim ond y rhai sy’n gwrando ar Jehofa fydd yn byw ym Mharadwys. Mae’r Beibl yn adrodd llawer o hanesion am ddynion a merched a oedd yn gwrando ar Jehofa. Wyt ti’n edrych ymlaen at glywed mwy amdanyn nhw?— Gadewch inni weld pwy oedden nhw a sut gallwn ni fod fel nhw.

^ Par. 3 Ym mhob stori, fe welwch chi linellau fel hon (—) yn dilyn rhai cwestiynau. Mae hyn yn amser da i seibio a gadael i’ch plentyn ateb.